Mabon ap Gwynfor: Mae’r cwestiwn nesaf, os caf, yn ymwneud ag ymchwil ddiweddar a gomisiynwyd gan bartneriaid Cefnogi’r Mesur, sy'n cynnwys Tai Pawb, Shelter Cymru a Sefydliad Tai Siartredig Cymru. Daethant i'r casgliad y byddai cyflwyno hawl i gartref digonol yn arwain at arbedion sylweddol i bwrs y wlad. Mae'r manteision yn sylweddol. Nododd yr ymchwil fanteision gwerth £11.5 biliwn i bwrs y wlad dros...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi am gychwyn drwy sôn am rywbeth sydd yn gyffredin drwy Gymru, ond gan ddefnyddio enghraifft o fy etholaeth i. Mae un o fy etholwyr i yn rhiant sengl, sydd wedi gorfod symud i mewn gyda'i chwaer, oherwydd bod ei chyn-bartner wedi ei throi hi allan o'i thŷ. Mae hi rŵan yn byw mewn tŷ tair ystafell wely, ond mae yna naw ohonyn nhw'n byw yn yr eiddo. Mae hi ar...
Mabon ap Gwynfor: Ar ben hynny, bydd hyn yn rhoi disgwyliad parhaol ar lywodraeth leol. Yn ystod anterth pandemig COVID, derbyniodd awdurdodau lleol arian ategol, fel y grant adfer COVID, i'w helpu i gyflawni'r disgwyliadau newydd a osodwyd arnynt, fel y niferoedd enfawr o bobl a oedd angen llety dros dro. Ers hynny mae'r arian yma wedi dod i ben, ond eto mae'r dyletswyddau'n parhau. Mae awdurdodau lleol yn...
Mabon ap Gwynfor: Rŵan, fedrwch chi egluro beth mae hyn yn ei olygu, os gwelwch yn dda? Ai dweud ydych chi y bydd pobl sydd mewn llety dros dro yn gadael y lletyau hyn ac yn mynd i soffa syrffio yn lle? Ynteu ydych chi’n dweud bod awdurdodau lleol am geisio troi pobl allan sydd ddim mewn risg o gysgu ar y stryd? Ynteu a fedrwch chi gadarnhau yn ddiamod na fydd pobl mewn llety dros dro yn cael eu troi allan...
Mabon ap Gwynfor: Diolch i’r Gweinidog am y cyhoeddiad yma, un rydym ni yn y blaid yma yn ei groesawu. Mae’n sicr yn gam i’r cyfeiriad cywir er mwyn cael gwared ar angen blaenoriaethol yn llwyr. Dwi am ofyn, i gychwyn, am eglurhad, os gwelwch yn dda, ynghylch pobl sydd eisoes mewn llety dros dro. Rydych chi'n dweud yn eich datganiad, a dwi am ddyfynnu:
Mabon ap Gwynfor: 'Fodd bynnag, wrth lacio cyfyngiadau ar iechyd y cyhoedd ac agweddau cysylltiedig y cyhoedd mae'n bosibl y bydd y rhai a oedd yn gudd cyn y pandemig, fel pobl yn syrffio soffas, yn dychwelyd o gael eu cefnogi gan awdurdodau lleol a phartneriaid, i ddibynnu yn hytrach ar rwydweithiau cymdeithasol i ddarparu rhywle y gallant fyw. O ystyried yr ansicrwydd hwn mae'n anodd penderfynu a fydd...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i’r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Dwi yn derbyn bod yna fai sylweddol yma ar San Steffan, a bod yn rhaid iddyn nhw gamu i fyny a digolledu’r cwmnïau yma a sicrhau eu bod nhw yn parhau. Ond dyma roi rhai enghreifftiau i chi. Yn Nolgellau, rydyn ni wedi gweld Caffi’r Sgwar yn cau, y steakhouse yn cau, y deli yn cau. Mae’r Brondanw Arms yn Llanfrothen wedi cau. Mae...
