Mr Neil Hamilton: Rwy'n synnu'n fawr at y gwelliannau hyn. Roedd brwdfrydedd Llyr Gruffydd wrth siarad o'u plaid yn ein hatgoffa o weinidogaethau propaganda a goleuo'r cyhoedd mewn oes a fu. Dylai addysg ymwneud ag addysgu plant i gwestiynu, meddwl a defnyddio eu barn, ac eto yr hyn y cawn ein gwahodd i'w wneud yma yw gosod ar blant rhyw fath o wirionedd a dderbynnir, ond mewn gwirionedd mae dadl boeth ymysg...
Mr Neil Hamilton: Mewn cynifer o feysydd eraill hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymroi i ddinistrio'r economi sy'n cynhyrchu cyfoeth yng Nghymru, yn union fel y mae Llywodraeth y DU ar ochr arall y ffin wedi ei wneud hefyd. Dim ond gwaethygu'r wasgfa y mae'r pandemig COVID wedi ei wneud. Ond nid yw hynny'n ddim byd—fe wnaf i orffen gyda'r sylw olaf hwn, Llywydd—o'i gymharu â'r wasgfa sydd i ddod,...
Mr Neil Hamilton: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cytuno yn llwyr â'r cyhuddiad yr ydym ni newydd ei glywed gan Alun Davies yn erbyn Llywodraeth Cymru ac, yn wir, Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y cyfyngiadau yr ydym yn eu hwynebu yn y ddadl hon. Mae'n debyg i ddadl ynglŷn â symud y cadeiriau haul ar y Titanic wrth i economi Cymru ruthro tuag at y mynydd iâ, a hynny am ddau reswm. Yn gyntaf, mae cyllideb y...
Mr Neil Hamilton: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu i ba raddau y mae Deddf Addysg 1996 wedi dylanwadu ar bolisi Llywodraeth Cymru yn y pumed Senedd?
Mr Neil Hamilton: Mae'r staff, yn yr un modd, wedi gostwng yn eu niferoedd o 290 i 224, felly mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cefnogi'r llyfrgell genedlaethol, ac rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi gwneud hynny am y ddwy flynedd nesaf, ond mae angen gwneud hyn yn barhaol. Hoffwn orffen gydag arwyddair Coleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth, Nid Byd, Byd Heb Wybodaeth, ond hefyd, i mi, Nid Byd, Byd Heb Lyfrgell...
Mr Neil Hamilton: Prin y dylai fod angen cael dadl yn galw am gyllid digonol ar gyfer llyfrgell genedlaethol. Mae'n drueni ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn, ond fel eraill hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei rôl yn sicrhau bod y pecyn ariannu a gyhoeddwyd heddiw wedi'i gyflwyno. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd. Yn wir, treuliais sawl blwyddyn wedi fy nghladdu yn ei...
Mr Neil Hamilton: A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi mai'r ffordd orau y gallai Llywodraethau gynorthwyo meysydd awyr ledled y Deyrnas Unedig ac, yn wir—[Anghlywadwy.] —yw diddymu'r doll teithwyr awyr, sy'n dreth ar hedfan ac yn anghymhelliad enfawr i bobl ddefnyddio meysydd awyr? Mae'n ychwanegu £78 at bob tocyn teithiau byr ac yn y pen draw gall fod—[Anghlywadwy.]—o gyfanswm pris tocyn. Ond...
Mr Neil Hamilton: Felly, 50 mlynedd yn ôl, dywedodd Edward Heath na fyddem yn ymuno â'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd oni bai ein bod yn cael cydsyniad llawn y Senedd a'r bobl. Ni chafwyd cydsyniad pobl Prydain; ni ofynnwyd amdano. Ni chafodd gydsyniad llawn ein Senedd oherwydd mai mwyafrif o ddim ond wyth a gafodd y Bil a aeth â ni i mewn, mewn pleidlais wedi'i chwipio drwyddi draw 50 mlynedd yn ôl....
Mr Neil Hamilton: Wel, mae'r areithiau chwerw a dystopaidd braidd a glywsom yn gynharach yn y ddadl hon, gan y Prif Weinidog a chan arweinydd Plaid Cymru, yn cadarnhau eu bod yn elynion i ddemocratiaeth, oherwydd nid oes yr un ohonynt erioed wedi derbyn canlyniad y refferendwm yn 2016, pan bleidleisiodd pobl Cymru, yn ogystal â phobl y Deyrnas Unedig, dros adael yr UE. Ac maent wedi gwneud popeth yn eu gallu,...
Mr Neil Hamilton: Rwy'n dirwyn i ben. Rhaid inni ddod i delerau â'n treftadaeth ac felly rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon yn gyfle inni allu dechrau'r broses o gymhathu ein gorffennol mewn ffordd y gallwn ymfalchïo ynddi, ond heb guddio'r rhannau ohono y mae angen gwybod amdanynt ac na fyddem yn eu hystyried yn dderbyniol heddiw mwyach.
