Sioned Williams: A nawr rŷn ni'n wynebu argyfwng costau byw cwbl enbyd a thrychinebus, wrth gwrs—argyfwng economaidd a chymdeithasol sy'n deillio o, ac yn cael ei ddyfnhau yn raddol gan effaith gyfansawdd nifer o'r elfennau hyn, yn ogystal â rhai elfennau newydd fel pris ynni a rhyfel ar ein cyfandir, gan fygwth rhai o hawliau dynol mwyaf sylfaenol ein pobl i fwyd a gwres. Yr hyn a wnaeth fy nharo oedd,...
Sioned Williams: Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu i'r ddadl hon heddiw. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn parhau i wneud gwaith hollbwysig ac, yn wir, yn ystod y cyfnod pryderus hwn, pan fo hawliau dynol dan fygythiad digynsail o du Llywodraeth Dorïaidd San Steffan, yn gwneud gwaith cwbl allweddol i sicrhau bod sefydliadau a Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar bob cyfle i sicrhau tegwch i bobl...
Sioned Williams: Mae'n ffaith drist, onid yw hi, ei bod wedi cymryd pandemig byd-eang a mudiad a ddaeth i fodolaeth yn dilyn llofruddiaeth erchyll yn yr Unol Daleithiau, sef un George Floyd, i agor llygaid llawer yng Nghymru i wirionedd amlwg anghydraddoldeb hiliol a'i ganlyniadau dinistriol yn rhy aml o lawer—gwirionedd y mae miloedd o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru yn ei fyw, profiad bob...
Sioned Williams: Hoffwn ganolbwyntio ar effaith Brexit ar gyllid ymchwil ac arloesi, sy’n dangos yn glir yr honiad yn ein cynnig nad yw ffrydiau cyllido ôl-Brexit yn gweithio i Gymru. Felly, pam fod hyn yn broblem? Mae ymchwil ac arloesi'n hollbwysig i gynhyrchiant a ffyniant ein cenedl. Mae’n ein helpu i ddeall yn well pwy ydym ni a'r ffordd orau o gynllunio ein dyfodol, gan alluogi’r ymchwil a wneir...
Sioned Williams: Diolch, Prif Weinidog. Mae rhieni i ddau blentyn anabl yn fy rhanbarth wedi cysylltu â fi yn sgil eu hanhawster i sicrhau gofal plant cymwys. Mae'r plant wedi bod yn mynychu meithrinfa Dechrau'n Deg, ble mae cefnogaeth gymwys ar gael, ond nawr eu bod dros bedair oed roedd disgwyl i'w rhieni dalu tair gwaith yn fwy am ofal dros wyliau'r ysgol na'r hyn fyddai plant heb anghenion ychwanegol yn...
Sioned Williams: 2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu strategaeth y Llywodraeth i gefnogi hawliau plant anabl yng Ngorllewin De Cymru? OQ58096
Sioned Williams: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gallwn agor y ddadl hon drwy restru’r ystadegau sy’n dangos yn glir yr angen i weithredu ar anghydraddoldebau iechyd a’r rheswm pam ein bod wedi cyflwyno’r cynnig hwn gerbron yr Aelodau heddiw, a bod angen craffu a dadlau ynghylch y diffyg strategaeth iechyd menywod, yn enwedig o ystyried nod datganedig y Llywodraeth ei hun o ddod yn Llywodraeth ffeministaidd....
Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Yn ei araith yma yn y Senedd yn nodi dengmlwyddiant y coleg, cyfeiriodd y prif weithredwr, Dr Ioan Matthews, at y nifer helaeth o siaradwyr Cymraeg yn astudio mewn prifysgolion ar draws Cymru sydd dal ddim yn gwneud y dewis hwnnw i astudio rhan o'u gradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n amlwg bod yna her o hyd o ran annog myfyrwyr i astudio eu pynciau drwy'r Gymraeg, ac yn ôl...
Sioned Williams: 1. Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol? OQ58054
Sioned Williams: Diolch am eich datganiad, Weinidog. Roedd yna adroddiad yn y Guardian yn ddiweddar fod rhai ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi dod i'r Deyrnas Gyfunol yn gorfod aros hyd at ddwy flynedd cyn gallant gael therapi arbenigol i'w helpu i wella o effaith yr erchyllterau maen nhw wedi dioddef yn sgil rhyfel. Gallwn ni, wrth gwrs, ddim dychmygu y pwysau sydd wedi bod ar y bobl yma sydd wedi gweld...
Sioned Williams: Yr hyn sy'n fwyaf trasig am farwolaethau a achoswyd gan alcohol yn benodol, derbyniadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig ag alcohol a chanlyniadau dibyniaeth ar alcohol yw eu bod yn gwbl ataliadwy. Yr hyn sy’n anfaddeuol, efallai, yw bod dibyniaeth ar alcohol yn effeithio’n anghymesur ar bobl sy’n ddifreintiedig yn economaidd-gymdeithasol. Ar gyfartaledd, mae pobl ar incwm isel yn yfed...
Sioned Williams: Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gen i alw ar y Senedd i ddathlu deng mlwyddiant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a hoffwn, fel llefarydd Plaid Cymru ar addysg ôl-16, eu llongyfarch ar eu degawd cyntaf o gynllunio a datblygu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog sy'n creu cyfleon gwerthfawr i gymaint o fyfyrwyr yn ein prifysgolion, colegau addysg bellach ac yn y maes prentisiaethau. Tan yn...
Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Mae adroddiad newydd cyngor iechyd cymuned bae Abertawe, 'Cael Mynediad at Ofal Deintyddol y GIG: Mynd at Wreiddyn y Broblem', yn rhoi darlun damniol o wasanaethau deintyddol yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae'n pwysleisio bod y materion hyn yn bodoli cyn i'r pandemig eu gwaethygu. Mae cleifion wedi gorfod aros am flynyddoedd i weld deintydd, a llawer heb...
Sioned Williams: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar wasanaethau deintyddiaeth GIG yng Ngorllewin De Cymru? OQ58013
Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Un o nodau cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol y Llywodraeth yw gwella'r cymorth sydd ar gael i bobl ifanc sy'n gadael gofal mewn ymgais i drechu tlodi a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Mae mesurau arloesol a radical, fel incwm sylfaenol cyffredinol, yn allweddol wrth fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw. Ond mae Barnardo’s Cymru, er eu bod yn croesawu’r...
Sioned Williams: Diolch, Lywydd. Weinidog, mae’r cwmnïau olew a nwy yn gwneud mwy o elw nag erioed, biliynau a biliynau o bunnoedd anweddus. Mae'n anodd iawn ei stumogi, ac yn sicr, mae'n teimlo'n annerbyniol wrth inni brofi argyfwng costau byw yng Nghymru ar raddfa sy'n anodd ei hamgyffred. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn amcangyfrif na fydd gan fwy nag un o bob pump o bobl yng Nghymru ddigon o arian yn...
Sioned Williams: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb i blant anabl?
Sioned Williams: Nid mater cyfansoddiadol cyfreithiol sych mo hwn. Mae'n mynd i effeithio ar fywydau pobl Cymru, y rhai rydym am eu croesawu i Gymru, ac ar ein gallu ni fel rhai sy'n deddfu ar ran pobl Cymru i sicrhau Cymru decach, fwy cydradd i bawb sy'n byw yma.
Sioned Williams: Rydw i’n cadeirio grŵp trawsbleidiol y Senedd ar hawliau dynol, a chynhaliwyd cyfarfod y bore yma i drafod y cynnig a goblygiadau'r diwygiadau i'r Ddeddf Hawliau Dynol. Altaf Hussain, roeddech chi yno, ond dydw i ddim yn credu yr oeddech chi'n gwrando. Y consensws ymhlith aelodau'r grŵp, sydd ymhlith arbenigwyr mwyaf blaenllaw Cymru ar ddeddfwriaeth hawliau dynol, ar hawliau grwpiau fel...
Sioned Williams: Mae Plaid Cymru yn falch o gyd-gyflwyno'r cynnig hwn, ac yn cytuno gyda Llywodraeth Cymru fod angen i'r Senedd hon anfon neges glir heddiw ein bod yn gwrthwynebu'r ymdrechion yma i gyfyngu ar hawliau pobl Cymru ac i danseilio ein hymdrechion i sicrhau tegwch, cydraddoldeb a chyfiawnder i bobl ein gwlad. Rydym yn cytuno ymhellach fod materion cyfansoddiadol difrifol yn codi yn sgil cynigion...