Jane Hutt: Wel, Mark Isherwood, rydych yn codi dau bwynt pwysig. Bydd y pwynt cyntaf, wrth gwrs, yn—. Mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ynglŷn â’r Bil anghenion dysgu ychwanegol ac, wrth gwrs, mae wedi ymgorffori hefyd sut y byddwn yn bwrw ymlaen â hyn ac yn ymdrin â materion sy'n ymwneud â mater hollbwysig addysg ac oedolion ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a...
Jane Hutt: Wel, wrth gwrs, cewch gyfle y prynhawn yma, Suzy Davies, i holi Alun Davies am ei ddatganiad ar flaenoriaethau polisi’r Gymraeg.
Jane Hutt: Wel, diolch i Simon Thomas am ei ddau gwestiwn am y datganiad busnes. Rwyf yn edrych ar y cwestiwn cyntaf. Bydd yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn awyddus iawn i ymateb i'r adroddiad hollbwysig hwn a gyhoeddwyd heddiw ynglŷn â newid hinsawdd. Croesewir y ffaith eu bod yn cydnabod safle Cymru yn yr adroddiad hwnnw. Wrth gwrs, bydd hi’n ymateb i hynny. Wrth gwrs,...
Jane Hutt: Diolch yn fawr. Rwyf wedi gwneud sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad, cyn hir, ar ein blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth. Yna ceir datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynglŷn â’r adolygiad ymarfer plant i farwolaeth Dylan Seabridge. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon wedyn yn gwneud datganiad...
Jane Hutt: Iawn, ar y nodyn hwnnw rwy’n meddwl y gallwn ddod i ben. Diolch i’r Ysgrifennydd Gwladol am ei bresenoldeb heddiw. Efallai mai hon yw’r ddadl olaf ar Araith y Frenhines yma, ond gall fod yn sicr y bydd Llywodraeth Cymru, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a’r Cynulliad yn gweithio gyda’i gilydd i fonitro rhaglen ddeddfwriaethol y DU, hyrwyddo buddiannau Cymru yn y...
Jane Hutt: Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd Gwladol Cymru am ei gyfraniad i’r ddadl heddiw, ac am ei ymateb yn ogystal, ac i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl hefyd. Wrth gwrs, fel y dywedwyd heddiw, mae’r ddadl flynyddol ynglŷn â rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU wedi dod yn ddigwyddiad rheolaidd yng nghalendr y Cynulliad, ond os aiff popeth yn iawn, fel y dywedodd...
Jane Hutt: Wel, wrth gwrs, mae Andrew R.T. Davies yn gwybod bod yr ardrethi annomestig, yr ardrethi busnes, wedi’u datganoli’n llawn ar 1 Ebrill 2015. Mae Llywodraeth Cymru yn awr yn gyfrifol am bob agwedd ar reoli’r gronfa ardrethi annomestig. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys y risgiau sy'n gysylltiedig â chydbwyso rhyddhad incwm a thaliadau. Felly, mae’r gwaith o ailbrisio eiddo...
Jane Hutt: Diolch i chi, Mark Isherwood, am dynnu sylw at y Diwrnod Sefyll Lan yn erbyn Bwlio, sy’n cael sylw heddiw ac rwyf yn gwybod ein bod ni i gyd yn cefnogi hynny. Yn wir, rwyf yn gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn edrych ar y polisïau—mae'n rhywbeth sydd, i ddweud y gwir, yn cael ei rannu ar draws y Cabinet; yr Ysgrifennydd addysg, wrth gwrs—o ran mynd i'r afael...
Jane Hutt: Wrth gwrs, mae hwn yn rhywbeth yr ydym am ei sicrhau, sef bod pobl yn gallu mynd i’r ardaloedd cefnogwyr lleol hynny. Maen nhw wedi dod yn hynod boblogaidd. Yr awdurdodau lleol, yn amlwg, ddylai sicrhau bod trefniadau yn cael eu gwneud, yn ogystal â darparu cymorth ariannol ar eu cyfer mewn gwirionedd. Gall cefnogwyr fwynhau’r gêm hefyd, wrth gwrs, drwy gefnogi busnesau, tafarndai a...
Jane Hutt: Wel, mae’r Aelod dros Ddwyrain Casnewydd wedi codi rhai cwestiynau pwysig iawn, yn arbennig o ran yr arolwg ONS diweddar hwnnw. Cyflwynwyd ynddo y ffigurau diweddaraf ar farwolaethau y gellir eu hosgoi yng Nghymru a Lloegr, ac roedd yn dangos y ffigurau 2014 hynny am y tro cyntaf. Ond gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ddatganiad llafar yn ddiweddar ynglŷn â...
Jane Hutt: Wel, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog dros gymunedau a phlant yn croesawu’r cyfle hwnnw i egluro pa mor ddifrifol y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei hymroddiad i'r CCUHP, er mwyn sicrhau bod hawliau plant yn pwysleisio ein holl amcanion polisi, ac, yn wir, ein hamcanion a’n dibenion ariannol a chyllidebol hefyd. Mae hynny'n rhan o'n hasesiad ar effaith integredig strategol, ac, wrth...
