Jane Hutt: Wel, wrth gwrs, dwi'n siŵr y byddech yn ymuno â mi, Mohammad Asghar, wrth ddilorni polisïau gwrth gyni parhaus Llywodraeth y DU, sy’n arwain at benderfyniadau cyllidebol anodd, anodd y mae'n rhaid inni eu gwneud. Wrth gwrs, mae hynny'n cael effaith ar ein hawdurdodau lleol hefyd. Rydych yn tynnu sylw at rai o effeithiau hynny a'r anawsterau o ran blaenoriaethau. Gwn y byddwch hefyd yn...
Jane Hutt: Rwy'n credu ein bod wedi cael llawer o ddadleuon defnyddiol yn ddiweddar, Mike Hedges, yn arbennig yn edrych ar, fel y dywedwch—. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn edrych arno ar draws iechyd meddwl, gordewdra, a gweithgaredd corfforol. Rwy'n credu bod adroddiad y prif swyddog meddygol yn bwysig iawn. Mae’n rhaid i fyw yn iach fod yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru. Rydych chi bob...
Jane Hutt: Rwy’n meddwl, Steffan Lewis, bod eich pwynt am y bygythiad i—wel, yn wir, fe gafodd ei gau, yn anffodus—yr ased cymunedol, y sinema yn eich rhanbarth chi, yn bwysig iawn. O ran perchnogaeth y sinema, dydw i ddim yn ymwybodol—rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet ac, yn wir, bydd yr awdurdod lleol, rwy'n siŵr, yn ymwybodol o hyn. Mae hwn yn rhywbeth sy’n fwy anodd, os yw yn y...
Jane Hutt: Wel, Darren Millar, wrth gwrs, er mwyn cyflawni yn erbyn y pwysau, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, yn ein gwasanaethau iechyd, yna, ar adegau, mae’n rhaid i fyrddau iechyd wneud defnydd o ymgynghorwyr i sicrhau ein bod yn ymateb ac yn darparu'r gwasanaeth gorau i'n cleifion. O ran eich ail bwynt, ydym, rydym i gyd yn croesawu mentrau fel yr un y tynnodd Jo Stevens ein sylw ati yn ei...
Jane Hutt: Lywydd, mae gennyf nifer o newidiadau i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Yn syth ar ôl y datganiad busnes hwn, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn gwneud datganiad am ddyfarniad y Goruchaf Lys y bore yma ar erthygl 50, ac ar ôl hynny bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad am ‘Sicrhau Dyfodol Cymru' a'r newid o’r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd gydag Ewrop. Er mwyn darparu ar gyfer...
Jane Hutt: Wel, yn amlwg, mae’r digwyddiad hwnnw’n codi pryder mawr, nid yn unig i'r bobl sydd wedi’u heffeithio, ond o ran hyfywedd y seilwaith yn y tymor hir. Byddaf yn sicr yn rhannu hyn ag Ysgrifennydd y Cabinet i’w ystyried. Rwyf eisoes wedi crybwyll amddiffynfeydd arfordirol, ond o ran ein buddsoddiad—ein buddsoddiad mwyaf erioed—mewn rhaglenni atal llifogydd o ansawdd uchel ar draws...
Jane Hutt: Mae Vikki Howells yn codi mater pwysig iawn o ran ein polisi llwyddiannus iawn ar gyfer nofio am ddim, nid dim ond i blant ond i bobl hŷn hefyd, pobl dros 60 oed, ac mae’r grŵp oedran hwnnw yn gwneud defnydd da ohono. Ond mae'n werth myfyrio, ac, mewn gwirionedd, mae Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gofyn i'w swyddogion ystyried y ffaith y bu gostyngiad yn...
Jane Hutt: Rwy'n ymwybodol iawn, Darren Millar, o’ch pryder ynglŷn â’r cwestiwn cyntaf, sydd wir yn ymwneud ag amddiffynfeydd arfordirol. Yn eich etholaeth chi, yn Hen Golwyn yn arbennig, rydym yn paratoi ar gyfer buddsoddiad gwerth £150 miliwn gydag awdurdodau lleol, fel yr ydych chi’n ymwybodol, mewn prosiectau rheoli risg arfordirol a hefyd yn cefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu achosion...
Jane Hutt: Rwy'n credu bod y mater yn ymwneud â pharcio mewn ysbytai yn fater sydd, wrth gwrs, wedi achosi peth pryder, nid yn unig i gleifion ac aelodau staff, ond gwn fod y bwrdd iechyd wedi ymdrin â hyn.
