Canlyniadau 161–180 o 6000 ar gyfer speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (17 Maw 2021)

Siân Gwenllian: Diolch, Dirprwy Lywydd. Un o'r materion sy'n pryderu'r mwyafrif o athrawon ydy'r baich gwaith maen nhw'n gorfod delio ag o ar ben y gwaith maen nhw wedi'u hyfforddi i'w wneud, sef addysgu ac arwain addysgu. Yn ôl rhai, mae'r baich gwaith ychwanegol yma, y biwrocratiaeth dyddiol, wedi gwaethygu dros y bum mlynedd diwethaf. Beth ydy'ch ymateb chi i'r honiad hwnnw?

6. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif (16 Maw 2021)

Siân Gwenllian: Diolch am y datganiad a'r diweddariad. Wrth drafod ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, rydych chi'n parhau i ddefnyddio'r cysyniad o adeilad i ddisgrifio ysgol. Mae adeiladau newydd sydd wedi'u dylunio'n dda yn gallu cyfrannu at greu awyrgylch sy'n annog creadigrwydd a dysgu, a dwi innau hefyd yn gyfarwydd â sawl adeilad ysgol newydd sbon yn Arfon sydd wedi derbyn croeso brwd ac wedi cael eu...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Arbed yn Arfon (10 Maw 2021)

Siân Gwenllian: Diolch am hynna. Mi fyddwn i'n ddiolchgar petaech chi'n medru cadarnhau heddiw mai cyfrifoldeb y cwmni Fortem ydy gweithio i unioni'r broblem, neu'r problemau, a dweud y gwir. Dylai perchnogion tai ddim ond defnyddio'r warant fel y cam olaf yn unig, petai Fortem a Llywodraeth Cymru yn methu â datrys y problemau mewn ffordd foddhaol ac o fewn amserlen resymol. Fedrwch chi jest gadarnhau...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Arbed yn Arfon (10 Maw 2021)

Siân Gwenllian: 10. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am y cynllun Arbed yn Arfon? OQ56387

16. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) ( 9 Maw 2021)

Siân Gwenllian: Mae Plaid Cymru yn cefnogi'r cyfeiriad y mae'r cwricwlwm addysg newydd yn mynd â ni. Mae pobl ifanc Cymru wedi bod yn crefu am gael dysgu sgiliau sy'n addas ar gyfer bywyd a byd gwaith cyfoes. Rydyn ni hefyd yn credu mewn grymuso athrawon a rhoi'r rhyddid iddyn nhw gynnal eu dysgu mewn ffordd greadigol. Mae'r pwyslais ar ddatblygiad a chynnydd yr unigolyn hefyd i'w groesawu'n fawr. Mae...

9. Dadl Grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio: Buddsoddiad mewn ysgolion ( 3 Maw 2021)

Siân Gwenllian: Dwi'n ofni bod y cynnig a gwelliant y Ceidwadwyr yn cymryd rhai materion yn ganiataol, heb dystiolaeth i gefnogi hynny. Mae yna nifer o ysgolion mawr yn fy etholaeth i sydd yn cynnig addysg ardderchog i'r disgyblion. Mae yna nifer o ysgolion bach yn fy etholaeth i sydd hefyd yn darparu addysg ardderchog i'r disgyblion. Mae'n wir hefyd bod maint ysgol yn gallu cael effaith negyddol neu effaith...

Grŵp 9: Confensiynau’r Cenhedloedd Unedig (Gwelliant 31) ( 2 Maw 2021)

Siân Gwenllian: Cynnig.

Grŵp 9: Confensiynau’r Cenhedloedd Unedig (Gwelliant 31) ( 2 Maw 2021)

Siân Gwenllian: Cynnig.

Grŵp 8: Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (Gwelliannau 13, 23, 14, 24, 25, 26, 15, 27, 16, 28, 29, 17, 18, 19) ( 2 Maw 2021)

Siân Gwenllian: Rydyn ni'n cytuno fel grŵp efo'r Llywodraeth fod rhaid i grefydd, gwerthoedd a moeseg fod ar wyneb y Bil fel elfen orfodol er mwyn helpu creu cymdeithas gynhwysol sy'n parchu pob barn a diwylliant a chrefydd. Fyddwn ni, felly, ddim yn cefnogi gwelliannau Darren Millar, a fyddai'n tanseilio hynny, ac ni fyddwn ni chwaith ddim yn cefnogi gwelliannau grŵp 8 Suzy Davies. Mae hon yn ddadl...

