Canlyniadau 1941–1960 o 3000 ar gyfer speaker:Ken Skates

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cylchffordd Cymru
(29 Maw 2017)

Ken Skates: Byddwn yn gwneud penderfyniad ar gyllid wedi inni dderbyn holl fanylion y cais; pan fyddwn yn fodlon fod proses drwyadl diwydrwydd dyladwy wedi ei chwblhau, a phan fydd y Cabinet wedi ystyried y cynnig.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Diogelwch ar y Ffyrdd
(29 Maw 2017)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am dynnu fy sylw at y mater penodol hwn? Er mawr gywilydd i mi, nid oeddwn yn ymwybodol o’r mater hwn tan heddiw, ond byddaf yn dod â swyddogion yr awdurdod lleol a swyddogion y cefnffyrdd at ei gilydd er mwyn archwilio sut y gellir datrys y broblem benodol hon, oherwydd ar sail yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud, nid yw’r her hon yn un na ellir ei goresgyn,...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Diogelwch ar y Ffyrdd
(29 Maw 2017)

Ken Skates: Gwnaf, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny. Ac a gaf fi awgrymu fy mod yn ymweld â’r darn penodol hwnnw o’r A470 gyda’r Aelod? Yn ddiweddar, derbyniais sylwadau gan gyd-Aelod yr Aelod, Darren Millar, ynglŷn â ffordd debyg yn ei etholaeth ef. Bûm ar ymweliad safle yno, ac o ganlyniad, rydym bellach yn ystyried newid yr arwyddion, sy’n aml yn ddryslyd, ar y ffordd. Credaf ei bod yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Diogelwch ar y Ffyrdd
(29 Maw 2017)

Ken Skates: Gwnaf, yn sicr. Rwy’n awyddus i weld rhagor o barthau 20 milltir yr awr yn cael eu cyflwyno ger ysgolion. Hyn a hyn yn unig y gall ein hadnoddau ariannol ei gyflawni drwy addysgu pobl ifanc. Mae’n rhaid cyflwyno mesurau eraill, a chredaf y dylem geisio gostwng cyflymder y modurwyr sy’n gyrru heibio i sefydliadau addysg. Ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, fel y nododd yr Aelod, byddwn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Diogelwch ar y Ffyrdd
(29 Maw 2017)

Ken Skates: Gwnaf. Mae fframwaith diogelwch ar y ffyrdd Cymru yn nodi’r camau rydym ni a’n partneriaid yn eu cymryd i gyrraedd ein targedau lleihau damweiniau. Cyhoeddais gyllid grant cyfalaf a refeniw ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd ar 22 Mawrth.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cynyrchiadau Teledu a Ffilm
(29 Maw 2017)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn ac am ddangos cryn ddiddordeb, ers cael ei hethol i’r Siambr hon, yn y diwydiannau creadigol? Mae’n ofynnol i bob cynhyrchiad sy’n cael ei ariannu gan gronfa Sgrîn Cymru basio prawf diwylliant. Mae’n mynd y tu hwnt i feini prawf y prawf diwylliant a gynlluniwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, gan ei fod hefyd yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cynyrchiadau Teledu a Ffilm
(29 Maw 2017)

Ken Skates: Rwyf am ymddiheuro o flaen llaw am ddefnyddio rheg wrth ateb cwestiwn yr Aelod. Lle y bo modd, rydym yn annog cynyrchiadau nid yn unig i ffilmio yng Nghymru ond hefyd i’w gosod yng Nghymru. Enghraifft o hyn yw’r gyfres ‘The Bastard Executioner’, y bwriadai’r cynhyrchwyr ei gosod yn Lloegr yn wreiddiol, ond wedi trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, fe’i gosodwyd yng Nghymru yn lle...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cynyrchiadau Teledu a Ffilm
(29 Maw 2017)

Ken Skates: Gwnaf. Mae ein gwasanaeth Sgrîn Cymru yn darparu gwasanaeth criw a lleoliadau llawn ac yn hyrwyddo Cymru i’r diwydiant cynhyrchu byd-eang. Mae hyn yn golygu bod bywyd Cymru, ein lleoliadau, a’n talent yn cael eu harddangos ar y sgrîn mewn sawl cynhyrchiad bob blwyddyn.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(29 Maw 2017)

Ken Skates: Byddaf yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn ystod yr wythnosau nesaf, yn amlinellu fy ymateb i’r cynigion. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â Greg Clark yn bersonol a dweud wrtho’r hyn a ddywedais yn gyhoeddus, sef nad oes fawr o ddim i anghytuno yn ei gylch yn y strategaeth. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn rhai meysydd o’r strategaeth,...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(29 Maw 2017)

Ken Skates: Nid sicrhau rhagor o gyfleoedd allforio oedd unig ddiben y daith fasnach. Roedd yn ymwneud hefyd â sicrhau cyfleoedd buddsoddi, ac yn hynny o beth, roedd y daith yn amlwg yn llwyddiant, oherwydd, yn ystod y daith, sicrheais ddau gytundeb ar gyfer buddsoddi yng Nghymru, gan greu nifer o swyddi. Ond mae’r Aelod yn iawn fod yna gyfleoedd enfawr ar gyfer allforio, yn enwedig, yn fy marn i, yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(29 Maw 2017)

