Steffan Lewis: A wnaiff yr Aelod ildio?
Steffan Lewis: Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb, er iddo wneud y cyhoeddiad hwn yn ei araith yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn ôl yn y gwanwyn, ac mae'n siomedig, o ystyried y datblygiadau ar lefel y DU, nad yw'r comisiwn gwaith teg hwn wedi ei sefydlu. Yn ôl y data diweddaraf yr wyf i wedi gallu dod o hyd iddynt, mae Cymru ymhlith y gwledydd lleiaf teg o ran gwaith ar yr ynysoedd hyn: mae 45,000 o...
Steffan Lewis: 10. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau bod Cymru yn genedl deg o ran gwaith? OAQ(5)0570(FM)
Steffan Lewis: Rwy’n falch iawn y bydd Plaid Cymru yn cefnogi’r Bil yma heddiw. Hoffwn innau hefyd ymestyn fy niolchiadau i dîm y Comisiwn, yn enwedig y tîm deddfwriaethol, am eu cymorth wrth graffu ar y Bil yn y pwyllgor ac wrth ddrafftio gwelliannau. Yn fyr iawn, hoffwn gymeradwyo’r Ysgrifennydd Cabinet am gyflwyno’r Bil drafft cyn yr haf, a rhoddodd gyfle i Aelodau a rhanddeiliaid gyfarwyddo...
Steffan Lewis: Diolch i'r Aelod am ildio. A fyddai hefyd yn cytuno â mi ei fod yn fater o fwy byth o frys ein bod yn deddfu cyn gynted â phosibl gan fod Llywodraeth y DU wedi dweud ar goedd na fydd yn cyhoeddi drafft o'r Bil diddymu mawr? Felly, beth bynnag a gyhoeddir a phryd bynnag y caiff ei gyhoeddi—erbyn canol mis Medi—ni fydd gennym yr amser i ymateb iddo, o leiaf yn ddeddfwriaethol.
Steffan Lewis: Na, maen nhw gennym. Maen nhw gennym eisoes.
Steffan Lewis: A wnaiff yr Aelod ildio?
Steffan Lewis: Rwy'n meddwl mai’r pwynt yw bod y pwerau eisoes yma nawr a’u bod yn cael eu cyfuno ar hyn o bryd at lefel yr Undeb Ewropeaidd, a, phan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, bydd y pwerau’n aros yma. Nid dychwelyd pwerau yw hyn; mae gennym gymhwysedd yn y meysydd hyn nawr. Nid yw'n fater o’u trosglwyddo i Lundain neu i Frwsel neu i Gaerdydd, neu i ble bynnag arall; maen nhw yma nawr,...
Steffan Lewis: Os oes unrhyw un byth yn meddwl tybed pam yr wyf yn genedlaetholwr Cymreig, dylai wrando ar sylwadau'r siaradwr blaenorol. Llywydd, rhagwelodd llawer o bobl yn gywir y gallai Bil diddymu’r DU neu ddeddfwriaeth gysylltiedig fod yn fygythiad i gyfansoddiad presennol Cymru o ran ein cymhwysedd yn unol â mandad democrataidd gan bobl Cymru mewn dau refferendwm. Mae’r pryder yn seiliedig ar y...
Steffan Lewis: A all ymhelaethu heddiw, felly, ar beth yw dyddiad cau Llywodraeth Cymru ar gyfer cael esboniad gan Lywodraeth Prydain ynglŷn â’i bwriadau o ran y Bil diddymu a'r ddeddfwriaeth arall a fydd yn nodi’n glir a oes angen i’r lle hwn ddeddfu ar ei setliad cyfansoddiadol ei hun ai peidio?
Steffan Lewis: Yr wythnos ddiwethaf, cefais y fraint o gwrdd â dirprwy faer Hargeisa, Somaliland, yma yn y Cynulliad Cenedlaethol. Roedd yn ddiddorol clywed am y sefydlogrwydd cymharol a’r heddwch sydd wedi ei sicrhau yn y wlad honno, heb gydnabyddiaeth ryngwladol. Rwy'n gwybod am y gefnogaeth sylweddol sydd wedi bod ar draws y Siambr i gydnabod Somaliland, yn enwedig mewn Cynulliadau blaenorol, ac, yn...
