Mr Simon Thomas: Roedd hi'n bwrw eira.
Mr Simon Thomas: Diolch yn fawr i Nick Ramsay am ddod â’r datganiad ar ran y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus heddiw, sy’n fy ngalluogi i, ar ran y Pwyllgor Cyllid, i ategu ein diolch i’r archwilydd cyffredinol. Mae e’n gweithio gyda phwyllgor Nick, wrth gwrs, yn bennaf. Mae llywodraethiant swyddfa’r archwilydd cyffredinol yn dod i’r Pwyllgor Cyllid, ac rydym ni wedi gwerthfawrogi’n fawr iawn...
Mr Simon Thomas: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod, amgueddfa annibynnol hynaf Cymru, hefyd yn dathlu pen-blwydd yr wythnos hon—ei phen-blwydd yn 140 oed. Sefydlwyd yr amgueddfa i arddangos arteffactau daearegol prin a gasglwyd gan y Parch Gilbert Smith ac a brynwyd gan y dref am £100—dyna £11,000 yn arian heddiw. Dros y blynyddoedd, mae'r amgueddfa wedi ennill nifer...
Mr Simon Thomas: Nid wyf yn credu y gallaf ychwanegu unrhyw beth arall ar wahân i ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Lee Waters a Nick Ramsay. Dywedais ddoe fy mod yn credu bod system lywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwdr ac nad oes gennyf unrhyw ffydd ynddi: rwy'n ailadrodd hynny er mwyn ei gofnodi gyda chi. Nid oes gennyf unrhyw ffydd yn system lywodraethu'r sefydliad hwn ar hyn o...
Mr Simon Thomas: Diolch i'r Llywydd am yr ymateb. Rwy'n edrych ymlaen i'r Eisteddfod ddod i'r bae ac i'r Cynulliad, ac rwy'n edrych ymlaen yn arbennig i'r adeilad hyfryd yma, a adeiladwyd i gyhoedd Cymru, gael ei ddefnyddio at ddibenion diwylliannol yn ogystal â gwleidyddol. Roeddwn wastad yn meddwl y byddai'r Siambr yma yn gwneud Cylch yr Orsedd arbennig o dda, ond mae'n debyg nad ydym wedi mynd cweit mor...
Mr Simon Thomas: A hoffwn annog pawb—. Pan euthum i fy Eisteddfod gyntaf, prin y gallwn siarad Cymraeg. Mae'n brofiad ymdrochol hollol wych, a hoffwn annog pobl ledled Cymru i ddod i Gaerdydd, i ddod i'r Cynulliad Cenedlaethol, bod yn rhan o brofiad gwych a byw'r wythnos drwy gyfrwng y Gymraeg. Diolch yn fawr.
Mr Simon Thomas: Wel, cyn bo hir, bydd y Llywodraeth yn derbyn yr astudiaeth dichonoldeb yn deillio o'r cytundeb gyda Plaid Cymru ar ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Pan ddaeth y Prif Weinidog i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn Aberystwyth, fe wnaeth dywallt dŵr oer dros y syniad o ailagor y rheilffordd, chwedl golygyddol y Cambrian News. Ond, erbyn hyn, gyda'r cyhoeddiad...
Mr Simon Thomas: 1. A wnaiff y Comisiwn datganiad ynglŷn â defnyddio ystâd y Cynulliad ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol? OAQ52554
Mr Simon Thomas: Pa fuddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud mewn telegyfathrebu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Mr Simon Thomas: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, yn wir, am y cyfarfodydd adeiladol sydd wedi cael eu cynnal rhyngof i ac yntau, a rhwng swyddogion y Pwyllgor Cyllid a swyddogion y Llywodraeth, sydd wedi arwain at sefyllfa lle mae'r penderfyniad ariannol yn cael ei gyflwyno heddiw. Hoffwn ddweud wrth Aelodau bod y newidiadau sydd wedi cael eu hawgrymu ac wedi cael eu trafod...
