Jane Hutt: Mae hwn yn fater yr wyf yn siŵr nad yw mwyafrif helaeth pobl Cymru yn ymwybodol ohono, a hefyd, o ran yr hyn y maen nhw eisiau ei wybod a'r hyn y maen nhw eisiau ei glywed, dyma a ddywedodd y Prif Weinidog mewn gwirionedd. Rwy'n credu mai’r pwynt pwysig i’w gofio yw y cyhoeddwyd yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog mewn gwirionedd gan swyddfa’r wasg Llywodraeth Cymru am 10.04a.m. yr...
Jane Hutt: Wel, mae Julie Morgan yn codi pwynt pwysig iawn ac mae hi wedi codi hyn ar gyfleoedd blaenorol. Rwy’n credu—wrth gwrs, mae cynigion y comisiwn ffiniau yn destun ymgynghoriad—y bydd yn cael effaith fawr o ran sut y bydd ein cymunedau yng Nghymru yn cael eu cynrychioli a byddwn yn mynegi ein barn o ran yr anfantais y gallai newidiadau arfaethedig ei hachosi. Wrth gwrs, mae'n effeithio...
Jane Hutt: Wel, mae’r Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i wneud datganiad ar y pwynt hwn, felly diolch i chi am ei godi.
Jane Hutt: Diolch, Lywydd. Rwyf wedi gwneud rhai newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Rwyf wedi ehangu teitl y datganiad llafar ar sefydlu'r gronfa driniaeth newydd a'r adolygiad annibynnol o'r broses gwneud cais am gyllid ar gyfer cleifion unigol, ac rwyf wedi ychwanegu datganiad am y croeso adref o Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2016 yn Rio. Rwyf wedi lleihau'r amser sydd wedi’i neilltuo ar gyfer...
Jane Hutt: Hoffwn i ddiolch i Vikki Howells am sicrhau bod yna bresenoldeb cryf iawn, yn sicr gan gydweithwyr yma. Roedd Huw Irranca-Davies, rwy’n credu, ac Aelodau Cynulliad eraill o’r blaid Lafur yno, yn ogystal ag ASau, gan nad yw hyn wedi ei ddatganoli. Roedd yn ddiwrnod cenedlaethol o weithredu ac rwy'n falch iawn o waith yr ymgyrch. Ac, wrth gwrs, yn y pedwerydd Cynulliad, ysgrifennodd y...
Jane Hutt: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwbl ymwybodol o'r materion sy'n ymwneud â chymhwyso lwfans tai lleol ac mae’n cymryd rhan mewn trafodaethau, ac mae'n ddefnyddiol cael adborth, wrth gwrs, ar yr effeithiau hynny ar lefel ranbarthol i’r bobl gysylltiedig, ond mae’n amlwg yn ymateb i'r rheini. O ran eich ail bwynt, unwaith...
Jane Hutt: Wel, mae Mike Hedges yn codi pwynt pwysig, a gwn y bydd yn ymwybodol mai cyfrifoldeb y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw dylunio’r ffiniau ardaloedd cynnyrch ehangach haen is hynny. Mae'n rhan o'i gwaith o reoli cyfrifiad Cymru a Lloegr, ond rydym ni’n cyfrannu at lywodraethu’r cyfrifiad hwnnw. Mae gennym berthynas waith agos, wrth gwrs, â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac rydym yn...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Simon Thomas, am eich cwestiynau. Mae’r cwestiwn cyntaf yn bwynt pwysig iawn. Wrth gwrs, byddwch chi’n ymwybodol, rwy'n siŵr, fod pibell nwy yn gollwng a bod angen gwneud gwaith hanfodol arni. Wrth gwrs, o ran ymdrin â hynny, a'r effaith ar fusnesau, y cyhoedd, a’r daith i'r ysgol a’r gwaith, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, seilwaith a sgiliau wedi rhoi...
Jane Hutt: Lywydd, rwyf wedi ychwanegu un peth at yr agenda heddiw. Yn fuan, bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad am y rhaglen lywodraethu, 'Symud Cymru Ymlaen 2016-2021'. Rwyf hefyd wedi diwygio teitlau’r datganiadau llafar heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau i'w hateb gan...
Jane Hutt: Mae’r Aelod yn codi pwynt pwysig. Mae'n ymwneud ag ymwybyddiaeth y cyhoedd. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried y ffordd orau o fwrw ymlaen â hynny, wrth gwrs gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn allweddol i arwain a darparu tystiolaeth.
