Natasha Asghar: Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, mae’r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf fod Llywodraethau’r DU a Chymru wedi dod i gytundeb i sefydlu porthladd rhydd newydd yng Nghymru yn hynod gyffrous. Mae gan y cytundeb hwn, sy’n werth miliynau o bunnoedd, botensial i ddarparu miloedd o swyddi lleol, gan ysgogi arloesedd a hybu buddsoddiad busnes, a darparu manteision a chyfleoedd i'r...
Natasha Asghar: 3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch sut y gallai'r system addysg fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau? OQ58041
Natasha Asghar: Hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Ddwyrain Casnewydd am godi'r cwestiwn pwysig hwn yma yn y Siambr heddiw. Ddirprwy Weinidog, nid oedd yn gyfrinach, fel y dywedodd yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd, fod pobl, yn enwedig o gefndiroedd lleiafrifol ethnig, yn wynebu anghydraddoldebau iechyd difrifol yn ystod COVID-19, ac roedd hynny'n eithaf cyffredin ac ar gyfradd lawer uwch i bobl o grwpiau ethnig...
Natasha Asghar: Byddaf yn sôn amdanynt hwy maes o law, Mike, peidiwch â phoeni; nid wyf am eu hepgor. Ond fel y mae llawer o fy nghyd-Aelodau Ceidwadol yma, y tu mewn a'r tu allan i'r Senedd, yn teimlo ac yn credu, gan gynnwys bellach, Mike, byddwch yn falch o wybod, ein hymgeiswyr cyngor Ceidwadol gwych sy'n sefyll ledled Cymru yn yr etholiad yfory—. Rwyf wedi siarad am y mater hwn droeon yn y Siambr,...
Natasha Asghar: Mae'n ffaith drist iawn, o dan Lafur Cymru, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Paul Davies, mai Cymru sydd â'r lefel uchaf o ardrethi busnes, y cyflogau wythnosol isaf a'r swm isaf o incwm gwario aelwydydd yn y Deyrnas Unedig. Gadewch imi fod yn onest—nid yw'n rhoi unrhyw lawenydd imi ddweud hyn—fod stiwardiaeth Llafur Cymru ar economi Cymru wedi'i nodweddu gan ddiffyg uchelgais a...
Natasha Asghar: Weinidog, mae credyd pensiwn yn daliad ychwanegol i'n pensiynwyr mwyaf bregus ac mae'n werth £3,300 ar gyfartaledd. Yn ogystal ag ychwanegiad ariannol at bensiwn y wladwriaeth, mae'n bont i gael mynediad at lawer o fudd-daliadau eraill, megis cymorth gyda chostau tai, biliau gwresogi, cynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor a thrwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed. Amcangyfrifir nad yw...
Natasha Asghar: Weinidog, mae pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig nad ydynt ar-lein fel arfer wedi'u hallgáu oherwydd problemau gyda darpariaeth band eang, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Carolyn. Gyda gwasanaethau band eang symudol a llinell sefydlog, mae'n aml yn wir fod y ddau fath yn broblem i etholwyr. Pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yw rhai o’r defnyddwyr mwyaf o wasanaethau iechyd a...
Natasha Asghar: 7. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i hybu ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn? OQ57962
Natasha Asghar: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg am atebolrwydd a hawliau rhieni mewn ysgolion yng Nghymru? Y rheswm yr wyf yn gofyn am hyn yw fy mod yn ymdrin ag achos ar ran etholwr y mae ei ferch yn dioddef o orbryder ac yn aros i gael ei hasesu gan y gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed ar hyn o bryd. Mae'r disgybl wedi'i gwahardd o'r ysgol o ganlyniad i helynt a...
Natasha Asghar: Prif Weinidog, rwy'n siŵr y gallwch chi gytuno â mi y gall effaith ariannol diagnosis canser fod yn ddinistriol hyd yn oed mewn cyfnodau arferol, wrth i bobl wynebu incwm is a chostau byw uwch. Mae'r pandemig a'r costau byw cynyddol wedi gwaethygu'r sefyllfa, wrth i lawer o bobl orfod ymdopi â biliau ynni cynyddol, yn ogystal ag effaith ariannol eu diagnosis canser. Datgelodd gwaith...
