Canlyniadau 161–180 o 4000 ar gyfer speaker:Hefin David OR speaker:Hefin David OR speaker:Hefin David OR speaker:Hefin David OR speaker:Hefin David

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gwasanaethau bws (23 Meh 2021)

Hefin David: Rwy'n falch o ddweud, Ddirprwy Lywydd, fy mod, drwy gydol y pandemig, wedi gallu cysylltu â Stagecoach a'u cyfarwyddwr ar gyfer de Cymru, Nigel Winter, sy'n berson da iawn i siarad ag ef. Un o'r pethau a ddywedodd oedd bod y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi achub y diwydiant bysiau yng Nghymru drwy'r pandemig. Credaf y dylai'r Dirprwy Weinidog, a...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (23 Meh 2021)

Hefin David: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer arallgyfeirio ar ffermydd yng Nghymru?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyfyngiadau Coronafeirws (22 Meh 2021)

Hefin David: Rwyf i wedi cael cwestiwn trwy Facebook gan Rhian Jay, sy'n codi'r mater ynghylch ap brechu'r GIG, a'r hyn y mae'n ei ddweud yw: 'A oes unrhyw syniad o bryd y bydd ap brechu GIG Cymru yn cael ei lansio os gwelwch yn dda? Rwy'n mynd i ddigwyddiad lle mae angen prawf arna i fy mod i wedi cael y ddau frechiad. Ar ôl codi hyn gyda'r bwrdd iechyd, fe wnaethon nhw ddweud y gallwch chi wneud cais...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyfyngiadau Coronafeirws (22 Meh 2021)

Hefin David: 1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfyngiadau coronafeirws Llywodraeth Cymru yn ne-ddwyrain Cymru? OQ56667

7. Dadl Plaid Cymru: Polisi Tai (16 Meh 2021)

Hefin David: Roedd y cyfraniad cyntaf a wneuthum yn y Siambr hon yn 2016 yn ymwneud â thai, ac roedd yn ymwneud yn benodol â chynllun datblygu lleol Caerffili. Fel cynghorydd yng Nghaerffili, roeddwn i'n un o leiafrif o gynghorwyr a bleidleisiodd yn erbyn cynllun datblygu lleol arfaethedig Caerffili yn 2016. Ar y pryd, awgrymodd fy nghyd-Aelod Pred wrthyf fy mod yn gwneud hynny am resymau gwleidyddol....

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Chwaraeon (16 Meh 2021)

Hefin David: Ni fyddwch yn credu hyn, Lywydd, ond roeddwn yn ofnadwy mewn chwaraeon yn yr ysgol. [Chwerthin.] Chwaraeais yn ddiweddar fel aelod o dîm y Senedd yn erbyn Tŷ'r Cyffredin/Tŷ'r Arglwyddi, a gwnaethom eu chwalu'n llwyr, ac rwy'n teimlo braidd mai fy mhàs i i Rhun ap Iorwerth a aeth wedyn at Andrew R.T. Davies, a aeth yn syth i lawr yn y ryc, cyn mynd allan i'r asgell chwith am gais, credaf...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Iechyd Meddwl Myfyrwyr (16 Meh 2021)

Hefin David: Cyfarfûm ag Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yr wythnos diwethaf, ac maent wedi bod yn cynnal arolygon ymysg myfyrwyr prifysgol sy'n dangos bod 60 y cant o'u haelodau'n dweud bod eu hiechyd meddwl yn waeth na'r hyn ydoedd cyn y pandemig a'i fod wedi gwaethygu pwysau cymdeithasol, pwysau ariannol a'r gwaith academaidd y maent yn ei wynebu. O ganlyniad, mae myfyrwyr mewn mwy o berygl o...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Iechyd Meddwl Myfyrwyr (16 Meh 2021)

Hefin David: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl myfyrwyr yng Nghymru? OQ56601

9. Dadl: Cronfa Codi’r Gwastad a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU (15 Meh 2021)

Hefin David: Os ewch chi am dro o amgylch meinciau'r Ceidwadwyr, gallwch chi weld o hyd, hyd yn oed wedi'r holl amser hyn, marwor y ddadl sydd ynghyn o hyd a adawyd ar ôl gan David Melding, yr olaf o'r undebwr, ac onid oes colled ar ei ôl heddiw? Rwyf i'n credu mai yr hyn yr ydym yn ei weld gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yw ymosodiad ar ddatganoli, oherwydd soniodd Peter Fox am sybsidiaredd....

9. Dadl: Cronfa Codi’r Gwastad a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU (15 Meh 2021)

Hefin David: Fy araith i yw hon.

