Canlyniadau 161–180 o 900 ar gyfer speaker:Mandy Jones OR speaker:Mandy Jones OR speaker:Mandy Jones

3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE ( 1 Hyd 2019)

Mandy Jones: Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad. Yn gyntaf, rwy'n sylwi o'ch datganiad eich bod chi'n honni bod y Prif Weinidog wedi torri'r gyfraith. A wnewch chi egluro'r rhan honno o'r datganiad, gan mai fy nealltwriaeth i oedd bod cyfraith newydd wedi ei chreu? Rydych chi'n sôn yn y datganiad am Ddeddf ar y llyfrau statud i atal y DU rhag gadael ar 31 Hydref heb gytundeb. A wnewch chi egluro...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Ysgolion Gwledig (25 Med 2019)

Mandy Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Mae rhieni pryderus yn Llandrillo, Corwen wedi cysylltu â mi i ddweud bod ysgol y pentref, Ysgol Gynradd Llandrillo, wedi cael ei huno ag ysgol Cynwyd. Mae fy nghwestiwn heddiw'n ymwneud â'r sefyllfa sy'n codi pan nad yw'r ysgolion newydd a grëir o ganlyniad i uno a rhesymoli'n gallu parhau i ymdopi â'r galw cynyddol pan fyddant yn dioddef o ganlyniad i'w...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Ysgolion Gwledig (25 Med 2019)

Mandy Jones: 4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi ysgolion gwledig Llywodraeth Cymru? OAQ54375

11. Dadl Plaid Cymru: Tâl ac amodau gweithwyr y GIG (18 Med 2019)

Mandy Jones: Rwyf innau hefyd yn cymeradwyo'r hyn y mae Llyr ac Angela newydd ei ddweud. Yn aml yn y Siambr hon cyfeiriwn at 'ein gwasanaeth iechyd', 'ein staff gwasanaeth iechyd gweithgar' a chredaf fod hon yn ffordd o ddweud ein bod yn rhoi gwerth enfawr ar y gwasanaethau a gawn a'r bobl sy'n eu rhoi i ni. Mae'r gwasanaeth iechyd yn darparu gwasanaethau hanfodol—mae llawer o bobl yn dibynnu arnynt yn...

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ansawdd Aer (18 Med 2019)

Mandy Jones: Ers dod yn Aelod Cynulliad, rwyf bellach yn teithio rhwng gogledd Cymru a de Cymru'n rheolaidd, ac rwy'n defnyddio'r M4 o amgylch Casnewydd i wneud hyn. Fel gyrwyr eraill, rwy'n cadw at y cyfyngiad cyflymder. Fodd bynnag, mae gostwng y cyflymder ar yr M4 yn dipyn o syndod, gan nad yw'r arwyddion yn rhoi unrhyw reswm dros y newid, ac nid oes rhybuddion. Yr adwaith naturiol weithiau yw arafu...

9. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) (17 Med 2019)

Mandy Jones: Nid yw fy safbwynt i ar y Bil hwn wedi newid ers y tro diwethaf iddo gael ei drafod yn y Siambr hon, pan rannais fy mhrofiad fy hun o gamdriniaeth fel plentyn ac fel oedolyn ifanc. I ddechrau, rwy'n credu y byddai werth i chi ddangos i'r Siambr hon ac, yn bwysicach, y cyhoedd yr hyn yr ydych chi yn ei olygu wrth 'smacio' mewn gwirionedd. Mae sbectrwm enfawr rhwng tap ar y llaw a phwniad yn yr...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Operation Yellowhammer (17 Med 2019)

Mandy Jones: Diolch. Mae'n ymddangos bod honiadau, gwrth-honiadau a honiadau eto ynghylch diogelwch cyflenwadau. A allwch chi dawelu'r ofnau, yr ofnau gwirioneddol sydd gan lawer o etholwyr oherwydd yr holl bethau hyn y mae pobl yn eu dweud o hyd, a chadarnhau bod eich Llywodraeth chi wedi sicrhau'r feddyginiaeth sydd ei hangen arni i gadw GIG Cymru yn gweithio, gan liniaru'r holl straen y mae pobl yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Operation Yellowhammer (17 Med 2019)

Mandy Jones: Prif Weinidog, rwy'n arbennig o bryderus ynghylch cyflenwi cyffuriau a meddyginiaeth i'r rhai hynny fydd eu hangen ar ôl Brexit. [Torri ar draws.] Sut yr oeddwn i'n gwybod y byddech chi i gyd—?

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Addysg ( 3 Gor 2019)

Mandy Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at addysg yng Ngogledd Cymru?

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal ( 2 Gor 2019)

Mandy Jones: Rydym ni'n croesawu'r datganiad hwn a wnaed yma heddiw. Yn amlwg, mae angen i bethau newid. Fel y dywedwyd mewn datganiadau eraill o'r blaen, mae'n ymddangos bod nifer y plant dan oruchwyliaeth awdurdodau lleol yn codi bob blwyddyn, a hoffwn i wybod beth, yn eich barn chi, yw'r rhesymau am y cynnydd hwn sy'n peri pryder. Rydych chi eisoes wedi nodi cyni a thlodi, ond mae llawer, llawer o...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Y Cynllun Buddsoddi i Arbed (26 Meh 2019)

Mandy Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Sylwaf fod y cynllun buddsoddi i arbed wedi buddsoddi tua £174 miliwn ers 2009. Sylwaf hefyd fod Betsi Cadwaladr yn derbyn dros £3 miliwn ar hyn o bryd. O ystyried bod buddsoddi i arbed yn fenthyciad di-log ac yn ad-daladwy, a chan fod ein gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn wynebu trafferthion ariannol, sut ydych chi'n sicrhau bod y symiau sy'n ddyledus yn cael...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Y Cynllun Buddsoddi i Arbed (26 Meh 2019)

