Canlyniadau 161–180 o 8000 ar gyfer speaker:Lee Waters OR speaker:Lee Waters OR speaker:Lee Waters OR speaker:Lee Waters OR speaker:Lee Waters OR speaker:Lee Waters OR speaker:Lee Waters

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Diwallu'r Angen am Dai (30 Maw 2022)

Lee Waters: Wel, mae Mabon ap Gwynfor yn gwneud nifer o bwyntiau teg yno, ac mae'n gwneud dwy feirniadaeth hanfodol nad yw'r system tai cymdeithasol wedi bwydo'r galw ers degawdau lawer, sy'n gywir, a bod tai'r sector preifat yn darparu gormod o'r un mathau o dai ac nad ydynt yn darparu ar gyfer yr ystod o anghenion, megis byngalos, a cheir set gymhleth o broblemau o dan y ddau fater hynny. Rydym yn mynd...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Diwallu'r Angen am Dai (30 Maw 2022)

Lee Waters: Gwnaethom ragori ar ein hymrwymiad tai blaenorol yng Nghymru ac rydym yn parhau i adeiladu ar hyn. Mae ein targed o 20,000 o gartrefi yn canolbwyntio ar gynyddu nifer y cartrefi yn y sector cymdeithasol. Rydym wedi dyrannu'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad mewn tai am y tair blynedd nesaf i gefnogi'r angen am gartrefi ledled Cymru.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Yr Argyfwng Ynni (30 Maw 2022)

Lee Waters: Bydd methiant Llywodraeth y DU i gamu i'r adwy yn ddinistriol i aelwydydd ledled y DU. Rydym wedi rhoi camau cyflym ar waith—gan ddyblu'r taliad tanwydd y gaeaf i £200 ar gyfer eleni a'r flwyddyn nesaf, cyflwyno ad-daliad treth gyngor mwy hael na Llywodraeth y DU a chynyddu ein cronfa ddewisol ar gyfer deiliaid tai sy'n ei chael yn anodd.  

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cerbydau Gwyrdd (30 Maw 2022)

Lee Waters: Na, yn wir, tan yr wythnos diwethaf. Maddeuwch imi, Lywydd, rwy'n dal i glywed ei datganiadau o fuddiant yn fy mhen, felly maent wedi aros yno. Rydym wedi ariannu cynllun peilot tacsis gwyrdd yn sir Ddinbych, yn sir Benfro ac yng Nghaerdydd i 'brofi cyn prynu' ac rydym wedi gosod pwyntiau gwefru cyflym yn yr ardaloedd hynny, ac rydym yn cynllunio pwyntiau gwefru cyflym ar y rhwydwaith ffyrdd...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cerbydau Gwyrdd (30 Maw 2022)

Lee Waters: Wel, fe wnaethom gyhoeddi cynllun gweithredu ym mis Hydref y llynedd, ac rwy'n falch fod Llywodraeth y DU, ddydd Gwener diwethaf, wedi cyhoeddi ei strategaeth hirddisgwyliedig ar gyfer gwefru cerbydau trydan o'r diwedd. Roedd honno'n gosod targed ar gyfer deg gwaith yn fwy o wefru cyhoeddus ledled y DU erbyn 2030, felly rydym yn croesawu hynny. Llywodraeth y DU sydd â'r dulliau o wneud hyn...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cerbydau Gwyrdd (30 Maw 2022)

Lee Waters: Rydym yn buddsoddi mewn cyflwyno pwyntiau gwefru sy'n hygyrch i'r cyhoedd i gefnogi'r newid i gerbydau trydan yn unol â'n strategaeth wefru cerbydau trydan. Rydym hefyd yn mapio cynlluniau gyda'r diwydiant i newid i fysiau dim allyriadau, treialu cynlluniau tacsis a cherbydau hurio preifat, treialu cynlluniau e-feiciau a buddsoddi mewn clybiau ceir dim allyriadau.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Prosiectau Ynni Adnewyddadwy (30 Maw 2022)

Lee Waters: Wel, mwynheais yn fawr y ffordd yr ymlwybrodd yr Aelod ar hyd yr uwchbriffordd wybodaeth. Nid wyf yn siŵr a yw'n taro'r pwynt yn llwyr, serch hynny, ond rwy'n barod i edrych ar hynny, oherwydd yn amlwg, mae angen ei ddiweddaru. Ond fel y soniais yn fy ateb i Jane Dodds, rydym yn ariannu Ynni Cymunedol Cymru i fod yn ganolbwynt i ddarparu cyngor ar sut i fwrw ymlaen â chynlluniau ynni...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Prosiectau Ynni Adnewyddadwy (30 Maw 2022)

Lee Waters: Wel, fel y soniodd Jane Dodds yn gywir, mae gennym darged i sicrhau cynnydd o 100 MW yn yr ynni a gynhyrchir gan gyrff cyhoeddus rhwng yn awr a 2026. Rydym wedi gweld enghraifft ragorol Ysbyty Treforys, lle mae fferm solar bellach wedi'i hagor sy'n pweru'r ysbyty'n gyfan gwbl am ran sylweddol o'r amser. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i weithio gyda grwpiau ynni cymunedol, oherwydd fel y dywedais,...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Prosiectau Ynni Adnewyddadwy (30 Maw 2022)

Lee Waters: Diolch am y cwestiwn. Rydym wedi llwyddo i gefnogi ynni cymunedol ers 2010. Ar hyn o bryd rydym yn darparu cymorth drwy wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru a thrwy gyllid grant Ynni Cymunedol Cymru. Rydym yn cynyddu ein cefnogaeth i ynni lleol a chymunedol drwy weithredu argymhellion yr archwiliad dwfn ar ynni adnewyddadwy.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelu Ynni (30 Maw 2022)