Grŵp 5: Y Gymraeg a’r Saesneg (Gwelliannau 34, 45, 35, 36, 37, 39, 49, 50, 38) ( 2 Maw 2021)

Siân Gwenllian: Mae ein gwelliannau ni yn grŵp 5 yn ymwneud â dysgu'r Gymraeg yn ein hysgolion, ac fe fyddai eu pasio nhw yn sicrhau llawer mwy o fanylder, ac yn rhoi cysondeb a sicrwydd y bydd pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i gaffael iaith ein gwlad. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sefydlu un continwwm ar gyfer dysgu Cymraeg a dileu Cymraeg ail iaith, a hynny ers 2015. Bydd y continwwm yn sicrhau...

Grŵp 4: Hanes ac amrywiaeth Cymru (Gwelliannau 43, 44, 46, 47, 48) ( 2 Maw 2021)

Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae gwelliant 44 yn gwneud yr hyn rydych chi'n honni nad ydy o'n gwneud. Mae gwelliant 44 yn darllen fel hyn: 'Rhaid i God yr Hyn sy'n Bwysig nodi sut y bydd dealltwriaeth o ddigwyddiadau hanesyddol allweddol Cymru a’r byd, gan gynnwys ― '(a) hanes Pobl Dduon a Phobl Groenliw, '(b) profiadau a chyfraniadau pobl Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac '(c) hanes...

Grŵp 4: Hanes ac amrywiaeth Cymru (Gwelliannau 43, 44, 46, 47, 48) ( 2 Maw 2021)

Siân Gwenllian: Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am y cyfle i agor y drafodaeth ar grŵp 4. Mi fyddai cefnogi gwelliant 43 yn ychwanegu'r frawddeg 'Hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth, gan gynnwys Hanes Pobl Dduon a Phobl Groenliw' i'r rhestr o elfennau gorfodol o fewn yr ardaloedd dysgu a phrofiad. Byddai'n ychwanegol at yr hyn rydym ni newydd fod yn ei drafod, sef addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac mi...

Grŵp 3: Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (Gwelliannau 2, 4, 41, 6, 8, 9, 10, 42, 20, 21, 22, 40) ( 2 Maw 2021)

Siân Gwenllian: Mae Plaid Cymru hefyd yn llwyr gefnogol i wneud addysg cydberthynas a rhyw yn statudol. Rydym ni'n cefnogi'r Llywodraeth yn llwyr ar y mater yma, a dwi hefyd yn canmol y Gweinidog am ei hymroddiad yn y maes yma. A dyma ni heddiw yn gweld Senedd Cymru ar ei gorau, yn bod yn flaengar, yn gweithio efo'n gilydd, yn bod yn gadarn ar fater hollbwysig. Rydym ni hefyd yn cefnogi ychwanegu addysg lles...

8. Dadl Plaid Cymru: Cymhwystra prydau ysgol am ddim (24 Chw 2021)

Siân Gwenllian: Y realiti ydy bod Cymru yn darparu llai o brydau wedi eu coginio am ddim i'w phlant ysgol ar hyn o bryd nag unrhyw genedl arall y Deyrnas Unedig. Yn yr Alban a Lloegr, mae pob plentyn oedran ysgol yn nhair blynedd cyntaf eu haddysg yn derbyn prydau ysgol am ddim, beth bynnag fo incwm y teulu. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r trothwy enillion i'r sawl sy'n derbyn credyd cynhwysol wedi'i osod yn...

8. Dadl Plaid Cymru: Cymhwystra prydau ysgol am ddim (24 Chw 2021)

Siân Gwenllian: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel mater o egwyddor, mi ddylai bob plentyn dderbyn pryd ysgol am ddim. I gyrraedd at hynny, mae'n rhaid cynllunio gam wrth gam. Y cam cyntaf ydy dechrau cynnwys y 70,000 o blant sy'n byw o dan y llinell dlodi yng Nghymru, a dyna ydy'n cynnig ni heddiw. Maen nhw'n colli allan ar hyn o bryd, yn bennaf oherwydd bod eu rhieni nhw mewn swyddi sydd â chyflog isel. Wrth...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.