Canlyniadau 161–180 o 600 ar gyfer speaker:Rhys ab Owen

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diogelwch Cymunedol ( 4 Mai 2022)

Rhys ab Owen: 10. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU a chyrff cyhoeddus eraill ynghylch rôl swyddogion prawf o ran sicrhau diogelwch cymunedol? OQ57965

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Prentisiaeth Cyfreithiwr Lefel 7 ( 4 Mai 2022)

Rhys ab Owen: 2. Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i gyflwyno prentisiaeth cyfreithiwr lefel 7, fel sy'n bodoli yn Lloegr, i helpu i ehangu mynediad economaidd-gymdeithasol i'r proffesiwn cyfreithiol? OQ57964

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig ( 4 Mai 2022)

Rhys ab Owen: 6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am statws apêl Llywodraeth Cymru i Oruchaf Lys y DU ar ei her gyfreithiol i Ddeddf marchnad fewnol y DU? OQ57956

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 3 Mai 2022)

Rhys ab Owen: Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch gweithredu egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Cynllunio (Cymru) 2016 a Pholisi Cynllunio Cymru yng Nghaerdydd?

12. & 13. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) a Chynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (26 Ebr 2022)

Rhys ab Owen: 'Os oes modd newid y gyfraith yn ôl-weithredol, yna mae'n golygu bod modd gwneud rhywbeth a oedd yn gyfreithlon ar yr adeg honno yn anghyfreithlon, a gall rhywun ddioddef canlyniadau na fydden nhw wedi disgwyl eu dioddef. Mae hynny'n creu ansicrwydd yn y gyfraith.'

12. & 13. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) a Chynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (26 Ebr 2022)

Rhys ab Owen: Ac mae hyn, Llywydd, yn hollol groes i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud cyfraith Cymru yn accessible i bawb. Mae rhai o feddylwyr mawr cyfreithiol a chyfansoddiadol Cymru wedi codi pryderon, wedi codi amheuon sylfaenol yn erbyn y Bil yma. Nid yw gwella neu ddiwygio'r Bil sydd ger ein bron ni yn ddigonol, mae angen atal y Bil fel y mae. Mae angen inni bleidleisio yn ei erbyn a, thrwy hynny,...

12. & 13. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) a Chynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (26 Ebr 2022)

Rhys ab Owen: Mae arnaf i ofn, Gweinidog, fod y Bil hwn yn dod â stamp tebyg i'r Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol. Dylem ni ddod at ein gilydd fel Senedd i atal pwerau'r ddeddfwrfa rhag cael eu neilltuo fel sydd wedi'i gynnwys yn y Bil hwn.

12. & 13. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) a Chynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (26 Ebr 2022)

Rhys ab Owen: Oherwydd cwestiwn o egwyddor yw hyn. Fel Senedd, fel Aelodau o'r Senedd, mae angen inni holi ein gilydd i ba raddau yr ydym yn fodlon ymyrryd â mecanweithiau democrataidd deddfwrfa sydd mor ifanc. Dwi'n deall pwynt y Gweinidog pan fydd hi'n sôn am ddeddfwrfa sy'n aeddfedu o hyd, ond rŷn ni'n ddeddfwrfa ifanc—mor gynnar yn hanes ein deddfwrfa ni, ein bod ni'n fodlon ymyrryd â phwerau a...

12. & 13. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) a Chynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (26 Ebr 2022)

Rhys ab Owen: Bydd Plaid Cymru hefyd yn pleidleisio yn erbyn y Bil yma y prynhawn yma. Rŷn ni fel grŵp yn deall y rhesymeg sydd tu ôl i'r Bil yma a'r pwysigrwydd i ymateb yn sydyn pan fo angen ar faterion cymhleth trethiant, a dwi'n falch iawn i glywed parodrwydd y Gweinidog i drafod a gwrando ar bryderon y ddau bwyllgor a hefyd ymateb yn gadarnhaol i hynny. Serch hynny, mae'r pryderon dal yn ormodol...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (26 Ebr 2022)

Rhys ab Owen: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru ynghylch gwella tryloywder yn y broses gynllunio?

14. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau (29 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Mawr obeithiaf y gwelwn ni Fil etholiadau Cymreig yma yn y Senedd a fydd yn dangos unwaith eto sut mae Senedd Cymru yn rhoi hawliau a chyfiawnder a phobl yng nghanol pob gweithred rŷn ni yn ei wneud. Dwi'n cofio Adam Price yn dweud wrthyf fi un tro bod cyfiawnder, bod chwarae teg, yn rhan o DNA ni'r Cymry. Wel, does dim chwarae teg yn y Bil yma. Doedd dim chwarae teg yn y Bil...

14. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau (29 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Pe baech wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn a ddywedais, arweinydd yr wrthblaid, yr hyn a ddywedais oedd ein bod wedi clywed dro ar ôl tro am ymyrraeth Putin mewn democratiaethau gorllewinol ac mewn etholiadau gorllewinol. Mae bod â rheoleiddiwr cryf, annibynnol ar gyfer etholiadau yn hanfodol i atal yr ymyrraeth honno. Nid oeddwn yn cymharu'r hyn y mae Putin yn ei wneud gyda'r Ceidwadwyr,...

14. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau (29 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Llywodraeth sydd ddim hyd yn oed yn gwrando ar arbenigwyr fel y Comisiwn Etholiadol. Ond—ac mae yna 'ond'—rwy'n anghyfforddus iawn gyda'r syniad ein bod ni fan hyn yn y Senedd yn cael ein gofyn i roi cydsyniad i siẁt Fil—Bil a fydd, trwy'r system ddrud o ID pleidleisio, yn gallu eithrio miliynau o'r bobl fwyaf difreintiedig ar draws Prydain rhag pleidleisio. Rwy'n anghyfforddus iawn...

14. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau (29 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi clywed dro ar ôl tro am ymyrraeth Putin o fewn democratiaethau gorllewinol ac etholiadau gorllewinol. Ai dyma'r amser mewn gwirionedd i danseilio rheoleiddiwr annibynnol etholiadau yma yn y Deyrnas Unedig? Erbyn hyn rydych wedi fy nghlywed ar sawl achlysur yn cwyno nid yn unig am y Bil hwn—.

14. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau (29 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Cwnsler Cyffredinol, hoffwn ddechrau drwy eich llongyfarch chi a Llywodraeth Cymru ar y consesiynau yr ydych wedi'u cael gan Lywodraeth San Steffan o ran y Bil hwn? Mae'n rhaid ei bod y nesaf beth i amhosibl ceisio gweithio gyda'r Llywodraeth honno—Llywodraeth nad yw'n gwrando.

13. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (29 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Yn hytrach na defnyddio cynllun ombwdsmon Lloegr, dylem ni fod wedi defnyddio'r tribiwnlysoedd sydd eisoes yng Nghymru. Gallai tribiwnlys eiddo preswyl Cymru fod wedi cael ei ailenwi'n dribiwnlys tai Cymru yn hawdd. Yn hytrach, er hynny, na defnyddio system dribiwnlysoedd bresennol, rydym yn sefydlu cynllun ombwdsmon arall, gan gymhlethu tapestri sydd eisoes yn gymhleth. Mae'r rhesymau a...

13. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (29 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Bydd Aelodau wedi fy nghlywed i sawl gwaith yn pwysleisio fy mhryderon ynghylch y ffordd y mae'r broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn cael ei defnyddio yn y lle hwn. 

13. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (29 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Nid yw'r broses yn gwneud dim i symleiddio ein setliad datganoledig na'n system gyfreithiol, system a setliad a wnaeth i hyd yn oed y cyn-Brif Arglwydd Ustus Thomas o Gwmgïedd, un o gyfreithwyr mwyaf dawnus ein hoes ni, ddweud ei bod bron â bod yn amhosibl iddo fe ddeall y system, heb sôn am y cyhoedd. Mae enghraifft benodol fan hyn o gymhlethu ein system gyfreithiol yn bellach, gyda'r Bil...

13. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (29 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Dwi'n croesawu sylwadau'r Dirprwy Weinidog, wrth gwrs—yn croesawu unrhyw ymgais i gryfhau hawliau pobl sy'n byw mewn fflatiau sy'n anniogel—ond dwi ddim yn derbyn y ddadl, Dirprwy Weinidog, fod defnyddio proses yr LCM yn gynt na chael Deddf ein hunain fan hyn yng Nghymru. Rŷm ni wedi gweld dros y ddwy flynedd diwethaf fod modd i'r lle yma basio Deddfau yn gyflym iawn pan fo angen. 

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adeiladau Crefyddol (23 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Yn sicr, cytuno, Sam, 100 y cant gyda ti. Caeodd y drysau'n llwyr ddwy flynedd yn ôl, ac i nifer am y tro olaf. Gallaf feddwl am dair enghraifft yng Nghwm Cynon: Siloa Aberdâr, y man lle cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus tanllyd i ymateb i frad y llyfrau gleision, y man lle cafodd y cyfarfod cyntaf i sefydlu'r Wladfa ei gynnal, y man lle cafodd yr emyn dôn hyfryd 'Rhys' ei chyfansoddi ar yr...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.