Jane Hutt: Diolch i chi am y ddau gwestiwn, Darren Millar. O ran eich cwestiwn cyntaf, credaf efallai y byddai'n fwy defnyddiol i chi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg a sgiliau i enwi’r prifysgolion hynny oherwydd, yn sicr, nid ydym yn ymwybodol bod hyn yn digwydd. Ond os oes gennych dystiolaeth, yna byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn amlwg yn dymuno clywed amdanynt ac unioni’r...
Jane Hutt: Credaf fod Andrew RT Davies yn ymwybodol iawn o'r ffaith mai Cyngor Bro Morgannwg sy'n gyfrifol am reoli prosiect Five Mile Lane. Ac rwy’n falch, unwaith eto, ein bod yn cael y cyfle i groesawu'r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn natblygiad hollbwysig Five Mile Lane—ffordd hollbwysig, fel y gwyddom, yn yr etholaeth. Rwy’n tybio, yn cwestiynu ac yn annog yr Aelod i drafod...
Jane Hutt: Wel, wrth gwrs, mae’r Aelod ar gyfer rhanbarth y gogledd yn llygaid ei le am ba mor bwysig y mae’r cais hwn i’r gogledd a'r ffaith ei fod yn cynnwys y chwe awdurdod ynghyd â chefnogaeth is-gangellorion, sefydliadau addysg bellach, yr heddlu a'r holl awdurdodau sy'n gwneud gwahaniaeth i les a datblygiad economaidd y gogledd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, yn ymwneud yn agos â...
Jane Hutt: Diolch i chi, Nick Ramsay. Mewn gwirionedd, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â Network Rail ddoe. Rwyf i wedi fy mhlesio’n fawr iawn gan sut yr ydym ni i gyd fel Aelodau Cynulliad wedi cael gwybod, wedi cael ein hysbysu ac wedi cael diweddariadau am y datblygiad, oherwydd, wrth gwrs, bydd yn arwain at y trydaneiddio holl bwysig. Ond gallwn ni eich sicrhau bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi...
Jane Hutt: Mae Julie Morgan yn codi yn nodwedd bwysig iawn o fywyd Cymru heddiw. Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran hyfforddiant ffrindiau dementia, a bydd llawer yn ymwybodol o'r ymateb enfawr ar y penwythnos i'r daith gerdded ym Mae Caerdydd, ddydd Sul. Credaf, o ran lansio'r hyfforddiant ffrindiau dementia, a gefnogir gan gyllid Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, fod gennym dros 35,000 o ffrindiau...
Jane Hutt: Diolch i Paul Davies am y cwestiwn hwnnw. Mae’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn rhoi diweddariadau rheolaidd i'r Aelodau. Yn wir, cefais gyfarfod â chyfarwyddwr BT Cymru yr wythnos diwethaf ac roeddwn i’n falch iawn i glywed eu bod yn cyrraedd dros 90 cant o fy etholaeth i, Bro Morgannwg. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod Llywodraeth Cymru, hyd yn hyn, wedi gwario £32 miliwn ar...
Jane Hutt: Wel, rwyf innau hefyd yn croesawu yn ôl rheolwr busnes Plaid Cymru. Yn wir, rydym ni eisoes wedi cael sgwrs ac rydych chi wedi codi llawer o bwyntiau pwysig iawn ar gyfer y Cynulliad hwn—yn wir, pwyntiau pwysig iawn y bu’r Prif Weinidog yn rhoi sylw iddynt dros fisoedd yr haf. Nid wyf yn gwybod lle yr oeddech chi, ond roeddwn innau yn sicr yn cydnabod bod y Prif Weinidog ar flaen y...
Jane Hutt: Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn falch iawn o glywed, ac yn ymwybodol iawn o'r canlyniadau da iawn hynny, yn enwedig gan yr ysgolion hynny sydd wedi elwa ar Her Ysgolion Cymru yn Nwyrain Abertawe, yn eich etholaeth chi, Mike Hedges. Rwy'n gwybod bod y gwerthusiad, wrth gwrs, ar y gweill. Bydd yn cael ei gwblhau erbyn y flwyddyn nesaf ac yn cael ei gyhoeddi yn unol â phrotocol...
Jane Hutt: Rwyf wedi gwneud tri newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar y trefniadau pontio Ewropeaidd ar ôl y datganiad hwn. Yn dilyn hynny, bydd datganiad deddfwriaethol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), a datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi...
Jane Hutt: Rwyf yn siŵr y bydd Russell George yn cytuno bod angen monitro’n drylwyr yr holl gynlluniau sy’n cael arian cyhoeddus, fel Glastir, cyn y gellir gwneud taliadau.