Jane Hutt: Diolch yn fawr, Dai Lloyd. Eich pwynt cyntaf: wrth gwrs, rydym wedi lansio—mae'r Prif Weinidog wedi lansio—ymgyrch fawr newydd i hyrwyddo Cymru fel lle ardderchog ar gyfer meddygon, gan gynnwys meddygon teulu a'u teuluoedd, i hyfforddi, gweithio a byw ynddo. Mae hynny'n ymrwymiad clir sydd yn ein rhaglen lywodraethu. Mae eich pwynt yn un da o ran y rhai sydd eisoes yn ymarfer yn...
Jane Hutt: Mae’r Aelod yn codi mater pwysig iawn. Yn amlwg, mae'n rhaid i ni ddysgu gwersi o rannau eraill o'r DU. Rwy’n credu y byddwn wedi darllen am y datblygiad hwnnw yn Glasgow. Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth y mae swyddogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet—oherwydd nid yw’n ymwneud â dim ond un Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n sicr yn gyfrifoldeb ar draws y Llywodraeth—. Rwy'n siŵr y bydd...
Jane Hutt: Diolch i chi, Julie Morgan, am godi'r cwestiwn pwysig iawn yna, oherwydd rwyf yn siŵr ein bod i gyd yn croesawu'r ffaith bod yr ymchwiliad wedi lansio swyddfa yng Nghymru, fel y dywedwch. Rwyf yn credu wrth i chi edrych ar y ffordd y mae'r DU wedi comisiynu’r ymchwiliad—mae'n cynnwys Cymru a Lloegr, ac mae’n rhaid inni sicrhau bod pobl yng Nghymru, sy'n byw yng Nghymru, yn cael cyfle...
Jane Hutt: Diolch i chi, Bethan Jenkins. Rwy'n falch eich bod yn cytuno â'r penderfyniad a wnaed ac rwyf yn deall bod Aelodau'r Cynulliad wedi eu gwahodd i gymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn â hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, ein bod yn trosglwyddo’r wybodaeth mewn modd amserol er mwyn i chi, fel Aelod Cynulliad, fod yn ymwybodol o'r penderfyniad pan gaiff ei...
Jane Hutt: Wel, byddaf yn sicr yn awyddus i sicrhau ein bod yn egluro'r sefyllfa, oherwydd gwn fod hyn wedi ei godi dros y blynyddoedd, Mark Isherwood, a byddaf yn dymuno sicrhau y gall Ysgrifennydd y Cabinet egluro'r sefyllfa. Awgrymaf ei fod yn gwneud hynny mewn llythyr at yr Aelod.
Jane Hutt: Dylem yn wir fod yn bryderus iawn, ac mae'n anffodus iawn bod Iain Duncan Smith wedi gweithredu llawer o newidiadau a thoriadau o ran diwygio lles—rhai ohonynt, wrth gwrs, yr ydym yn sôn amdanynt heddiw—sy'n cael effaith andwyol uniongyrchol ar deuluoedd. O ran y pwynt ynghylch credyd cynhwysol a sut mae'n cael ei gyflwyno yng Nghymru, dim ond i hawlwyr ceisio gwaith sengl newydd yng...
Jane Hutt: Wel, rwyf yn gobeithio, ac ar sail yr ymatebion gan Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru, y bydd y glowyr a'u teuluoedd yn gweld bod Llywodraeth Cymru—yn wir, gyda'ch cymorth chi yn ogystal—yn gadarn iawn ar ochr ein glowyr. Ac, wrth gwrs, o ran pensiynau, fel y dywedodd Carl Sargeant, o ran ein galluoedd a’n pwerau, rydym wedi’n cyfyngu o ran yr hyn y gallwn ei wneud, ond...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Andrew R.T. Davies, am eich cwestiynau. Roeddwn innau’n falch o gyfarfod â busnesau a masnachwyr yn y Bont-faen ddydd Sadwrn hefyd. Yn wir, roedd yn gyfle i siarad â nhw am eu hanghenion gwahanol iawn. Soniodd rhai ohonynt wrthyf hefyd am rai o'r ffynonellau eraill o gymorth, er enghraifft, fel ReAct, sy'n cefnogi busnesau. Felly, rwyf yn meddwl ei bod yn bwysig, fel y...
Jane Hutt: Mae gennyf sawl newid i'w wneud i agenda heddiw. Yn ychwanegol at ddatganiad y Prif Weinidog ar drefniadau pontio’r UE, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn gwneud datganiad am y ganolfan gofal critigol arbenigol yn Llanfrechfa, a bydd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn gwneud datganiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am y tasglu...
Jane Hutt: Ddirprwy Lywydd, rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i’r ddadl hon gan ei fod yn caniatáu i mi ailadrodd safbwynt Llywodraeth Cymru ar lobïo Gweinidogion. Mae’n safbwynt syml iawn. Rwy’n falch iawn o ddweud yn glir heddiw nad yw Gweinidogion yn cyfarfod â lobïwyr masnachol ac rwy’n ddiolchgar eich bod wedi caniatáu i Gadeirydd y pwyllgor safonau roi diweddariad i ni ar waith y...