Ken Skates: Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn yn yr ystyr fod gan awdurdodau lleol rôl arwyddocaol yn y gwaith o hybu twf economaidd yn eu hardaloedd. Un o fy mhryderon yn ystod fy nghyfnod yn y swydd hon yw diffyg capasiti ac adnoddau mewn rhai rhannau o Gymru i wneud hynny ar lefel yr awdurdodau lleol, a dyna pam rwy’n cymeradwyo’r dull a fabwysiadir ar lefel ranbarthol, drwy...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(29 Maw 2017)

Ken Skates: Rwy’n cytuno ein bod yn wynebu cryn her, ac yn y dyfodol, ond credaf hefyd fod y bobl gywir gennym yn y Llywodraeth, ac yn gweithio mewn partneriaeth â’r Llywodraeth, i sicrhau y down drwy’r hyn a fydd yn gyfnod cythryblus. O ran ein gweithgarwch tramor, credaf mai un o’r camgymeriadau mwyaf a wnaed yn ddiweddar yw colli llawer o weithgarwch tramor Cymru. Wrth gwrs, rydym bellach...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(29 Maw 2017)

Ken Skates: Credaf fod y bartneriaeth rhwng ein dwy wlad hefyd yn ymestyn y tu hwnt i werthoedd economaidd, wrth gwrs. Mae cysylltiadau diwylliannol anhygoel o gryf rhwng Iwerddon a Chymru, a gallant hwythau sicrhau cryn fanteision economaidd yn ogystal. Rwy’n cofio siarad ag Arlywydd Iwerddon rai blynyddoedd yn ôl ynglŷn â sut y gallem ddefnyddio Blwyddyn y Môr, o bosibl, i greu pont...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(29 Maw 2017)

Ken Skates: Credaf fod sawl pwynt i’w gwneud. Yn gyntaf, mae economi Iwerddon wedi gwneud yn dda yn rhannol am fod cymaint o boblogaeth Iwerddon yn byw mewn dinas, a gwyddom fod dinasoedd wedi tyfu’n gyflymach nag ardaloedd gwledig o ran yr economi. Felly, mae’n anodd cymharu gwlad lle y mae cyfran fawr o’r boblogaeth yn byw mewn ardal drefol sydd wedi tyfu’n gyflymach oherwydd ei natur drefol,...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(29 Maw 2017)

Ken Skates: Wrth gwrs, mae trydaneiddio’r brif reilffordd a thrydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd yn llawer i’w ofyn, ac rydym wedi gwneud hynny dro ar ôl tro. O ran capasiti, nid oes unrhyw amheuaeth y gallai trydaneiddio fod o gymorth o ran gallu rhedeg mwy o gerbydau yn fwy rheolaidd, ond i’r un graddau, mae angen mwy o gerbydau ar y seilwaith rheilffyrdd presennol. Rwyf wedi siarad gyda Trenau...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(29 Maw 2017)

Ken Skates: Wrth symud ymlaen gyda masnachfraint y metro, byddwn, wrth gwrs, yn edrych ar reilffordd Glynebwy. Ar hyn o bryd, Network Rail sy’n gyfrifol am y seilwaith rheilffyrdd, ac rydym wedi mynegi ein siom dro ar ôl tro ein bod ond wedi cael 1 y cant o’r buddsoddiad yn ystod y cyfnod rheoli presennol, er bod 6 y cant o’r rheilffyrdd yn ardal masnachfraint Cymru a’r gororau. Credaf y dylid...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(29 Maw 2017)

Ken Skates: Fel rwyf wedi’i ddweud wrth Aelodau eraill, credaf ei bod yn hanfodol, fel rhan o’n hymagwedd newydd—ac unwaith eto, yn fy araith yr wythnos diwethaf, nodais sut y byddaf yn ailstrwythuro fy adran—ein bod yn rhoi mwy o sylw i’r cymunedau yn yr ardaloedd hynny sydd wedi gwneud yn wael mewn cyfnod o dwf economaidd. Holodd yr Aelod ynglŷn â seilwaith, a chysylltedd yn benodol. Credaf...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Gwella’r Economi
(29 Maw 2017)

Ken Skates: Efallai y dylwn gyfeirio’r Aelod at araith a roddais ddydd Llun diwethaf yng Ngholeg y Cymoedd—sefydliad trawsnewidiol sydd wedi llwyddo i gynyddu balchder yn yr ardal leol, a gwella sgiliau’r bobl sy’n byw yno. Yn yr araith honno, nodais fy ngweledigaeth ar gyfer strategaeth ffyniannus a diogel a fydd nid yn unig yn ceisio cynyddu cyfoeth a lles yn gyffredinol, ond hefyd yn ceisio...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Gwella’r Economi
(29 Maw 2017)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn? Gwelais drydariad ganddi a ofynnai gwestiwn da iawn. Mae’n gwestiwn y credaf y gallai llawer o gymunedau yn ardal y dinas-ranbarth ei ofyn. Y cwestiwn oedd, ‘Beth sydd yn y cyhoeddiad ar gyfer y Rhondda?’ A chredaf fod hynny’n berffaith iawn, gan fy mod wedi bod yn holi’n ddiweddar pwy sydd wedi elwa yn ystod yr adferiad ers y cwymp...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Gwella’r Economi
(29 Maw 2017)

Ken Skates: Rydym yn parhau i gefnogi twf busnesau, yn buddsoddi mewn seilwaith o ansawdd uchel, ac yn gwella amodau datblygu economaidd.

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.