Gareth Bennett: Diolch, Lywydd. [Torri ar draws.]
Gareth Bennett: Diolch. Diolch eto, Lywydd. Mae'r ddadl heddiw'n ymwneud â gweithio gartref, a gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno bod y pwnc yn un diddorol ac yn haeddu rhywfaint o amser i'w archwilio yn y Siambr. Rydym ni yn UKIP yn meddwl, yn gyffredinol, fod caniatáu i fwy o weithwyr weithio gartref yn amcan da, cyn belled, wrth gwrs, â mai dyna y mae'r gweithwyr eu hunain eisiau ei wneud. Felly,...
Gareth Bennett: Ie, diolch am yr ateb yna. Rwy'n falch eich bod chi'n cydnabod nad gweithred Duw yw'r weithred o bleidleisio yn y blwch pleidleisio, mae'n rhywbeth y mae pobl â barn hyddysg yn ei wneud mewn gwirionedd, ac felly rydych chi'n cymryd sylw o'r penderfyniadau, oherwydd nid dyna'r safbwynt yr ydych chi'n ei fabwysiadu yn gyffredinol ar bleidlais y bobl yng Nghymru yn ystod y refferendwm Brexit....
Gareth Bennett: Diolch, Llywydd.
Gareth Bennett: Diolch. Prif Weinidog, os caf i godi gyda chi y mater o'r dreth gyngor, rwy'n credu ei bod hi'n ddiddorol ein bod ni, y mis hwn, yn nodi 20 mlynedd o Gynulliad Cymru, oherwydd ni fu'r cyfnod hwn o 20 mlynedd yn arbennig o dda i dalwyr y dreth gyngor yng Nghymru. Os edrychwn ni ar y ffigurau, mae cyfraddau treth gyngor band D yng Nghymru wedi cynyddu gan 244 y cant ers 1996. Mae hyn yn llawer...
Gareth Bennett: Ie, wrth gwrs. Mae'n bwysig meithrin diddordeb mewn llawer o chwaraeon, ac rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn dymuno'n dda i dîm menywod Cymru gyda’u hymdrechion. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Bwrdd Criced Lloegr gystadleuaeth T20 newydd i ddinasoedd, os caf ddychwelyd at griced. Mae'n dda gweld bod Caerdydd yn un o'r lleoliadau a fydd yn cynnal y digwyddiad. Fodd bynnag, un o'r problemau sydd...
Gareth Bennett: Iawn. Diolch yn fawr iawn am eich ymrwymiad, Weinidog, ac rwy'n siŵr y byddai cyfarfod â bwrdd criced Lloegr yn syniad da, ac edrychaf ymlaen at ganlyniad cadarnhaol yn sgil hynny. Nodaf fod Llywodraeth Cymru, yn 2018-19, wedi dyrannu £600,000 i Criced Cymru i gefnogi criced cymunedol a chriced pherfformiad uchel ledled Cymru. Wrth gwrs, mae poblogrwydd criced wedi tyfu ymhlith pobl o bob...
Gareth Bennett: Diolch, Lywydd. Weinidog, rydym wedi cael ambell i ddadl yn ddiweddar am rygbi, sydd bob amser yn bwnc diddorol. Fodd bynnag, mae'r tymor criced yn dechrau ymhen wythnos, felly rwy’n awyddus i roi sylw i hynny heddiw. Nawr, fel y gwyddoch, mae Morgannwg wedi wynebu anawsterau ariannol dros y blynyddoedd diwethaf. Wrth gwrs, fe ddaethant i gytundeb â bwrdd criced Lloegr i beidio â chynnal...
Gareth Bennett: Unwaith eto, oes, mae llawer yn yr ateb yna y byddwn yn ei groesawu. Mae tanau glaswellt, yn amlwg, yn bla. Maen nhw'n gallu dinistrio cynefinoedd, maen nhw'n lladd da byw ac maen nhw hyd yn oed yn bygwth adeiladau a busnesau. Prif Weinidog, fe wnaethoch chi sôn am yr ochr addysgol mewn ateb cynharach, yr wyf i'n ei groesawu, fel y dywedais. A oes angen strategaeth drawsbynciol, yn mynd ar...
Gareth Bennett: Diolchaf i chi am yr ateb yna. Rwy'n credu bod hwnnw'n ddull da, ac edrychaf ymlaen at gael rhagor o wybodaeth am hynny gan y Llywodraeth pan fydd yr wybodaeth honno gennych. Nawr, mae'r rhan fwyaf o'r tanau hyn, o ran eu natur, yn tueddu i ddigwydd mewn ardaloedd gwledig neu uwchben cymunedau yn y Cymoedd. Mae mwyafrif y diffoddwyr tân dan sylw, felly, yn swyddogion tân wrth gefn, sy'n...
