James Evans: Weinidog, mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn chwarae rhan enfawr yn natblygiad plant ifanc, ac i rai o'r plant mwyaf agored i niwed sy'n byw mewn tlodi yn ein cymunedau, yr ysgol yw'r unig gyfle sydd ganddynt i gael mynediad at chwaraeon a chyfleusterau chwaraeon. Felly, Weinidog, a wnewch chi amlinellu pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi ar waith yn ystod gwyliau'r Pasg i...
James Evans: Trefnydd, yn ddiweddar, cynhaliodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, bleidlais o ddiffyg hyder mewn nifer o aelodau a oedd wedi'u hapwyntio gan Lywodraeth Cymru. Yn lleol, mae llawer o anfodlonrwydd ynghylch sut mae'r parc cenedlaethol yn cael ei gynnal a rhan aelodau sydd wedi'u hapwyntio gan Lywodraeth Cymru. Felly, a gaf i ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd am yr hyn y...
James Evans: Mae'r cynnydd y mae'r ddynoliaeth wedi'i wneud hyd yma yn deillio o'r chwyldro amaethyddol. Heb i ffermio allu bwydo'r boblogaeth, ni fyddem wedi cael ein chwyldro diwydiannol, sy'n ffurfio'r byd yr ydym yn byw ynddo heddiw. Mae gallu cynnal poblogaeth sy'n tyfu â bwyd dibynadwy o ansawdd da yn allweddol i'r gymdeithas sefydlog a ffyniannus y byddai pob un ohonom yn gobeithio byw ynddi....
James Evans: Heddiw, rwyf eisiau siarad ar ran y busnesau twristiaeth dilys hynny y bydd y rheoliadau hyn yn effeithio arnyn nhw. Mae llawer o fusnesau dilys y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw wedi cysylltu â mi, ynghylch y cynnydd yn nifer y dyddiau y mae angen eu gosod o 140 i 252. Mae llawer o'r busnesau hynny a sefydlodd, yn ddiffuant, eu cwmni'n fel y gall pobl ddod i Gymru i fwynhau ein golygfeydd,...
James Evans: Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn amlinellu na fydd hi'n ystyried mater y tâl 10 y cant sy'n ymwneud â gwerthu cartrefi mewn parciau yn breifat. Rwyf i wedi siarad â thrigolion cartrefi mewn parciau ledled fy etholaeth am hyn. Mae hyn wedi bod yn digwydd ers 2013. Mae preswylwyr cartrefi mewn parciau wedi bod yn aros naw mlynedd i'r tâl annheg hwn...
James Evans: Mae gan ein gwlad hanes milwrol balch sy'n ffurfio cymaint o'n diwylliannau a'n traddodiadau modern. Ein lluoedd arfog yw'r gorau yn y byd ac maent wedi bod yn rhan o rai o'r ymgyrchoedd heddwch a'r gwrthdaro mwyaf ffiaidd ledled y byd i amddiffyn buddiannau Prydain gartref a thramor. Rwy’n falch o hanes ein cenedl a’r rôl y mae ein lluoedd arfog yn ei chwarae. Mae gennyf deulu a...
James Evans: Byddaf i'n hynod o gryno. Gweinidog, gyda'r £100 miliwn ychwanegol sy'n mynd tuag at fyrddau iechyd i helpu gydag amseroedd rhestrau aros, a allwn ni gael rhywfaint o sicrwydd y bydd yr arian hwnnw yn mynd yn wirioneddol i'r rheng flaen i sicrhau ein bod ni yn mynd i'r afael ag ôl-groniadau rhestrau aros y GIG mewn gwirionedd ac nad yw'n cael ei amsugno mewn biwrocratiaeth o fewn byrddau...
James Evans: —y gall y Llywodraeth hon alw am weithredu radical. Felly, rwy'n gofyn i'r Gweinidogion a Llywodraeth Cymru: yn hytrach na siarad, mae'n hen bryd ichi weithredu.
James Evans: Mae tai yn rhywbeth sy'n agos iawn at fy nghalon, fel aelod cabinet blaenorol dros dai a ddarparodd dros 250 o gartrefi ym Mhowys. Mae'n rhywbeth rwy'n awyddus iawn i siarad amdano. Felly, ers yr etholiad yma 10 mis yn ôl, rydym wedi trafod tai yn aml yn y Siambr hon. Ond heddiw, nid wyf yn credu ein bod gam yn nes ymlaen gydag unrhyw atebion ymarferol i'r argyfwng tai presennol. Ond y...