Mabon ap Gwynfor: 3. Pa gymorth y mae'r Llywodraeth yn ei roi i helpu busnesau ym Meirionnydd yn wyneb y costau ynni? OQ58594
Mabon ap Gwynfor: Maent wedi awgrymu rhai syniadau a fydd yn helpu, ac ar hyn o bryd, nid yw'r Llywodraeth wedi mabwysiadu'r syniadau hynny ac nid ydynt yn eu cyflawni. Hefyd, fe wyddom y bydd pobl yn cael eu gwneud yn ddigartref dros y misoedd nesaf, felly rydym eisiau gweld gweithredu yn awr i sicrhau nad yw'r bobl hynny'n cael eu gwneud yn ddigartref, yn lle ei wthio ymlaen i'r dyfodol efallai. Dyna'r hyn...
Mabon ap Gwynfor: Na, rwy'n brin o amser, mae arnaf ofn, Huw. [Torri ar draws.] Wel, rwy'n brin o amser, mae arnaf ofn, Huw.
Mabon ap Gwynfor: Wel, rwy'n dod at—. Fe wnaf dderbyn, gan fod gennyf amser.
Mabon ap Gwynfor: Gwnaf.
Mabon ap Gwynfor: Rydym yn derbyn yr hyn y mae Crisis yn poeni amdano, ac rwy'n credu fy mod wedi nodi hynny yn fy sylwadau gwreiddiol. Yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud yw, er ein bod yn derbyn y gallai hynny ddigwydd yn y dyfodol, fe wyddom ei fod yn mynd i ddigwydd yn awr. Gwyddom fod pobl yn cael eu gwneud yn ddigartref yn awr, felly mae angen camau arnom i liniaru'r sefyllfa honno. Nawr, gwyddom hefyd fod y...
Mabon ap Gwynfor: Na, yr hyn a welsom unwaith eto yw enghreifftiau gan y Llywodraeth hon a chan eich Llywodraeth chi o arian cyhoeddus yn cael ei drosglwyddo i bocedi preifat, a sicrhau bod pobl sydd eisoes yn gymharol gyfoethog yn gwneud mwy o arian ar gefn pobl sy'n gweithio—[Torri ar draws.] Dyna'r polisi—
Mabon ap Gwynfor: Dyna'r polisi yr ydych chi'n ei barhau. Nawr, yr hyn a glywsom hefyd, diolch i ymyriad Luke a Sioned, oedd eu bod wedi sôn mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw diogelu pobl, nid asedau. Cartrefi yw tai. Llefydd y mae pobl eu hangen i fyw ydynt, nid ffordd i bobl wneud elw, sef yr hyn y mae'r Torïaid wedi bod yn ei ledaenu yma. Clywsom gan Sam Rowlands am gartrefi gwag—yn hollol, rydym...
Mabon ap Gwynfor: Mae Janet newydd ddweud 'mwy o dai cymdeithasol', sef ymyrraeth y wladwriaeth, sy'n cyd-fynd â'r hyn ddywedoch chi. [Torri ar draws.] Iawn. Felly, a ydych chi eisiau gwneud ymyriad, Janet?
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl a'r drafodaeth ddifyr yma.
Mabon ap Gwynfor: Mae'n rhaid i mi ddweud, wrth wrando ar gyfraniad cyntaf Janet Finch-Saunders, ac Andrew R.T. Davies hefyd, roedd yna eironi yn y ffaith eu bod yn cydnabod bod y farchnad rydd yn gwneud cam mawr â'n cymunedau, a'u bod felly yn galw am, ac yn mynnu ymyrraeth gan y wladwriaeth ar adeiladu tai, dim ond i weld y tai cymdeithasol hynny'n cael eu gwerthu'n ôl i'r sector preifat—mae yna eironi...
Mabon ap Gwynfor: 'cynghorodd y siaradwr Adam Jones landlordiaid i gyhoeddi "codiadau rhent llai yn rheolaidd" yn lle codiadau mawr, mwy ysbeidiol'. Tactegau fel hyn sydd wedi arwain at sicrhau mai gan Gymru y mae'r codiadau rhent mwyaf yn unrhyw le yn y DU, oni bai am Lundain. Mewn rhai achosion, clywn am renti'n dyblu a theuluoedd yn ofidus iawn. Nawr, clywn fod landlordiaid preifat yn gadael y sector gyda...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ar y cychwyn, dwi am ddatgan diddordeb sydd ar y cofnod cyhoeddus.