Heledd Fychan: Os caf i ddechrau gyda'r pwynt olaf, dwi'n cytuno gyda'r Dirprwy Weinidog—rwy’n credu mai camsyniad yw parhau i ddweud y bydd y dreth dwristiaeth yn atal pobl rhag dod i Gymru. Mewn gwirionedd, y gwir fygythiad i dwristiaeth yn y gogledd ac yng Nghymru yn gyffredinol yw costau ynni sy'n effeithio ar fusnesau a'r argyfwng costau byw sy'n golygu na fydd pobl yn gallu mynd ar wyliau....
Heledd Fychan: Diolch, Ddirprwy Weinidog, am y datganiad heddiw.
Heledd Fychan: Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Hoffwn ategu hefyd eich diolch chi i bawb sydd ynghlwm efo'r ystadegau o fewn yr adroddiad yma. Mae'n dangos ôl partneriaeth ledled Cymru, ac mae hynny i'w ymfalchïo ynddo. Dwi’n siŵr ein bod ni i gyd yn gallu cytuno hefyd bod gan Gymru hanes hir a balch a bod ein hiaith yn ffynnu heddiw, a'i bod yn rhan ganolog o’n hunaniaeth ac wedi goroesi er...
Heledd Fychan: Diolch yn fawr iawn, Weinidog, am yr ymateb hwnnw. Wrth gwrs, ddoe, mi gawsom ni ddatganiad efo peth o'r wybodaeth yma gan Weinidog yr Economi. Yr hyn hoffwn i ofyn ydy sut y byddwch yn mesur llwyddiant y digwyddiadau hyn o ran gwaddol y buddsoddiad hwn yn dilyn cwpan y byd.
Heledd Fychan: 9. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r gwaith o hyrwyddo a marchnata bwyd a diod o Gymru fel rhan o'r cyfleoedd a ddaw yn sgil tîm pêl-droed dynion Cymru yn cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd? OQ58440
Heledd Fychan: Fel y gwyddoch chi, roeddwn i’n awyddus iawn i glywed y datganiad yma cyn yr haf. Roeddwn i'n bryderus cyn y toriad nad oedd cynlluniau ar waith, ond rwyf wrth fy modd yn gweld y cyhoeddiadau hyn heddiw. Roeddwn i’n arbennig o falch o weld eich bod wedi derbyn 97 o geisiadau i gyd a allai fod wedi bod yn werth £7.1 miliwn, sydd yn dangos y creadigrwydd hwnnw sydd wedi'i ysbrydoli gan y...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog, am y datganiad yma heddiw.
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Da oedd clywed yn glir ar ddechrau eich datganiad fod lles y gweithlu yn ystyriaeth flaenllaw ym mhopeth, a dwi'n ategu'r sylwadau hynny o ran y pwysigrwydd. Fel amryw o Aelodau eraill, mynychais ddigwyddiad dros ginio yma y Senedd ar gyfer lansiad y canllaw byr, 'Mynd i’r afael â thlodi plant gyda'n gilydd', gan Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru a'r...
Heledd Fychan: Diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad heddiw. Yn amlwg, rydym ni'n falch o weld ymrwymiad pellach o'r cytundeb rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru yn cael ei wireddu, dim jest ar bapur ond yn cyflawni i bobl Cymru. Ac i Blaid Cymru, mae gofal plant am ddim i blant dwy oed yn gam cyntaf pwysig yn ein gweledigaeth ar gyfer gofal plant rhad ac am ddim i bawb. Dengys y gallwn wneud pethau'n...
Heledd Fychan: Trefnydd, rwy'n siŵr eich bod chi wedi gweld—fel pob un ohonom ni—effaith y llifogydd dinistriol ym Mhacistan sydd wedi lladd dros 1,500 o bobl ers mis Mehefin, a 33 miliwn o bobl wedi'u heffeithio. Mae cymunedau cyfan wedi cael eu sgubo i ffwrdd ac mae pobl yn parhau i fod ag angen dybryd am help. Dyma realiti'r argyfwng hinsawdd. O ystyried ein hymrwymiadau dan Ddeddf Llesiant...
Heledd Fychan: Diolch i'r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, mae mwy o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim ers dechrau'r mis hwn, fel rhan o'r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd erbyn 2024. Ond fe ddylen ni fod yn ymdrechu i ehangu'r cynllun prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd hefyd, fel mater o frys, i helpu i fynd i'r afael ag...