Lee Waters: Wel, bydd Huw Irranca-Davies yn cofio mai ni, yng Nghynhadledd y Partïon yn Glasgow, oedd yr unig Lywodraeth yn y DU a safodd ochr yn ochr â Denmarc a Sweden a Seland Newydd ac eraill i sefydlu Cynghrair Tu Hwnt i Olew a Nwy, gan addo peidio ag echdynnu rhagor o olew a nwy. Mae gan Gymru gyflenwad sylweddol o'r ddau, o bosibl, ond rydym wedi gwneud penderfyniad egwyddorol clir nad yw...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelu Ynni (30 Maw 2022)

Lee Waters: Wel, cytunaf fod storio ynni batri yn sicr yn un o'r pethau y mae angen inni fod yn ei gyflymu, ac yn sicr mae potensial gan hydrogen gwyrdd i weithredu fel ffynhonnell ar gyfer dal a storio'r ynni hwnnw. Ond unwaith eto, mae gennym gyfraniad gan y Ceidwadwyr y prynhawn yma sy'n canolbwyntio ar niwclear ac ychydig iawn o bwyslais a gafwyd ar ynni adnewyddadwy. Roedd sôn am storio ynni ...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelu Ynni (30 Maw 2022)

Lee Waters: Mae gan Lywodraeth y DU ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau diogelwch ffynonellau ynni'r DU, a disgwyliwn weld gweithredu beiddgar yn ei strategaeth diogelu ffynonellau ynni sydd ar y ffordd, ac sydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi'i gohirio eto. Yng Nghymru, rydym yn cyflymu'r defnydd o ynni adnewyddadwy, gan gefnogi marchnadoedd ynni lleol, cynllunio a threialu arloesedd, i adeiladu system...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Atal Llifogydd (30 Maw 2022)

Lee Waters: Wel, bydd Sam Rowlands yn gwybod am y pwysau ar adnoddau a'r pwysau sydd wedi dwysáu o ganlyniad i gyllideb y gwanwyn lle bydd gennym £600 miliwn yn llai yn y cylch cyllidebol hwn nag yr oeddem yn ei ragweld dros y tair blynedd nesaf, oherwydd toriadau a wnaed gan y Canghellor. Felly, nid oes gennym arian i wneud yr holl bethau yr hoffem eu gwneud. Felly, nid yw creu cyrff cyhoeddus...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Atal Llifogydd (30 Maw 2022)

Lee Waters: Mae’r Aelod yn iawn; mae ardal Hirael yn wynebu peryglon gan ei bod yn agored i gyfuniad o ffynonellau llanw, glawog ac afonol—o'r môr, yr afon a'r awyr. Bydd hyn yn gwaethygu wrth i’r newid yn yr hinsawdd ddwysáu—gwyddom fod hyn yn wir—ac mae Hirael yn arbennig o agored i niwed. Felly, rydym yn buddsoddi, fel y nododd, £213 miliwn mewn cynlluniau llifogydd, ac mae hyn yn cynnwys...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Atal Llifogydd (30 Maw 2022)

Lee Waters: Diolch. Mae Cyngor Gwynedd yn llunio cynllun i leihau'r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol ym mae Hirael. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn adolygu data modelu afon Adda. Bydd yr adolygiad yn cadarnhau'r safon warchodaeth bresennol ac yn ystyried y peryglon posibl yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (30 Maw 2022)

Lee Waters: Wel, ar ôl mwy na 10 mlynedd o gyni, nid oes gan yr un corff cyhoeddus yng Nghymru y capasiti y byddent yn dymuno'i gael, a chredaf fod honno'n ffaith y mae'n rhaid i ni ei derbyn. Nid yw CNC yn wahanol i gyngor Conwy nac i unrhyw gorff cyhoeddus arall, ac mae’n rhaid i ni, bob un ohonom, fyw o fewn ein gallu. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt gydag CNC ynghylch sut rydym yn blaenoriaethu....

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (30 Maw 2022)

Lee Waters: Diben yr archwiliadau dwfn hyn yw creu adolygiad cyflym o rwystrau, ac maent yn dechrau fel proses benagored. Yn y rhai a gynhaliais ar greu coetir ac ynni adnewyddadwy, ac rwy'n gwneud rhywbeth tebyg ar hyn o bryd ar ganol trefi, y broses yn hytrach na'r canlyniad sy'n dechrau wedi'i chynllunio ymlaen llaw. Felly, rydym yn dod ag amrywiaeth o bobl ynghyd mewn ystafell, ac rydym yn cyfarfod...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (30 Maw 2022)

Lee Waters: Wel, fy hoff wir anrhydeddus yw’r Gwir Anrhydeddus Elin Jones, a byddai’n llawer gwell gennyf pe baem yn canolbwyntio arni hi, yn hytrach nag ar Boris Johnson. Rwy'n teimlo o ddifrif nad yw Llywodraeth y DU yn dysgu o gamgymeriadau’r gorffennol. Rydych newydd feirniadu'r system ynni am fod yn ddibynnol ar olew a nwy o Rwsia, ac rydym yn awr yn rhuthro i ddenu buddsoddwyr o Tsieina i...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (30 Maw 2022)

Lee Waters: Mae’r Aelod yn ailadrodd dadleuon a gawsom ychydig wythnosau yn ôl yn Siambr y Senedd, ac nid wyf yn bwriadu mynd drwyddynt i gyd eto, heblaw dweud ein bod yn fodlon, fel y nodwyd gennym yn y ddadl honno, fod mecanwaith gennym i wneud hynny, mae gennym gynllun hirdymor, ac mae polisïau a chamau gweithredu eisoes ar waith a fydd yn gwneud hynny. Fel y soniodd, cynhaliwyd yr archwiliad dwfn...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.