Canlyniadau 161–180 o 300 ar gyfer speaker:Cefin Campbell

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Adferiad Trefi Gwledig ( 2 Tach 2021)

Cefin Campbell: 3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog adferiad trefi gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ57126

10. Dadl Fer: Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru: Datblygu pobl ifanc gydwybodol yng nghefn gwlad Cymru (20 Hyd 2021)

Cefin Campbell: Diolch i Sam am roi munud i gyfrannu i'r ddadl bwysig yma. Ie, mae'n rhaid i ni gydnabod cyfraniad aruthrol y clybiau ffermwyr ifanc am roi profiadau amhrisiadwy a sgiliau gydol oes i'n pobl ifanc ni. Fel dywedodd Alun Davies, rŷn ni wedi gweld cymaint o'r bobl ifanc yma yn datblygu i gyfrannu i'w cymunedau pan fyddan nhw'n hŷn ac yn dod i swyddi uchel iawn yng Nghymru, ac mae'r profiad...

4. Datganiadau 90 eiliad (13 Hyd 2021)

Cefin Campbell: Diolch yn fawr. Dwi'n siŵr y bydd pawb ohonoch chi am ymuno â fi i longyfarch y chwaraewr dartiau o Gymru, Jonny Clayton, ar ei fuddugoliaeth wych ym mhencampwriaeth Grand Prix y Byd nos Sadwrn diwethaf, y tro cyntaf iddo fe ennill y gystadleuaeth, a digwydd bod fe lwyddodd e ennill drwy faeddu cyd-Gymro a chyfaill arbennig iddo fe, sef Gerwyn Price, yn y rownd derfynol. Yn ogystal ag...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Hyd 2021)

Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn. A'r cwestiwn olaf: bydd Aelodau'n ymwybodol bod y penwythnos diwethaf, wrth gwrs, wedi cael ei ddynodi'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Yn ôl eu natur, mae cymunedau gwledig yn rhai diarffordd ac ynysig iawn, ac oherwydd y diffyg cyfleoedd i bobl i gwrdd â phobl eraill o ddydd i ddydd, mae teuluoedd yn aml yn gallu dioddef ynysu cymdeithasol gyda phroblemau iechyd meddwl...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Hyd 2021)

Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn. Mae'r clafr, neu'r sgab, yn fater pwysig iawn, eto yn ymwneud â defaid ym maes llesiant anifeiliaid yn arbennig, ac yn fater sydd efallai ddim wedi derbyn ffocws digonol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n broblem sydd yn helaeth ac yn cynyddu, yn anffodus. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi ei fod yn clustnodi rhyw £5 miliwn i helpu cael gwared ar y clafr nôl ar...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Hyd 2021)

Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod hon yn Wythnos Wlân, a llynedd, cododd fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd pryderon gyda chi am gyflwr y farchnad wlân yng Nghymru. O ganlyniad i'r pandemig, roedd y cwymp yn y farchnad wlân yn golygu bod ffermwyr yn talu rhyw £1 am gneifio dafad a dim ond cael rhyw 19c neu 20c yn ôl am bob rholyn o wlân ar gyfartaledd. Diolch...

10. Dadl Plaid Cymru: Tâl gweithwyr gofal iechyd ( 6 Hyd 2021)

Cefin Campbell: Felly—a dwi'n gorffen gyda hyn—does dim rhaid i bethau fod fel hyn. Byddai un penderfyniad gan y Llywodraeth i roi'r tâl sydd yn deilwng iddyn nhw yn newid y sefyllfa'n llwyr, yn rhoi'r haeddiant iddyn nhw y maen nhw i gyd yn eu haeddu. Diolch yn fawr iawn.

