Rebecca Evans: Thank you, Deputy Presiding Officer. I hadn’t intended to use this debate to educate Members about the 2020-21 consolidated accounts, but I will begin with that, because we’ve had a number of contributions that have just been so factually incorrect it’s very difficult to let them go. So, we’re talking here about the year that was the pandemic year. Obviously, that was an exceptional...
Rebecca Evans: I move.
Rebecca Evans: Thank you very much to colleagues for their contributions, and, again, thank you to committees for the work that they've done. We're absolutely committed to facilitating Senedd scrutiny, and, as I think has been recognsed, the scrutiny periods for the memorandum were originally shorter because of the anticipated timing of the conclusion of the Bill's committee stage in Westminster, but the...
Rebecca Evans: Thank you. I move the motions. Over £8 billion is spent on public procurement each year in Wales. Improving the way we procure can drive innovation and resilience and deliver benefits across Wales by supporting our local economy and saving the taxpayer money. Through this Bill, there's an opportunity to simplify the complex procurement landscape that currently exists for buyers and suppliers...
Rebecca Evans: Gwnaeth Prifysgol Caerdydd waith gyda ni i geisio cael trafodaethau ledled y sector cyhoeddus lle defnyddiwyd y rhaglen buddsoddi i arbed, ac mae wedi'i defnyddio ledled Cymru mewn ystod o ffyrdd i ddeall beth oedd y rhwystrau i weithredu ac ehangu'r prosiectau da hynny a'r dysgu ledled Cymru fel y gellid gwneud y mathau hyn o ymyriadau heb fod angen y cyllid buddsoddi i arbed. Felly, rydym...
Rebecca Evans: Ers ei chyflwyno yn 2009, mae'r rhaglen buddsoddi i arbed wedi cefnogi tua 200 o brosiectau gyda gwerth cyfanredol o oddeutu £200 miliwn. Yn fwyaf diweddar, mae wedi darparu cyllid ar gyfer tri phrosiect newydd, gan ein helpu i gyflawni ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal.
Rebecca Evans: Mae Llywodraeth Cymru'n gweld mai'r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i helpu awdurdodau lleol i gefnogi eu cymunedau drwy'r cyfnod anodd hwn yw darparu cymaint o gefnogaeth ag y gallwn drwy'r grant cymorth refeniw. Mae ein setliad ar gyfer 2023-24 yn gynnydd o £227 miliwn i'r dyraniadau dangosol a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddiwethaf. Mae hynny, yn rhannol, yn deillio o'r ffaith ein bod wedi...
Rebecca Evans: Roedd cefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol drwy'r amseroedd caled hyn yn flaenoriaeth allweddol yng nghyllideb 2023-24. Rwyf wedi darparu £227 miliwn ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol, gan gynnwys cyllid ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol, ochr yn ochr ag ymyriadau cymorth costau byw eraill a ariennir yn uniongyrchol, gan gynnwys £18.8 miliwn ar gyfer y gronfa cymorth dewisol.
Rebecca Evans: Nid yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth o'r fath, oherwydd credwn y byddai capio cyllideb awdurdod yn llyffethair difrifol ar gyfrifoldebau'r aelodau a etholir yn lleol. Rydym yn darparu hyblygrwydd i awdurdodau lleol, wrth gwrs, wrth osod eu cyllidebau a phenderfynu ar eu lefelau treth gyngor, ac mae hynny'n caniatáu iddynt ymateb i flaenoriaethau a phwysau lleol....
Rebecca Evans: Materion i bob awdurdod lleol a'u haelodau etholedig yw'r cyfrifoldeb dros bennu cyllideb flynyddol y cyngor, a phenderfyniadau am dreth gyngor yn rhan o hynny.
Rebecca Evans: Cafodd y cais am gymorth ychwanegol, er enghraifft yr arian ychwanegol sydd wedi mynd drwy Cymunedau am Waith, ei wneud i Weinidog yr Economi. Felly, nid wyf wedi cael unrhyw geisiadau penodol am gyllid ychwanegol. Ond rwy'n gwybod bod cyfarfod wedi'i gynnal ar 15 Mawrth rhwng cyngor Môn, Swyddfa Cymru, Llywodraeth Cymru ac Amber Holdings sy'n berchen ar y safle, a bod y cyfarfod hwnnw wedi...