Mandy Jones: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd y cynllun buddsoddi i arbed? OAQ54110

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Tyddynwyr (25 Meh 2019)

Mandy Jones: Mae'r rhan fwyaf o dyddynnod yn fusnesau sy'n cael eu rhedeg gan deuluoedd, sydd angen ategu eu hincwm gyda ffynonellau eraill fel twristiaeth. Maen nhw'n gwneud cyfraniad mawr at ein heconomïau gwledig. Maen nhw hefyd yn tueddu i werthu'n lleol, gan leihau milltiroedd bwyd a bod yn llesol i'n hamgylchedd. Yn fy marn i, mae cyflenwi a bwyta bwyd cartref yn nes at adref yn gwneud synnwyr...

8. Dadl Plaid Brexit: Gadael yr Undeb Ewropeaidd (19 Meh 2019)

Mandy Jones: Cyn imi ddechrau fy nghyfraniad, hoffwn ofyn am y parch rwy'n ei haeddu fel un o'ch cymheiriaid hefyd. Rwy'n ystyried bod heclo a beirniadaeth—a ddaw i raddau helaeth o gyfeiriad y meinciau Llafur—yn blentynnaidd ac yn aflonyddgar. Yn yr ysbryd hwnnw o barch cydradd y gwnaf y sylwadau hyn. Nid wyf yn meddwl y byddai unrhyw un yn y DU neu sy'n gwylio ffiasgo Brexit o'r tu allan yn...

7. Dadl ar Ddeiseb P-05-869: Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi (19 Meh 2019)

Mandy Jones: Weinidog, mae cryfder y teimlad ynglŷn â’r mater hwn yn amlwg yn ôl faint o ohebiaeth y mae pawb ohonom wedi’i chael, rwy'n siŵr, a'r ffaith bod ein pobl ifanc yn cael eu cymell i fynd ar streic a bod Extinction Rebellion wedi meddiannu rhannau o Lundain yn ddiweddar ac yn bygwth cau meysydd awyr mawr trwy ddulliau teg neu fel arall. Ymddengys i mi fod Llywodraeth Cymru wedi cyfleu...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ystyriaethau Amgylcheddol yn y System Gynllunio (19 Meh 2019)

Mandy Jones: Nid yn unig ar gyfer pobl ond ar gyfer anifeiliaid hefyd, os gwelwch yn dda. Ar wahân i weithredu fel ffiniau a chadw anifeiliaid y tu mewn i gaeau, mae'r gwrychoedd yn gynefin pwysig i amrywiaeth eang o anifeiliaid a phlanhigion. Wrth i goetiroedd gael eu dinistrio dros y blynyddoedd, mae llawer o'r bywyd gwyllt ynddynt wedi addasu i fyw o dan berthi ac mewn gwrychoedd. A wnaiff y Gweinidog...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Yr Ardoll Cig Coch (19 Meh 2019)

Mandy Jones: I barhau gyda'r cynllun hwnnw, Weinidog, gallaf weld o'r penawdau ddoe am yr Is-Bennaeth yn ymweld â Chymru, ac mae lle i agor ein marchnad gig eidion i Tsieina, fel y mae Andrew R.T. newydd ei ddweud. A allwch roi syniad inni o natur unrhyw sgyrsiau a gawsoch gydag ef o'r blaen, a sut y byddwch yn helpu sector cig eidion Cymru i baratoi i fanteisio ar y cyfleoedd hyn?

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Lleihau Gwastraff Plastig (12 Meh 2019)

Mandy Jones: Ni fyddai unrhyw berson rhesymol yn anghytuno â'r cynnig hwn nac ag unrhyw un o'r gwelliannau a gyflwynwyd heddiw. Rwy'n falch o'r camau sydd eisoes wedi'u cymryd i leihau'r defnydd o blastig yn ein deunyddiau traul. Torrodd y tâl am fagiau siopa yng Nghymru dir newydd ac mae wedi cael effaith wirioneddol ar y defnydd o'r bagiau hyn. Mae wedi newid ymddygiad, a gwelwn dystiolaeth o hyn pan...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Rôl Porthladdoedd Cymru ar ôl Brexit (12 Meh 2019)

Mandy Jones: Gwnsler Cyffredinol, yn ôl y newyddion ddoe, mae Comisiwn yr UE yn gweithio ar gynllun i ddefnyddio datrysiadau TG i helpu nwyddau i groesi'r ffin Wyddelig ar ôl Brexit. Rhoddodd Llywodraeth Ffrainc gynlluniau tebyg ar waith yn Calais. Yn wir, cyn belled yn ôl â 2016, lluniodd Senedd yr UE ei hun adroddiad a ddangosai sut y gellir defnyddio ffin glyfar rhwng yr UE a'r DU. Pa asesiadau y...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Busnesau Bach (12 Meh 2019)

Mandy Jones: Weinidog, mae busnesau bach mewn cymunedau gwledig yng ngogledd Cymru'n chwarae rhan bwysig yn natblygiad economaidd y rhanbarth. Un mater sy'n cael ei ddwyn i fy sylw yn rheolaidd gan fusnesau bach a chanolig yw symud taliadau a thrafodion ar-lein—nad yw'r cysylltiad â'r rhyngrwyd yn ddigonol. A allwch sicrhau fy etholwyr y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i'r rhyngrwyd a band...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.