Peter Fox: Byddaf yn siarad am welliannau 5 a 6, a gyflwynwyd yn fy enw i, ond, cyn i mi ddechrau, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei hymgysylltiad drwy gydol y broses hon â mi'n bersonol a chydweithwyr eraill ar draws y Siambr? Mae wedi bod yn ddefnyddiol ac mae hynny i'w groesawu, ac rwy'n diolch i chi am hynny, a hefyd i'r bobl niferus sydd wedi cyfrannu at daith y Bil hwn i'r pwynt hwn. Mae...
Peter Fox: A gaf i ddiolch ichi, Gweinidog, am eich datganiad? Rwy'n credu y gall mentrau fel cyllidebu ar sail rhyw fod yn ddefnyddiol iawn i helpu dadansoddi'r gwahanol effaith y gall polisïau ei chael ar wahanol rywiau. Er bod cydraddoldeb rhywiol wedi gwella dros amser, gwyddom fod rhwystrau o hyd i gydraddoldeb llawn, ac felly mae'n bwysig edrych ar sut y gallwn ni deilwra polisïau'n well i...
Peter Fox: Iawn, mae'n ddrwg gennyf i. Felly, Prif Weinidog, a gaf i eich annog i ystyried sut y gallwch chi gydweithio â mi i gyflwyno'r newidiadau y mae angen i bob un ohonom ni eu gweld, y mae rhanddeiliaid niferus ledled Cymru yr wyf i wedi ymgysylltu â nhw wedi gofyn amdanyn nhw? Diolch.
Peter Fox: Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad. Nid oeddwn i wedi sylweddoli ein bod ni'n brin o amser ar hyn, ond fe geisiaf i fod yn fyr. Rwy'n credu, fel y nododd Adam Price, fod Bil ar goll—dyna Fil llywodraethu amgylcheddol, a fyddai, yn fy marn i, yn agwedd allweddol iawn ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Bydd trefniant llywodraethu amgylcheddol sy'n benodol i Gymru yn bwysig iawn wrth symud...
Peter Fox: Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog, a chyfeiriaf yr Aelodau at fy natganiad o fuddiant fel ffermwr fy hun. Fel Gweinidog, rydych wedi datgan bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno mentrau sy'n cael eu croesawu i gadw pobl ifanc yn y diwydiant, ac mae'n ymddangos, gobeithio, y bydd rhagor ohonynt yn y dyfodol, ac mae hynny i'w groesawu. Fodd bynnag, er gwaethaf y mentrau hyn, nid yw'r sector yn...
Peter Fox: Weinidog, fel y dywedoch chi, gwyddom eich bod wedi buddsoddi neu y byddwch yn buddsoddi £200 miliwn a £25 miliwn o gyfalaf i fynd i'r afael ag uwchraddio ceginau a chyfleusterau, a gwn fod rhywfaint o bryder o hyd nad yw hynny'n ddigon o bosibl, ond rwy'n cymryd y bydd y materion hynny'n cael sylw gan awdurdodau lleol. Fodd bynnag, gyda'r cyfraddau chwyddiant cynyddol ac ymosodiad Rwsia ar...
Peter Fox: 7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl ifanc i ymuno â'r sector amaethyddol a'u cadw? OQ58280
Peter Fox: Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Nid wyf i'n ceisio gwneud unrhyw bwyntiau gwleidyddol yn hyn o beth. Mae gennyf rai pryderon dybryd ynglŷn â hyn. A minnau'n rhiant corfforaethol am 25 mlynedd yn y sector llywodraeth leol, rwyf i o'r farn fod llawer mwy y gall awdurdodau lleol ei wneud. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi disgrifio'r pecynnau cymorth yr oeddech chi'n eu disgwyl oddi wrth yr...
Peter Fox: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag amseroedd aros cynyddol ym maes canser ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan? Rwy'n gwneud y cais hwn oherwydd bod data diweddar yn dangos cynnydd yn nifer y bobl sy'n aros mwy nag wyth wythnos am brofion allweddol a ddefnyddir amlaf i wneud diagnosis o ganser. Mae'r ystadegyn brawychus hwn...
