Ken Skates: Onid yw’n wir eich bod wedi ymgyrchu yn erbyn y cynllun hwnnw?
Ken Skates: Dyma’n rhannol yr oeddwn yn mynd i ddod ato yn fy mhwynt olaf: elfen strwythurol bwysig economi Cymru sy’n rhaid ei datrys yn rhan o strategaeth economaidd newydd. Mae angen i ni sicrhau bod cynhyrchiant yn cynyddu. Mae angen i ni sicrhau bod ein sylfaen weithgynhyrchu, yn arbennig, yn cael ei diogelu at y dyfodol yn erbyn awtomeiddio. Ac yn hanfodol, o ran osgoi cymunedau noswylio, ein...
Ken Skates: Mewn munud. Rwy’n awyddus iawn, o ran cefnogi canolbarth Cymru, i edrych ar sut y gallwn hybu gweithgareddau Tyfu Canolbarth Cymru, sy’n bartneriaeth bwysig. Yn sicr, mewn perthynas â bargen dwf ar gyfer canolbarth Cymru, byddwn yn awyddus iawn, fodd bynnag, i weld beth y mae Llywodraeth y DU, beth bynnag fydd yn digwydd ar ôl 8 Mehefin, yn bwriadu ei gyflwyno mewn gwirionedd yn rhan o...
Ken Skates: Wrth gwrs, gwnaf.
Ken Skates: Llawer iawn o fisoedd—a dwy flynedd, yn wir. Hoffwn ddiolch i Mark Reckless am arddel safbwynt cyson iawn ar y mater hwn ei hun? Nid yw wedi arddel safbwynt mor gyson ynglŷn â pha blaid wleidyddol y dylai fod yn aelod ohoni, ond ar y mater hwn, mae wedi parhau’n gyson iawn yn wir. Gan droi at ein blaenoriaethau ar gyfer gogledd Cymru, dylwn ddweud fy mod yn falch iawn o allu bod yn...
Ken Skates: Diolch, Llywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau ar draws y Siambr am eu cyfraniadau heddiw ac am roi cyfle i mi ymateb i’r ddadl hon? Fel Llywodraeth, rydym yn gwbl benderfynol o ledaenu ffyniant, twf a chyfle ledled Cymru i greu ffyniant i bawb, a dyna yw’r sylfaen ar gyfer y gwaith o adnewyddu ein strategaeth economaidd a datblygu economi pob rhanbarth. Mae tollau pontydd...
Ken Skates: Yn ffurfiol.
Ken Skates: A gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau, a dweud, yn y bôn, bod cyflwyno safonau cenedlaethol â’r nod o sicrhau bod cerbydau o ansawdd cyson ledled Cymru? Ac felly, boed yn ddwywaith y flwyddyn neu bedair gwaith y flwyddyn, rwy’n meddwl mai beth sydd yn hanfodol bwysig yw bod cerbydau yn cael eu cynnal a’u cadw’n briodol ac i safon ofynnol glir a thryloyw iawn yn seiliedig,...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei ddau gwestiwn ac am y cyfraniad y mae wedi ei wneud at y drafodaeth hon? Mae 9,200 o yrwyr â thrwyddedau sy'n gweithredu ledled Cymru. Mae llawer mwy o bobl sy'n cael eu cyflogi yn y sector, boed hynny fel gweithredwyr ffôn neu o fewn adnoddau dynol y cwmnïau mwy o faint. Felly, mae'n gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru, yn enwedig i economi’r...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i Gareth Bennett am ei gwestiynau a’i sylwadau? Mae'n gwneud nifer o bwyntiau pwysig, a chroesawaf yn fawr y ddeiseb a gyflwynwyd gan Whizz-Kidz yn ymwneud â mynediad at gludiant cyhoeddus, gan ganolbwyntio'n benodol ar dacsis a cherbydau hurio preifat. Rhoddais dystiolaeth yn ddiweddar i'r Pwyllgor Deisebau, pryd yr amlinellais sut yr wyf yn disgwyl i newid gael ei...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei phwyntiau pwysig iawn? Tynnwyd ein sylw yn ddiweddar bod trwyddedau wedi cael eu gwrthod i rai gyrwyr yn Southend, ac aethant ymlaen wedyn at Transport for London a chael trwydded oddi wrthyn nhw. Bellach maent yn gweithredu yn Southend, y tu allan i awdurdodaeth Transport for London. Mae Uber, nad ydynt yn cael rhoi trwyddedau i lefydd fel Reading, Hatfield...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a'i gyfraniad? Rwy'n cytuno’n llwyr. Rwy'n credu bod gyrwyr tacsi a gyrwyr cerbydau hurio preifat neithiwr ym Manceinion wedi gweithredu’n gyson, yn anhunanol ac yn allgarol. Hoffwn gofnodi fy niolch iddynt am ddangos i’r diwydiant ledled y DU pa mor werthfawr ydynt i’n gwlad. Fy nghred i yw ein bod yn gwneud y gorau o'r pwerau hynny yr...
