Joel James: 7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen caffael seilwaith gwastraff Llywodraeth Cymru? OQ58330
Joel James: Diolch, Altaf, a diolch am yr ymyriad hwnnw ac fel y trafodwyd eisoes, un o'r problemau yw diffyg diagnosis o diabetes math 2 a'r ffaith bod y symptomau'n anghyfarwydd, felly mae'n hanfodol eu cynnwys hefyd. Felly, mae gennyf ddau bwynt olaf yr hoffwn eu gwneud. Y cyntaf yw bod diabetes, math 1 a math 2, yn effeithio ar fwy na'r unigolyn yn unig; mae'n effeithio ar y teuluoedd a'r ffrindiau...
Joel James: O, mae'n ddrwg gennyf, Altaf, gwnaf, wrth gwrs.
Joel James: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw, a diolch i Jayne, mewn gwirionedd, ein cyd-Aelod, am y gwaith amhrisiadwy y mae'n ei wneud yn y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes. Rydym wedi clywed llawer iawn heddiw am rai o'r agweddau technegol ar ofalu am y rhai sydd â diabetes, y cymhlethdodau iechyd eilaidd y gall diabetes eu hachosi,...
Joel James: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi, ac a gaf i ddiolch i chi hefyd am eich papur briffio'r bore yma? Fe'i cefais yn ddefnyddiol iawn o ran deall eich safbwynt chi. Yn wir, rwy'n llwyr gydnabod eich barn chi ynglŷn â buddsoddi yn y rhai sy'n gadael gofal a cheisio darparu cyfleoedd ar eu cyfer nhw y byddai pobl eraill yn eu cymryd yn ganiataol efallai, ac rwy'n...
Joel James: Prif Weinidog, er ei bod yn iawn i ni ddeall y mater pwysig hwn o ran disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd, mae'n rhaid i ni hefyd fod yn ymwybodol bod dysgwyr ôl-16 hefyd yn dibynnu'n drwm ar drafnidiaeth gyhoeddus i fynychu colegau a phrifysgolion, a bod prentisiaid yn gorfod talu costau teithio nid yn unig i'r coleg, ond hefyd i'w gweithle. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol bod...
Joel James: Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddwn yn dilyn digwyddiadau Cynhadledd Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT) yn Telford yn ddiweddar, a sylwais ar gynnig a gyflwynwyd gan NAHT Cymru, a oedd yn nodi bod ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan y model consortia wedi bod, hyd yma, yn annheg, ac i lawer o ysgolion mae wedi bod yn gwbl annigonol. Roedd y cynnig gan NAHT Cymru yn mynd ymhellach,...
Joel James: Weinidog, mae ‘Cymru Sero Net: Cyllideb Garbon 2' yn nodi: ‘Er mwyn gwireddu'r uchelgais sero net, bydd angen defnyddio mwy o bren mewn sectorau fel y sector adeiladu yn lle'r deunyddiau gweithgynhyrchu ynni uchel a ddefnyddir ar hyn o bryd, fel dur a choncrid.' a hefyd bod y Llywodraeth hon yn bwriadu datblygu strategaeth ddiwydiannol newydd ar gyfer pren: ‘er mwyn datblygu economi...
Joel James: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl y model consortia mewn ysgolion? OQ58228
Joel James: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw ac rwy'n credu y bydd pawb yn y fan hon yn cytuno yn llwyr â'r rhan fwyaf o'ch safbwyntiau. Hoffwn i ddechrau drwy ddweud bod cydnabod sefyllfa ffoaduriaid yn rhan sylfaenol o'n dynoliaeth ac mae'n iawn i ni gymryd camau i helpu'r rhai sy'n ffoi rhag gwrthdaro ac erledigaeth, ac mae Wythnos Ffoaduriaid yn amser i ni fyfyrio ar ein gweithredoedd ein...
Joel James: Dywedwch hynna eto, mae'n ddrwg gennyf. Nid yw hwn—[Anghlywadwy.]
Joel James: Dim problem. Prif Weinidog, pam na all y Llywodraeth hon greu deddfwriaeth sy'n sicrhau bod digon o amwynderau, trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith yn cael eu rhoi ar waith cyn caniatáu i dai gael eu hadeiladu? Diolch.
Joel James: Prif Weinidog, ar 8 Ionawr 2019, gofynnodd Huw Irranca-Davies i chi ynghylch yr hyn yr oedd y Llywodraeth hon yn ei wneud i sicrhau bod y seilwaith trafnidiaeth yn bendant ar waith i alluogi'r cynlluniau mawreddog ar gyfer tai newydd yng Nghaerdydd a'r de, i helpu i greu, yn ei eiriau ef, gannoedd a channoedd o berchnogion cartrefi hapus, nid etholwyr blin mewn tagfeydd. Fel y cofiwch...
Joel James: Daw hyn â mi at fy ail bwynt, Deddf BSL. Roeddwn i, fel llawer o rai eraill, yn falch iawn o weld bod Bil BSL Llywodraeth y DU wedi cael Cydsyniad Brenhinol ddiwedd mis Ebrill eleni, gan ddod i rym fel Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022. I'r rhai sy'n anghyfarwydd â'r Ddeddf, ceir cydnabyddiaeth yn awr i Iaith Arwyddion Prydain fel iaith swyddogol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Er bod hon...
Joel James: Ie, munud yr un.
Joel James: Fel y gŵyr llawer yma, mae byddardod a'r problemau sy'n wynebu'r gymuned fyddar yn agos iawn at fy nghalon. Roeddwn am achub ar y cyfle yn fy nadl fer gyntaf i dynnu sylw at rai o'r materion hyn. Byddaf yn ymdrin â thri phrif bwynt, sef yr effaith a gaiff colled clyw mewn cyflogaeth, Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022, ac anallu ymarferwyr awdioleg preifat i wneud gwaith GIG a goblygiadau...
Joel James: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn gadarnhau fy mod wedi cytuno i roi munud yr un i fy nghyd-Aelodau, Altaf Hussain a Russell George. Fel y gŵyr llawer yma, mae byddardod a'r problemau sy'n wynebu'r gymuned fyddar yn agos iawn at fy nghalon, ac roeddwn am fanteisio ar y cyfle—
Joel James: Na, mae'n ddrwg gennyf—
Joel James: Mae'n ddrwg gennyf. Yn wir, mae bron bob ffurf bwysig ar ddatganoli pŵer, ac eithrio refferenda 1979 a 1997, a phob ffurf ar ddatganoli gwasanaethau canolog i Gymru wedi dod gan Lywodraethau Ceidwadol yn San Steffan. Felly, hoffwn ddiolch i'r Aelod os gall ymatal rhag lledaenu camwybodaeth Trumpaidd o'r fath yn ei sylwadau yn y dyfodol. Yn olaf, hoffwn ddweud hyn: mae'r cynnydd yn nifer yr...
Joel James: Pa mor hir—? Na, mae'n ddrwg gennyf. Ewch ymlaen.