Canlyniadau 161–180 o 5000 ar gyfer speaker:Darren Millar OR speaker:Darren Millar OR speaker:Darren Millar

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd — Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru ( 8 Meh 2022)

Darren Millar: Mae mater refferendwm yn dod ar ddiwedd y trafodaethau a'r ystyriaethau, onid yw? Ac rydym ar y pwynt lle mae argymhellion wedi'u gwneud gan y pwyllgor, a phan edrychwch ar y newidiadau sylweddol sydd wedi'u hargymell, dyna pryd y mae'n rhaid ichi dderbyn nad yw'r cyhoedd yng Nghymru wedi cael dweud eu barn. Nawr, rydym yn cydnabod bod mwyafrif yn y Siambr hon o blaid diwygio'r Senedd. Rydym...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd — Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru ( 8 Meh 2022)

Darren Millar: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei eiriau caredig am fy nghyfranogiad ynddo. Cynigiaf y gwelliannau, sydd wedi'u cyflwyno yn fy enw i, ac ni fydd yn syndod o gwbl i neb yn y Siambr hon y byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig sydd ger ein bron heddiw, oherwydd ni allwn gefnogi, ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig, cynnydd yn nifer yr Aelodau o'r Senedd, a diwygiad...

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor ( 8 Meh 2022)

Darren Millar: Rwy'n cynnig.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Meh 2022)

Darren Millar: Mae'n ddrwg gennyf, ni chlywais unrhyw eglurder yn eich ateb ynglŷn ag a ydych yn credu bod gan y Senedd gymhwysedd i allu cyflwyno cwotâu rhywedd ar hyn o bryd. Mae'n gwestiwn syml iawn. Gwn eich bod yn dal i gyfeirio at y ddadl a fydd yn cael ei chynnal ymhen dwy awr. Rwy'n tybio nad oes gennych ateb yn eich ymateb i'r ddadl honno ychwaith ar y mater hwn. Os oes gennych, efallai y gallaf...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Meh 2022)

Darren Millar: O gofio mai eich Prif Weinidog a ysgrifennodd y crynodeb gweithredol, i bob pwrpas, gydag arweinydd Plaid Cymru, byddwn wedi meddwl y byddech wedi gwneud ychydig o waith eisoes, a dweud y gwir, i ystyried a oedd gan y Senedd gymhwysedd i weithredu'r argymhellion hyn. Oherwydd, fel cyn-aelod o'r pwyllgor hwnnw, gallaf ddweud wrthych fod y cyngor cyfreithiol, yn ein trafodaethau, yn gwbl glir:...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Meh 2022)

Darren Millar: Weinidog, gan fod y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd bellach wedi cyhoeddi ei adroddiad, a ydych wedi ystyried a oes gan y Senedd y pwerau i gyflawni argymhellion y pwyllgor? 

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ( 7 Meh 2022)

Darren Millar: Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i fynegi fy mhryder ynghylch sylw a wnaeth y Gweinidog yn awgrymu bod y datganiad hwn wedi'i gynllunio ers nifer o wythnosau? Rwy'n aelod o'r Pwyllgor Busnes. Mae'r Pwyllgor Busnes yn edrych ar y flaenraglen waith bob tro y byddwn ni'n cyfarfod. Ni chawsom ni wybod am unrhyw newidiadau tan heddiw o ran y datganiad hwn; ni chafodd ei gytuno arno tan heddiw. Cafodd...

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ( 7 Meh 2022)

Darren Millar: —sydd ei angen arnom. Mae angen y gweithredu hwnnw arnom ni nawr, cyn gynted â phosibl.

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ( 7 Meh 2022)

Darren Millar: Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad, er bod yn rhaid i mi ddweud fy mod i wedi cael fy siomi gan eich diffyg cwrteisi i Aelodau'r Senedd sydd â diddordeb uniongyrchol yn yr ysbyty yr oedd eich datganiad chi'n cyfeirio ato. Fel gwyddoch chi, rwyf i wedi dangos diddordeb mawr yn y gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd am flynyddoedd maith ac eto, nid ydych chi wedi dangos cymaint o gwrteisi...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Diwygio'r Senedd ( 7 Meh 2022)

Darren Millar: Diolch am yr ymateb yna. Wrth gwrs, mae casgliadau pwyllgor y Senedd yn cyd-fynd yn dda iawn â chasgliadau'r trafodaethau rhyngoch chi ac arweinydd Plaid Cymru. Ac, wrth gwrs, os caiff y casgliadau a'r argymhellion hynny eu gweithredu, hwn fydd yr ad-drefnu mwyaf sylweddol o etholiadau i'r Senedd ers ei sefydlu yn ôl ym 1999, gan ddileu'r system bresennol lle caiff 40 o Aelodau eu hethol ar...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Diwygio'r Senedd ( 7 Meh 2022)

Darren Millar: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddiwygio'r Senedd? OQ58152

7. Dadl Plaid Cymru: Cyllid ar ôl Brexit (25 Mai 2022)

Darren Millar: Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn ymyriad—

7. Dadl Plaid Cymru: Cyllid ar ôl Brexit (25 Mai 2022)

Darren Millar: Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. Credaf eich bod yn iawn i godi’r ffaith ei bod yn anffodus, yn fy marn i, nad yw Aelodau o’r Senedd yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau yn yr un ffordd ag Aelodau Seneddol y DU mewn perthynas â'r ffrwd gyllido newydd hon. Ond a ydych yn derbyn hefyd, gyda dull Llywodraeth Cymru o weithredu, ei fod yn destun gofid na chefais...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd meddwl plant a'r glasoed (18 Mai 2022)

Darren Millar: Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n gwybod pa mor ymrwymedig ydych chi i'r achos hwn ac rydych chi wedi bod yn angerddol iawn yn ei gylch ers blynyddoedd lawer. Fodd bynnag, mae'n ymwneud â mwy na'r targed o 80 y cant, onid yw? Mae'n ymwneud â sicrhau bod pobl yn cael mynediad at y therapïau siarad, yn enwedig, y maent yn gorfod aros yn hir iawn amdanynt ar hyn o bryd, hyd yn oed ar ôl iddynt...

3. Cwestiynau Amserol: Protocol Gogledd Iwerddon (18 Mai 2022)

Darren Millar: Credaf ei bod yn bwysig fod deialog bellach rhwng yr UE a'r DU, a chredaf ei bod hefyd yn bwysig iawn fod Llywodraeth y DU yn ymgysylltu â'r Llywodraethau datganoledig lle y ceir effaith ar bobl, yn enwedig yma yng Nghymru, yn amlwg. Nid oes unrhyw un yn dymuno gweld camau gweithredu unochrog. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn glir nad oedd yn dymuno bod mewn sefyllfa lle roedd angen iddi...

3. Cwestiynau Amserol: Ysbyty Glan Clwyd (18 Mai 2022)

Darren Millar: Rydych wedi bod yn cilwenu yn ystod y cwestiwn hwn. A ydych yn derbyn bod y penderfyniad—

3. Cwestiynau Amserol: Ysbyty Glan Clwyd (18 Mai 2022)

Darren Millar: Mae'r cwestiwn yn ymwneud â'r mater. A ydych yn derbyn bod y sawl sy'n eistedd wrth eich ymyl chi, eich rhagflaenydd, wedi gwneud y penderfyniad anghywir pan benderfynodd dynnu'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig cyn etholiad diwethaf y Senedd? Roedd y penderfyniad hwnnw'n anghywir, Weinidog, ac mae angen ichi ddatrys y broblem.

3. Cwestiynau Amserol: Ysbyty Glan Clwyd (18 Mai 2022)

Darren Millar: Rwy'n hapus i gael y sgwrs honno.

3. Cwestiynau Amserol: Ysbyty Glan Clwyd (18 Mai 2022)

Darren Millar: Rwyf am ofyn cwestiwn, ac os gadewch imi ei ofyn, fe wnaf. Ond mae staff yn dweud wrthyf mai'r broblem sylfaenol yw nad oes digon o welyau i gleifion mewnol yn yr ysbyty hwnnw, ac nad oes digon o aelodau staff. Beth y bwriadwch ei wneud i sicrhau bod cydbwysedd y gwelyau i gleifion mewnol yn iawn ar gyfer y boblogaeth leol honno yng Nghonwy a sir Ddinbych sy'n dibynnu ar yr ysbyty hwnnw?...

3. Cwestiynau Amserol: Ysbyty Glan Clwyd (18 Mai 2022)

Darren Millar: A hyn gwta ddeufis ar ôl adroddiad arall ar y gwasanaethau fasgwlaidd. Wyddoch chi, dau wasanaeth yn unig yng Nghymru a ddisgrifiwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fel gwasanaethau sydd angen eu gwella'n sylweddol. Mae'r ddau ohonynt ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr—yn unman arall, dim ond ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae angen i'r bwrdd iechyd wella, Weinidog....


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.