Jane Hutt: Bydd y Llywodraeth Cymru hon yn falch iawn o ddarparu’r datganiad hwnnw, Mark Isherwood. Wrth gwrs, fel y dywedwch, er bod hyn dan arweiniad y Gweinidog cymunedau a phlant, bydd hefyd yn cynnwys Gweinidogion eraill, gan gynnwys y Gweinidog iechyd, ac mae'n rhoi cyfle priodol i mi ymateb heddiw, wrth ateb y cwestiwn hwnnw ar y busnes datganiad, y byddwn ni’n llunio datganiad, fel y...
Jane Hutt: Wel, gwn fod y Gweinidog, gyda chyfrifoldebau blaenorol am dai mewn portffolios blaenorol, yn ymrwymedig iawn, iawn i ddatblygu buddsoddiad, nid yn unig mewn tai cymdeithasol, ond hefyd yn y ffyrdd mwy arloesol o ddarparu tai cymdeithasol drwy'r dull cydweithredol. Wrth gwrs, bu cynlluniau arbrofol a dreialwyd gan y cyn Weinidog â’r cyfrifoldeb hwn, sef Lesley Griffiths, o ran tai...
Jane Hutt: Mark Reckless, rwy'n falch iawn eich bod yn croesawu'r ffaith bod datganiadau llafar gan nifer o Ysgrifenyddion y Cabinet heddiw. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a’n Hysgrifenyddion y Cabinet yn cael y cyfle i roi diweddariad i'r Cynulliad. Wrth gwrs, mae cwestiynau ynglŷn â fy natganiad o’r Pwyllgor Busnes bob amser yn codi materion eraill yr wyf yn gwybod yr hoffech i...
Jane Hutt: Paul Davies, rwyf i’n hapus iawn i ailadrodd, rwy'n siŵr, yr un geiriau a ddefnyddiais yr wythnos diwethaf o ran cwestiynau ynglŷn â’r datganiad busnes: mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig, dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet, i gyflawni’r dull hwnnw ar sail gwyddoniaeth o ddileu TB buchol. Mae ein rhaglen gynhwysfawr i ddileu TB—sef ein polisi, dan arweiniad Llywodraeth...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Simon Thomas. Yn sicr, o ran eich pwynt cyntaf, credaf fod gwerth mewn treulio eiliad i gydnabod y trychineb a'r gyflafan yn Orlando a'r ffaith ein bod wedi dwyn ynghyd llawer o bobl ddoe y tu allan i'r Senedd—aelodau a chefnogwyr y gymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, pobl o wahanol grefyddau, gan uno Cymru â chenhedloedd eraill i ddangos cryfder ac...
Jane Hutt: Credaf fod Lynne Neagle wedi codi'r materion hyn yn gyson ac wedi chwarae rhan lawn o ran ymateb i'r ymgynghoriad, gan ei ystyried yng nghyd-destun 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', y cynllun cyflenwi. Wrth gwrs, fel y dywedwch, mae’r ymgynghoriad ffurfiol wedi cau bellach. Felly, rydym yn ymrwymedig i ddatblygu cynllun gweithredu strategol newydd i Gymru ar gyfer dementia, gan weithio'n...
Jane Hutt: Bu nifer o newidiadau i'r datganiad busnes ar gyfer busnes yr wythnos hon, Lywydd. Mae busnes heddiw, erbyn hyn, hefyd yn cynnwys datganiadau llafar am wneud cynnydd ar ein llwyddiant ailgylchu ar gyfer economi gylchol, prentisiaethau yng Nghymru, wythnos wirfoddoli ac adroddiad ar weithgor y Gymraeg a llywodraeth leol. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor Busnes i ad-drefnu dadleuon prynhawn...
Jane Hutt: Wel, diolch i’r Aelod dros Gaerffili am y cwestiwn hwnnw. Wrth gwrs, ni cheir enghraifft well o’r modd y mae awdurdodau lleol wedi gweithio gyda’i gilydd nag a welwyd gyda datblygiad llwyddiannus y fargen ddinesig, y 10 awdurdod lleol, sydd hefyd o ganlyniad i ymgysylltiad trawsbleidiol rhwng arweinwyr awdurdodau lleol ar y lefel honno—ar lefel ranbarthol. Ond rwy’n credu eich bod...
