Rhun ap Iorwerth: A gaf innau groesawu’r diweddariad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â’r gronfa bwysig yma? Jest ychydig o gwestiynau gen i. O ran y ‘reference’, mewn ffordd, faint ydym ni’n tybio y mae cyflwyno’r 17 cyffur newydd yma wedi ei gostio mewn termau go iawn i’r byrddau iechyd yng Nghymru? Rwy’n cymryd nad yw’r cyfan yn cael ei dalu allan o’r £16 miliwn yn flynyddol,...
Rhun ap Iorwerth: Mae wedi bod yn gyffrous gweld y gwahaniaeth y mae arian Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wedi gallu gwneud i dref Caergybi, lle mae yna nifer o brosiectau wedi digwydd neu ar y gweill. Ond, wrth gwrs, nid ydy’r problemau economaidd yn cael eu cyfyngu i’r ardaloedd sydd wedi cael eu neilltuo ar gyfer yr arian yma hyd yma. Pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi y bydd ardaloedd eraill yn...
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi gymryd ymyriad?
Rhun ap Iorwerth: A fyddech chi’n cytuno y gallai'r grŵp o wyth Aelod Seneddol Ceidwadol o Gymru hefyd fynnu pridwerth gan Theresa May dros hyn?
Rhun ap Iorwerth: Yn ffurfiol.
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhun ap Iorwerth: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A allwch dderbyn ei bod yn hanfodol canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud a ble y gallwn geisio dylanwadu? Pan fyddwch yn dweud ein bod mewn diffyg enfawr, nid ydym ni yng Nghymru mewn diffyg o’r fath. Mae gennym warged.
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae nifer ohonom ni wedi bod ar gefn beic heddiw wrth i elusen Leonard Cheshire Disability wahodd Aelodau i reidio cyn belled ag y gallwn ni ar feic ymarfer corff mewn 100 eiliad. Roedd hi’n braf bod ar frig y tabl am un cyfnod byr, ond dyna’r fantais sy’n dod o gael bod y cyntaf i gymryd rhan. Tynnu sylw oedd yr elusen at bwysigrwydd ymarfer corff ar gyfer...
Rhun ap Iorwerth: A gaf innau groesawu y cam yma sydd wedi cael ei gymryd? Mae’r egwyddor wedi ei sefydlu o ran y cyffur yma. Yr ymarferol, wrth gwrs, sydd yn bwysig i ddioddefwyr y canser yma y mae’r cyffur yma wedi ei gynllunio ar ei gyfer. Felly, dau gwestiwn syml: pa bryd rŵan, yn ymarferol, y bydd y cyffur yma ar gael yng Nghymru, a faint o amser a fydd yn rhaid i gleifion aros i gael presgripsiwn...
Rhun ap Iorwerth: Mae hi’n berffaith amlwg i mi fod y Llywodraeth mewn cryn bicil ynglŷn â’r mater yma. Mi gadwaf i fy sylwadau’n fyr iawn. Mi oeddwn i’n cyd-fynd â chi, pan oeddech chi’n eistedd ar y meinciau yma, pan wnaethoch chi sôn am ddiffyg uchelgais Gweinidogion Llafur o’ch blaen chi, ond o fod wedi gwrando ar eich atebion chi heddiw, nid ydw i’n clywed a ydych chi hyd yn oed yn dal...
Rhun ap Iorwerth: Rwy’n sicr yn croesawu unrhyw arwyddion—ac mae yna arwyddion positif—o welliant yn nifer y rhai sy’n dewis dod i weithio yng Nghymru, a chynnydd yn y nifer sy’n dewis hyfforddi i fod yn feddygon teulu. Ac mae cynnig cymhelliad ariannol yn gallu chwarae rhan yn hynny o beth. Ond mae datblygu arbenigedd, a chael cefnogaeth i ddatblygu’r arbenigedd yna, hefyd yn rhywbeth sydd yn...
