Canlyniadau 161–180 o 2000 ar gyfer speaker:Leanne Wood

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Blaenoriaethau Gwariant (20 Tach 2019)

Leanne Wood: O ystyried eich bod am greu swyddi gwell yn nes at adref, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn fy etholaeth yn cytuno bod taer angen darparu swyddi â chyflogau da yn y Rhondda, mae'n un o'r pethau sy'n codi amlaf yn fy nghymorthfeydd stryd, ond nid yw pobl yn argyhoeddedig eich bod yn mynd i gyflawni hynny. Felly, o gofio hynny, a allwch ddweud wrthym beth yw'r gyllideb ar gyfer tasglu'r Cymoedd, a...

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (19 Tach 2019)

Leanne Wood: Mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion heddiw, a cheir nifer o ddigwyddiadau ar safle'r Senedd, gan gynnwys un gan fenter Men's Sheds. Mae'r prosiectau hyn yn helpu pobl i fod yn agored am eu hiechyd meddwl, sy'n lleihau'r stigma, ac mae hyn yn hanfodol pan wyddom fod cyfraddau hunanladdiad ymhlith dynion yn cael eu disgrifio'n argyfwng cenedlaethol. Dywedir mai hunanladdiad yw'r lladdwr mwyaf o...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (19 Tach 2019)

Leanne Wood: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cryfhau gwasanaethau ysbytai yn y Rhondda?

Grŵp 4: Estyn yr hawl i wladolion tramor bleidleisio, a threfniadau cofrestru etholiadol cysylltiedig (Gwelliannau 5, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 17, 18, 19, 61, 62, 63, 1) (13 Tach 2019)

Leanne Wood: Mae Plaid Cymru yn credu bod gan bawb sy'n byw yng Nghymru ran yn nyfodol ein cenedl a bod ganddynt hawl i helpu i'w siapio. Dyna pam ein bod yn cefnogi gwelliannau'r Llywodraeth i estyn yr hawl i bleidleisio. Fodd bynnag, mae gennym gwestiynau ynghylch dehongliad y Llywodraeth o'i gwelliannau ei hun ar estyn yr etholfraint i ddinasyddion tramor sy'n byw yng Nghymru. Yn benodol, hoffem...

4. Datganiadau 90 Eiliad (13 Tach 2019)

Leanne Wood: Llongyfarchiadau, Llwyncelyn, a diolch yn fawr iawn.

4. Datganiadau 90 Eiliad (13 Tach 2019)

Leanne Wood: Hoffwn i'n Senedd gydnabod y doniau canu sydd gennym yn y Rhondda. Rydym yn enwog am gorau meibion o'r radd flaenaf, ac mae eu doniau'n adnabyddus tu hwnt. Ond mae'n wych gweld bod gennym rai wynebau newydd. Mae côr yr ysgol yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn wedi bod yn datblygu enw da iawn dros y blynyddoedd diwethaf. Maent wedi ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod yr Urdd ac wedi ennill...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Lleihau Lefelau Digartrefedd (13 Tach 2019)

Leanne Wood: Rwyf wedi derbyn gwaith achos ar bobl ddigartref mewn sefyllfa enbyd a ofynnodd am gymorth gan gyngor Rhondda Cynon Taf, ddim ond i gael eu troi ymaith. Gwn am elusen leol sy'n helpu pobl ddigartref sy'n cael profiadau tebyg. Nawr, mae'r cyngor fel arfer yn dweud nad oes ganddynt rwymedigaeth gyfreithiol i roi cartref i bobl os nad ydynt yn flaenoriaeth. Maent yn ychwanegu mai'r unig ffordd o...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Tach 2019)

Leanne Wood: Weinidog, pe bai eich Llywodraeth yn cynnal asesiad, fel rwyf newydd ei awgrymu, credaf y byddai hynny o'r diwedd yn cael gwared ar y syniad fod budd ariannol i’w gael o San Steffan yn rheoli'r materion hyn. Y gwir amdani yw na allwn fforddio peidio â rheoli’r gwaith o weinyddu lles. Mae'n amlwg o dystiolaeth ryngwladol mai un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau tlodi yw rhoi mwy o...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Tach 2019)

Leanne Wood: Iawn. Wel, mae Cartrefi Cymunedol Cymru wedi awgrymu defnyddio taliadau disgresiwn at gostau tai i helpu'r bobl yr effeithir arnynt. Nawr, yr opsiwn a ffafrir gennyf fyddai pe bai gan Gymru reolaeth weinyddol dros nawdd cymdeithasol fel y gallem ddatrys y broblem dros nos, ac ni fyddai’n costio unrhyw arian inni ychwaith. Nid oes pwynt gofyn i chi a ydych yn cytuno â hynny,...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Tach 2019)

Leanne Wood: Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol wedi ymuno â'r rhestr faith o sefydliadau sy'n feirniadol o ymddygiad yr adran fwyaf dialgar ac anghymwys yn Ewrop, yr Adran Gwaith a Phensiynau. Yn yr achos hwn, maent yn cyfeirio at y problemau a achosir gan y credyd cynhwysol i'r rhai sy'n talu eu rhent yn wythnosol. Mae rheoliadau'r credyd cynhwysol yn datgan y bydd...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Polisi Ynni Llywodraeth Cymru (13 Tach 2019)

Leanne Wood: Diolch. Rwy'n croesawu polisi Llywodraeth Cymru ar ffracio; rwy'n credu bod hwnnw'n ddatblygiad da. A ydych yn gwybod faint o'n nwy naturiol, sy'n cael ei fewnforio drwy sir Benfro, sy'n dod o ffynonellau ffracio?