Peter Fox: Diolch, Prif Weinidog, am yr ymateb yna. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i gyfarfod â dau etholwr, sydd hefyd yn rhieni i blant syndrom Down, sy'n rhedeg elusen leol sy'n cefnogi pobl ifanc â syndrom Down o bob rhan o'r de. Er gwaethaf gwelliannau mewn pethau fel gofal plant, addysg a chyflogaeth, tynnwyd sylw at y ffaith fod pobl ifanc â syndrom Down yn dal i wynebu rhwystrau rhag...
Peter Fox: 3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am Ddeddf Syndrom Down 2022? OQ58281
Peter Fox: Mae'n ddrwg gennyf am hynny, James.
Peter Fox: I gloi, Lywydd, rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio dros ein cynnig heb ei ddiwygio sydd ger ein bron heddiw. Nid oes amheuaeth yn ei gylch, nid yw'r strwythur sydd gennym na'r rhwydwaith sydd gennym ar hyn o bryd yn addas i'r diben. Mae angen inni symud o'r sefyllfa yr ydym ynddi yn awr tuag at y dyheadau a nodir yn nogfen y Llywodraeth, felly sut y gallwn gyrraedd yno? Ar hyn o bryd, nid...
Peter Fox: Diolch, Tom Giffard. Yn anffodus, yn fy 12 mis yma yn y lle hwn, rwyf wedi tueddu i glywed yn rheolaidd, pan fyddwn mewn sefyllfa anodd, mai bai rhywun arall ydyw bob tro. Nawr, a minnau'n arweinydd ar weinyddiaeth fy hun ers blynyddoedd lawer, mae'r cyfrifoldeb yn disgyn arnaf fi—[Torri ar draws.] Gwnaf, wrth gwrs, Weinidog.
Peter Fox: Weinidog, fe fyddwch yn falch o glywed nad ydym yn anghytuno â chi ynglŷn â hynny, a byddwn yn parhau i egluro'r safbwynt hwnnw o'n meinciau. Ond ni ddylai Llywodraeth barhau i ymwrthod â chyfrifoldebau mewn meysydd a beio rhywun arall drwy'r amser. Rydych wedi bod mewn grym ers tair blynedd ar hugain. Iawn, efallai nad oedd gennych yr holl ysgogiadau drwy'r amser, ond cawsoch ddigon o...
Peter Fox: Gwnaf. Gwnaf, yn sicr.
Peter Fox: Wel, fe gyfeirioch chi at y gwasanaeth rheilffordd a'r streiciau presennol, ond nid ydych yn deall rhai o'r cwestiynau a ofynnodd Gareth yn ôl ichi, na materion ehangach y gymuned wledig. Roeddech yn amlwg yn canolbwyntio ar yr un maes hwnnw, ac rwy'n ceisio tynnu sylw at y ffaith bod y rhwydwaith trafnidiaeth yn cwmpasu llawer mwy na rheilffyrdd yn unig a'r materion uniongyrchol hynny y...
Peter Fox: Rwy'n teimlo mai fi sydd â'r fraint amheus o geisio cronni hyn i gyd i ryw fath o gasgliad. A gaf fi ddechrau, serch hynny, drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl emosiynol hon? Mae'n bwysig i bawb, oherwydd wrth wraidd y ddadl hon heddiw mae cwestiwn rwy'n credu y mae gan bob un ohonom yn y Siambr, ac yn wir, pobl ledled y wlad, ddiddordeb brwd ynddo: sut beth yw system drafnidiaeth...
Peter Fox: Ddoe oedd Diwrnod Ymwybyddiaeth o Glefyd Niwronau Motor y Byd, a hoffwn ddiolch i'r llu o Aelodau'r Senedd a ymunodd â mi ddoe i gyfarfod â phobl sy'n byw gyda MND ac yr effeithiwyd arnynt gan MND ar risiau'r Senedd i godi ymwybyddiaeth o'r clefyd creulon hwn. Ac roedd y rhai a oedd yno'n gwerthfawrogi'n fawr eich bod chi yno. Mae'n braf fod newidiadau sylweddol wedi digwydd yng Nghymru...
Peter Fox: Diolch yn fawr iawn am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Mae'n ymddangos yn ddoniol, ar ddiwrnod heulog hardd, i fod yn meddwl am lifogydd, ond Weinidog, fe fyddwch yn gwybod yn iawn fod cymunedau ledled sir Fynwy, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi dioddef llifogydd dinistriol, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf, gyda llefydd fel Ynysgynwraidd yn dioddef llifogydd yn gyson, a Threfynwy,...