Lord Dafydd Elis-Thomas: 'Rwyf eisiau gofyn cwestiwn i chi',
Lord Dafydd Elis-Thomas: meddai fo,
Lord Dafydd Elis-Thomas: 'Dydw i erioed wedi clywed gwasanaeth rhyng-ffydd o'r fath,'
Lord Dafydd Elis-Thomas: meddai fo,
Lord Dafydd Elis-Thomas: 'mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, ac rwyf eisiau dweud wrthych chi,'
Lord Dafydd Elis-Thomas: meddai fo,
Lord Dafydd Elis-Thomas: 'fyddech chi byth yn llwyddo i wneud hynny yn Llundain.'
Lord Dafydd Elis-Thomas: A beth oedd o ddiddordeb iddo fo, wrth gwrs, oedd pam oeddem ni wedi trefnu'r math yna o ddigwyddiad, ac roedd o'n deall pwysigrwydd ffydd i gymunedau, ac ieithoedd amrywiol, ac roedd ei brofiad o drwy ei fywyd yn adlewyrchu hynny. Ac mae'r gair olaf yn mynd â fi'n ôl eto, wrth gwrs, i Feirionnydd. Fe'i gwnaed o'n Iarll Meirionnydd, ac un o'r ymweliadau mwyaf diddorol a difyr i fi erioed ei...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Mae hi'n fraint arbennig o drist ond hefyd arbennig o briodol ein bod ni'n cwrdd heddiw ar achlysur fel hyn i goffáu Iarll Meirionnydd a'r Tywysog Philip ac, wrth gwrs, Dug Caeredin. Rydym ni wedi cael y cyfle, lawer ohonom ni, i gwrdd ag o ar achlysuron ffurfiol ac anffurfiol. Ac mewn gwladwriaeth megis y Deyrnas Unedig, sydd wedi ei strwythuro yn ddemocratiaeth gymdeithasol ond sydd hefyd...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr, Llywydd, ac i chi mae'r diolchiadau cyntaf, am ddatblygu cyfansoddiad ein Senedd ni, ac yna am ymestyn ei neges i'r cyhoedd, ac yn arbennig i'r ieuenctid yng Nghymru. Hoffwn i ddiolch yn ogystal, wrth gwrs, i'r holl swyddogion sydd wedi gwneud ein gwaith ni fel Aelodau etholedig yn bosib yn y Senedd, yn ei grwpiau, ei phwyllgorau, yn y Comisiwn ac yn Llywodraeth Cymru, ond yn...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr, Ann, a diolch am y fraint o gael fy llywyddu gennyt ti ar y diwrnod olaf yn y lle hwn. Mae'n cyfeillgarwch ni a'n perthynas ni yn y gogledd, a lot o gydweithio gwleidyddol wnawn ni ddim sôn amdano fo heddiw, yn mynd yn ôl am ddegawdau. Rwyt ti wedi bod yn seren yn ein plith ni, ac yn arbennig felly yn y swydd llywyddu. Dwi'n croesawu adroddiad y pwyllgor. Dwi'n ddiolchgar...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Rwy'n derbyn y cyfrifoldeb sydd gennyf ar hyn o bryd fel Gweinidog y celfyddydau dros Theatr Clwyd, ond hefyd fel rhywun sydd wedi cefnogi'r theatr ers ei sefydlu gyntaf, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych wedi'i ddweud am ei chyfraniad. Ond mae lleoliadau celfyddydol eraill ar draws y gogledd, fel Galeri yng Nghaernarfon, Ucheldre yng Nghaergybi, Pontio ym Mangor, Frân Wen, Theatr Bara...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch, Mark. Mae Llywodraeth Cymru, drwy ein partneriaeth â'r cyngor celfyddydau statudol, yn darparu cyllid yn flynyddol i gefnogi'r celfyddydau ledled Cymru. Mae'r gronfa adferiad diwylliannol gwerth £63 miliwn wedi bod yn hanfodol i gefnogi llawer o sefydliadau, ac mae'n debyg mai'r enghraifft orau yng ngogledd Cymru yw'r buddsoddiad cychwynnol o £3 miliwn a ddarparwyd gennym fel...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Wel, mae'r cyfan rydyn ni'n ei wneud fel Llywodraeth Cymru wedi'i fwriadu i adfer y sector dwristiaeth, a sectorau eraill. Rydyn ni wedi sicrhau bron i £3 miliwn ar gyfer bron i 200 o fusnesau twristiaeth ar Ynys Môn. Mae hynny'n ychwanegol at y grantiau dewisol sydd wedi cael eu dyrannu'n effeithiol iawn gan yr awdurdod lleol. Mi fydd hynny yn sicr yn parhau. Dwi'n dal i gwrdd yn gyson...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Dwi'n ymwybodol o'r sefyllfa a'r pwysau sydd ar y diwydiant yn Ynys Môn. Dwi hefyd yn gwerthfawrogi'n fawr y berthynas sydd rhyngom ni fel Llywodraeth a llywodraeth leol Ynys Môn dan arweiniad cadarn, fel y mae o, ac mae'n dda gen i ddweud ein bod ni'n parhau i chwilio am ffyrdd o gydweithio a hefyd o geisio cyllid digonol yn ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Lord Dafydd Elis-Thomas: Fe wnaf hynny'n bendant iawn.
Lord Dafydd Elis-Thomas: Wel, rwy'n credu y byddwch yn gwybod o'r adegau eraill rwyf wedi siarad am hyn mai fi yw'r person olaf i ofyn iddo am ddyddiadau mewn perthynas â materion iechyd cyhoeddus, oherwydd, yn amlwg, fel Llywodraeth, rydym wedi mabwysiadu'r ymagwedd gadarn iawn fod yn rhaid i bopeth a wnawn fod yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd. Rwy'n ymwybodol fod y Llywodraeth dros y ffin yn Lloegr wedi...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch, Huw. Mae'r awgrym hwnnw'n ddeniadol iawn, ac yn wir, mae Croeso Cymru eisoes yn gweithio ar y gwersi a ddysgwyd o ailagor y llynedd gyda'r awdurdodau lleol i weld beth y gallwn ei wneud. Ceir rhai problemau cynllunio diddorol ac anodd wrth gwrs. Mae'r rheol 28 diwrnod eisoes yn caniatáu i dirfeddianwyr ddefnyddio tir ar gyfer gwersylla pebyll yn unig heb ganiatâd cynllunio ffurfiol,...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr, Huw, am gwestiwn mor amserol. Rydym ni'n cadw mewn cysylltiad â’r sector—a hynny'n golygu pob sector twristiaeth—drwy’r tasglu twristiaeth, sydd yn cwrdd yn wythnosol, ac mae'r cyfarfod nesaf ddydd Gwener sy'n dod. Ac mae gyda ni hefyd, wrth gwrs, y fframwaith pedwar fforwm rhanbarthol. Mi fydd y baromedr twristiaeth yn cael ei gyhoeddi yn gynnar fis nesaf, a dwi am...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Mae'r Llywodraeth wedi bod yn gweithio'n agos efo’r llyfrgell genedlaethol a'r amgueddfa am gyfnod estynedig, er mwyn creu a deall darlun cyllidol clir o anghenion y sefydliadau. Rydyn ni hefyd wedi bod yn astudio'n fanwl yr adolygiad archwilio teilwredig. Mae'n bwysig i esbonio beth yw archwiliad teilwredig, oherwydd archwiliad annibynnol o safbwynt awdit ynglŷn â'r modd mae'r sefydliad...