Delyth Jewell: 2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o sut y bydd Cymru'n cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan Pêl-droed y Byd yn effeithio ar economi Cymru? OQ58166
Delyth Jewell: 5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru yn cael eu darparu? OQ58159
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Mae darlledu yn bwnc sydd wedi bod ar flaen agenda y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol. Dŷn ni fel pwyllgor wedi derbyn tystiolaeth gan lu o randdeiliaid sy'n awgrymu'n gryf fod angen newidiadau i helpu'r cyfryngau yng Nghymru, er bod amrywiaeth barn ynglŷn â sut i wneud hynny, ac fe wnaf i sôn ychydig yn fwy am hynny yn y...
Delyth Jewell: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y gwyddom ni, mae gwastadeddau Gwent yn ganolfan hanfodol ar gyfer natur, wedi'i diogelu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r 900 milltir o ddyfrffyrdd sy'n cael eu hadnabod yn lleol fel ffosydd draenio yn gorws o fywyd ac yn gartref i gannoedd o greaduriaid prin. Mae nifer o adar prin yn byw yno ac yn mudo yno i fridio. Mae mwy na 144 rhywogaeth o bryfed a...
Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Roeddwn yn arfer gweithio i Cyngor ar Bopeth, felly rwy'n cytuno'n llwyr â chi y byddant yn achubiaeth i filoedd o bobl yng Nghymru dros y misoedd nesaf. Nawr, mae llawer o bobl agored i niwed, wrth gwrs, angen cyngor wyneb yn wyneb, a hoffwn ofyn am eich sicrwydd fod cymorth yn cael ei roi i sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth i sicrhau y bydd cyngor wyneb yn wyneb yn parhau...
Delyth Jewell: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl gwasanaethau fel Cyngor ar Bopeth yn ystod yr argyfwng costau byw? OQ58132
Delyth Jewell: Huw, fe'm trawyd yn fawr, yn eich cyfraniad yno, gan bwysigrwydd prydferthwch blerwch. Roeddwn yn ceisio meddwl beth fyddai 'the beauty of untidiness' yn Gymraeg. Rwy'n meddwl bod 'prydferthwch blerwch' yn addas, ac mae bron yn gynghanedd, felly mae hefyd yn ymadrodd hardd yn Gymraeg, ac yn farddonol hefyd.
Delyth Jewell: Roeddwn i eisiau diolch i Carolyn Thomas am ddod â'r ddadl hon gerbron y Senedd. Am ddadl hyfryd a phwysig mae wedi bod. Mae'r pandemig wedi gwneud i gynifer ohonom ni ailystyried pwysigrwydd y natur sydd o'n cwmpas ni yn ein milltir sgwâr. Nid oes rhaid teithio i'r mynyddoedd na llynoedd i weld gogoniant y byd naturiol, mae hefyd ar gael yn ein pentrefi, neu fe all fod os ydyn ni'n gadael...
Delyth Jewell: Byddwn ni i gyd yn ymwybodol o'r ymgyrch Mai Di-dor, a hoffwn i ofyn am ddatganiad yn nodi sut y mae'r Llywodraeth yn mynd â hyn ymhellach, i ailgysylltu pobl ledled Cymru â'r byd naturiol ar garreg eu drws. Rwy'n falch o fod yn hyrwyddwr rhywogaethau'r gardwenynen feinllais, y cacwn sydd fwyaf mewn perygl yng Nghymru a Lloegr. Wir fe hoffwn i pe bai mwy o bobl, o bob oed, yn dysgu mwy am...
Delyth Jewell: Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar rywbeth y mae Sioned Williams wedi’i grybwyll: normaleiddio poen i fenywod mewn gweithdrefnau meddygol a’r ffyrdd y mae merched a menywod yn cael eu magu i ddisgwyl a goddef anghysur yn rhan o’u bywydau bob dydd. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf efallai, pan fydd menywod yn cwyno am boen, fel y clywsom, yw y ceir digonedd o ymchwil i awgrymu eu bod yn...
Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Rwy’n sicr yn croesawu’r archwiliad dwfn, ac rwy’n cytuno â chi am yr angen i fod yn onest ac yn realistig gyda ni ein hunain, a chyda phobl Cymru, ynglŷn â sut y bydd yn rhaid gwneud rhai penderfyniadau anodd. Byddwn yn dal i bwysleisio, mewn gwirionedd, oni bai fod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei chyflwyno yn yr ail flwyddyn, fy mod yn poeni faint y gallai'r amser...
Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd adroddiad hynod feirniadol gan Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd. Roedd yn rhybuddio Llywodraeth y DU fod y cynnydd i gyflawni ymrwymiadau amgylcheddol yn Lloegr yn rhy araf, ac mae’n gwneud argymhellion ar gyfer camau gweithredu brys. Mae’n pwysleisio’r angen am dargedau cyfreithiol rwymol. Gwn ein bod wedi cael y drafodaeth hon sawl gwaith...
Delyth Jewell: Hoffwn i groesawu'r cyhoeddiad heddiw a diolch yn fawr iawn i chi, Weinidog, am y datganiad. Mae cynnydd mewn llifogydd o ganlyniad i newid hinsawdd yn peri risg enfawr i gymunedau, i unigolion ac i fusnesau yng Nghymru. Mae'n iawn ac mae i'w groesawu bod lleisiau a phrofiadau'r bobl a'r busnesau ledled Cymru yn mynd i gael eu clywed, drwy adolygiad annibynnol, er mwyn inni ddysgu sut i...
Delyth Jewell: Diolch. Prif Weinidog, mae mynediad at wasanaethau ysbyty yn y de-ddwyrain yn broblem sylweddol. Rwyf i wedi codi hyn yn y Senedd o'r blaen, yn enwedig y ffaith, pan gaeodd ysbyty glowyr Caerffili, fod cwm Rhymni wedi ei adael heb adran damweiniau ac achosion brys. Dywedwyd wrthym ni y byddai un yn Ysbyty Ystrad Fawr; dywedodd yr arwyddion ffyrdd wrthym ni yn wreiddiol y byddai, ond cafodd yr...
Delyth Jewell: 6. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd cyfluniad presennol gwasanaethau ysbytai yn Nwyrain De Cymru? OQ58066
Delyth Jewell: Hoffwn i ofyn am ddatganiad ar bwysigrwydd ymgysylltu democrataidd. Rydym newydd ddod allan o etholiad, ac er y gallan nhw fod yn anodd, ar eu gorau mae etholiadau yn ddathliad o gymuned, cysylltiadau rhwng pobl, ac yn gyfle i newid pethau. Trefnydd, rwy'n siŵr y byddech yn ymuno â mi i dalu teyrnged i bawb a safodd i gael eu hethol yr wythnos diwethaf, gan longyfarch y bobl a enillodd, ond...
Delyth Jewell: Hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, yn amlinellu pa waith sy'n digwydd ar draws y Llywodraeth i ymdrin â'r prinder therapi adfer hormonau yn y DU. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi sy'n pryderu'n fawr am hyn ac yn llawn ofn ynghylch sut y byddan nhw'n ymdopi os na allan nhw reoli eu symptomau menopos. Trefnydd, nid ydym ni'n siarad digon am y menopos. Mae stigma o hyd sy'n golygu bod...
Delyth Jewell: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos hon yw Wythnos Ryngwladol Pontio'r Cenedlaethau, cyfle i ddathlu’r cysylltiadau sydd gennym gyda phobl o bob oed yn ein bywydau bob dydd. Mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi creu heriau difrifol i bobl iau a phobl hŷn, felly mae'n briodol fod thema ymgyrch ryngwladol eleni'n canolbwyntio ar ailgysylltu, ymladd unigrwydd ac ynysigrwydd, dathlu mannau...
Delyth Jewell: Diolch ichi am ddarparu mwy o wybodaeth am y sefyllfa yng Nghaerffili hefyd, a chytunaf yn llwyr y dylid cael cofrestr gyhoeddus, gan ystyried rhai o'r pwyntiau a wnaethoch, wrth gwrs.
Delyth Jewell: Mae Peredur wedi siarad am y pris a dalwyd gan gymunedau cyfan, y posibiliadau hefyd o ran adfywio lleoliadau, a bioamrywiaeth, a bydd yn rhaid gwarchod hynny er mwyn y dyfodol.