Mr Simon Thomas: Brif Weinidog, pan rydych chi'n edrych ar y Cofnod, mae'n siŵr y byddwch chi'n canfod bod yna chwe chynnig deddfwriaethol gan arweinydd Plaid Cymru yn ei hymateb i'ch cynigion chithau, chwech ohonyn nhw yn syniadau cyffrous a radical ar gyfer Cymru. A hoffwn i ychwanegu tri arall atyn nhw. Yn gyntaf oll, fe ddywedodd arweinydd y tŷ wrthyf fi, wrth i ni drafod y Bil a ddaeth yn...
Mr Simon Thomas: Yn gyntaf oll, a gaf i ofyn i arweinydd y tŷ sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cadw'r Aelodau yn gyfredol am ddatblygiadau proses Brexit? Mae pethau'n danbaid iawn yn San Steffan, ac maen nhw'n mynd ar wyliau yn gynnar—efallai byth i ddychwelyd, pwy a ŵyr? Gawn ni weld. Ond mae'n bwysig ein bod yn deall, wrth i bethau cael eu negodi a'u trafod—er y gallai hyn ddigwydd ym mis Awst,...
Mr Simon Thomas: Wel, dyma'r drydedd blaid sy'n codi i gefnogi 20 mya fel y peth naturiol yn ein trefi a phentrefi ni. Pan oeddwn i'n mynd i'r ysgol gynradd, roedd 90 y cant o blant yn cerdded nôl ac ymlaen i'r ysgol gynradd ar eu pennau eu hunain. Erbyn hyn, dim ond 25 y cant sy'n teithio ar eu pennau eu hunain nôl ac ymlaen i'r ysgol gynradd. Mae hynny oherwydd bod y car wedi dod i ddominyddu ein tirwedd...
Mr Simon Thomas: Diolch am yr ateb. Wrth gwrs, nid yw e wedi’i ddatganoli, ond mae Llywodraeth Cymru, yn y gorffennol, wedi cynnal amryw o systemau cynnal a grantiau ar gyfer swyddfeydd post. Mae newid diweddar yn y ffordd y mae’r Swyddfa Bost yn talu’r canghennau o’r taliad sylfaenol, beth maen nhw’n ei alw’n core tier payment, i daliadau fesul transaction yn cael effaith ar rai swyddfeydd post,...
Mr Simon Thomas: [Anghlywadwy.] niferoedd.
Mr Simon Thomas: A ydych chi'n siŵr? [Chwerthin.]
Mr Simon Thomas: Mae'n amlwg o fynd o gwmpas cefn gwlad Cymru ar hyn o bryd pa mor sych yw'r ddaear; mae pethau'n hesb iawn. Rydych chi wedi cyhoeddi eich bod chi'n barod i ryddhau rhai o ymrwymiadau Glastir er mwyn cynorthwyo ffermwyr i ddelio gyda'r tywydd yma. Pe bai'r tywydd yn parhau—a dyma'r cyfle olaf, wrth gwrs, i chi gerbron y Cynulliad cyn toriad yr haf—pe bai'r tywydd yn parhau a bod diffyg...
Mr Simon Thomas: Credaf fod y ffordd rydych yn cynhyrchu bwyd yn nwydd cyhoeddus a chredaf fod bwyd cynaliadwy a iachus yn rhywbeth y dylem fod yn ceisio'i gyflawni er budd ehangach yr amgylchedd, ein hiechyd cyhoeddus a phopeth arall, felly buaswn yn sicr yn awyddus i annog pobl i ymateb i'ch ymgynghoriad wrth wneud y cysylltiad cryf hwnnw. Yr hyn nad ydym am ei weld, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, yw...
Mr Simon Thomas: Wel, diolch am eich ateb, ac rydych yn llygad eich lle fy mod yn cyfeirio at y toriad yn y cysylltiad rhwng yr hyn y gellid ei ddisgrifio fel incwm sylfaenol a newid—newid sylweddol—i ganlyniadau sy'n seiliedig ar nwyddau cyhoeddus, fel rydych newydd ei ddisgrifio, gan ddefnyddio iaith y Trysorlys i gyfiawnhau rhywfaint o hyn. Rwy'n deall hynny, a chredaf fod llawer yn eich papur...
Mr Simon Thomas: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Jeremy Corbyn yn credu bod incwm sylfaenol yn syniad da iawn. A allwch esbonio pam na chredwch ei fod yn syniad da i ffermwyr Cymru?