Jane Hutt: Rwy'n credu bod y pwynt a wnewch am oedolion yn arbennig sydd ag anawsterau dysgu yn bwysig. Rydym wedi ymrwymo, ac mae hwn yn gyfle i ailddatgan—yn Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru gyfle i gael mynediad at ein system addysg. Wrth gwrs, pan nodir darpariaeth arbenigol, mae Gweinidogion yn ystyried ceisiadau ac yn gwneud pob ymdrech i ymateb mewn modd...
Jane Hutt: Mae Lynne Neagle yn codi pwynt pwysig iawn, a dyma gyfle i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ystyriaeth Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru. Maen nhw’n cwblhau, yr wyf ar ddeall, gwmpas ac amserlenni o ran gwerthuso Avastin. Ac, wrth gwrs, dyma sefyllfa lle y gwyddom fod cyfle i wneud ceisiadau drwy'r broses ceisiadau cyllido cleifion unigol, ar ran cleifion. Ond rwy'n credu...
Jane Hutt: Wel, mae Mark Isherwood yn codi pwynt pwysig, gan gynrychioli ei etholwyr yn y gogledd, yn arbennig o ran Canolfan Merched Gogledd Cymru a'i harbenigedd. Rwyf innau wedi cwrdd â phobl pan oedd gennyf gyfrifoldeb gweinidogol, i sicrhau bod eu lleisiau, eu profiadau ac anghenion y merched y maen nhw’n eu cynrychioli ac yn eu cefnogi yn cael eu clywed a’u bod yn dylanwadu, nid yn unig ar...
Jane Hutt: Diolch, Simon Thomas. O ran eich cwestiwn cyntaf, ynglŷn â chyllid ar gyfer yr ardoll prentisiaethau, byddwch yn gwybod, ac adroddwyd yn ôl arno mewn cwestiynau a godwyd gyda'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, am drafodaethau helaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU ers cyhoeddi'r ardoll prentisiaethau. Rwy'n credu bod angen edrych yn ofalus ar y...
Jane Hutt: Mae Mike Hedges yn codi pwynt pwysig, lle y mae angen i ni gyfeirio at y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol o ran mesurau i sicrhau bod rhanbarth Bae Abertawe wedi’i gysylltu, fel y dywedwch, o ran agor gorsafoedd trenau lle bo hynny'n briodol, gan sicrhau, yn bennaf, fod gennym rwydwaith trafnidiaeth dibynadwy, modern ac integredig. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn gwybod...
Jane Hutt: Mae Paul Davies yn codi mater pwysig iawn, ac yn wir, fel yr ydych wedi’i ddweud, mae’r achosion hyn o gau canghennau, sydd yn benderfyniadau masnachol gan fanciau, yn cael effaith negyddol iawn ar y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rwyf ar ddeall nad oes disgwyl cau y tri Banc Lloyds yr ydych yn cyfeirio atyn nhw yn eich etholaeth chi yn Sir Benfro tan y gwanwyn nesaf, felly rwy'n...
Jane Hutt: Diolch am y cwestiwn hwnnw. Yn wir, codwyd hyn rai wythnosau yn ôl mewn datganiad busnes a oedd yn edrych ar brofiad Glasgow o sefydlu uned o'r fath. Mi wnes i roi sicrwydd i’r Aelodau bryd hynny y byddem yn edrych ar ganlyniadau’r prosiect hwnnw ac yn rhoi ystyriaeth i brofiadau’r cymdogaethau a’r cymunedau, ac yn wir y plant a’r bobl ifanc sy’n agored i niwed, yn y sefyllfa honno.
Jane Hutt: Lywydd, rwyf wedi egluro teitl datganiad yr Ysgrifennydd addysg ar y strategaeth genedlaethol ar gyfer ysgolion bach a gwledig y prynhawn yma, ac rwyf wedi ychwanegu datganiad llafar ar gyflogadwyedd at yr agenda heddiw. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y mae wedi'i nodi yn y datganiad a’r cyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.
Jane Hutt: Cynnig yn ffurfiol.
Jane Hutt: Credaf fod David Rees unwaith eto yn codi pwynt pwysig iawn i’w gofio heddiw, a'r ffaith mai ar 8 Tachwedd 2001 y ffrwydrodd ffwrnais chwyth Rhif 5 Corus UK Limited ym Mhort Talbot, gyda chanlyniadau trasig a bu farw tri o weithwyr Corus. Credaf mai effaith y digwyddiadau trasig hynny y dymuna pob un ohonom eu cofio heddiw. Unwaith eto, ni wnaeth Prif Weinidog y DU—ni wnaeth unrhyw...
Jane Hutt: Diolchaf i Julie Morgan am y cwestiwn yna, gan ychwanegu ei chefnogaeth i Bashir Nadir a hefyd am gydnabod y codwyd hyn yr wythnos diwethaf yn y Siambr. Roeddwn i’n gallu mynegi ein pryderon. Mae hwn yn fater nad yw wedi ei ddatganoli, ond rydym yn gyfrifol am y bobl sy'n byw yn ein cymunedau ac yn pryderu amdanynt ac rydym yn barod iawn i groesawu ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng...
