Canlyniadau 161–180 o 2000 ar gyfer speaker:Mick Antoniw

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad — 'Adroddiad Blynyddol 2021/22' ( 9 Tach 2022)

Mick Antoniw: Ddirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar am rôl y pwyllgor yn craffu ar ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, yn enwedig yn y cyd-destun heriol y mae pob un ohonom wedi bod yn gweithredu ac yn parhau i weithredu ynddo ers Brexit a dechrau'r pandemig. Mae’r pwyllgor wedi craffu ar lefelau digynsail o is-ddeddfwriaeth. Fel y mae’r adroddiad rhagorol yn ei amlygu, mae’r pwyllgor wedi...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad — 'Adroddiad Blynyddol 2021/22' ( 9 Tach 2022)

Mick Antoniw: Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi wedi gwrando ar y cyfraniadau i'r ddadl hon gyda diddordeb mawr. Hoffwn innau dalu teyrnged i'r pwyllgor am eu gwaith, a diolch iddyn nhw am eu hadroddiad. Wrth gwrs, fel cyn-Gadeirydd i'r pwyllgor hwn, mae gen i ddealltwriaeth o'i waith, a dwi'n cydnabod y sylwadau yn yr adroddiad am ba mor heriol yw natur eang cylch gwaith y pwyllgor o ran rheoli'r llwyth gwaith...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyfleoedd Cyfartal ( 9 Tach 2022)

Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn pwysig hwnnw. Ydw, rwy'n ymwybodol o adroddiad Manceinion. Rwyf wedi dechrau darllen drwyddo ac mae'r cynnwys yn llwm iawn. Mae'n rhywbeth y gwn fod aelodau'r farnwriaeth yn bryderus iawn yn ei gylch, ac rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth lle ceir ymdrechion i weld sut i fynd i'r afael ag ef. Nid yw'n fater hawdd i fynd i'r afael ag ef o fewn system gyfiawnder sy'n gweithio...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyfleoedd Cyfartal ( 9 Tach 2022)

Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Rydym yn defnyddio pob ysgogiad posibl i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn y system gyfiawnder, er nad yw wedi'i ddatganoli. Er enghraifft, buom yn gweithio gyda sefydliadau partner ar y cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth ar gyfer y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a lansiwyd ym mis Medi ac sy'n ategu ein cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol ein hunain.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol ( 9 Tach 2022)

Mick Antoniw: Diolch am godi mater pwysig iawn nad yw'n cael sylw'n aml. Rwy'n meddwl mai hwn yw'r cwestiwn penodol cyntaf a gefais ar hyn, ac mae'n bwysig iawn ei fod wedi cael ei godi. Yr hyn y gallaf ei ddweud yn gyffredinol yw pan fydd materion yn ymwneud â chasglu data wedi codi, rwy'n gwybod bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru bob amser wedi codi'r mater mewn perthynas â diogelu hynny ac osgoi...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol ( 9 Tach 2022)

Mick Antoniw: Diolch. Cyn i'r Bil gael ei dynnu'n ôl o'r Ail Ddarlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin, fe wnaeth fy swyddogion asesu ei effaith ar Gymru gan nodi darpariaethau sydd angen cydsyniad y Senedd. Bydd unrhyw ddiwygiadau diogelu data sydd ar y ffordd gan Lywodraeth y DU yn cael eu hasesu yn yr un modd.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith Statud (Diddymiadau) (Cymru) Arfaethedig ( 9 Tach 2022)

Mick Antoniw: Diolch ichi am rai o'r sylwadau hynny, ac rwy'n sicr yn cytuno â chi am bwysigrwydd canolbwyntio ar yr argyfwng costau byw; wrth gwrs, dyna'r union reswm pam ein bod yn credu y dylai Bil cyfraith yr UE a ddargedwir gael ei roi o'r neilltu neu ei ddiystyru'n llwyr. Ond o ran y cyfrifoldebau sydd gennym fel Senedd ac fel Llywodraeth Cymru, pwrpas yr ymgynghoriad yw cyflawni ein rhwymedigaeth...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith Statud (Diddymiadau) (Cymru) Arfaethedig ( 9 Tach 2022)

Mick Antoniw: Diolch. Bydd y Bil yn tacluso'r llyfr statud drwy gael gwared ar ddarpariaethau sy'n anarferedig, wedi darfod, heb fod o ddefnydd ymarferol neu heb effaith ymarferol mwyach neu heb unrhyw obaith realistig o gael eu cychwyn. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i gyfreithwyr ac eraill ddod o hyd i'r wybodaeth y maent yn chwilio amdani.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Protocol Gogledd Iwerddon ( 9 Tach 2022)

Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn atodol. Rwy'n credu fy mod yn cytuno â'r holl bwyntiau a wnaethoch. Yn yr haf, mynychais gynhadledd Cymdeithas Prydain ac Iwerddon, ac yno, fe wneuthum y pwynt fy mod yn meddwl ei bod hi'n sylfaenol anghywir i geisio mynd i'r afael â phroblem wleidyddol sylweddol drwy gyfrwng deddfwriaeth. Ni allwch ddeddfu i ddatrys y mathau hynny o broblemau. Mae'r Bil yn un annoeth...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Protocol Gogledd Iwerddon ( 9 Tach 2022)

Mick Antoniw: Diolch. Ni chawsom unrhyw ymgysylltiad â Llywodraeth y DU cyn i'r Bil gael ei gyflwyno. Mae gennym bryderon difrifol yn ei gylch, gan gynnwys y pwerau eang iawn y mae'n eu rhoi i Weinidogion y Goron a'i oblygiadau posibl i'r setliad datganoli. Rydym yn argymell y dylai'r Senedd wrthod rhoi cydsyniad i'r Bil.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwota Rhyw ar gyfer Etholiad Senedd Cymru yn 2026 ( 9 Tach 2022)