Rebecca Evans: Hoffwn ddechrau drwy dawelu meddwl Rhun ap Iorwerth fod Gweinidog yr Economi yn gweithio'n agos iawn wir gyda'r cyngor ar y mater hwn, ac mae'r tasglu hefyd yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd i sefydlu ffordd ymlaen a hefyd i ddeall y goblygiadau ehangach y mae'r Aelod wedi cyfeirio atynt. Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol drwy raglen Cymunedau am Waith a Mwy...
Rebecca Evans: Mae Gweinidog yr Economi, gan weithio gyda'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, yn ymgysylltu ar draws y Llywodraeth ac yn gweithio mewn partneriaeth â chyngor Ynys Môn drwy dasglu 2 Sisters. Mae ein ffocws cyfunol hyd yma wedi bod ar gefnogi gweithwyr yr effeithir arnynt a'r gymuned yn Llangefni a thu hwnt.
Rebecca Evans: Wel, fe ddywedaf fod Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi osgoi peryglon contractau mentrau cyllid preifat yn gyson, ac o ganlyniad i'n dull o weithredu, mae'r rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig â'r math hwn o gynllun yng Nghymru yn llai o lawer nag mewn rhannau eraill o'r DU. Er enghraifft, tua £40 y pen yw cost cynlluniau mentrau cyllid preifat yng Nghymru ar gyfartaledd, ac mae hynny...
Rebecca Evans: Wel, mae'r awdurdodau'n parhau i adolygu eu contractau i benderfynu ar werth am arian, ac nid yw awdurdodau contractio sy'n cynnal adolygiadau i ail-drafod neu i derfynu contract angen cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i ail-drafod na therfynu'r contract hwnnw. Ond mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r achos busnes, gan ein bod yn darparu rhywfaint o gost cymorth refeniw ar gyfer mentrau cyllid...
Rebecca Evans: Bellach, mae 20 o gontractau mentrau cyllid preifat hanesyddol yn weddill yng Nghymru. Yn 2019, dechreuodd y Prif Weinidog adolygiad o gontractau mentrau cyllid preifat, gan annog awdurdodau contractio i ail-drafod neu derfynu contractau mentrau cyllid preifat lle roedd achos gwerth am arian dros wneud hynny. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo.
Rebecca Evans: Byddai’r rhain yn faterion i aelodau’r bwrdd pensiynau a’r gronfa bensiwn eu hystyried mewn gwirionedd, o ran y buddsoddiadau y mae’r gronfa’n eu gwneud. Ond wedi dweud hynny, credaf y gall buddsoddiadau pensiwn gwyrdd fod yn fuddsoddiadau da iawn o ystyried y ffordd y mae’r farchnad ynni bresennol yn symud tuag at ffordd wyrddach a mwy cynaliadwy o ddarparu ynni ar gyfer y...
Rebecca Evans: Rwy'n cytuno'n llwyr mai cydweithio i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur yw’r unig ffordd y gallwn wneud y gwelliannau y mae’n rhaid eu gwneud. Mae gwir angen i’r system bensiwn gyfan ymateb i’r agenda hon. Mae’n wir, wrth gwrs, y gall awdurdodau pensiwn llywodraeth leol ddysgu oddi wrth ei gilydd ac ar draws y sector cyhoeddus yn fwy cyffredinol. Credaf y bydd y cyfarfod y gwn...
Rebecca Evans: Rydym yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr. Bu partneriaeth pensiwn Cymru yn trafod datgarboneiddio pensiynau llywodraeth leol yng Nghyngor Partneriaeth Cymru ym mis Tachwedd. Yn dilyn eich cyfarfod gyda’r Prif Weinidog ym mis Ionawr, mae CLlLC wedi cytuno i gynnal digwyddiad ym mis Mai gydag arweinwyr a darparwyr pensiynau i drafod y camau nesaf.
Rebecca Evans: Credaf ei bod yn bwysig iawn fod awdurdodau lleol—a'r sector cyhoeddus yn fwy cyffredinol—yn manteisio ar gyfleoedd i geisio denu ystod lawer ehangach a mwy amrywiol o bobl i weithio yn eu sectorau. Gallant wneud hynny drwy, er enghraifft, sicrhau bod yr hysbysebion ar gyfer rolau yn cael eu gosod yn briodol mewn mannau lle mae pobl â nodweddion mwy amrywiol yn debygol o’u gweld, a dod...