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau, a byddaf yn dechrau gyda’r pwynt olaf un. Ie, ein bwriad yw ymgorffori gwell hyfforddiant o fewn safonau cenedlaethol ar gyfer pob gyrrwr tacsis a cherbydau hurio preifat i sicrhau bod cysondeb ar draws yr holl wasanaethau. Rwy'n credu mai un o fanteision mawr ein cynigion yw y bydd yn dod â chyfundrefn brisiau sy'n gyson ar draws yr holl...
Ken Skates: Diolch, Llywydd. Mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn nodi sut y byddwn yn darparu mwy o swyddi a gwell swyddi drwy economi gryfach a thecach, yn gwella a diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus, ac yn adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy. Cynlluniwyd ein rhaglen lywodraethu i hyrwyddo ein hamcanion ymhellach dan Ddeddf lles cenedlaethau'r dyfodol. Mae hyn yn gofyn i ni feddwl...
Ken Skates: Ar 28 Chwefror, dechreuodd Trafnidiaeth Cymru ail ymgynghoriad cyhoeddus ar y canlyniadau i'w cyflawni fel rhan o fasnachfraint nesaf Cymru a'r gororau. Bydd y fasnachfraint hon yn moderneiddio rheilffyrdd craidd y Cymoedd fel rhan o fetro’r de-ddwyrain. Bydd yn cefnogi datblygiad metro’r gogledd-ddwyrain a bydd hefyd yn gwella ein gwasanaethau rheilffyrdd rhanbarthol ar draws ardal...
Ken Skates: Oedd.
Ken Skates: Credaf y bydd y gwaith a gyflwynwn fel Llywodraeth yn darparu ffyniant i bawb—ffyniant i’r Cymoedd, ffyniant i bob cymuned ar draws y Cymoedd. Dirprwy Lywydd, rydym yn deall bod Cymoedd de Cymru angen, ac yn wir yn haeddu bod yn ganolog i ffocws y Llywodraeth. O dan y Llywodraeth hon, fe fyddant.
Ken Skates: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw, a hefyd am roi cyfle i mi ymateb. Hoffwn ailadrodd penderfyniad absoliwt Llywodraeth Cymru i ledaenu ffyniant i bob rhan o Gymru, gan gynnwys Cymoedd de Cymru. Ein dyhead yw creu ffyniant i bawb. Nawr, fel y gŵyr yr Aelodau, rydym ar hyn o bryd yn gwneud gwaith i adnewyddu ein strategaeth economaidd...
Ken Skates: Yn ffurfiol.
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn, a diolch i’r Aelod hefyd am fy nghroesawu’n ddiweddar i un o’i fforymau—fforwm economaidd canolbarth a gorllewin Cymru—a oedd yn hynod ddiddorol, ac sy’n sicr wedi cyfrannu at fy syniadau ynglŷn â’r agenda datblygu economaidd ranbarthol newydd sy’n seiliedig ar le, a grybwyllwyd gennyf yn y gorffennol yn y Siambr hon ac mewn...