Jane Hutt: Mae hwn yn fater pwysig iawn, ac yn wir, rydych chi wedi dangos pa mor llwyddiannus y bu o ran y prentisiaethau sector cyhoeddus hynny mewn un awdurdod lleol, ond, wrth gwrs, gellir adlewyrchu hyn ledled Cymru. Mater i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw sut y maen nhw’n rheoli yr hyn sy’n gyfnod anodd iawn o ran cyni, ond, wrth gwrs, wrth i ni symud ymlaen â'r gyllideb ddrafft ar...
Jane Hutt: Mae’r Aelod dros Ganol Caerdydd yn codi dau bwynt pwysig iawn. Mae'r cyntaf, wrth gwrs, yn ymwneud â sut y gallwn ni annog cynnydd mewn cyflenwi a bwyta llysiau a ffrwythau. Mae hyn i gyd yn rhan o'r ymagwedd cadwyn gyflenwi integredig sydd gan Lywodraeth Cymru gyda chynhyrchwyr, gan weithio gyda chynhyrchwyr, manwerthwyr, a'r sector gwasanaethau bwyd. Ond mae hyn hefyd yn cysylltu â'n...
Jane Hutt: Mae Bethan Jenkins yn codi pwynt pwysig. Cafodd ei godi, mi wn, ddoe yn y pwyllgor materion allanol. Gwn fod y Prif Weinidog wedi ymateb i'r pwynt a wnaed am y ffaith bod Theresa May wedi methu â chyflawni’r cyfarfod cyswllt hollbwysig hwn â Tata Steel yn ystod ei hymweliad ag India. Mae David Rees yn sicr wedi ei godi hefyd. Dywedodd y Prif Weinidog fod hyn yn anffodus—byddwn yn...
Jane Hutt: Wrth gwrs, mae Andrew RT Davies yn gwybod, ac wedi cymryd rhan mewn, datblygu deddfwriaeth flaengar iawn o ran cynllunio, ond, wrth gwrs, nodaf ei bwynt, ac rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ymateb os gofynnir cwestiwn ar yr adeg briodol.
Jane Hutt: Lywydd, rwyf wedi ychwanegu datganiadau llafar y prynhawn yma ar ‘Ymyrraeth Erthygl 50’ a ‘Band Eang Cyflym Iawn—Y Camau Nesaf’. Mae’r amseroedd a neilltuwyd i eitemau eraill ar yr agenda wedi eu newid o’r herwydd, ac, yn olaf, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ohirio dadl fer yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a’r cyhoeddiad...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Neil McEvoy. Rwyf yn credu bod fy ymateb i Jenny Rathbone wedi dangos yn glir iawn ein cefnogaeth fel Llywodraeth Cymru, ond unwaith eto, mae'n galonogol iawn gweld bod gennym Aelodau yn ein Cynulliad sy'n gallu gwneud y pwyntiau hyn. Er, wrth gwrs, nad oes gennym y cyfrifoldeb am fewnfudo, mae gennym gyfrifoldeb i leisio ein barn am effaith y polisi mewnfudo a sut y...
Jane Hutt: O ran eich pwynt cyntaf, Nick Ramsay, diolch i chi am groesawu'r datganiad dan embargo ar y ganolfan gofal critigol arbenigol ac rwy'n siwr y byddwch yn gofyn cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet ymhen ychydig funudau. Eich ail bwynt—ychydig mwy am ein rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Bydd yn arbed busnesau bach yng Nghymru rhag gorfod talu £100 miliwn mewn treth, bydd o fudd i gyfran fwy...
Jane Hutt: Mae gennym arfer, sydd wedi gweithio am flynyddoedd lawer, lle'r ydym yn darparu’r datganiadau llafar cyn iddynt gael eu gwneud. Rwy'n credu bod hwnnw yn gwrteisi y mae ein rheolwyr busnes yn ei groesawu. Ac os oes oedi, yna’n amlwg mae hynny'n destun gofid, a byddwn yn amlwg yn awyddus i glywed am unrhyw oedi o'r fath. Ond darperir yr holl ddatganiadau llafar drwy'r rheolwyr busnes,...
Jane Hutt: Rwy'n ddiolchgar i Jenny Rathbone am ddod â’r pwyntiau yna i'n sylw yn y datganiad busnes heddiw. Diolch i chi am dynnu ein sylw at yr achos, ac rwy'n siŵr bod llawer ohonom wedi darllen amdano, ynghylch Bashir Naderi, ac mae'n galonogol gweld y gefnogaeth yn y gymuned ac sy'n cael ei mynegi yn y cyfryngau lleol i Bashir Naderi a'r gefnogaeth y mae wedi’i chael gan ei fam faeth a'i...