Jane Hutt: O ran eich pwynt cyntaf, wrth gwrs, mae diogelwch cymunedol yng Nghymru yn hollbwysig, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb a bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf fel y bo'n briodol am y trefniadau presennol o ran Cymunedau Diogelach, sydd, wrth gwrs, wedi gwneud gwaith da o ran partneriaethau lleol. Clywsoch yn helaeth gan y Prif Weinidog y prynhawn yma am ein dull a'n hymrwymiad, ac yn...
Jane Hutt: Wel, mae Julie Morgan yn dwyn i’n sylw ddatblygiad newydd pwysig iawn. Rydych chi’n disgrifio mam o Gaerdydd sy’n mynd ati i weithredu ar hyn, gan gynnig cefnogaeth i fenywod sy'n dioddef o iselder ôl-enedigol, seicosis amenedigol, a materion iechyd meddwl eraill. Yn wir, gwn y rhoddwyd sylw i hyn yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos diwethaf ar ‘Law yn Llaw at Iechyd...
Jane Hutt: Wel, wrth gwrs, mae’r arian a'r cymorth a roddwn i Ysgol Feddygol Caerdydd, sy’n rhan o Brifysgol Caerdydd, yn amlwg yn cyflawni canlyniadau, ac wedi ei chefnogi yn dda gan Lywodraeth Cymru. Gwn y bu ymweliad â'r ysgol feddygol yn ddiweddar, a chredaf i hyn fod yn ddiddorol iawn, o ran y trafodaethau â'r rhai sy'n gyfrifol am yr ysgol feddygol. Ond, wrth gwrs, mae addysg feddygol ar...
Jane Hutt: Diolch i chi, David Rees, am y cwestiynau hynny. Rwy'n falch eich bod wedi rhoi cyfle i ni, unwaith eto, fel Llywodraeth Cymru, i’w gwneud yn glir iawn bod Llywodraeth Cymru yn parhau i wrthwynebu ffracio. Mae'r cyfarwyddiadau hysbysu cynllunio yr ydym wedi eu cyhoeddi yn atal awdurdodau cynllunio lleol rhag rhoi caniatâd i ddatblygiadau nwy anghonfensiynol er mwyn nwyeiddio glo...
Jane Hutt: Mewn ymateb i'ch cwestiwn cyntaf, Darren Millar, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol y cyhoeddwyd yr wybodaeth am astudiaeth mynegai yr UE ar gynnydd cymdeithasol rhanbarthol ym mis Chwefror eleni, ac, yn ddiweddar, yr ailgyhoeddwyd yr un wybodaeth ar ffurf tabl cynghrair gan felin drafod. Ers casglu’r data gwreiddiol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau TGAU dros dro wedi eu...
Jane Hutt: Wel, yn amlwg, mae gweithrediad y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, a ddaeth i rym ar 6 Ebrill, erbyn hyn yn destun craffu ac ystyried o ran canlyniadau, ac rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon wedi nodi yn glir fframwaith tair blynedd ar gyfer gwerthuso’r Ddeddf, a byddwn yn adrodd ar hynny fel y bo'n briodol. Ond rwy'n credu hefyd ei bod yn...
Jane Hutt: Wel, mae’r Aelod yn codi pwynt pwysig ynglŷn ag adran 106, sydd, yn wir, yn ddarpariaeth bwysig iawn yn y gyfraith gynllunio, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn unol â hynny i egluro'r pwynt hwnnw.
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Lywydd. Dim ond eisiau dweud nad oes gennyf ddim newidiadau i'w gwneud i agenda heddiw. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi lleihau'r amser a ddyrennir i gwestiynau yfory i Gomisiwn y Cynulliad, ac mae hefyd wedi cytuno mai’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil Cymru fydd yr eitem busnes olaf i gael ei chynnal cyn pleidleisio yfory, ac...
Jane Hutt: Rwy’n croesawu’r cyfle hwn i ymateb i’r ddadl hon heddiw, a hoffwn ddiolch i Joyce Watson am ei haraith agoriadol ac am y rôl arweiniol y mae hi wedi’i chwarae ac yn ei chwarae, fel yr amlygir yn ei hymrwymiad i sicrhau bod rôl a dylanwad seneddwragedd y Gymanwlad yn cael eu hymestyn a’u hehangu mewn gwirionedd. Mae cael Aelod Cynulliad sy’n Gymraes yn arwain y ffordd ac yn...
Jane Hutt: Wel, rydym ni’n gwbl ymwybodol o'r ffaith eich bod chi’n gwrthwynebu’r hyn a oedd yn ddarn blaengar iawn o ddeddfwriaeth tai a gefnogwyd ar draws y Siambr hon. Ond mae'n bwysig, wrth gwrs, ei fod yn cael ei roi ar waith yn briodol ac yn effeithiol nawr ac felly, wrth gwrs, byddwn yn ystyried y materion hyn. Ond yn amlwg, ceir amserlen ar gyfer hyn o ran cyfrifoldebau Rhentu Doeth Cymru,...