I want to write to Samuel Kurtz
Samuel Kurtz: Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i siarad ar y mater hwn, o ystyried nad wyf yn aelod o’r pwyllgor, ond yn enwedig gan fod yr adroddiad yn eithaf cadarn ei ddadansoddiad ac yn eithaf damniol ei gasgliadau. Mae gennyf ddiddordeb yn yr adroddiad oherwydd bod cynnig deddfwriaethol fy Aelod ar wella dyfrffyrdd mewndirol, ac yn amlwg, mae llygredd dŵr yn effeithio ar fy etholaeth i. Mae...
Samuel Kurtz: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi digwyddiadau mawr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Samuel Kurtz: Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i bobl sy'n byw gydag endometriosis yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Samuel Kurtz: Hoffwn ddechrau drwy ddweud pa mor berthnasol yw'r cynnig heddiw, ac rwy’n diolch i'r Llywodraeth gyferbyn am roi'r cyfle i ni drafod mater mor bwysig, oherwydd, ni waeth pa ochr o'r ddadl rydych chi arni, rwy’n credu y gallwn ni i gyd gytuno bod ansawdd darlledu yng Nghymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg, heb ei ail. Dro ar ôl tro mae'r BBC, ITV, S4C a chwmnïau cynhyrchu fel Tinopolis a...
Samuel Kurtz: Fel y gŵyr y rhan fwyaf o'r Aelodau yn y Siambr hon, yr wythnos hon yw Wythnos Ddathlu Bwyd a Ffermio Cymru NFU Cymru, dathliad gwych o amaethyddiaeth Cymru, ein cynnyrch byd-enwog a chryfderau sy'n ystyriol o'r hinsawdd. Ffermio yw conglfaen diwydiant bwyd a diod Cymru sy'n werth £7.5 biliwn, ac sy'n cyflogi dros 229,000 o weithwyr gan gyfrannu miliynau o bunnoedd i economi Cymru o...
Samuel Kurtz: Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi eich diweddariad a'ch datganiad ysgrifenedig cynharach ar hyn hefyd, ond hoffwn dynnu eich sylw at y gefnogaeth a'r cymorth a gynigir i unigolion sydd wedi darparu eu heiddo fel rhan o raglen Cartrefi i Wcráin Llywodraeth Cymru. Ar ôl siarad â nifer o deuluoedd yn sir Benfro a sir Gaerfyrddin sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen hon, mae'n amlwg...
Samuel Kurtz: 7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth Cymru? OQ58136
Samuel Kurtz: Hoffwn yn fawr ategu sylwadau'r Aelod dros Ddwyrain Casnewydd—gall newyddiaduraeth Gymreig a newyddiaduraeth Gymraeg chwarae rhan hollbwysig wrth gyflwyno ein hiaith wych i gynulleidfa wirioneddol bwysig, yn enwedig yn ein cymunedau gwledig. Ar ôl dechrau fy ngyrfa broffesiynol fel newyddiadurwr yn gweithio i bapurau newydd lleol—ac nid wyf yn siŵr ai fi yw'r ci neu'r polyn lamp erbyn...
Samuel Kurtz: Diolch i'r Aelod dros Ogledd Cymru am gyflwyno hyn. Fel rhywun a gyflwynodd y datganiad barn ar berthi ac ymylon caeau y mae'r Aelod yn garedig iawn wedi'i gyd-lofnodi hefyd, credaf fod hyn yn bwysig iawn. Yn bendant, mae gan y gymuned amaethyddol ran i'w chwarae yn hyn yn ogystal. Mae'n ymwneud â phlannu'r goeden iawn yn y lle iawn am y rhesymau iawn, ac maent yn gwbl gytûn ar hynny. Ond...
Samuel Kurtz: Diolch, a hoffwn ddiolch i chi, Weinidog, am ddod i sesiwn ddiweddaraf Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar ymchwilio i'r parthau perygl nitradau y mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi'u cymeradwyo. Fodd bynnag, rwy'n dal i fod yn wirioneddol bryderus ynghylch ansawdd y dystiolaeth. Rydych wedi datgan bod y terfyn rhanddirymiad o 170 kg yr hectar wedi'i sefydlu er mwyn mynd...
Samuel Kurtz: Diolch yn fawr, Weinidog. Deallaf ein bod yn farchnad integredig iawn yma yn y DU, ond mae llawer o ysgogiadau y gall y Llywodraeth hon yng Nghymru eu cael o gynnull uwchgynhadledd fwyd. Fe wnaeth y Prif Weinidog gamsiarad felly pan ddywedodd fod uwchgynhadledd fwyd wedi bod—uwchgynhadledd tlodi bwyd oedd hi. Ac eto, rwy'n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn dod â'r bobl hyn at ei gilydd...
Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd. Cyfeiriaf yr Aelodau at fy nghofrestr buddiannau. Weinidog, tua deufis yn ôl, ddydd Mercher 23 Mawrth, galwodd Andrew R.T. Davies a minnau ar Lywodraeth Cymru i gynnull uwchgynhadledd fwyd gyda'r holl randdeiliaid i drafod prinder bwyd yn y gadwyn gyflenwi fyd-eang a ysgogwyd gan y digwyddiadau presennol yn Wcráin. Wrth ymateb, fe ddywedoch chi, 'Rwy'n cydnabod nad yw'r...
Samuel Kurtz: Diolch am yr ateb manwl hwnnw, Weinidog. Hoffwn gyfeirio'n fyr at ddwy broblem gyda fformiwla gyllido awdurdodau lleol Llywodraeth Cymru. Y gyntaf yw'r gwahaniaeth rhwng y cyllid y pen i unigolyn 84 oed o'i gymharu ag unigolyn 85 oed. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod y cyntaf yn cael £10.72 y pen ac mae'r olaf yn cael £1,582 y pen. Nawr, sut y gall rhywun sydd â'r un problemau iechyd,...
Samuel Kurtz: 4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyllid teg i awdurdodau lleol ar draws Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ58107
Samuel Kurtz: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad o flaen llaw. Fel y mae'r Gweinidog wedi cydnabod y prynhawn yma, mae strategaeth Cymraeg 2050 yn uchelgeisiol, ond, er mwyn diogelu dyfodol ein hiaith, rhaid inni sicrhau bod ein polisïau yn flaengar a bod ein harweinyddiaeth yn atebol. Yn y flwyddyn dwi wedi bod yn Aelod, dwi wedi dod i sylweddoli pa mor bwysig yw chwalu'r rhwystrau a sicrhau bod ein...
Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod o Ddyffryn Clwyd am gyflwyno'r ddadl fer hon, ac ni fydd y Gweinidog yn synnu fy mod yn defnyddio Argyle Medical Group a meddygfa Argyle Street fel fy enghraifft heno. Dyma un o feddygfeydd meddygon teulu mwyaf Cymru, gyda chymhareb cleifion o tua 2,506 o gleifion i bob meddyg teulu. Mae hwn yn bwnc llosg gwirioneddol yn fy mag post, gan na all etholwyr gael...
Samuel Kurtz: Cyfeiriaf yr Aelodau at fy nghofrestr buddiannau. Nid wyf yn credu y dylid ymddiheuro nad yw'r ddadl hon y prynhawn yma yn un gyfforddus, ac mae pob cyfraniad a glywn yn hynod berthnasol i'r ddadl hon. Hoffwn dalu teyrnged i Sarah Murphy am rannu ei stori hynod bersonol gyda ni. Diolch ichi am roi o'ch amser i rannu hynny gyda ni. Nid wyf yn credu mai bwriad y ddadl hon yw dwyn anfri ar...
Samuel Kurtz: Weinidog, mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael ar gyfer y rhai sy'n cymhwyso ar gyfer addysg gychwynnol i athrawon, AGA, yng Nghymru yn dangos bod nifer y myfyrwyr sy'n cwblhau eu cwrs ym mhrifysgolion Cymru neu'r Brifysgol Agored wedi gostwng o 1,740 o fyfyrwyr yn 2010-11 i 1,030 yn 2019-20, gostyngiad o tua 41 y cant. Gyda'r gostyngiad hwnnw dros y cyfnod o 10 mlynedd, mae'r gronfa o...
Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar ichi, Gweinidog, am eich datganiad. Fe wnes i gyfarfod yn ddiweddar â syrfëwr siartredig sy'n cynrychioli ystâd hanesyddol yn ne sir Benfro sydd ar hyn o bryd yn edrych ar gynlluniau i gynyddu hyfywedd tafarn, sydd yn digwydd bod wrth ymyl afon. Mae rhan o'r cynlluniau hyn yn golygu bod llety'n cael ei greu mewn ystafelloedd i fyny'r grisiau, llawr cyntaf y dafarn, a...
Samuel Kurtz: Gweinidog, fe wnaethoch chi sôn eich bod yn dymuno symud yn gynnar ar hyn, sy'n rhywbeth rwy'n ei groesawu, ac o ystyried fy etholaeth i, hoffwn i ganolbwyntio ar wynt ar y môr arnofiol. Felly, sut gallwn ni ddefnyddio'r busnesau bach a chanolig eu maint sydd eisoes ar gael, yn y ffordd orau? Busnesau sydd eisoes wedi bod yn gweithio yn y diwydiannau hydrocarbon a phetrogemegol dros y...