10. Dadl Plaid Cymru: Tâl gweithwyr gofal iechyd ( 6 Hyd 2021)

Cefin Campbell: Rwy'n dod at y diwedd. A phan oeddem yn clapio, fel y clywsom yn gynharach, rhoddwyd gobaith iddynt y byddai'r Llywodraethau, o'r diwedd, yn rhoi cyflog teg iddynt i gydnabod y tasgau heriol y maent yn eu cyflawni bob dydd. Ond yn anffodus, mae hynny wedi troi’n siom. Iddynt hwy, mae'r clapio byddarol ar garreg ein drysau wedi dod yn adlais pell wrth i'r anobaith a'r dadrithiad lifo'n ôl,...

10. Dadl Plaid Cymru: Tâl gweithwyr gofal iechyd ( 6 Hyd 2021)

Cefin Campbell: Ddirprwy Lywydd, bûm yn siarad neithiwr ag uwch brif nyrs, sydd wedi rhoi bron i 40 mlynedd o’i bywyd i’r GIG. Dywedodd wrthyf yn deimladwy iawn nad yw hi erioed, drwy gydol ei gyrfa hir, wedi teimlo mor isel, mor lluddedig a heb ei gwerthfawrogi. Dywedodd wrthyf sut yr oedd hi a'i chydweithwyr, yn ystod dyddiau cynnar y pandemig fel nyrs gymunedol, yn ymweld â chleifion heb gyfarpar...

10. Dadl Plaid Cymru: Tâl gweithwyr gofal iechyd ( 6 Hyd 2021)

Cefin Campbell: Efallai dylwn i fod yn dechrau drwy ddatgan diddordeb: buodd fy ngwraig yn nyrsio ar hyd ei bywyd nes ei bod hi wedi gorfod ymddeol yn ddiweddar, ac mae llawer iawn o'r nyrsys oedd yn gweithio gyda hi yn parhau i fod yn ffrindiau agos i ni fel teulu. Ac oherwydd hynny, dwi wedi gweld, dwi wedi bod yn llygad-dyst i effaith y pandemig arnyn nhw fel nyrsys dros y 18 mis diwethaf. Ar lefel...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwrthbwyso Carbon ( 6 Hyd 2021)

Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mae'n wir i ddweud bod cefnogaeth gyffredinol i amcan Llywodraeth Cymru i weld Cymru yn dod yn wlad garbon niwtral erbyn 2050, ond mae'n amlwg fod yna broblemau yn y farchnad garbon ar hyn o bryd, yn arbennig fel mae hyn yn effeithio ar ein tir amaethyddol. Mewn cyfres o atebion i gwestiynau ysgrifenedig wrthyf i, mae'r Llywodraeth wedi cadarnhau erbyn hyn fod...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwrthbwyso Carbon ( 6 Hyd 2021)

Cefin Campbell: 6. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru'n eu rhoi i gwmnïau sy'n defnyddio tir Cymru at ddibenion gwrthbwyso carbon? OQ56962

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (29 Med 2021)

Cefin Campbell: Mae fy nghwestiwn i yn dilyn trywydd tebyg iawn, a dweud y gwir, i'r cwestiwn gan Paul Davies. Ar adeg pan taw dim ond 48 y cant o alwadau coch sy'n cael eu hateb o fewn wyth munud yn hytrach na'r targed o 65 y cant ar draws ardal Hywel Dda, mae'r ymddiriedolaeth ambiwlans yn bwriadu torri nifer yr ambiwlansys o dri i ddau yn Aberystwyth ac o dri i ddau yn Aberteifi, a gwneud hyn heb roi...

9. Dadl Fer: Ni yw'r hyn yr ydym yn ei fwyta: Canolbwyntio ar ddwysedd maetholion bwyd er mwyn gwella iechyd y cyhoedd (22 Med 2021)

Cefin Campbell: A dyma'r union broblem sydd gennym gyda'n heconomi echdynnol. Mae ymchwil yn dangos bod 51 y cant o laeth Cymru'n cael ei brosesu y tu hwnt i'n ffiniau, a chanfu adolygiad o'r sector cig eidion yng Nghymru fod 72 y cant o wartheg Cymru yn cael eu lladd y tu allan i Gymru. Er mwyn datrys hyn, mae angen inni leoleiddio cadwyni cyflenwi, felly mae arnom angen targedau uchelgeisiol ar gyfer...