Natasha Asghar: Rwy'n teimlo bod angen i mi gael fy ngwynt ataf ar ôl y cyfraniad hwnnw. Iawn. Yn gyntaf, gadewch imi ddechrau drwy ddweud bod gan Gymru dirwedd unigryw, hanes unigryw a diwylliant unigryw. Am flynyddoedd, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo, ac yn ddiweddar dros wyliau'r Pasg, gwelodd pob un ohonom ymwelwyr yn cyrraedd Cymru i fwynhau ein mynyddoedd, ein cefn gwlad a'n traethau. Mae llawer yn...
Natasha Asghar: Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn ceisio barn y cyhoedd a diwydiant ar gynlluniau i ddiogelu lles cŵn a chŵn bach sy’n cael eu mewnforio. Mae’r Dogs Trust yn nodi, ar hyn o bryd, ac rwy’n dyfynnu: 'dim ond gwiriad "dogfen ac adnabod" anifeiliaid anwes a fewnforir sy'n ofynnol yn ôl rheolau PETS, a gwneir hyn gan staff fferi ac Eurotunnel nad oes...
Natasha Asghar: Weinidog, rwy’n siŵr y byddwch yn cydnabod, ac o’r atebion yr ydych wedi’u rhoi hyd yn hyn, rydych yn bendant yn cydnabod pwysigrwydd cadw pobl mewn gwaith i’w cefnogi drwy’r argyfwng costau byw. Felly, er eglurder, yn ogystal â phecyn £9 biliwn Llywodraeth y DU i helpu teuluoedd yn y DU gyda'u biliau tanwydd, gan gynnwys ad-daliad treth gyngor o £150 ar gyfer aelwydydd ym...
Natasha Asghar: 3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithredu ag adrannau ac asiantaethau Llywodraeth y DU i ddiogelu lles anifeiliaid drwy atal mewnforio cŵn yn anghyfreithlon drwy borthladdoedd Cymru? OQ57924
Natasha Asghar: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru?
Natasha Asghar: Ddirprwy Weinidog, yr wythnos diwethaf, gwnaeth Comisiwn y Gyfraith nifer o argymhellion ar gyfer trefn ddiogelwch newydd i helpu i amddiffyn rhag amrywiaeth o fygythiadau i ddiogelwch tomenni glo ac i sicrhau y ceir dull cyson o ymdrin â phob tomen yng Nghymru, ac fe wnaethoch ddatganiad mewn ymateb i hynny ddoe. Yn eich datganiad, fe ddywedoch chi nad oes gan Lywodraeth Cymru gyllid i...
Natasha Asghar: Prif Weinidog, ym mis Mehefin y llynedd, adroddwyd mai Cymru sydd â'r gyfran uchaf o blant yn y DU sy'n derbyn gofal gan y wladwriaeth. Roedd 7,170 o blant yn derbyn gofal oddi cartref yng Nghymru, sef 1.14 y cant o'r plant mewn gwirionedd. Fel y gwnaethoch chi a fy nghyd-Aelod Rhys ab Owen sôn, mae'r gyfradd wedi cynyddu'n sylweddol yma yng Nghymru, ac mae'r duedd hon yn destun pryder, yn...
Natasha Asghar: Tanciau Rwsia'n symud tua'r gorllewin, dinasoedd yn cael eu bomio a than warchae, rhesi hir o ffoaduriaid yn ceisio dianc rhag yr ymladd. Gallech gael maddeuant am gredu fy mod yn cyfeirio at ddigwyddiadau yn yr Almaen ar ddiwedd yr ail ryfel byd. Yn anffodus, nid yw hynny'n wir. Mae'r Arlywydd Putin, drwy ei ymosodiad rhyfygus, anghyfiawn ac anghyfreithlon ar Wcráin, wedi troi'r cloc yn ôl...
Natasha Asghar: Weinidog, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi rhoi £175 miliwn i Gymru i helpu teuluoedd gweithgar yng Nghymru gydag achubiaeth ariannol i helpu i leddfu pwysau costau byw. [Torri ar draws.] 'Hwrê', yn hollol. Croesawaf benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddilyn Lloegr a darparu ad-daliad arian parod o £150 i gartrefi ym mandiau treth gyngor A i D, ac i greu cronfa ddewisol i roi cymorth...
Natasha Asghar: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y pecyn cymorth costau byw yn ffordd effeithiol o fynd i'r afael â'r argyfwng?