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Polisi Ynni Llywodraeth Cymru (13 Tach 2019)

Leanne Wood: 10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi ynni Llywodraeth Cymru? OAQ54685

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Lleihau Lefelau Digartrefedd (13 Tach 2019)

Leanne Wood: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i leihau lefelau digartrefedd? OAQ54684

3. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwella Trafnidiaeth (12 Tach 2019)

Leanne Wood: Fel y clywsom yn gynharach, Prif Weinidog, ar ôl 31 Rhagfyr, gallem ni golli'r trenau Pacer o reilffyrdd y Cymoedd. Nawr, byddai colli'r trenau Pacer yn achos dathlu fel arfer, oherwydd maen nhw mor hen ac mor ofnadwy, ond, oherwydd y diffyg cynllunio gennych chi, rydym ni'n wynebu gostyngiad digynsail yn y gwasanaethau trên dros nos. Yn gynharach, roeddech chi'n beio cwmnïau preifat, ac...

5. Cwestiynau Amserol: Ymddiswyddiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru ( 6 Tach 2019)

Leanne Wood: Rwyf wedi ffieiddio at ddigwyddiadau'r wythnos diwethaf yn ymwneud â Ross England. Dylai ei ymgais i rwystro'r system gyfiawnder fod wedi ysgogi condemniad eang a chamau disgyblu ar unwaith gan arweinwyr y Torïaid Cymreig. Yn hytrach, arweiniodd at ddyrchafiad Ross England fel ymgeisydd mewn sedd darged yn y Cynulliad. Ni ddylem anghofio bod yna fenyw wrth wraidd y stori hon a fydd yn...

5. Cwestiynau Amserol: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ( 6 Tach 2019)

Leanne Wood: Efallai fod hwn i'w weld yn fater dibwys ynglŷn â gwall cofnodi data, ond y tu ôl iddo, roedd hyd yn oed swyddogaethau gweinyddol sylfaenol yn cael eu perfformio'n wael yn gyson. Heb ddata cywir ar amseroedd aros, ni allwn farnu a yw pethau'n gwella neu'n gwaethygu. Ni allwn nodi'n fanwl y meysydd y mae angen buddsoddi ynddynt a'r meysydd lle gallai diogelwch cleifion fod mewn perygl...

5. Cwestiynau Amserol: Ymddiswyddiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru ( 6 Tach 2019)

Leanne Wood: 3. Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ar y goblygiadau i Gymru yn dilyn ymddiswyddiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru? 361

4. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cefnogi Awdurdodau Tai Lleol i sicrhau opsiynau tai tymor hir yn y Sector Rhentu Preifat ( 5 Tach 2019)

Leanne Wood: Bu hi wastad yn wir fod y sector preifat yn ddrutach i'r trethdalwr na thai cymdeithasol, hyd yn oed ar ôl toriadau budd-dal, ac mae'n wir o hyd bod arnom ni angen mwy o dai cymdeithasol yn y tymor hir ac y bydd hyn yn rhatach. Fodd bynnag, mae eich datganiad yn cydnabod bod taliadau nawdd cymdeithasol eu hunain yn cyfyngu ar y dewis sydd gan bobl yn y sector rhentu preifat felly, i mi, nid...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 5 Tach 2019)

Leanne Wood: Rwyf eisiau mynegi fy arswyd ar ôl gweld y cyfweliad diweddar ar newyddion ITV â meddyg y gofynnwyd iddo gan glaf, cyn y llawdriniaeth, a fyddai'n gallu cael person gwyn i wneud y llawdriniaeth yn ei le. Roedd y loes hon a achoswyd i weithiwr meddygol proffesiynol, sydd wedi rhoi degawdau o lafur caled, tosturi ac arbenigedd o fewn y GIG, yn amlwg i'w weld. Yr hyn a oedd yn cymhlethu pethau...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ( 5 Tach 2019)

Leanne Wood: Mae manteision datganoli'r system cyfiawnder troseddol wedi bod yn eglur ers tro i Blaid Cymru. Dyna oedd sail papur polisi a ysgrifennais i yn ôl yn 2008, o'r enw 'Gwneud Ein Cymunedau'n Fwy Diogel'. Felly, roedd hi'n galonogol gweld canfyddiadau'r comisiwn ar gyfiawnder yn cefnogi'r safbwynt hwn pan gyhoeddwyd yr adroddiad. Roedd y dystiolaeth a ddarparwyd gan y comisiwn annibynnol hwn yn...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.