Rhun ap Iorwerth: Ac yn sicr, mi wnaf i gysylltu efo chi, yn y ffordd y gwnes i gysylltu â’ch rhagflaenydd, a wnaeth hefyd ddweud geiriau mor gynnes ag yr ydych chi wedi eu dweud. Ond, yn anffodus, mae’n amlwg bod yna broblem o’n blaenau ni o hyd. Mi symudaf at yr her o ddenu meddygon o Loegr. Mae meddygon sydd wedi eu cofrestru yn Lloegr yn methu â gweithio yng Nghymru nes eu bod nhw wedi cael eu...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Llywydd. Mae sawl achos wedi cael eu tynnu i’m sylw i o feddygon a hyfforddwyd yng Nghymru ac sydd eisiau gweithio yng Nghymru, ond, oherwydd eu bod nhw wedi gweithio dramor, neu wedi derbyn hyfforddiant pellach dramor, sy’n ei chael hi’n anodd iawn i gofrestru i weithio eto yng Nghymru. Yn un achos—mi wnes i ysgrifennu at eich rhagflaenydd ynglŷn a hi—mi wnaeth hi orfod...
Rhun ap Iorwerth: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i chwaraeon anabledd yng Nghymru?
Rhun ap Iorwerth: Mi wnaf gadw fy nghyfraniad heddiw yn fyr. Eisiau datgan fy nghefnogaeth ydw i, yn syml iawn, i’r cynnig pwysig iawn yma. Mae’r nod yn syml iawn, iawn yn fan hyn, onid yw, ac mae hefyd yn hynod, hynod gyffrous rwy’n meddwl. Y nod ydy dileu hepatitis C yng Nghymru yn gyfan gwbl. Oes, mae yna ymrwymiad gan Sefydliad Iechyd y Byd i waredu erbyn 2030, ond mi allem ni yng Nghymru symud ar...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr i Paul Davies am gyflwyno'r Bil yma. Mae Plaid Cymru hefyd wedi bod yn gefnogol i alwadau gan bobl am ddeddfwriaeth er mwyn amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl awtistig yng Nghymru, yn ogystal â’u teuluoedd a gofalwyr—deddfwriaeth a fyddai’n gwella’r gwasanaeth mae pobl yn ei dderbyn a chyflymu’r broses o gael diagnosis. Pleidlais rydd fydd hon, ac mi fyddaf i yn sicr...
Rhun ap Iorwerth: Diolch. Mae hwn yn fater godais i efo’r Prif Weinidog mewn cwestiwn atodol ddoe. Mae sawl cyngor, fel rydych chi’n gwybod, wedi cymryd y penderfyniad i ganslo cyfleon profiad gwaith i ddisgyblion blwyddyn 10 a 12, yn cynnwys Ynys Môn. Ac rwyf i eto yn datgan diddordeb fel tad i ddau o blant—un ym mlwyddyn 10 ac un ym mlwyddyn 12. Mae rhieni a disgyblion wedi datgan siom fawr efo hyn,...
Rhun ap Iorwerth: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyfleoedd profiad gwaith i ddisgyblion? OAQ(5)0131(EDU)[W]
Rhun ap Iorwerth: Rwy’n sicr yn croesawu'r ymgynghoriad. Mae hyn, heb os, yn faes o ddatblygiad meddygol sydd â photensial enfawr, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei amlinellu. Wrth gwrs, mae'n cyd-fynd â’r agenda atal clefydau a diagnosis cynnar fel modd o wella canlyniadau i gleifion, gan arbed arian i'r GIG hefyd, wrth gwrs. Ceir arbedion enfawr y gellir eu gwneud yma trwy dargedu triniaeth yn...
Rhun ap Iorwerth: Mi oeddwn i’n falch iawn, ychydig wythnosau yn ôl, o gael sgwrs efo Laura Burton, merch ifanc o Fôn sy’n gwirfoddoli i Amser i Newid ac sy’n gwneud gwaith rhagorol yn pwyso am welliannau i wasanaethau iechyd meddwl. Mi oeddwn i’n cytuno efo hi, yn sicr, bod angen gwneud mwy i newid agweddau pobl ifanc tuag at iechyd meddwl, ond hefyd bod yn rhaid i gynnydd mewn ymwybyddiaeth fynd...