Canlyniadau 1881–1900 o 2000 ar gyfer speaker:Jane Hutt

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (11 Hyd 2016)

Jane Hutt: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna, a diolchaf hefyd i Mark Isherwood am dynnu sylw at y diwrnod ymwybyddiaeth cenedlaethol ddoe o gyflwr yr wyf yn siŵr nad oedd llawer ohonom ni yn y Siambr hon yn ymwybodol ohono—ac i weld bod hwn yn gyflwr, o ran eiddilwch, sy'n effeithio ar gyfleoedd bywyd unigolyn, ac mae'n effeithio ar lawer mwy o bobl nag y byddem ni wedi bod yn ymwybodol...

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (11 Hyd 2016)

Jane Hutt: Diolchaf i Julie Morgan am y cwestiwn yna ac rwy’n cydnabod fy mod i’n gwybod y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd hefyd yn cydnabod eich cyfraniad a’ch cefnogaeth agos, yn enwedig i’r rhai sydd wedi eu heffeithio—ac mae grŵp Hemoffilia Cymru wedi croesawu'r datganiad a wnaed yr wythnos diwethaf. Ac, wrth gwrs, mae’n rhoi terfyn ar ansicrwydd, fel y dywed yr Aelod, am...

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (11 Hyd 2016)

Jane Hutt: Wel, mater i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yw hwn o ran cyfrifoldebau am gefnffyrdd a chanllawiau i awdurdodau lleol o ran cynnal a chadw a rheolaeth. Wrth gwrs, ceir asesiadau risg, fel y gwyddoch, o ran diogelwch i gerddwyr ac, yn wir, i bawb sy'n teithio ar gefnffyrdd ac, yn wir, ar rwydweithiau ffyrdd lleol hefyd. Felly, byddaf yn ceisio egluro'r sefyllfa o ran...

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (11 Hyd 2016)

Jane Hutt: Wel, rwy’n meddwl, Steffan Lewis, eich bod chi wedi codi pwynt pwysig iawn am gyfleoedd ar gyfer gwneud cais yn briodol, fel yr wyf yn siŵr y byddem ni’n ei wneud, o ran chwilio am ddigwyddiad—ac rwyf yn nodi eich ffafriaeth i Gasnewydd.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (11 Hyd 2016)

Jane Hutt: Lywydd, mae gennyf ddau newid i'w gwneud i'r agenda heddiw. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwneud datganiad ar gymunedau cydnerth ac, ar ôl y ddadl heddiw, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn gwneud datganiad ar ollyngiad olew yr wythnos diwethaf yn Nantycaws yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i...

5. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 4 Hyd 2016)

Jane Hutt: David Rees, rydych chi bob amser wedi cyflwyno yn gyson yr wybodaeth ddiweddaraf o’ch safbwynt chi o ran dur yn eich etholaeth, Tata a'r bobl yr ydych yn eu cynrychioli, ac rwy'n ddiolchgar am hynny unwaith eto heddiw. Wrth gwrs, mewn gwirionedd, mae grwpiau trawsbleidiol yn ddefnyddiol iawn, onid ydynt; maent yn fforwm lle y gall pawb gydgyfarfod a lle y mae Gweinidogion ac Ysgrifenyddion...

5. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 4 Hyd 2016)

Jane Hutt: Rwy'n siŵr, Nick Ramsay, y byddech yn cydnabod pa mor agored y bu Ysgrifennydd y Cabinet o ran rhoi diweddariadau ac egluro’r cynnydd, o ran achos busnes SCCC. Mater o ddiweddaru ar gynnydd oedd hwn. Cadarnhaodd trafodaethau diweddar yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y disgwylir cyngor y mis hwn, ym mis Hydref 2016, ac, unwaith eto, gan addo diweddariad priodol i...

5. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 4 Hyd 2016)

Jane Hutt: Yn sicr, rwy’n credu ein bod i gyd wedi ein siomi yn fawr na fydd y trydaneiddio rhwng Caerdydd ac Abertawe yn cael ei gwblhau erbyn 2018 yn unol â’r addewid a’r bwriad gwreiddiol, ond mae Ysgrifennydd y Cabinet mewn gwirionedd yn cyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, ac mae'n ddefnyddiol iawn cael eich ymyriad heddiw ar y datganiad busnes, Jeremy Miles, gan fy mod i'n...

5. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 4 Hyd 2016)

Jane Hutt: Credaf fod fy ymateb cynharach i Bethan Jenkins yn ddigonol ar gyfer y pwynt cyntaf o ran Bwrdd Iechyd Prifysgol ABM. O ran eich ail bwynt, roeddwn innau hefyd yn bresennol mewn digwyddiad pwysig iawn yn fy etholaeth i ynglŷn â’r strategaeth ar gyfer pobl dros 50 oed, sydd wedi datblygu o'n strategaeth pobl hŷn hynod arloesol yma yn y Cynulliad. Mae'n bwysig iawn bod parhad, Mark...

5. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 4 Hyd 2016)

Jane Hutt: Wel, nid wyf i’n credu y byddwn ni yn y Siambr hon—rwy’n siŵr fy mod i’n siarad ar ran llawer ohonom ni yma, yn ogystal â'r cyhoedd ar y stryd—yn poeni ryw lawer nad yw UKIP yn cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Chi sy’n colli o ganlyniad i hyn; rydych chi’n colli cyfle seneddol wirioneddol bwysig. Rwy'n credu y bydd y pleidiau mwy profiadol, neu fwy aeddfed, efallai, yn y...

5. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 4 Hyd 2016)

Jane Hutt: Fe wnaeth y Prif Weinidog ymateb i gwestiwn gan Simon Thomas, a chafwyd cwestiwn arall gan Russell George. Rwy’n credu mai'r peth pwysig i’w ailadrodd o’i ymateb yw ein bod yn chwilio am ateb deddfwriaethol i'r mater o ailddosbarthu. Gall cymdeithasau tai—unwaith eto, mae'n bwysig rhoi hyn ar y cofnod—fod yn hyderus y bydd yn cael ei ddatrys. Byddant yn gallu parhau i fenthyg oddi...

5. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 4 Hyd 2016)

Jane Hutt: Diolch. Mae'r Aelod dros ogledd Cymru yn nodi mater pwysig iawn o ran cartrefi nyrsio yn y sector gofal ac, wrth gwrs, fel y dywed, mae'r cartrefi hyn yn y sector preifat annibynnol yn aml. Mae gennyf ddiddordeb mewn clywed barn Fforwm Gofal Cymru a Mario Kreft, y byddwch yn ei adnabod yn dda, o ran pwysigrwydd y sector gofal, a chydnabod hefyd bod ein harolygwyr a'r bobl sy'n derbyn gofal...

5. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 4 Hyd 2016)

Jane Hutt: Wel, mae Bethan Jenkins yn codi dau fater, a mater i Fwrdd Iechyd Prifysgol ABM yw’r cyntaf ohonynt, ac wrth gwrs, byddai'n amhriodol gwneud sylwadau ar y mater hwnnw, gan mai nhw ddylai ymdrin ag ef. Rydych chi wedi ei godi heddiw, felly mae wedi ei ddatgan, ond mater i'r bwrdd iechyd ymdrin ag ef a’i ddatrys yw hwn. Mae eich ail fater, wrth gwrs, yn fater penodol i'r awdurdod lleol,...

5. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 4 Hyd 2016)

Jane Hutt: Diolch, Lywydd. Mae gennyf ddau newid i'w gwneud i agenda heddiw. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn rhoi datganiad ar yr M4 yn syth ar ôl y datganiad busnes, ac mae'r datganiad ar y comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru wedi ei ohirio tan 18 Hydref. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, ymhlith...

7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Rhaglen Lywodraethu (28 Med 2016)

Jane Hutt: Wel, rydych yn sicr wedi croesawu’r ymrwymiadau a gyflawnwyd gennym, Darren Millar, o ran y gwasanaeth iechyd. Ond hefyd, rwy’n meddwl ac yn cofio eich bod wedi croesawu’r ffaith ein bod ni, Llywodraeth Lafur Cymru, wedi rhoi arian tuag at ofal cymdeithasol, sydd, wrth gwrs, yn cael ei dorri yn Lloegr yn awr, gan arwain at bobl yn aros yn yr ysbyty am nad oes cyllid ar gael ar gyfer...

7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Rhaglen Lywodraethu (28 Med 2016)

Jane Hutt: Wrth gwrs, yn nhymor diwethaf y Llywodraeth, nodwyd targed o 10,000 o gartrefi fforddiadwy. Cyflawnwyd dros 9,000 gennym yn ystod y pedair blynedd gyntaf—mewn gwirionedd mae’r ystadegau ar gyfer y llynedd yn cael eu rhyddhau mewn wythnos neu ddwy. Rwy’n hyderus y byddant yn dangos ein bod wedi rhagori ar y targed. [Torri ar draws.] Na, rwyf am orffen fy mhwynt i David Melding. Mae hyn...

7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Rhaglen Lywodraethu (28 Med 2016)

Jane Hutt: Ddirprwy Lywydd, rwy’n falch iawn o ymateb i’r ddadl fywiog hon y prynhawn yma. Diolch i chi am ddymuno’n dda i’r Llywodraeth, Andrew R.T. Davies, wrth iddi gyflawni’r rhaglen lywodraethu hon. Rydym wedi darparu datganiad clir iawn i bobl Cymru ynglŷn â’r hyn y mae’r Llywodraeth hon yn sefyll drosto—yr hyn y mae’r Llywodraeth hon yn sefyll drosto a’r hyn yw ein...

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (27 Med 2016)

Jane Hutt: Mae’r Aelod yn codi mater pwysig ac mae'n rhywbeth sy’n ymwneud â Cymru Hanesyddol a lle y gallwn symud ymlaen ar hynny, yn amlwg gydag ymgynghoriad llawn a chyfleoedd i’w ystyried mewn pwyllgor; rwy'n siŵr y bydd amser priodol i gyflwyno datganiad i'r Siambr hon.

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (27 Med 2016)

Jane Hutt: Wel, wrth gwrs, mae barn y Prif Weinidog a barn Llywodraeth Cymru ar ryddid i symud wedi ei mynegi sawl gwaith, nid yn unig gan y Prif Weinidog, ond gan Weinidogion eraill hefyd. Mae hwn yn fater difrifol iawn, mae'n fater sensitif, ac mae'n fater y mae’n rhaid i ni ei ystyried o safbwynt tegwch, cymesuredd, a gan gydnabod barn pobl yng Nghymru. Rwyf yn credu eich bod yn codi pwynt...

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (27 Med 2016)

Jane Hutt: Wrth gwrs, Nick Ramsay, mae hwn yn bwynt pwysig iawn yr ydych wedi ei gyflwyno i ni heddiw o ran cydnabod a chyfleu ein cydymdeimlad dwysaf i deulu Ann Wilkinson. Dyna'r pwynt pwysig o'r hyn yr ydych wedi'i ddweud heddiw, yr hyn yr ydych wedi’i gyflwyno i ni heddiw, a’r ffaith eich bod wedi mynd i angladd Ann Wilkinson. Wrth gwrs, rydym yn dymuno, fel Cynulliad cyfan, rwy’n siŵr, ei...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.