Jane Hutt: Wel, mae’n amlwg yn flaenoriaeth allweddol i’r Ysgrifennydd iechyd newydd. Ac wrth gwrs, nid yn unig y mae wedi gwneud yn siŵr mai un o’r pethau a gâi’r flaenoriaeth gyntaf ganddo oedd ymweld â Betsi Cadwaladr—mewn gwirionedd, rydym hefyd wedi cael ymateb da iawn gan gadeirydd Betsi Cadwaladr, o ran y cynnydd a wnaed o ganlyniad i’r ffaith ein bod wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb...
Jane Hutt: Mae Joyce Watson wedi tynnu sylw, yn briodol, y prynhawn yma mewn cwestiwn i’r datganiad busnes fel ein bod yn ymwybodol, nid yn unig o’r effaith bosibl o ran y colli swyddi a gwasanaethau yn ei rhanbarth—ac yn amlwg, wrth gwrs, mae hwn yn fater y bydd yr Ysgrifennydd dros yr Economi a’r Seilwaith yn edrych arno yn rhan o’i gyfrifoldebau newydd.
Jane Hutt: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwn. Mae Llywodraeth Cymru, fel y gwyddoch, wedi ymrwymo i ddull wedi’i arwain gan wyddoniaeth o ddileu TB mewn gwartheg. Mae ein rhaglen dileu TB gynhwysfawr yn cynnwys cynnal profion blynyddol ar wartheg, mesurau bioddiogelwch llym a mesurau rheoli symudiadau, a nod y dull hwn yw mynd i’r afael â holl ffynonellau’r haint. Wrth gwrs, rydym yn ymwybodol...
Jane Hutt: Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn pwysig hwnnw. Wrth gwrs, mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn darparu’r fframwaith deddfwriaethol hwnnw. Mae’n galluogi grŵp o awdurdodau lleol i baratoi cynllun datblygu strategol ac felly bydd yn ymdrin â rhai o’r materion trawsffiniol rydych yn tynnu sylw atynt gyda’ch cyd-Aelod, Hefin David, yng nghyd-destun Caerffili a’r agosrwydd at fynydd...
Jane Hutt: Diolch i Andrew R.T. Davies am ei gwestiynau ac am ei sylwadau croesawgar. Rwy’n falch iawn o ymateb fod Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi cyfarfod yn gyflym â’r undebau ffermio ac wedi cael ymateb da iawn, ac mae wedi gallu rhannu pwyntiau agenda allweddol, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys y rhai rydych yn tynnu sylw atynt heddiw. Rwyf eisoes wedi gwneud sylwadau ar y ffaith fod prisiau...
Jane Hutt: Diolch i’r Aelod dros Gwm Cynon am y cwestiwn pwysig hwn. Mae’n hanfodol, wrth gwrs, ein bod yn cynyddu lefelau adeiladu tai ac yn cefnogi cyflogaeth o ganlyniad i hynny—blaenoriaethau allweddol, wrth gwrs, i Lywodraeth Cymru. Mae adeiladwyr tai yng Nghymru yn mynnu nad ydynt yn bancio tir ac nid yw’r model busnes yn caniatáu iddynt ddal gafael ar asedau nad ydynt yn gweithio iddynt....
Jane Hutt: Diolch yn fawr i Simon Thomas am ei gwestiynau cyntaf i’r datganiad busnes yn y pumed Cynulliad hwn. Wrth gwrs, bydd Simon Thomas yn amlwg yn ymwybodol o’n sefyllfa ddatganedig fel Llywodraeth Cymru mai’r hyn sydd orau i Gymru yw bod yn aelod o’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, ac yn amlwg, rydym yn gobeithio y bydd hynny’n cael ei adlewyrchu yng nghanlyniad y refferendwm ar...
Jane Hutt: Diolch i Lynne Neagle am y cwestiwn hwnnw i’r datganiad busnes. Fel rydych wedi cydnabod, mae’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos diddordeb brwd iawn yn y cynnydd a wneir yn y mater hwn. Maent yn ymwybodol fod cyfarfodydd diweddar wedi’u cynnal rhwng yr amgueddfa genedlaethol ac Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, ac mae’r amgueddfa genedlaethol wedi cadarnhau...
Jane Hutt: Mae busnes yr wythnos hon fel y’i nodir yn agenda’r Cyfarfod Llawn gyda datganiadau llafar gan y Llywodraeth ar Fesur Cymru, Tata Steel a phencampwriaeth pêl-droed Ewrop. Yn ogystal, mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i drefnu cynnig gweithdrefnol i ethol Comisiynwyr y Cynulliad, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni atal y Rheolau Sefydlog. Mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel...
Jane Hutt: Yn ffurfiol.
Jane Hutt: Yn ffurfiol.
Jane Hutt: Yn ffurfiol.