Lynne Neagle: Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw, Huw. Un o rolau allweddol y grŵp gorchwyl a gorffen yw datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol a fydd yn cynnwys ymarfer cyffredinol. Bydd hefyd yn archwilio'r rhwystrau i ddatblygu presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru. Fodd bynnag, gwyddom eisoes mai un o'r rhwystrau mwyaf y mae meddygon teulu yn eu hwynebu yw gwybod pa...
Lynne Neagle: Diolch, Huw. Mae egwyddorion presgripsiynu cymdeithasol yn gyson â pholisi ehangach Llywodraeth Cymru, megis y model gofal sylfaenol ar gyfer Cymru a 'Cymru Iachach'. Mae ein grŵp gorchwyl a gorffen ar bresgripsiynu cymdeithasol a sefydlwyd yn ddiweddar yn ceisio deall sut y gallai presgripsiynu cymdeithasol helpu Cymru i adfer yn sgil COVID-19, ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o Goleg...
Lynne Neagle: Hoffwn enwebu Elin Jones.
Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adolygiad cyflogau'r GIG?
Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yng Nghymru?
Lynne Neagle: Gweinidog, gan mai hwn fydd ein cyfle olaf i ffeirio geiriau yn y Senedd hon, roeddwn eisiau manteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch o galon ichi am eich gwaith yn y maes hwn, sydd wedi cyflawni cynnydd mor sylweddol yn y Senedd hon. Mae eich ymgysylltiad â'm pwyllgor wedi'i wreiddio mewn parch at werth pwyllgorau'r Senedd, wedi'i ysgogi gan eich ymrwymiad i iechyd meddwl plant a phobl...
Lynne Neagle: Prif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi a'r Cwnsler Cyffredinol wedi codi cwestiwn Erasmus+ yn y Cydbwyllgor Gweinidogion. O ystyried y penderfyniad hynod siomedig gan Lywodraeth y DU i droi eu cefnau ar y rhaglen hynod lwyddiannus hon o gyfnewidiadau dysgu, a fyddech chi'n cytuno â mi bod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd yn ariannu rhaglen ddysgu gyfatebol newydd ar gyfer tymor nesaf...
Lynne Neagle: Diolch, Weinidog. Roeddwn wrth fy modd yn gweld y fframwaith yn cael ei gyhoeddi ddoe. A gobeithiaf siarad yn y datganiad yr wythnos nesaf a dweud rhai geiriau amdanoch bryd hynny. Fel y gwyddoch, cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sesiwn wych yn ddiweddar ar effaith COVID ar iechyd corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc, a hoffwn ddiolch i'r Athro Ann John, yr Athro Alka...
Lynne Neagle: 6. Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo llesiant disgyblion yn y cynlluniau dychwelyd i'r ysgol? OQ56453
Lynne Neagle: Diolch, Llywydd, am y cyfle hwn i wneud cyfraniad byr at yr hyn sydd, yn fy marn i, yn achlysur pwysig heddiw. Bydd pasio'r Bil hwn, yn ogystal â gosod y fframwaith cyfreithiol ar gyfer adolygiad cyntaf y cwricwlwm ers dros 30 mlynedd—hwn fydd ein Cwricwlwm cyntaf i Gymru, wedi ei datblygu ar y cyd â'r proffesiwn ac wedi ei wneud yng Nghymru. Ac os bu amser erioed ar gyfer cwricwlwm sydd...
Lynne Neagle: Diolch, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch, yn anaml y bydd COVID yn achosi salwch difrifol mewn plant a phobl ifanc, ond rydym ni'n gwybod bod y pandemig wedi cael effaith enfawr ar eu dysgu, ar eu hiechyd meddwl ac ar agweddau eraill ar eu hiechyd corfforol. Rwyf wir yn cefnogi y dull gofalus o lacio'r cyfyngiadau symud, a dull lle'r ydym ni'n parhau i ddilyn tystiolaeth a chyngor gwyddonol....
Lynne Neagle: A wnaf i roi cynnig arall arni? A yw hynna'n well?
Lynne Neagle: 6. Pa gamau y bydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod lles plant a phobl ifanc yn cael ei flaenoriaethu wrth ystyried llacio'r cyfyngiadau symud? OQ56425
Lynne Neagle: —y gwasanaethau brys hynny i godi'r darnau, felly hoffwn pe gallai'r Gweinidog ddweud rhywbeth yn ei hymateb ynglŷn â pha bryd y mae'n disgwyl i'r rhan arall o'r adolygiad hwnnw, gwaith argyfwng y GIG a gwasanaethau gofal, gael ei chwblhau a'i gweithredu. Diolch yn fawr.
Lynne Neagle: Diolch am y cyfle i wneud cyfraniad byr yn y ddadl hon, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n credu ei bod hi'n anodd gwneud cyfiawnder ag adroddiad mor eang yn y ddadl hon. Roeddwn am fynd ar drywydd rhai materion; yn gyntaf, y cyswllt clir iawn a wnaed yn yr adroddiad â'r angen parhaus i weld gweithredu ar 'Busnes Pawb', adroddiad atal hunanladdiad y pwyllgor iechyd, ac adroddiad 'Cadernid Meddwl' y...
Lynne Neagle: Rwy'n falch o siarad mewn dadl heddiw i gefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb o safon sy'n briodol yn ddatblygiadol, sy'n gynhwysol ac sy'n seiliedig ar gydraddoldeb ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Bydd yr Aelodau hynny sydd wedi darllen ein hadroddiad pwyllgor Cyfnod 1 yn gwybod bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi rhoi ein cefnogaeth...
Lynne Neagle: Diolch, Weinidog. Mae'r sector awyrofod yn werth mwy nag £1.4 biliwn yng Nghymru ac mae'n cyflogi dros 11,000 o weithwyr, gan gynnwys llawer o bobl o Dorfaen. Fodd bynnag, mae'r pandemig COVID wedi'i daro'n wael iawn, ac mae'n ddigon posibl nad oes gan y gweithleoedd hynny adnoddau na gallu i gynnal eu profion eu hunain yn y gweithle. Pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd y strategaeth newydd...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Lywydd. Un o uchafbwyntiau fy nghyfnod fel Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd oedd y cyfle i wylio'r Senedd Ieuenctid yn datblygu. Mae gweithio gyda'i Haelodau ar y gwaith craffu a wnawn fel pwyllgor ac fel Senedd wedi bod yn fraint wirioneddol, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth nad yw sefydlu'r Senedd Ieuenctid wedi cyfoethogi'r ddadl ar bynciau pwysig...
Lynne Neagle: 6. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gyflwyno profion asymptomatig yn y gweithle yng Nghymru? OQ56326
Lynne Neagle: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chomisiynydd Plant Cymru ynghylch effaith y cyfyngiadau symud diweddaraf ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru?