Vaughan Gething: Lansiwyd ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer manwerthu ym mis Mehefin, ac roedd yn nodi dechrau sgwrs ehangach a dyfnach gyda'r sector. Mae fforwm manwerthu Cymru, sy'n cynnwys partneriaid o fyd busnes ac undebau llafur—ac rwy'n siŵr bod yr Aelod ac eraill wedi cael cyfle i weld un o'r partneriaid hynny, Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol, yn lansiad eu hymgyrch Rhyddid...
Vaughan Gething: Rwy'n credu bod gan ynni llanw gyfleoedd sylweddol i Gymru. Unwaith eto, nid yw'n ymwneud yn unig â chynhyrchu pŵer, ond mae'n faes lle mae technoleg newydd a math newydd o weithgarwch economaidd yn cael ei ddatblygu, ac rwyf eisiau gweld Cymru ar flaen y gad yn hynny o beth. Wrth gwrs, rydym eisoes wedi buddsoddi £59 miliwn o hen gronfeydd strwythurol i helpu i fwrw ymlaen â materion yn...
Vaughan Gething: Rwy'n cael sgyrsiau rheolaidd gyda fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod y Gweinidog Newid Hinsawdd. Rydym yn llwyr sylweddoli manteision economaidd prosiectau ynni môr arfaethedig yng ngogledd Cymru; mae hyn yn arwyddocaol i Gymru gyfan. Fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau ein bod yn ceisio gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd hyn i Gymru, gan gynnwys cyfleoedd yn y môr Celtaidd.
Vaughan Gething: Rwy'n credu, mewn gwirionedd, fod y pandemig wedi gwneud pethau'n anos. Rwy'n credu ei fod wedi gwthio llawer o grwpiau teuluol a chymunedol yn ôl lle roedd menywod yn ymgymryd â mwy o rôl gofalu a llai o'r rôl gweithgarwch economaidd. Mae hynny wedi mynd â ni'n ôl. Yn fy nheulu fy hun, bu'n rhaid i ni wynebu heriau go iawn ar y pryd gydag addysgu gartref, ond roedd yn rhan o fy ngwaith...
Vaughan Gething: Rwy'n aml yn cofio am fy amser cyn imi ddod i'r Senedd, a'r grwpiau o bobl roeddwn yn eu cynrychioli, gan gynnwys llawer o fenywod mewn hawliadau cyflog cyfartal, a deall bod yna anghydraddoldebau o ran canlyniadau cyflog hyd yn oed mewn gweithleoedd cyfundrefnol, ac mae rhai o'r rheini'n strwythurol ac yn ymwneud â gwahaniaethu o fewn y system gyflogau. Ac yna mae gennych her ehangach, wrth...
Vaughan Gething: Rwy'n nodi ystod o gamau gweithredu o fewn y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau i sicrhau cymaint o degwch ag sy'n bosibl a chael gwared ar anghydraddoldeb. Mae hyn yn cynnwys gwella canlyniadau'r farchnad lafur i fenywod.
Vaughan Gething: Mae'r pwysau costau byw yn sylweddol ar draws economi'r nos a'r economi ymwelwyr, lletygarwch yn ehangach; mae unrhyw faes lle ceir gwariant dewisol o dan bwysau. Y pwysau o'r busnesau hynny a'u costau eu hunain ydyw wrth gwrs, felly y costau ynni a'r chwyddiant a welsom yn codi eto heddiw i dros 11 y cant, ac mae'n waeth na hynny mewn rhai sectorau wrth gwrs. Mae chwyddiant bwyd wedi cynyddu...
Vaughan Gething: Rwy'n deall bod yna broblemau go iawn ynghylch a yw pobl yn teimlo'n ddiogel pan nad yw ardaloedd wedi'u goleuo'n dda. Rwy'n deall bod hwnnw'n bryder penodol i fenywod ac a ydynt yn teimlo'n ddiogel neu beidio, yn enwedig os ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu dilyn neu fod rhywun yn agosach atynt nag y dylent fod, ac nid yw'n ymwneud â chydnabod y mater yn unig, mae'n ymwneud â'r hyn sy'n...
Vaughan Gething: Rydym yn defnyddio ein hysgogiadau a'n dylanwad i hyrwyddo gwaith teg ar draws ein heconomi, ond dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r pwerau i wella hawliau gweithwyr statudol a'u gorfodaeth. Er hynny, rydym yn codi'r materion hyn yn gyson gyda Llywodraeth y DU.
Vaughan Gething: Roedd y drafodaeth ar borthladdoedd rhydd yn anodd, ond daeth i ben y pen draw mewn cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru, gyda'n cyfrifoldebau, a Llywodraeth y DU. Mae'n fodel lle ceir cyfrifoldebau penderfynu ar y cyd rhwng penderfynyddion cyfartal, a'r peth da am hynny yw ei fod wedi symud ymlaen o sefyllfa anffodus ac anghynhyrchiol iawn lle mae pobl yn gweiddi ac yn dweud, 'Bai Llywodraeth...
Vaughan Gething: Byddaf yn parhau i bwyso am hyn gyda phwy bynnag yw'r Gweinidogion diweddaraf sydd â chyfrifoldeb am hyn. Efallai y bydd dychweliad Michael Gove i'r adran ffyniant bro yn golygu na fydd oedi sylweddol mewn perthynas â hynny, ond roedd llywodraeth leol i fod cael atebion gan Lywodraeth y DU o fewn tri mis i gyflwyno eu cynlluniau. Ond mewn gwirionedd, nid y tri mis diwethaf yn unig ydyw,...
Vaughan Gething: Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi pwysau aruthrol ar awdurdodau lleol ar draws pob rhan o Gymru i geisio sicrhau bod cynllun sydd wedi mynd o chwith oherwydd oedi, cyllid annigonol a therfynau amser amhosibl, yn llwyddo. Rwyf wedi codi'r materion hyn dro ar ôl tro gydag nifer o Weinidogion olynol y DU a byddaf yn parhau i wneud hynny.
Vaughan Gething: Ni ellir gwadu bod y methiant i sicrhau llwyddiant opsiwn blaenorol Wylfa gyda Hitachi wedi creu her. Mae yna fudd economaidd wedi'i golli, oherwydd fel arall, byddem wedi gweld gweithgarwch sylweddol yn digwydd eisoes. Mae'r bobl a wnaeth fanteisio ar y cyfle hyfforddi sgiliau ar y sail y byddai'r datblygiad hwn yn digwydd mewn gwaith o hyd, ond nid yw'r bobl hynny i gyd yn lleol. Rwyf wedi...
Vaughan Gething: Rwy’n cydnabod bod safbwyntiau gwahanol i'w cael yn y maes hwn. Rwy’n glir iawn, o'm safbwynt i a safbwynt y Llywodraeth, fod datblygiadau niwclear yn rhan o’r cymysgedd ynni ar gyfer y dyfodol, ynghyd â’r cyfleoedd sylweddol sydd gennym ledled Cymru ar gyfer cynhyrchu ynni, gan gynnwys ar y môr yn ogystal ag ar y tir wrth gwrs. Mae yna her ynghylch y cyflenwad sylfaen o ynni, ond...
Vaughan Gething: Ni chredaf fod y ddau beth ar wahân neu'n annibynnol ar ei gilydd. Mae Cwmni Egino yn gweithio gyda’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear ar ddatgomisiynu, ac mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo, a chredwn y bydd y gwaith sy’n digwydd yno yn esiampl i safleoedd eraill ledled y byd ar gyfer datgomisiynu safleoedd niwclear. Ni chredaf fod hynny’n rhwystro cenhedlaeth newydd o dechnoleg...
Vaughan Gething: Diolch. Rydym yn croesawu ymrwymiad Rolls-Royce i adweithyddion modiwlar bach. Mae Cwmni Egino yn agnostig o ran technoleg ar hyn o bryd ac mae'n cynnal ymarfer ymgysylltu â'r farchnad gyda nifer o ddarparwyr technoleg, gan gynnwys Rolls-Royce, i nodi'r dechnoleg adweithyddion modiwlar bach a ffefrir ar gyfer safle Trawsfynydd.
Vaughan Gething: Wel, mae hynny'n dibynnu ar y dewisiadau y mae Gweinidogion y DU yn eu gwneud, wrth gwrs, o ran y penderfyniadau a wnânt, ond mae hefyd yn tanlinellu pam fod y datblygiad hwn yn bwysig, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol inni weithio mewn partneriaeth ar draws ystod o feysydd. Ac rydym yn dweud yn glir iawn, yn ein sgyrsiau rheolaidd â chwmnïau yn y sector amddiffyn ehangach, ond hefyd â...
Vaughan Gething: Credaf fod hon yn enghraifft dda o faes lle mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gallu gwneud pethau'n adeiladol gyda'i gilydd. Rydym yn cymryd yr awenau ar amrywiaeth o'r meysydd datblygu, gyda'r safle ei hun, gyda pheth o'r buddsoddiad a wnaethom i'w gael yn barod. Mae angen inni weithio ar sut olwg fydd ar y bartneriaeth ddatblygu yn y dyfodol. Ond gwyddom y bydd cyfleoedd yn hyn o...
Vaughan Gething: Diolch am eich cwestiwn. Mae gan ogledd Cymru sylfaen weithgynhyrchu gref ac mae’n gartref i rai o’n cwmnïau mwyaf cynhyrchiol, yn enwedig yn y sector awyrofod ac amddiffyn. Rydym yn parhau i gefnogi’r busnesau hyn i greu swyddi medrus iawn o ansawdd uchel sy’n talu’n dda, ac mae hynny’n cynnwys y cynlluniau rydym yn eu harwain ar gyfer datblygu canolfan ymchwil technoleg uwch,...
Vaughan Gething: Rwy'n credu bod dau gwestiwn yno. Credaf fod nifer o bwyntiau nad oeddent yn gwestiynau. Ond edrychwch, y gwir amdani yw fy mod, mewn ymateb i’r Aelod etholaeth, Rhun ap Iorwerth, wedi dweud yn glir ein bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid lleol, gan gynnwys cynrychiolwyr etholedig, gan gynnwys y cyngor, gan gynnwys cynrychiolwyr busnesau y gwyddom eu bod yn cael eu heffeithio gan wahaniaeth...