Gareth Bennett: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, Ebrill yw'r mis pan ein bod ni'n aml yn gweld cynnydd yn nifer y tanau glaswellt. Yn anffodus, mae mwyafrif llethol y tanau glaswellt yng Nghymru yn cael eu cynnau'n fwriadol. A allwch chi amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i addysgu pobl am beryglon cynnau tanau glaswellt?
Gareth Bennett: [Anghlywadwy.]—realiti economaidd cyni, a ddisgrifiwyd gennych yn rhan gyntaf eich ateb, ond gall fod yn wir y gall tâl gormodol ar ben uchaf sefydliad olygu nad yw pobl ar y lefelau is yn cael digon o dâl. A gwyddom, o ymchwiliad a gynhaliwyd gan BBC Wales yn 2017, fod y rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru yn talu cyflog sy'n llai na'r cyflog byw go iawn i rai o'u staff. Onid ydych yn...
Gareth Bennett: Wel, diolch am roi amserlen i mi, sy'n ddefnyddiol. Er fy mod yn derbyn y pwynt rydych newydd ei wneud, a gaf fi nodi hefyd fod hwn yn fater sy'n cyffwrdd â chyflog gormodol weithiau i uwch-swyddogion mewn sawl cyngor yng Nghymru—a llawer ohonynt yn gynghorau Lafur? A gaf fi dynnu eich sylw at y ffaith bod dau gynghorydd yn Nhorfaen wedi ymddiswyddo o'r grŵp Llafur am eu bod yn tynnu sylw...
Gareth Bennett: Diolch, Lywydd. Weinidog, yn ddiweddar, codais fater y swm mawr o arian trethdalwyr sy'n cael ei wastraffu mewn perthynas â saga hirhoedlog swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Yr ymateb a gefais gan y Prif Weinidog oedd mai mater i'r cyngor ei hun yw hwn yn bennaf, sef yr ymateb a gawn yn aml pan fyddwn yn codi materion llywodraeth leol yma yn y Siambr, er bod goruchwylio...
Gareth Bennett: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Rwy'n gwerthfawrogi bod hon wedi bod yn ymgyrch hir i lawer o Aelodau yn y Siambr, ac i sawl cyn Aelod y cyfeiriwyd atynt. Mae hwn yn fater emosiynol, felly rwy'n ofalus yn yr hyn a ddywedaf i, ond credaf fod angen inni edrych yn ofalus ar unrhyw ddeddfwriaeth arfaethedig yn y maes hwn. Gweinidog, rydych chi'n dweud nad yw'r ddeddfwriaeth...
Gareth Bennett: Wel, os edrychwn ni ar rai o'r mathau o swyddi y soniwyd amdanynt o'r blaen—y cyfleustodau—mae llawer o'r rhain yn swyddi mewn canolfannau galwadau, ac nid yw'r sector hwn yn arbennig o adnabyddus am dâl nac amodau da. Mae llawer o bobl yn cael eu cyflogi fel gweithwyr asiantaeth. Ceir problem yn aml o waith shifft, diffyg hyfforddiant a meddylfryd llwyddo neu adael i reolwyr o ran...
Gareth Bennett: Ie, diolch am egluro hynna, Prif Weinidog. Nawr, soniasoch am ofal cymdeithasol a bwyd, a soniwyd am dai, ynni ac adeiladu hefyd yn y gorffennol gan eich Dirprwy Weinidog pan ein bod ni wedi trafod y pwnc hwn yn y fan yma yn y Siambr, er ei bod hi'n ddyddiau cynnar i'r drafodaeth hon hyd yn hyn. Nawr, mae llawer o'r swyddi hyn eisoes yng Nghymru, fel y nodwyd gennych, ac mae cyflogau llawer...
Gareth Bennett: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'n ymddangos mai rhan fawr o strategaeth economaidd eich Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru erbyn hyn yw datblygu rhywbeth yr ydych chi a'ch Gweinidogion yn ei alw'n 'economi sylfaenol'. Mae hwn yn ymadrodd sydd wedi dod yn boblogaidd ymhlith academyddion a gwleidyddion yng Nghymru, ond sy'n golygu fawr ddim i'r rhan fwyaf o bobl gyffredin. Ond, hyd yn oed...
Gareth Bennett: Diolch, Llywydd. [Torri ar draws.] Prif Weinidog—Prif Weinidog, mae'n ymddangos mai rhan fawr o strategaeth economaidd eich Llywodraeth chi ar gyfer Cymru erbyn hyn yw—[Torri ar draws.]
Gareth Bennett: Gwelaf eich bod chi wedi ceisio, unwaith eto, osgoi craffu ar lywodraeth leol, sy'n amlwg o dan oruchwyliaeth gyffredinol eich Llywodraeth Cymru chi yma yn y Cynulliad. Mae'r sefyllfa yng Nghaerffili wedi llusgo ymlaen ers 2012, felly rwy'n credu ei fod yn haeddu rhyw sylw cyhoeddus gennych chi erbyn hyn, o gofio hefyd mai Gweinidog llywodraeth leol oedd un o'ch swyddi blaenorol. Felly, mae'r...