Peredur Owen Griffiths: Hoffwn ddiolch i’r rhai sy’n bennaf gyfrifol am y ddadl heddiw: ein rhanddeiliaid a’r bobl y buom yn siarad â nhw. Maent yn ganolog i'n gwaith ac rydym yn ddiolchgar am eu hymgysylltiad parhaus. Yn olaf, hoffwn ddiolch o galon i'r tîm clercio ac ymchwil sydd yn gweithio yn galed yn y cefndir i hwyluso gwaith y pwyllgor a'n galluogi ni i graffu'n effeithiol ar y Llywodraeth. Diolch yn...
Peredur Owen Griffiths: Diolch i'r holl Aelodau a Chadeiryddion pwyllgorau am eu cyfraniad i'r ddadl, ac ymateb y Gweinidog. Roedd yn amlwg fod yr argyfwng costau byw yn ymddangos fel blaenoriaeth bwysig, gyda llawer o'r Aelodau'n cyfeirio ato. Clywsom gan lawer o gyfranwyr heddiw, ac nid wyf am ailadrodd y dadleuon a'r sylwadau a glywsom, ond y meysydd yn fras oedd iechyd meddwl, addysg, gofalwyr cyflogedig a...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Cadeirydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau sydd wedi cyfrannu i’r ddadl heddiw. Mae wedi bod yn gyfle euraidd i’r Senedd ddylanwadu ar feddylfryd Llywodraeth Cymru cyn iddi gyhoeddi’r gyllideb ddrafft yn ddiweddarach eleni. Gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried y safbwyntiau a godwyd heddiw.
Peredur Owen Griffiths: Gadeirydd, roedd ein gwaith ymgysylltu ar y gyllideb ar gyfer 2023-24 yn cynnwys tair elfen: y digwyddiad i randdeiliaid yn Sefydliad Glowyr Llanhiledd ym Mlaenau Gwent; fel y crybwyllwyd, gweithdy gydag Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru; a nifer o grwpiau ffocws gyda sefydliadau a dinasyddion ledled Cymru. Ar ran y pwyllgor, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith. Fodd bynnag,...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Cadeirydd. Mae’n bleser gen i fod yn agor y ddadl yma heddiw ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Rwyf wedi sôn o’r blaen yn y Siambr hon fod ymgysylltu â phobl ledled Cymru yn flaenoriaeth i mi fel Cadeirydd, yn benodol i wrando ar farn rhanddeiliaid ar yr hyn y dylai cyllideb Llywodraeth Cymru ei gynnwys. Mae’n dda gennyf ddweud nad yw’r pwyllgor...
Peredur Owen Griffiths: Yn olaf, mae’r pwyllgor yn nodi â phryder y cynlluniau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i dorri 91,000 o swyddi yn y gwasanaeth sifil, ac yn nodi ymhellach y byddai cyfran Barnett o’r swyddi hynny yn gyfystyr â thua 6,000 o swyddi’n cael eu colli yma yng Nghymru. Mae’r pwyllgor yn pryderu y gallai toriadau o’r fath gael effaith anghymesur ar Gymru. O ganlyniad, hoffem gael rhagor o...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Cynhaliodd y pwyllgor waith craffu ar y gyllideb atodol gyntaf ar 30 Mehefin, a diolch i’r Gweinidog am fod yn bresennol.
Peredur Owen Griffiths: Cyflwynwyd adroddiad y pwyllgor gerbron y Senedd ddoe ac mae'n gwneud 12 o argymhellion. Yn gyntaf oll, mae'r pwyllgor yn pryderu'n fawr am yr effaith y bydd pwysau chwyddiant yn ei chael ar fforddiadwyedd cynigion cyllidebol Llywodraeth Cymru. O gofio y bydd y pwysau eithriadol hwn yn parhau ac y gallai waethygu, gofynnwn i'r Gweinidog ddarparu asesiad o effaith hyn ar gynlluniau...
Peredur Owen Griffiths: Diolch am yr ateb.