James Evans: A ydych yn cytuno â mi, felly, Mike, y dylai fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon yng Nghymru sicrhau bod gennym fwy o brentisiaethau i bobl sy'n mynd i wneud eich gwaith gosod brics, eich gwaith coed a'ch electroneg, i sicrhau bod gennym weithlu medrus i allu adeiladu'r tai hyn wrth inni symud ymlaen?
James Evans: Y brechlyn ar gyfer moch daear.
James Evans: Diolch yn fawr, Weinidog. Fe wnaethoch ateb rhai o'r cwestiynau yr oeddwn am eu gofyn mewn ymateb cynharach i Peter Fox, ond yr hyn yr hoffwn gyfeirio ato, Weinidog, yw'r ffaith ichi ddweud bod y gyllideb ar gyfer iawndal wedi'i gorwario bron bob blwyddyn ers 2015, sy'n profi bod angen gwneud gwaith pwysig iawn i geisio dileu'r clefyd ofnadwy hwn ledled Cymru. A wnewch chi ddarparu'r...
James Evans: Diolch, Weinidog. Mae trethi ar eiddo a brynir yng Nghymru ymhlith yr uchaf a godir yn y Deyrnas Unedig. Cost tŷ yn nhref Aberhonddu yn fy etholaeth i ar gyfartaledd yw £261,000. Yn seiliedig ar y pris hwn, bydd prynwr tro cyntaf, sydd wedi cael trafferth dod o hyd i'r blaendal hyd yn oed, yn talu treth o £3,000 i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cymharu â ffigur o £2,050 yn yr Alban, dim...
James Evans: 7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau arfaethedig i'r dreth trafodiadau tir yng Nghymru? OQ57755
James Evans: 2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brisiadau TB yng Nghymru? OQ57753
James Evans: Yr hyn y gwnaeth y Gweinidog ei ddweud, Huw. Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, ynghylch pam mae Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar y cynllun taliadau atodol band eang gwledig? Mae hyn yn hanfodol bwysig i gymunedau gwledig o ran cael band eang cyflym iawn ledled ein cymunedau, a hoffwn i wybod yn union beth fydd yn dod yn lle'r cynllun hwnnw, oherwydd rwy'n poeni y...
James Evans: Rwy'n cynnig gwelliant 2. Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru a Rhun am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw ar anhwylderau bwyta. Mae hwn yn fater sy’n effeithio ar gynifer o bobl ar draws ein cymdeithas. Nid yw'n gwahaniaethu, a gall effeithio ar unrhyw un. Mae’r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau...
James Evans: Weinidog, rwyf wedi gweld budd data biometrig mewn ysgolion, fel cynghorydd awdurdod lleol. Fe'i cyflwynwyd i helpu i leihau'r stigma ynghylch prydau ysgol am ddim. Pan fo pawb yn defnyddio'r un ciw a'r un system dalu, mae'n lleihau'r perygl o fwlio ac aflonyddu. Fodd bynnag, mae rhai rhieni a phlant yn poeni, ac yn poeni'n briodol, ynglŷn â'r defnydd o'r data biometrig a lle mae eu...
James Evans: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n diolch i'r Dirprwy Weinidog am eich datganiad a rhai o'r sylwadau yr ydych chi wedi'u gwneud. Mae gordewdra yn bla ar iechyd ein cenedl. Mae'n broblem; yn hytrach na gostwng, mae'n cynyddu. Mae'n destun pryder bod dwy ran o dair o boblogaeth Cymru nawr dros bwysau neu'n ordew, ac, fel y dywedoch chi yn eich datganiad, y pandemig—mae llawer o bobl wedi cael...
James Evans: Diolch, Prif Weinidog. Ac a gaf i ddechrau drwy ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus iawn i chi, eich teulu, a phawb yn y Siambr hon? Prif Weinidog, gyda chymaint o ansicrwydd a dinistr yn y byd, mae'n rhaid i ni fod yn ddiolchgar ar ein diwrnod arbennig yma yng Nghymru, fod Dydd Gŵyl Dewi yn rhoi cyfle i ni dynnu sylw at rai o'r pethau anhygoel yr ydym ni'n eu gwneud yma yng Nghymru, o'r bwyd a...