Luke Fletcher: A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar ymdrechion i gofrestru plant sy'n ffoaduriaid o Wcráin yn ysgolion Cymru?
Luke Fletcher: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw.
Luke Fletcher: Fel y gwyddom eisoes, mae Cymru mewn sefyllfa dda i chwarae rhan flaenllaw yn fyd-eang o ran ynni'r môr, gyda 1,200km o arfordir a hyd at 6GW o gapasiti cynhyrchu drwy botensial ffrwd tonnau a llanw. Os ydym am gyrraedd sero net erbyn 2050, neu efallai cyn hynny, mae angen i ni gynyddu'n aruthrol yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yng Nghymru. Dywedodd y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog mewn...
Luke Fletcher: —ond y pwynt yw hwn: y DU yw'r eithriad yma. Ie, ewch amdani.
Luke Fletcher: Diolch am eich ymyriad, Tom, ac unwaith eto, rydych yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod Fenis yn ei defnyddio i anghymell twristiaeth, ond dyna bwynt treth: mae'n ysgogiad i annog pobl naill ai i wneud rhywbeth a fydd yn gadarnhaol i'r gymuned neu i atal gweithgarwch negyddol. Dyna'r pwynt ynglŷn â threth, onid e? Gŵyr pob un ohonom mai dyna bwynt treth. Ac os ydym am ddefnyddio...
Luke Fletcher: Credaf y gall pob un ohonom gytuno bod yna fater y mae angen mynd i’r afael ag ef mewn perthynas â thwristiaeth, sef ei heffaith ar gymunedau lleol. Mae pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth i Gymru yn ddiamau, ond mae'n rhaid inni osgoi’r math o dwristiaeth echdynnol sy’n defnyddio Cymru fel adnodd. Mae pob un ohonom yn rhannu’r uchelgais o weld Cymru’n gyrchfan twristiaeth...
Luke Fletcher: Hoffwn i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar gymorth i ddarparwyr cludiant ysgol. Yn ddiweddar mae Pencoed Travel a Cresta Coaches wedi cysylltu â mi, sydd wedi codi pryderon ynghylch y cynnydd mewn costau tanwydd. Ers i'w contractau gael eu tendro'n wreiddiol, ym mis Mehefin y llynedd, mae costau tanwydd Pencoed Travel, er enghraifft, wedi codi 40 y...
Luke Fletcher: Yn gyntaf, fel aelod o’r pwyllgor, hoffwn ddiolch i’r rheini a roddodd dystiolaeth, ac wrth gwrs, i’r clercod, ac yn y blaen, am eu gwaith ar hyn ac am lunio'r adroddiad hwn. Ac wrth gwrs, diolch i Gadeirydd ein pwyllgor am ei waith ar hyn ac am gyflwyno'r adroddiad i'r Senedd heddiw. Hoffwn sôn am ddwy agwedd benodol ar yr adroddiad. Yn gyntaf, roedd y dystiolaeth a gawsom gan y...
Luke Fletcher: Diolch, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn falch o wybod mai dyma fy nghwestiwn olaf i chi heddiw. Mae Jonathan Ridd, cyfarwyddwr yn y parc ynni, wedi dweud y bydd yn rhaid i gwmnïau bach yn y parc dalu cost generaduron diesel yn awr er mwyn parhau i weithredu, gan ddweud y bydd rhai busnesau yn talu hyd at wyth gwaith yn fwy am ynni o ystyried y costau tanwydd cynyddol. Mae hyn yn ei dro yn...
Luke Fletcher: Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Mae'r pandemig COVID wedi arwain at newid dramatig yn y ffordd yr ydym yn gweithio. Er y bydd llawer o bobl bellach yn dychwelyd i'r swyddfa, bydd rhai gweithwyr yn dal i weithio gartref ac yn dod i arfer ag arferion gwaith newydd a mwy hyblyg. Er bod yr hyblygrwydd i'w groesawu, mae hyn wedi arwain at gymylu'r ffin rhwng yr amgylchedd gwaith a'r cartref mewn...