Peredur Owen Griffiths: Un o’r problemau y mae’r sector yn eu hwynebu ar hyn o bryd yw ariannu setliadau cyflogau teg sy’n adlewyrchu’r cynnydd mewn costau byw. Mae hyn yn arbennig o wir gyda sefydliadau sydd â chontractau gyda sawl darparwr sector cyhoeddus sy'n gwneud pethau gwahanol o ran cynyddu contractau. Mae gan un sefydliad rwy'n ymwybodol ohono gontractau ar draws llawer o awdurdodau lleol, gydag...
Peredur Owen Griffiths: 1. Sut y mae'r Llywodraeth yn hyrwyddo cyflog teg i weithwyr yn y trydydd sector? OQ58319
Peredur Owen Griffiths: Fel rydym yn ei ddweud yma heddiw, credaf ei bod yn bryd gwneud rhywbeth yn ei gylch, felly mae'n dda—[Torri ar draws.] Beth bynnag. Heb y ddeddfwriaeth, bydd llawer o gymunedau yng Nghymru wedi colli asedau cymunedol dros y degawd diwethaf. Gallaf roi enghraifft ddiweddar o rywle sydd i'w weld yn mynd i golli'r unig dafarn mewn cymuned fach iawn. Mae'r bobl y tu ôl i'r ymgyrch i achub y...
Peredur Owen Griffiths: Gwnaf, yn sicr.
Peredur Owen Griffiths: Mae'n wych gweld cymaint o gefnogaeth o bob rhan o'r Siambr. Mae'n siŵr bod cymuned yn bwysig lle bynnag yr ydych yn byw yn y byd. Efallai fy mod yn rhagfarnllyd, ond credaf fod y gymuned yn fwy arbennig byth i bobl sy'n byw yng Nghymru. Wrth ein natur, rydym yn bobl radlon, garedig ac anhunanol. Efallai mai dyna pam ein bod yn tueddu i chwilio am gysylltiadau cyffredin drwy deulu, ffrindiau...
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr am yr ateb.
Peredur Owen Griffiths: Mae'r rhan fwyaf o fy rhanbarth yn cynnwys cymunedau dosbarth gweithiol lle mae'r argyfwng costau byw i'w deimlo'n fwyaf difrifol. Roedd y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf y byddai cyfraddau llog ar fenthyciadau i fyfyrwyr yn cael eu capio ar 7.3 y cant i'w hatal rhag codi i 12 y cant yn drugaredd, ond yn un bach iawn er hynny. Mae cyfradd llog o 7.3 y cant yn dal i fod yn eithafol ac yn gwneud...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Weinidog. Mae llawer o ganol trefi yn fy rhanbarth yn ei chael hi'n anodd. Mae'r storm berffaith o ardrethi busnes uchel, y cynnydd mewn siopa ar-lein a'r argyfwng costau byw wedi gwneud y rhagolygon yn llwm i lawer o fasnachwyr. Er gwaethaf buddsoddiad o £900 miliwn yng Nghymru yn yr wyth mlynedd diwethaf, mae un o bob saith siop ar y stryd fawr yn parhau i fod yn wag yn ôl...
Peredur Owen Griffiths: 8. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i adfywio canol trefi yn Nwyrain De Cymru? OQ58220
Peredur Owen Griffiths: 9. Sut y mae'r Llywodraeth yn annog plant yn Nwyrain De Cymru i ddechrau addysg bellach? OQ58221
Peredur Owen Griffiths: Trefnydd, mae cwestiynau difrifol am ddyfodol gwasanaethau mentora cymheiriaid i bobl â phroblemau cyffuriau, alcohol ac iechyd meddwl yng Nghymru. Mae rhai yn y sector yn credu y gallai gwasanaethau chwalu yn ystod yr haf gan nad yw'r contract newydd wedi ei gynnig i dendro eto ac efallai na fydd ar waith tan fis Hydref neu fis Tachwedd eleni. Mae hyn yn golygu na fydd gwasanaethau mentora...