9. Dadl Fer: Ni yw'r hyn yr ydym yn ei fwyta: Canolbwyntio ar ddwysedd maetholion bwyd er mwyn gwella iechyd y cyhoedd (22 Med 2021)

Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn i Jenny Rathbone am ganiatáu rhyw funud fach i fi gyfrannu. Dwi'n cytuno'n llwyr â hi bod angen inni bwysleisio llawer mwy y manteision i bobl o fwyta bwyd da, bwyd o ansawdd, ac effaith bositif hynny nid yn unig yn gorfforol ond hefyd yn feddyliol. Ond dwi jest eisiau cyflwyno un agwedd fach ychydig bach yn wahanol, y tu hwnt i'r manteision o ran maeth, sef yr impact ar...

3. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Polisi Ffermio i’r Dyfodol a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (21 Med 2021)

Cefin Campbell: Fel mae'r datganiad yn ei nodi, mae'r ymrwymiad i ariannu'r Cynllun Taliad Sylfaenol yn llawn hyd at fis Rhagfyr 2023 yn amodol ar gyllid gan Lywodraeth y DU. Peidied neb ag anghofio bod Llywodraeth y DU wedi ein siomi ni o'r blaen, gan dorri bron i £130 miliwn o gyllid y llynedd i amaethyddiaeth. Felly, yng nghyd-destun y toriad hwnnw a'r ansicrwydd hwnnw, a yw'r Gweinidog wedi cynnal...

3. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Polisi Ffermio i’r Dyfodol a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (21 Med 2021)

Cefin Campbell: Wel, mae Plaid Cymru hefyd yn croesawu'r datganiad hwn a'r cyfle i drafod a chraffu ar y cynigion ar gyfer diwygio ffermio yng Nghymru, a fydd, mae'n siŵr, yn cael yr effaith hirdymor fwyaf ar y sector amaethyddol ers cenhedlaeth. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn cefnogi y cynlluniau sy'n darparu sefydlogrwydd economaidd a hefyd gynaliadwyedd amgylcheddol i ffermwyr. Ond heb gynigion manwl ar...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (21 Med 2021)

Cefin Campbell: Trefnydd, a wnaiff y Gweinidog cyllid ddatganiad yn diweddaru Aelodau ar pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â phryderon y busnesau hynny sydd wedi methu â chael gafael ar gymorth ariannol digonol yn ystod y pandemig, ac sydd bellach yn wynebu anawsterau, yn arbennig y rhai sydd wedi cwympo drwy'r craciau? Mae un o'r busnesau hynny yn berchennog siop yng...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Med 2021)

Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn. Dwi'n derbyn bod y balans hynny'n anodd, ond mae yna gyfle i'r Llywodraeth yn fan hyn i gydweithio â ffermwyr er mwyn amlygu'r manteision sydd yna o blannu coed. Ac wrth gwrs, os bydd y sefyllfa o ran plannu coed ar dir fferm yn gwaethygu, mae hyn yn golygu bod llai o dir ar gael i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy. Dangosodd arolwg o ffermwyr mynydd yng Nghymru yn...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Med 2021)

Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at ryw fath o adolygiad mewnol ar hynny a strategaeth ynglŷn â datblygu'r sector ar gyfer y dyfodol. Mater arall a godais i gyda'r Gweinidog cyn gwyliau’r haf oedd y mater o brynu tir fferm gan sefydliadau a chorfforaethau mawr ar gyfer plannu coed, a'r rhan fwyaf o'r rhain yn dod o'r tu allan i Gymru, a'r tir hwnnw'n cael ei...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.