Jane Hutt: Wrth gwrs, bu Mike Hedges yn cefnogi môr-lynnoedd llanw, ochr yn ochr â Simon Thomas a Llywodraeth Cymru. Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n penderfynu ar y cais am drwydded forol. Ceir cefnogaeth drawsbleidiol, yn fy marn i, ac yn amlwg yn awr mae angen i ni fwrw ymlaen â hyn, ond yn sicr mater i Cyfoeth Naturiol Cymru yw hwn. Gadewch i ni eto ystyried y potensial arbennig y mae’r sector...
Jane Hutt: Mae Andrew R.T. Davies yn codi dau bwynt pwysig, ac, wrth gwrs, rwy’n croesawu'n fawr y ffaith eich bod chi’n cydnabod bod hwn yn gynnydd sylweddol o ran ardrethi busnes. Mae’i bwysigrwydd, yn fy marn i, yn fwy na’r rhyddhad trosiannol o £10 miliwn. Wrth gwrs, cafodd yr ymgynghoriad effaith a gwyddom fod etholwyr a busnesau ledled Cymru wedi ymateb. Wrth gwrs, rhoddir sylw ar hyn...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Simon Thomas. Mae'r ddau gwestiwn hynny yn rhai pwysig iawn. Wrth gwrs, rydym ni’n croesawu'n fawr iawn, a chroesawodd Llywodraeth Cymru, y ffaith bod adolygiad Charles Hendry yr wythnos diwethaf yn cefnogi'r achos dros ddatblygu diwydiant ynni morlyn llanw yn y DU. Ac, wrth gwrs, mae hyn wedi’i gefnogi’n fawr gan ein rhaglen lywodraethu newydd, ‘Symud Cymru Ymlaen',...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Lywydd. Mae gennyf un newid i'w adrodd i fusnes yr wythnos hon. Rwyf wedi lleihau'r amser a ddyrennir i gwestiynau Llafar y Cynulliad gan y Cwnsler Cyffredinol yfory, ac mae busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad a’r cyhoeddiad busnes a geir ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar iawn i Joyce Watson am roi’r cyfle i drafod yr heriau sy’n ein hwynebu wrth fynd i’r afael ag unigrwydd yn ein cymunedau yng Nghymru. Yn draddodiadol, mae ein cymunedau wedi bod, ac yn parhau i fod yn llefydd lle y mae pobl yn cadw llygad ar ei gilydd ac yn helpu ei gilydd. Ond wrth i gymdeithas newid, mae nifer cynyddol o bobl yn...
Jane Hutt: Diolch.
Jane Hutt: Diolch i chi, Russell George. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gallu ymateb yn gadarnhaol i’ch cwestiwn cyntaf. O ran eich ail gwestiwn, rwyf o’r farn ei fod yn fater o egluro beth yw'r rhesymau dros yr achos hwnnw o ganslo, oherwydd, yn amlwg, fel y dywedasoch, ceir ymateb cadarnhaol iawn i'r defnydd o'n coedwigoedd ar gyfer y pencampwriaethau hyn, sydd yn cael eu croesawu. Ond, mae...
Jane Hutt: Rwy'n falch o wybod eich bod chi’n croesawu datganiad ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet, sy’n egluro nifer o bwyntiau yr ydych wedi'u codi gydag ef. Gwn y bydd cyfleoedd a chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ac yn wir, rwy'n siŵr, mewn ymddangosiadau yn y pwyllgor, yn ogystal, ar y mater hwn.
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Suzy Davies, am y tri chwestiwn yna, a diolch i chi am groesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn wir wedi cyhoeddi’r cynllun rhyddhad ardrethi annomestig newydd, ychwanegol hwnnw ar gyfer y stryd fawr—rhan o gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru a osodwyd ar 20 Rhagfyr. Rwy’n gwybod ei fod wedi cael croeso mawr. Mae hyn yn mynd i gael...
Jane Hutt: Diolch i Jeremy Miles am dynnu ein sylw at hyn. Wrth gwrs, bydd yr Aelodau'n ymwybodol y bydd yr ardoll prentisiaethau yn cael ei thalu gan unrhyw sefydliad sydd â chyflogres o dros £3 miliwn y flwyddyn. Treth gyflogaeth yw’r ardoll. Fe’i cyflwynwyd gan Senedd San Steffan; mae'n berthnasol i'r DU gyfan. Yng Nghymru, cynhelir yr ysgolion gan awdurdodau lleol, wrth gwrs, ac felly, bydd...
Jane Hutt: Wel, diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Yn dilyn ymchwiliadau cychwynnol i honiadau ynghylch camddefnydd posibl o arian cyhoeddus yn NSA Afan, rydym wedi atal arian cyllido tra cynhelir mwy o ymchwiliadau. Rydym yn archwilio ffyrdd o ddiogelu darpariaeth gwasanaethau, yr ydych chi’n ei godi. Ond mae'n bwysig inni gyflawni ein dyletswydd i amddiffyn arian trethdalwyr rhag cael ei...