Heledd Fychan: Hoffwn ddechrau drwy adleisio galwadau Sioned Williams. Os ydym o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r argyfwng hwn, mae'n rhaid inni gefnogi'r cynigion yma. A hoffwn anghytuno â honiad Peter Fox fod ein cynnig yn bleidiol wleidyddol. Nid yw hynny'n wir. Mae'n cynnig camau ymarferol y gallwn eu rhoi ar waith yma nawr. Os oes unrhyw beth yn bleidiol wleidyddol, eich gwelliant chi yw hwnnw,...
Heledd Fychan: Diolch, Dirprwy Weinidog. A minnau wedi fy magu yn Ynys Môn, dwi'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd Plas Menai fel adnodd a chyflogwr lleol, a braf oedd medru ymweld â Phlas Menai ychydig fisoedd yn ôl fel aelod o'r pwyllgor diwylliant a chwaraeon. Yn ystod yr ymweliad, fe wnaethom fynegi pryder am y posibilrwydd o allanoli gwasanaethau, a rhaid cyfaddef does dim o'r pryderon hynny wedi'u...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. Yn sicr, fel gwnaeth y Prif Weinidog bwysleisio hefyd, mae yna rôl gan y Llywodraeth hon ac mae yna bethau y gallem ni fod yn eu cyflawni. Soniodd y Prif Weinidog ddoe am yr ymgyrch o ran sicrhau bod pobl yn cymryd pob buddiant sydd ar gael ar y funud, gan gynnwys y rhai sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Yn yr Alban, mae ganddyn nhw gynghorwyr mewn ysgolion penodol i...
Heledd Fychan: Cytuno'n llwyr, Weinidog, a diolch am yr ateb hwnnw. Mae'n amlwg bod y grŵp yn targedu rhieni gyda'i ymgyrch o gam-wybodaeth, ac hyd yn oed Aelodau o'r Senedd fe ymddengys. Nodaf fod y Llywodraeth wedi creu canllaw i'r cwricwlwm i rieni a gofalwyr, a dogfen dwi'n credu sy'n wych ac yn egluro'r newidiadau yn effeithiol. Ond, o siarad â nifer o rieni a gofalwyr, prin neb sydd wedi gweld yr...
Heledd Fychan: Diolch, Llywydd, a diolch, Weinidog. Hoffwn innau ganolbwyntio ar addysg cydberthynas a rhywioldeb, ond o ongl hollol, hollol wahanol. Hoffwn groesawu'r datganiad ysgrifenedig gwnaethoch gyhoeddi dros yr haf parthed honiadau camarweiniol ynglŷn ag addysg cydberthynas a rhywioldeb, a gresyn bod llefarydd yr wrthblaid wedi cerdded allan heb i ni gael y drafodaeth yma rŵan. Gwn eich bod wedi...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. Ar ymweliad ag ysgolion yn fy rhanbarth ddechrau'r tymor, roedd y pennaeth yn sôn wrthyf i am ei phryder am wresogi a goleuo'r dosbarthiadau eleni; roedd hi wrthi fel lladd nadroedd yn trio diffodd pob switsh mewn golwg. Ac mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi rhybuddio bod cyllidebau ysgolion ar draws Cymru'n wynebu heriau enfawr yn sgil effaith chwyddiant a phrisiau...
Heledd Fychan: Diolch, Dirprwy Weinidog. Ar 8 Awst, fe fynychais gyfarfod cyhoeddus yn Hirwaun wedi'i drefnu gan gynghorwyr lleol, Karen Morgan ac Adam Rogers. Roedd yn glir bod y gwaith yn cael effaith mawr ar unigolion a busnesau, ac er bod cydnabyddiaeth o'r effaith gan Future Valleys Construction a chyngor Rhondda Cynon Taf, roedd yn amlwg nad oedd datrysiadau tymor byr i'r problemau a godwyd, gan...
Heledd Fychan: 10. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi trigolion y mae gwaith deuoli'r A465 yn ardal Hirwaun wedi effeithio arnynt? OQ58407
Heledd Fychan: 5. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu i ysgolion yn sgil yr argyfwng costau byw? OQ58411