Mr Neil Hamilton: Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi targedu Winston Churchill fel rhywun sydd efallai'n broblemus—y dyn a ymladdodd yn erbyn hiliaeth a ffasgaeth ar ffurf Natsïaeth ac yr ysbrydolodd ei areithiau mawr yn 1940 a wedyn y wlad i sicrhau llwyddiant yn y pen draw a dinistr Natsïaeth. Yr Arglwydd Nelson, hefyd. Mae yntau'n gocyn hitio, er nad oedd ganddo unrhyw gysylltiadau ystyrlon â...
Mr Neil Hamilton: Yn y blynyddoedd cyn y dewrder a ddangosodd yn Waterloo, chwaraeodd ran ganolog yn y ffordd i Waterloo, drwy Sbaen, yn y rhyfel y Penrhyn. Ac rwy'n meddwl ei fod yn elfen arwyddocaol iawn wrth orfodi'r Ffrancwyr allan o Sbaen, lle roedd Napoleon, wrth gwrs, wedi gosod ei frawd yn frenin. Ac mae'r brwydrau y chwaraeodd Picton ran mor bwysig ynddynt yn cael eu coffáu ar yr obelisg yng...
Mr Neil Hamilton: Diolch, Lywydd dros dro, ac rwy'n falch iawn o fod yn ôl yn y Siambr am y tro cyntaf ers mis Mawrth, er fy mod yn ymddiheuro i fy hen gyd-aelod seneddol, y Gweinidog, am ei gadw yma mor hwyr yn y dydd. Ond rwy'n falch iawn o'i weld, ac ni allaf feddwl am neb gwell i ateb y ddadl hon. Mae'r ddadl hon yn codi, fel y mae pawb yn sylweddoli mae'n siŵr, o'r ymgyrch wleidyddol gan gefnogwyr y...
Mr Neil Hamilton: Rydym yn trafod cynllun rheoli y prynhawn yma. Wel, mae'n sicr yn gynllun, ond yr hyn sy'n ansicr yw a fydd gennym ni mewn gwirionedd fawr o reolaeth dros unrhyw beth. Gwelsom gyda'r cyfnod atal byr, fel y rhagwelais yn wir pan gafodd ei drafod, y gallai'r niferoedd ostwng am gyfnod byr ond, cyn gynted ag y byddai'r cyfyngiadau'n cael eu codi, y bydden nhw'n dechrau cynyddu eto. Felly, oni...
Mr Neil Hamilton: Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn dryloyw iawn. Nid oedd ef erioed wedi dymuno Brexit, mae wedi gwneud popeth o fewn ei allu yn y pedair blynedd a hanner diwethaf i'w danseilio, ac fe fethodd â rhoi ateb i gwestiwn David Rowlands. Mae'n gwbl amlwg o'i ddatganiad mai ei syniad ef o drafodaeth yw ein bod yn derbyn yn syml pa ofynion bynnag a wnaiff Monsieur Barnier, waeth pa mor hurt neu afresymol...
Mr Neil Hamilton: Diolch, Lywydd. Os yw rheoliadau i gael eu cyflwyno, credaf y dylai fod rhyw sail ystadegol gadarn iddynt, ac felly, mae'n ddyletswydd ar y Llywodraeth i gyhoeddi hynny. Ac oherwydd fy mod yn credu nad oes sail o'r fath—
Mr Neil Hamilton: Ac ar y sail honno, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn.
Mr Neil Hamilton: Ac mae'r tafarndai a'r bwytai wedi gwario miloedd ar filoedd o bunnoedd ar geisio sicrhau bod eu busnesau'n cydymffurfio â mesurau COVID, ac erbyn hyn mae'r holl arian hwnnw wedi'i wastraffu. Ac os bydd yn rhaid iddynt aros am fisoedd er mwyn cael unrhyw fath o iawndal ariannol, bydd hynny'n cynyddu nifer y rhai a fydd yn mynd i'r wal. Mae'n amlwg mai tafarndai ar y ffin, neu o fewn pellter...
Mr Neil Hamilton: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wel, mae'r cyfyngiadau un maint addas i bawb hyn yn amlwg yn afresymol ac nid ydynt wedi'u seilio ar unrhyw dystiolaeth ystadegol gredadwy. Mae'r Llywodraeth wedi gwneud llawer iawn o gamgymeriadau polisi yn yr wyth mis diwethaf, ac mae'r rhagfynegiadau a wneuthum pan feirniadais bob un ohonynt i gyd wedi dod yn wir. Ni weithiodd y cyfnod atal byr, ac ni allai...
Mr Neil Hamilton: Ers i'r Llywodraeth Lafur agor y llifddorau i fudo torfol yn 2004, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn gwybod ein bod wedi bod yn ychwanegu bron i draean o filiwn o bobl at boblogaeth y DU bob blwyddyn. Mae hyn wedi cael effaith lesteiriol ar gyflogau, yn enwedig i'r rheini mewn swyddi heb sgiliau ar gyflogau isel, ac mae hefyd yn gwaethygu'r prinder tai gwirioneddol sydd gennym ledled y Deyrnas...