Jane Hutt: Wrth gwrs, bydd Huw Irranca-Davies, ac eraill yn y Siambr hon, yn cael y cyfle i estyn y gwahoddiad hwnnw eto brynhawn yfory, yn weladwy ac yn lleisiol, yn y ddadl ar Araith y Frenhines. Gallaf ddeall eich siom bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gwrthod eich gwahoddiad, gan ei bod mor bwysig, ac er budd gorau’r ddwy ochr, er mwyn symud ymlaen â Bil Cymru. Ond rwy’n aros i’r...
Jane Hutt: Diolch i chi, Nick Ramsay. Rwy'n siŵr fod sioe arddangos Cerdd Gwent yn arddangosfa aruthrol o dalent a sgiliau, ond hefyd o arbenigedd proffesiynol ac ymrwymiad y proffesiynau cerddoriaeth ac addysg. Ac, wrth gwrs, byddai wedi bod yn bartneriaeth, rwy'n siŵr, â llywodraeth leol, yn ogystal ag ysgolion, a gwn y bydd gan Ysgrifennydd y Cabinet ddiddordeb mawr i weld canlyniad hynny yn y...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Simon Thomas. Mewn ymateb i'ch cwestiwn cyntaf, fel yr ydych wedi dweud, ac fel y cydnabyddir y prynhawn yma, gwnaeth y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, gyfarfod ddoe â ffigyrau allweddol o sectorau amgylcheddol ac amaethyddol Cymru, gan ganolbwyntio yn benodol ar oblygiadau penderfyniad y DU i adael yr Undeb...
Jane Hutt: Diolchaf i Julie Morgan am y cwestiwn hwnnw. Rwy‘n gwybod ei bod wedi crybwyll hyn yn rheolaidd er mwyn dangos cefnogaeth i sicrhau bod penderfyniad yn cael ei wneud o ran yr anghydfod ynglŷn â‘r amgueddfa genedlaethol. Wrth gwrs, cynigiodd Lywodraeth Cymru gefnogaeth a hefyd hwylusodd drafodaethau i ddod â'r pleidiau ynghyd ac i ddod â'r anghydfod i ben, ac, yn wir, gwnaeth...
Jane Hutt: Mae gennyf un newid i fusnes heddiw. Mae'r datganiad ar dai a digartrefedd wedi’i dynnu'n ôl. Yn ychwanegol at hyn, mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ohirio dadl fer yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad a’r cyhoeddiad busnes sydd i’w canfod ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Jane Hutt: Wel, credaf, Nick Ramsay, ein bod yn rhannu pryderon am ragolygon a dyfodol cytundeb y ddinas, sy’n hollbwysig, a gwn fod eich awdurdod lleol yn gefnogol iawn ohono ac wedi bod yn rhan o sicrhau ein bod yn ennill ac wedi sicrhau’r cais hwnnw sy’n cynnwys y 10 awdurdod lleol. Mae hyn, wrth gwrs, hefyd yn rhywbeth lle rydym yn disgwyl am ymateb gan y Canghellor yn ogystal â’r effaith...
Jane Hutt: Rwyf yn falch bod hyn wedi ei godi y prynhawn yma, oherwydd mae hyn yn rhywbeth, wyddoch chi, lle y mae angen ymdrin â’r ansicrwydd hwnnw. Mae'r cwmni wedi dechrau ymgynghori ag undebau llafur a rhanddeiliaid eraill, a bydd Joyce Watson yn gwybod am hynny. Gallai’r ymgynghoriad hwnnw weld y gweithlu’n lleihau, ond fel yr wyf yn deall, mae cyllid adfer wedi bod yn cronni ar safle Nant...
Jane Hutt: Diolch ichi am eich cwestiynau. O ran y pwynt cyntaf, wrth gwrs, fel y dywedwch, roedd ymgynghoriad ar gynllun gweithredu Cymru ar anhwylderau’r sbectrwm awtistig ar ei newydd wedd yn y cyfnod cyn etholiadau'r Cynulliad. Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw, wrth gwrs, yn cael eu cyhoeddi, a bydd y cynllun ar ei newydd wedd yn cael ei gyhoeddi hefyd yn ddiweddarach eleni. Dyma £6...
Jane Hutt: Diolch ichi, Bethan Jenkins. Credaf ei bod yn bwysig iawn cydnabod bod Tata Steel wedi datgan mai ei brif flaenoriaeth yw diogelwch ac iechyd pawb sy'n gweithio yn y grŵp a chyda’r grŵp. Mae'n safle COMAH 1—rheoliadau rheoli peryglon damweiniau mawr; caiff ei reoleiddio’n drwm, wrth gwrs, fel y byddwch yn cydnabod, o ran iechyd a diogelwch. Ond fy nealltwriaeth i yw bod yr undebau...