Steffan Lewis: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n eithaf hyderus mai hon fydd y fyrraf o’r dadleuon byr, bydd y Gweinidog yn falch o glywed, ar ddiwedd diwrnod hir. Rwy’n falch o gael y cyfle hwn i sôn am enseffalopathi trawmatig cronig a’i gysylltiadau posibl â chwaraeon cyswllt fel pêl droed. Deuthum yn ymwybodol o’r mater hwn ar ôl clywed cyfweliad gyda gwraig y diweddar Frank Kopel, cyn...
Steffan Lewis: Diolch i’r Prif Weinidog am ei ddatganiad ac mae’n rhaid i mi ddweud, er nad wyf yn synnu, rwy’n dal i’w hystyried yn rhyfeddol fod Prif Weinidog y wlad hon a etholwyd yn ddemocrataidd yn y teulu hwn o wledydd, fel y’i gelwir, wedi ei eithrio rhag drafftio llythyr i nodi’r ffaith ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae fy nghwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw yn ymwneud...
Steffan Lewis: Dim ond eistedd i lawr wnes i.
Steffan Lewis: Jest yn fyr iawn i ddweud nad oes gen i gopi Saesneg o’r gwelliant ger fy mron, ond rwy’n meddwl bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi tanlinellu yn gymwys bwrpas y gwelliant, a dweud, wrth gwrs, nad oes yna ddim byd yn y gwelliant yma sydd yn cynnig unrhyw waharddiad ar unrhyw bwyllgor mewn unrhyw Senedd yn unrhyw le rhag gwneud adolygiad pryd bynnag y mae eisiau ar y dreth yma o gwbl.
Steffan Lewis: Diolch, Llywydd. Mae’r gwelliant yn cyflwyno adran newydd i’r Bil, sy’n gosod disgwyliad ar Lywodraeth Cymru i wneud trefniadau ar gyfer adolygiad annibynnol o’r dreth a bod yr adolygiad hwn wedi’i gwblhau o fewn chwe blynedd o’r dyddiad y daw’r dreth i rym. Mae’r gwelliant hefyd yn gosod disgwyliad y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi adroddiad mewn ymateb i gasgliadau’r...
Steffan Lewis: Diolch, Llywydd. Rwy’n gwerthfawrogi’r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn yr ysbryd y tu ôl i’r gwelliant yma. Rwy’n meddwl ei bod yn glir iawn ein bod ni’n bwriadu gwneud cymaint ag y gallwn ni yn nhermau amcanion polisi a’n pwerau ‘fiscal’ newydd. Ymddiheuriadau i’r Aelod dros Fynwy nad oeddwn i’n ddigon eglur yn fy sylwadau agoriadol. Wrth gwrs, roeddwn...
Steffan Lewis: Diolch, Llywydd. Mae’r gwelliant yn cyflwyno is-adran newydd i adran 24 sy’n ymwneud â bandiau a chyfraddau treth. Effaith y gwelliant fyddai galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno sylwadau a chynigion arloesol ynghylch bandiau a chyfraddau treth trafodiadau tir i’w hystyried gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Bil yn cyflwyno cyfle euraidd i deilwra gweithredu’r dreth yn unol ag amcanion...
Steffan Lewis: Ffurfiol.
Steffan Lewis: Hoffwn gyflwyno gwelliant 29 yn ffurfiol. Mae’r gwelliant yn cyflwyno is-adran newydd i adran 9 y Bil, sy’n golygu bod angen i Awdurdod Cyllid Cymru gyhoeddi canllawiau ynghylch trafodiadau sy’n ymwneud â thir neu eiddo sy’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr. Roedd natur y broses ar gyfer delio â thrafodiadau trawsffiniol yn ogystal ag union leoliad y ffin rhwng Cymru a...