Luke Fletcher: Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn ei chael hi'n anodd derbyn nad yw prifddinas-ranbarth Caerdydd yn hyrwyddo cyflogau isel, ac wrth gwrs, yr esboniad a roddwyd gennych ddoe hefyd mewn ymateb i Paul Davies fod y ffordd yr adroddwyd ar y mater wedi'i gamliwio, maddeuwch i mi am ddweud fy mod yn credu nad yw hyn yn ddim byd mwy na thipyn o sbin. Fe ddarllenaf yn uniongyrchol o'r prosbectws:...
Luke Fletcher: —yn adlewyrchu’r duedd barhaus lle mae cyflogau yng Nghymru wedi aros yn eu hunfan ers llawer gormod o amser o dan Lywodraethau Llafur olynol. Ond rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, yn ei gyfnod yn y portffolio, yn mynd yn groes i’r duedd hon, ac rwy'n golygu hynny o ddifrif. Ond sut y mae'n argymell y dylem fynd i'r afael â'r draen dawn pan fo cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn hyrwyddo...
Luke Fletcher: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, gwrandewais â chryn ddiddordeb ar eich ymateb i Paul Davies, ddoe a heddiw, ar frolio cwbl warthus prifddinas-ranbarth Caerdydd fod cyflogau graddedigion yn gymharol is yng Nghaerdydd o gymharu â chymheiriaid mewn mannau eraill yn y DU. Er eu bod i fod i ddenu mewnfuddsoddwyr i'r rhanbarth, mae'r sylwadau hyn yn sarhau ein talent ifanc, gan eu trin fel dim...
Luke Fletcher: 6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch annog busnesau i flaenoriaethu iechyd a lles yn y gweithle? OQ57836
Luke Fletcher: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd penderfyniad yr Uchel Lys mewn perthynas â pharc ynni Baglan yn ei chael ar fusnesau? TQ611
Luke Fletcher: Os caf i ddechrau ar swyddogaeth cwmnïau cydweithredol, cafodd Cymru ei tharo'n wael gan y pandemig oherwydd ei thlodi incwm cymharol o'i chymharu â gwledydd eraill y DU. Gwyddom ni yr effeithiwyd fwyaf ar y cymunedau tlotaf, gyda'r rheini mewn cyflogaeth â chyflog isel ac ansicr y mwyaf tebygol o gael eu rhoi ar ffyrlo neu o golli eu swyddi. Wrth i ni geisio gwella o ddifrod economaidd y...
Luke Fletcher: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Weinidog, am eich datganiad. Does dim amheuaeth bod y ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn her i'r economi, felly mae'n bwysig nawr ein bod ni'n edrych at y dyfodol er mwyn cryfhau'r economi a gobeithio diogelu yn erbyn y dyfodol y gorau rydyn ni'n gallu. Mae yna bethau i'w croesawu, wrth gwrs. Fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, mae'n...
Luke Fletcher: Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gwtogi cadwyni cyflenwi yng Nghymru?
Luke Fletcher: Rydym wedi siarad yn y Siambr hon am addysg fel cydraddolwr; gydag addysg wych, beth bynnag yw eich cefndir, yn ddamcaniaethol, gallwch gyflawni beth bynnag y penderfynwch chi ei gyflawni. Nawr, mae llawer i'w ddweud am y datganiad hwn, yn enwedig ar y pwnc penodol yr ydym yn ei drafod heddiw. Tybir bod ysgolion yn fannau teg, lle mae potensial pawb yn cael ei feithrin yn gyfartal. Ac nid wyf...
Luke Fletcher: Rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol o'r gwaith gan Sefydliad Bevan ar y system budd-daliadau Cymreig. Eu dadansoddiad nhw o'r sefyllfa bresennol yw er bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig lefelau digynsail o gefnogaeth, mae ymdrechion yn cael eu tanseilio gan y ffordd gymhleth y mae cymorth yn cael ei weinyddu. Mae'r sefydliad yn dadlau y byddai angen i deulu incwm isel sydd â dau o blant...