Baroness Mair Eluned Morgan: Roeddwn yn meddwl tybed a fyddech hefyd yn ymrwymo'r Llywodraeth nad ydych yn rhan ohoni—fe wnaethoch ymrwymo i hyn yn ystod ymgyrch y refferendwm—i dalu £350 miliwn yr wythnos tuag at y GIG hefyd.
Baroness Mair Eluned Morgan: Beth sy'n digwydd ar ôl hynny?
Baroness Mair Eluned Morgan: A gaf i ddiolch yn fawr, yn gyntaf oll, i Gadeirydd y pwyllgor am arwain ein trafodaethau ni yn y pwyllgor? A hefyd, ar safon ei Gymraeg ef, mae e wedi cadw safon ei Gymraeg yn dawel iawn ers i fi fod yma, felly llongyfarchiadau i chi ar hynny. Now, what's interesting about this report is that this report was drafted against an ever-changing backdrop; it was constantly moving. So, from the...
Baroness Mair Eluned Morgan: A wnaiff yr Ysgrifennydd busnes wneud datganiad ar y broses benodi ddiweddar ar gyfer Esgob Llandaf yng ngoleuni adroddiadau y cafodd Jeffrey John, Deon presennol St Albans, ei wrthod i’r swydd ar sail ei gyfeiriadedd rhywiol, er gwaethaf cefnogaeth y rhan fwyaf o'r coleg etholiadol a chefnogaeth unfrydol etholwyr Llandaf? Er fy mod i, wrth gwrs, yn deall y ceir proses o ddirnadaeth...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Mae pobl eraill eisoes wedi cyfeirio at adroddiad Demos a gyhoeddwyd ddoe a awgrymodd—fel yr ydym ni’n gwybod eisoes—y bydd effaith gadael yr UE yn fwy sylweddol ar Gymru nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Rydym ni wedi gweld o weithredoedd diweddar Theresa May fod y Torïaid yn blaid o addewidion a dorrwyd. Mae David Davis, y Gweinidog Brexit, wedi dweud ei fod eisiau...
Baroness Mair Eluned Morgan: 8. Yn dilyn tanio Erthygl 50, pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog yn bwriadu eu cael â Llywodraeth y DU ynghylch sefydlu marchnad sengl i'r DU? OAQ(5)0537(FM)
Baroness Mair Eluned Morgan: Fe fydd y Gweinidog yn ymwybodol o’r effaith trawsnewidiol mae Coleg Harlech wedi ei gael ar gymaint o fyfyrwyr dros y blynyddoedd, lle maen nhw wedi cael ail gyfle i gydio ym myd addysg. A ydy’r Gweinidog yn gallu cadarnhau os oes yna unrhyw drafodaeth wedi bod gyda WEA—Addysg Oedolion Cymru o ran defnydd yr adeilad yn y dyfodol, ac os oes yna unrhyw drafodaeth wedi bod gydag...
Baroness Mair Eluned Morgan: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau na fydd y bwriad i gau Coleg Harlech yn arwain at golli argaeledd unrhyw gyrsiau ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion? OAQ(5)0098(EDU)
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae ffigurau o fanc Lloyds wedi dangos bod 40 y cant yn llai o fusnesau wedi cael eu sefydlu yn y pum mlynedd diwethaf yma yn sir Benfro, Gwynedd, Ceredigion a sir Fôn, i gymharu gyda chwymp o 26 y cant ar draws Cymru ac 20 y cant yn Lloegr. A ydy’r Prif Weinidog yn fodlon edrych i fewn i’r rhesymau pam fod y ffigurau mor wahanol yn y siroedd gorllewinol o’u cymharu, yn nodweddiadol,...
Baroness Mair Eluned Morgan: A gaf i ddiolch yn fawr i Paul Davies am arwain y drafodaeth yma ar gefnogi Tyddewi a chantref Bro Dewi i fod yn ddinas diwylliant Prydain yn 2021? Rwy’n meddwl eich bod chi wedi rhoi ‘pitch’ arbennig o dda heddiw, ac nid ydw i’n gweld pam y byddai neb yn ei droi i lawr. Fel rhywun sydd â’i gwreiddiau teuluol yn mynd yn ôl 400 o flynyddoedd yn Nhyddewi, byddai neb yn fwy balch na...
Baroness Mair Eluned Morgan: A allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud pa un a fyddai’n bosibl addasu’r rhaglen, hyd yn oed ar y cam diweddar hwn, er mwyn, er enghraifft, ehangu’r defnydd o offerynnau ariannol yn y rhaglen, gan ddarparu cyfleusterau benthyca pellach i fusnesau mewn cymunedau gwledig, a allai gael eu hailddosbarthu yn yr economi ar ôl Brexit?
Baroness Mair Eluned Morgan: 4. I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried addasu ei chynllun datblygu gwledig yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0112(ERA)
Baroness Mair Eluned Morgan: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Fe wnaf i orffen yn fanna.
Baroness Mair Eluned Morgan: Gadewch i mi ddweud wrthych am TB gwartheg. Ydych chi'n gwybod o ble y daw'r iawndal i dalu ffermwyr o ran TB gwartheg? Mae'n dod o Ewrop. A ydych yn addo gwneud iawn am hynny hefyd? Dewch ymlaen. Mae'n rhaid i chi beidio â thwyllo eich hun a deall eich bod wedi gwneud addewidion nad oes modd eu cadw i’r ffermwyr hynny. Last night in Westminster, the Government refused even to agree...
Baroness Mair Eluned Morgan: A gaf i longyfarch y Prif Weinidog ar y Papur Gwyn ac ychwanegu y byddaf i’n cefnogi'r cynnig heddiw, er fy mod yn gresynu at y ffaith nad yw’n cyfeirio’n benodol at gynnal safonau cymdeithasol ac amgylcheddol yr UE pan fyddwn yn gadael yr UE? Mae’r cyhoedd yng Nghymru yn haeddu sicrwydd ar faterion sy'n ymwneud â hawliau gweithwyr a gwarchod yr amgylchedd, ac mae'n drueni nad oedd...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch i’r Ysgrifennydd am ei ymateb, a diolch i Angela hefyd am ddod â sylw’r tŷ yma i’r achos yma. Roedd yn siom i weld yr wythnos yma bod y panel diwydiannau creadigol wedi dweud y byddai datblygu Yr Egin yn tanseilio hwb cyfryngau tebyg yn Abertawe. Ond mae wedi dod i’n sylw i nad yw, er enghraifft, gyfarwyddwr Telesgop, sef y cwmni cyfryngau mwyaf sy’n gweithredu drwy gyfrwng...
Baroness Mair Eluned Morgan: Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol fy mod i, yr wythnos diwethaf, wedi dod â grŵp o unigolion ynghyd sydd â hanes o gyflawni yng Nghymru wledig i gyflwyno’r achos dros ddatblygu strategaeth datblygu economaidd benodol ar gyfer Cymru wledig. Er bod y model dinas-ranbarth yn fodel a allai weithio i sawl rhan o'r wlad, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno nad yw o reidrwydd yn fodel sy'n...
Baroness Mair Eluned Morgan: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0423(FM)
Baroness Mair Eluned Morgan: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd?