Canlyniadau 1–20 o 2000 ar gyfer speaker:Kirsty Williams

1. Teyrngedau i'w Uchelder Brenhinol Dug Caeredin (12 Ebr 2021)

Kirsty Williams: Ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf â'i Mawrhydi y Frenhines, y teulu brenhinol a phawb sydd wedi'u cyffwrdd yn ddwys yn sgil marwolaeth Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Philip, Dug Caeredin. Ymgysegrodd Dug Caeredin ei fywyd hir i'r rhai yr oedd yn eu caru, i'n gwlad, ac i'r achosion niferus yr oedd yn eu hyrwyddo. Roedd yr achosion hynny yn niferus...

24. Datganiadau i Gloi (24 Maw 2021)

Kirsty Williams: Wel, Lywydd, codaf am y tro olaf fel un o'r rhai gwreiddiol, dosbarth 1999 sydd yma o hyd, heb eu tarfu gan weithredoedd Duw, yr etholwyr, na loteri system y rhestr ranbarthol. Ond o ddifrif, mae wedi bod yn bleser. Ond Lywydd, mae wedi dod ychydig yn rhy ffasiynol i ddibrisio gwleidyddiaeth, i ladd ar ddemocratiaeth, i danseilio ein Senedd a'n Llywodraeth ein hunain. Ac rwy'n cytuno efallai...

8., 9., 10. & 11. Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021, Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021, Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy’n hyn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021 a Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021 (23 Maw 2021)

Kirsty Williams: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf i ddiolch i fy nghyd-Aelodau am eu sylwadau a chydnabod y gwaith a wnaeth Alun Davies ar y Bil ADY pan oedd yn gwasanaethu fel fy nirprwy yn yr adran addysg? Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny ac rwy'n gwybod ei ymrwymiad personol ei hun i'r agenda hon. Cododd Suzy a Siân Gwenllian nifer o faterion. A gaf i geisio ymateb, mor fyr ag y gallaf, Llywydd? Rwy'n...

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (23 Maw 2021)

Kirsty Williams: Mae'n ddrwg gen i. Cynigiaf y cynnig.

8., 9., 10. & 11. Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021, Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021, Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy’n hyn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021 a Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021 (23 Maw 2021)

Kirsty Williams: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac ymddiheuriadau. Roeddwn yn mynd i egluro i fy nghyd-Aelodau pam mae angen i ni atal y Rheolau Sefydlog, ond rwy'n ddiolchgar i fy nghyd-Aelodau am ganiatáu i hynny ddigwydd fel y gall y ddadl hon fynd rhagddi yn awr. Rwy'n ddiolchgar iawn am waith Mick Antoniw a'i bwyllgor a wnaeth eu gwaith craffu ar y Gorchmynion hyn ddoe. Rwy'n ddiolchgar iddyn nhw. Yn 2016,...

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (23 Maw 2021)

Kirsty Williams: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021—

5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Cymorth Iechyd Meddwl a Llesiant mewn Lleoliadau Addysgol (23 Maw 2021)

Kirsty Williams: Diolch, David, am eich geiriau caredig. A gaf i ddweud ei bod yn ddrwg iawn gennyf glywed am y profiad y mae eich etholwr wedi'i gael? Pe byddech yn fodlon rhoi mwy o fanylion i mi, yna gallaf eich sicrhau y byddaf yn gofyn i swyddogion fynd ar drywydd hynny gydag awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot a byddwn yn falch iawn o wneud hynny, oherwydd yr hyn yr ydym yn ei wybod yw pan fydd...

5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Cymorth Iechyd Meddwl a Llesiant mewn Lleoliadau Addysgol (23 Maw 2021)

Kirsty Williams: Diolch, Lynne, yn gyntaf oll am eich geiriau caredig. Rwy'n dyfalu bod bwrw prentisiaeth cyn dod yn Weinidog am ryw 16 neu 17 mlynedd ar bwyllgorau efallai'n rhoi persbectif i chi nad yw bob amser yn bresennol, weithiau. Drwy ymgysylltu â chi a'ch pwyllgor, rwy'n credu ein bod wedi cyflawni mwy na phe bai'r Llywodraeth wedi ceisio symud ar hyd y llwybr hwn ar ei phen ei hun yn unig. Ac a gaf...

5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Cymorth Iechyd Meddwl a Llesiant mewn Lleoliadau Addysgol (23 Maw 2021)

Kirsty Williams: Diolch, Siân, am y pwyntiau yna. Er nad wyf yn anghytuno o bell ffordd â phwysigrwydd maeth i blant a'r swyddogaeth bwysig y mae hynny'n ei chwarae yn eu haddysg, rwy'n credu mai bod ychydig yn naïf yw credu y gall hynny, a hynny ar ei ben ei hun, fynd i'r afael â heriau hybu llesiant ac iechyd meddwl da yn ein hysgolion. A gaf i ddweud, un o'r pethau y gwyddom ni sy'n achosi llawer iawn...

5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Cymorth Iechyd Meddwl a Llesiant mewn Lleoliadau Addysgol (23 Maw 2021)

Kirsty Williams: Dirprwy Lywydd, a gaf i yn gyntaf oll, ddiolch i Suzy Davies am ei sylwadau a'i chwestiynau? O ran yr haf, rwy'n credu bod y gwyliau'n gyfle gwych i geisio cefnogi nifer o weithgareddau i sicrhau bod ein plant, sydd wedi colli'r cyswllt cymdeithasol hwnnw y soniodd Suzy amdano, yn cael cyfle i wneud yr union beth hwnnw. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'n gweithgareddau Bwyd a Hwyl llwyddiannus...

5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Cymorth Iechyd Meddwl a Llesiant mewn Lleoliadau Addysgol (23 Maw 2021)

Kirsty Williams: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gydweithwyr, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd i bob un ohonom ni. Newidiodd ein ffordd o fyw y tu hwnt i bob adnabyddiaeth wrth i ni ddysgu byw gyda pherygl presennol coronafeirws. Mae'r effaith gronnol ar ein llesiant wedi bod yn enfawr, a hyd yn oed yn fwy felly i'n plant a'n pobl ifanc. Ofn salwch, effaith ffyrlo neu golli swyddi ar yr...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Diwygiadau Cyllid Myfyrwyr (17 Maw 2021)

Kirsty Williams: Bethan, fel y dywedais, bu cynnydd o 40 y cant yn y graddau cyntaf sy'n cael eu hastudio'n rhan-amser yng Nghymru.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Athrawon Cyflenwi (17 Maw 2021)

Kirsty Williams: Yn wir. Mike, fel y dywedais yn fy nghwestiwn agoriadol, nid oes unrhyw beth i rwystro awdurdodau lleol rhag creu rhestr gyflenwi eu hunain, ac a gaf fi awgrymu efallai mai'r ffordd orau ymlaen yw drwy drafod hynny gyda'r Cynghorydd Jen Rayner yn eich awdurdod lleol? Rwy'n siŵr y bydd yn fwy na pharod i wneud hynny.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Diwygiadau Cyllid Myfyrwyr (17 Maw 2021)

Kirsty Williams: Diolch, Bethan, ac mae'n debyg mai hwn yw'r cwestiwn olaf y bydd Bethan yn ei ofyn i mi, felly hoffwn ddymuno'r gorau i Bethan. Bethan, ers cyflwyno ein diwygiadau i gyllid myfyrwyr, sy'n unigryw yn Ewrop, mae cynnydd o 40 y cant wedi bod yn nifer y myfyrwyr rhan-amser sy’n astudio ar gyfer eu gradd gyntaf yng Nghymru, ac rydym hefyd wedi gweld cynnydd o 21 y cant yn nifer y myfyrwyr...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Athrawon Cyflenwi (17 Maw 2021)

Kirsty Williams: Gellir cyflogi athrawon cyflenwi yng Nghymru naill ai'n uniongyrchol drwy awdurdodau lleol neu ysgolion, neu drwy asiantaethau cyflenwi masnachol. Penaethiaid a chyrff llywodraethu sy’n gyfrifol am yr holl benderfyniadau staffio ac am sicrhau bod ganddynt weithlu effeithiol o dan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Safonau Ysgolion (17 Maw 2021)

Kirsty Williams: Diolch, Angela. Er bod gweithgareddau arolygu wedi'u hatal yn ystod y pandemig, hoffwn roi sicrwydd i chi, ac i’r Aelodau eraill yn wir, fod Estyn yn parhau i ymgysylltu ag ysgolion y nodwyd yn flaenorol fod angen lefel ychwanegol o gymorth arnynt. Yn amlwg, gwnaed hynny o bell, ac fe’i gwnaed mewn ffordd sympathetig, sy'n cydnabod yr amodau y mae’r ysgolion hynny yn gweithio ynddynt,...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Safonau Ysgolion (17 Maw 2021)

Kirsty Williams: Diolch, Angela. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £1,649,000 i awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro ar gyfer recriwtio, adfer a chodi safonau, er mwyn cefnogi dysgwyr ar gamau hanfodol yn eu haddysg. Yn ddiweddar, cyhoeddais £72 miliwn ychwanegol i gefnogi dysgwyr, gan ddod â chyfanswm ein cymorth ar gyfer—roeddwn am ddefnyddio'r gair 'adfer', ond ar ôl yr hyn rwyf...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Llesiant Disgyblion (17 Maw 2021)

Kirsty Williams: Diolch, Delyth. Credaf eich bod wedi taro ar un o'r agweddau ar y tarfu ar addysg sydd wedi effeithio'n wirioneddol ar blant a phobl ifanc, sef y teimlad o arwahanrwydd ac anallu i dreulio amser gyda'u ffrindiau. A dyna pam y mae ysgolion ar hyd a lled Cymru wedi bod yn canolbwyntio ar hynny wrth weld y cyfnod sylfaen yn dychwelyd. Ac yn wir, mae'r rhyngweithio a'r addysgeg honno'n ganolog...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Llesiant Disgyblion (17 Maw 2021)

Kirsty Williams: Diolch yn fawr iawn, Lynne. Rwyf innau hefyd wrth fy modd fod y fframwaith bellach wedi'i gyhoeddi ac y bydd yno i gefnogi ysgolion yn yr agwedd wirioneddol bwysig hon ar eu gwaith, oherwydd os meddyliwn am y tarfu ar addysg rydym i gyd wedi'i weld ac y mae ein plant a'n pobl ifanc wedi'i brofi, ni fyddwn yn gallu symud ymlaen o hynny oni bai ein bod yn mynd i'r afael â llesiant, oherwydd...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Llesiant Disgyblion (17 Maw 2021)

Kirsty Williams: Ar 15 Mawrth, cyhoeddwyd ein fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol. Mae'n gosod llesiant yn ganolog i ddysgu, a chyda chyllid o £2.8 miliwn i ddarparu cymorth llesiant i ddysgwyr yn y flwyddyn gyfredol, mae'n sicrhau bod dychwelyd at addysg yn union fel y dylai fod i'r dysgwyr hynny.


1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.