Mick Antoniw: Argymhelliad 11 oedd y dylai'r Senedd gael ei hethol gyda chwotâu rhywedd statudol. Argymhelliad 17 o'r adroddiad oedd y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau priodol i sicrhau nad yw ein hargymhellion ar ddiwygio'r Senedd ar gyfer 2026 yn cael eu rhoi mewn perygl gormodol o gael eu cyfeirio at y Goruchaf Lys. Felly, i bob pwrpas, mae swyddogion wedi bod yn gwneud gwaith ar ddatblygu polisi...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwota Rhyw ar gyfer Etholiad Senedd Cymru yn 2026 ( 9 Tach 2022)

Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn atodol. Efallai y gwnaf ymdrin â'r pwynt a godwyd gennych pan ddywedoch chi mai'r unigolyn gorau sy'n cael y swydd. Efallai yr hoffech egluro pam mai dim ond 18 y cant o aelodaeth y Torïaid yn y Senedd hon sy'n fenywod. Nid wyf yn siŵr pa gasgliadau y dylem ddod iddynt o hynny. Fe adawaf hynny yno, oherwydd argymhelliad 11 y pwyllgor diben arbennig oedd y dylid ethol y...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwota Rhyw ar gyfer Etholiad Senedd Cymru yn 2026 ( 9 Tach 2022)

Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Cyflwynodd y pwyllgor diben arbennig ei adroddiad ar 30 Mai a gwnaeth 31 o argymhellion, gan gynnwys un yn ymwneud â chyflwyno cwotâu rhyw. Ar hyn o bryd, mae swyddogion yn datblygu polisi ar gyfer deddfwriaeth mewn perthynas â'r argymhellion hynny.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Streiciau Trafnidiaeth (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) ( 9 Tach 2022)

Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn atodol. Wrth gwrs, byddwn yn monitro beth sy'n digwydd yn ofalus iawn. Rwy'n deall bod yr Ail Ddarlleniad wedi'i ohirio. Rwyf wedi bod yn darllen drwy'r Bil. Mae gennyf gopi ohono yma mewn gwirionedd. Mae'n eithaf anodd gweld sut yn union y gallai weithio. Efallai mai dyna pam ei fod yn arafu yn y broses. Deddfwriaeth arall heb ei hystyried yn llawn ac wedi'i gyrru gan...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Streiciau Trafnidiaeth (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) ( 9 Tach 2022)

Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Mae'r Bil a'i effeithiau yng Nghymru yn cael eu hasesu ar frys gan fy swyddogion. Rwy'n hynod bryderus, unwaith eto, ynglŷn â'r diffyg ymgysylltu a fu ar y Bil hwn cyn ei gyflwyno, a'r wybodaeth gyfyngedig sydd ar gael am ei gynnwys.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Trychineb Hillsborough ( 9 Tach 2022)

Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn atodol. Ac rwy'n eich llongyfarch am y ffordd y gwnaethoch barhau i fynd ar drywydd hyn a rhai o'r achosion arwyddocaol eraill o gamweinyddu cyfiawnder. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn eu trafod ac yn eu hystyried ar lawr y Senedd. Rwy'n credu, yn gyntaf oll, mai'r peth i'w ddweud yw fy mod yn credu bod nifer o gyfleoedd wedi'u colli i drafod mater...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Trychineb Hillsborough ( 9 Tach 2022)

Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Ysgrifennais at Is-ysgrifennydd Gwladol y Senedd dros Gyfiawnder am y galw sylweddol am gyfraith Hillsborough ym mis Awst eleni, ac rwyf wedi codi'r mater yn y gorffennol mewn cyfarfodydd a gohebiaeth â Gweinidogion Llywodraeth y DU. 

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 9 Tach 2022)

Mick Antoniw: Wel, yn gyntaf, rydych chi'n hollol gywir ynglŷn â'r Bil hawliau, ac wrth gwrs, 10 Rhagfyr yw Diwrnod Hawliau Dynol, a gobeithio y bydd dadl sylweddol yn y Siambr hon. Ar un adeg, roedd yn edrych fel pe gallem fod wedi dadl ar Ddiwrnod Hawliau Dynol heb fod angen cyfeirio at y Bil hawliau. Dywedwyd wrthym ei fod wedi'i roi o'r neilltu. Yn anffodus, mae un o brif symbylwyr y peth wedi...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 9 Tach 2022)

Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn a diolch am y sylwadau. Rwy'n sicr yn cytuno â chi fod y cyhoeddiad gan Brifysgol Caerdydd yn cynnwys gwybodaeth wirioneddol arwyddocaol. Ac wrth gwrs, mae'n codi'r pwynt: un o'n prif bryderon—roeddwn yn bwriadu sôn am hyn gyda'r cwestiwn olaf—yw dadgyfuno data. Mae angen y sylfaen dystiolaeth honno arnom, mae angen y data hwnnw arnom. Oni bai bod y data hwnnw...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 9 Tach 2022)

Mick Antoniw: Wel, rwy'n credu eich bod chi newydd roi rheswm da iawn dros ddatganoli cyfiawnder, oherwydd dyna'n union yw un o'r rhesymau pam y buom yn gwneud hynny, pam ein bod yn gweithio mewn partneriaeth lle gallwn, ond mae angen datganoli cyfrifoldebau'n briodol, yn gyson ac yn drefnus i'n galluogi i gael gwared ar y rhwyg o fewn y system cyfiawnder troseddol. Rydych yn sôn am y niferoedd o bobl...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.