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau sy’n helpu pobl i wella o COVID-19 (15 Meh 2021)

Hefin David: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog, fel y gwnaeth Rhun, fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar COVID hir, am eich presenoldeb heddiw. Rwy'n credu bod hyn yn dangos eich bod o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â'r mater hwn. Rwy'n credu hefyd bod y penderfyniad yr ydych wedi'i gymryd i'w wneud yn un o'ch blaenoriaethau fel un o'r pethau cyntaf a wnewch fel Gweinidog iechyd yr un mor bwysig....

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 Meh 2021)

Hefin David: Yn y rhaglen lywodraethu, mae'r ddogfen yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd taliadau rheoli ystadau ar gyfer mannau agored a chyfleusterau cyhoeddus yn cael eu talu mewn ffordd sy'n deg. Felly y dywed y rhaglen lywodraethu. Mae'r rhain yn ddeiliaid tai cyffredin, yn y rhan fwyaf o achosion, yn talu am fannau gwyrdd y mae'r rhan fwyaf ohonom ni'n talu amdanyn nhw drwy ein treth...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 8 Meh 2021)

Hefin David: A allwch chi ddyfalu am beth yr wyf i'n mynd i ofyn? [Chwerthin.] Rwy'n credu bod anfedrusrwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyflawni'r gamp yn y Siambr hon o ddod â'r Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Blaid Lafur at ei gilydd, oherwydd rydym yn gwbl unedig ar hyn. Ac mae Delyth Jewell, Laura Jones, Peter Fox a minnau ac eraill—a Dave Rees hefyd, i Lansawel—wedi cael y sgyrsiau hyn. Rydym...

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (26 Mai 2021)

Hefin David: Maniffesto Llafur Cymru—. A ddylwn i groesawu'r Gweinidog i'w swydd yn Drefnydd yn gyntaf a'i llongyfarch hefyd? Dywedodd maniffesto Llafur Cymru, 'Byddwn yn gweithredu'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd, i drawsnewid y profiadau a'r canlyniadau i blant a phobl ifanc.' Er mwyn i hynny fod yn llwyddiannus, rwy'n credu y bydd yn brawf enfawr ar Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid ei...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (26 Mai 2021)

Hefin David: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyfyngiadau coronafeirws sydd mewn grym yn etholaeth Caerffili?

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Penodiadau i'r Cabinet (19 Mai 2021)

Hefin David: Oni fyddai’n well cyflwyno, yn y 18 mis nesaf, ardoll Holtham i fynd i’r afael â’r argyfwng cynyddol mewn gofal cymdeithasol yn hytrach na chaniatáu i’n polisi gofal cymdeithasol gael ei lunio yn San Steffan?

2. Ethol Dirprwy Lywydd o dan Reol Sefydlog 6 (12 Mai 2021)

Hefin David: Diolch, Llywydd, a llongyfarchiadau ar eich etholiad fel Llywydd.

2. Ethol Dirprwy Lywydd o dan Reol Sefydlog 6 (12 Mai 2021)

Hefin David: Hoffwn fwrw ymlaen o ble y gorffennodd Dave Rees. Os edrychwn o gwmpas y Siambr hon, rwy'n credu bod y bobl yn y Siambr hon yn cynrychioli pobl Cymru'n well na'r hyn a welsom mewn etholiadau blaenorol o bosibl. Credaf mai'r etholiad cyffredinol hwn oedd yr etholiad gwirioneddol Gymreig cyntaf; dyma oedd yr etholiad cyntaf yng Nghymru lle gwelsom bleidlais i Brif Weinidog Cymru ac nid llygad...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Symiau Canlyniadol Barnett (17 Maw 2021)

Hefin David: Mae un ymholiad rwyf wedi'i gael yn ymwneud â'r grantiau ailgychwyn a gyhoeddodd Llywodraeth y DU yn ei chyllideb ddiweddar, gan fod busnesau'n awyddus i wybod a fyddant yn berthnasol yng Nghymru neu a fydd rhywbeth tebyg yn cael ei gyflwyno. Hefyd, mae'r busnesau manwerthu nwyddau dianghenraid a lletygarwch, nad ydynt yn gallu masnachu o hyd ond na allant hawlio'r cymorth grant ychwanegol...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Symiau Canlyniadol Barnett (17 Maw 2021)

Hefin David: 8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyllideb Llywodraeth y DU ar gyfer 2021 ac effaith debygol ei symiau canlyniadol Barnett ar etholaeth Caerffili? OQ56459


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.