Angela Burns: Wel, nid oedd i fod i orffen fel hyn, oedd e? Roeddem i gyd i fod i fynd i ryw westy lleol lle gallwn fod wedi prynu diod i chi i gyd a dweud diolch—diolch yn fawr am eich cwmnïaeth, am y cyfeillgarwch, am y berthynas drawsbleidiol a fu rhyngom dros y blynyddoedd. Rwy'n mynd i weld colli llawer iawn ohonoch, ac rwy'n dymuno'n dda i chi i gyd, beth bynnag y byddwch yn ei wneud—sefyll...
Angela Burns: Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi eich geiriau. Rydych yn garedig iawn ac rwyf am ymateb drwy ddweud diolch am eich tryloywder a'ch gonestrwydd ar rai o'r achlysuron pan ydym wedi gorfod edrych ar rai o'r sefyllfaoedd anodd iawn sy'n wynebu ein gwasanaethau iechyd a chymdeithasol. Wrth gwrs, un o'r sefyllfaoedd anodd iawn sy'n ein hwynebu yw'r ddarpariaeth o driniaethau...
Angela Burns: Mae arnaf ofn mai dyma lle rwy'n anghytuno â chi braidd, oherwydd mae pawb yn sôn am 'pan fydd y pandemig ar ben', ac rwy'n credu ein bod wedi mynd heibio i hynny—rydym wedi mynd heibio i'r argyfwng. Rydym bellach mewn sefyllfa lle mae hyn yn endemig. Rydym yn mynd i gael sefyllfa lle rydym yn mynd i fod yn y sefyllfa hon am amser hir iawn. Ni allwn barhau i ddweud, 'O, rydym mewn...
Angela Burns: Rydych chi'n siarad am bwysigrwydd cynlluniau gweithredol, ac rwy'n cytuno â chi ei bod hi'n bwysig iawn gweithio gyda'r holl randdeiliaid i ddrafftio cynlluniau gweithredol gwirioneddol gyflawnadwy. Wrth gwrs, er mwyn gwneud y cynlluniau gweithredol hynny'n wirioneddol gadarn, mae'n rhaid i chi gael data da a gwybodaeth gydlynol wirioneddol gyfredol ac rwy'n falch iawn fod eich blaengynllun...
Angela Burns: Diolch, Lywydd. Diolch. Weinidog, rwy’n credu bod eich blaengynllun COVID-19 a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn grynodeb teg iawn o'r sefyllfa sy'n ein hwynebu yng Nghymru heddiw. Rwy'n credu ei fod yn amlinellu'n daclus yr heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol. Ond rwyf hefyd yn teimlo ei fod yn brin iawn o atebion allweddol y mae'n rhaid i ni eu gweld. Felly, er enghraifft, a allech...
Angela Burns: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at driniaethau canser yn dilyn pandemig COVID-19? OQ56492
Angela Burns: Diolch am hynna, Prif Weinidog. Fel yr ydych chi'n gwybod yn iawn, mae'r sectorau twristiaeth a lletygarwch yn eithriadol o bwysig yn fy etholaeth i, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, a'r wythnos diwethaf cynhaliais rith-gyfarfod bord gron gyda chynrychiolwyr o'r sector, o'r gwestai mwyaf crand i dafarndai a chlybiau sy'n ceisio goroesi'r pandemig hwn. Clywais y diolch a gynigiwyd...
Angela Burns: 5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio? OQ56508
Angela Burns: Diolch i chi am eich ateb, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliannau 1 a 3, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Mark Isherwood. Mae staff ein gwasanaeth iechyd gwladol, a'r rhai sy'n darparu gofal cymdeithasol i bobl Cymru, wedi bod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn lledaeniad COVID-19. Maent wedi cadw gwasanaethau hanfodol i fynd, wedi dal dwylo na allai teuluoedd eu cyrraedd, wedi gweld marwolaeth...
Angela Burns: Wel, diolch am hynny, ond y realiti yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro dros y degawd a mwy diwethaf yw mai un yn unig o'r pump ysgol uwchradd yn yr etholaeth honno sydd heb fod yn destun rhyw fath o fesurau arbennig neu ymyrraeth wedi'i thargedu neu angen ei gwella'n sylweddol. Nawr, gydag addysg yn cael ei heffeithio’n wael gan COVID dros y 12 mis diwethaf, mae'n anochel y bydd yr...
Angela Burns: Byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod, Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i fonitro'r gwariant gan Weinidogion unigol pan fyddwch yn edrych ar sectorau penodol rydych eisiau eu datblygu yng Nghymru. Er enghraifft, pe bai Cymru'n penderfynu ceisio dod yn uwch bŵer mewn gwyddoniaeth, a chredaf y dylem anelu at hynny, a phe baech eisiau buddsoddi llawer mwy mewn ymchwil a datblygu, ar...
Angela Burns: 11. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i fonitro'r asesiadau a gynhelir gan gyd-Weinidogion wrth ddyrannu gwariant o fewn eu portffolios? OQ56442
Angela Burns: 7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella safonau ysgolion yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ56441
Angela Burns: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi. Fe fyddai unrhyw un yn meddwl fod yna etholiad ar droed, oherwydd mae'r datganiad hwn yn amlwg iawn yn gohirio eich syniadau chi am fod â threth gofal cymdeithasol ac yn ceisio anghofio amdanyn nhw, ac nid wyf i'n synnu o gwbl eich bod chi wedi gwneud felly. Serch hynny, wrth edrych yn ôl ar adroddiad y grŵp rhyngweinidogol, mae hwn yn sicr, drwy...
Angela Burns: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n falch iawn o'ch clywed chi'n dweud mor ddiamwys fod yn rhaid i bobl fynd allan a chael eu brechlyn nhw, boed hwnnw'n frechlyn Pfizer neu un AstraZeneca, ac rwy'n ymuno â chi i ddweud bod y risg o glotiau gwaed oherwydd unrhyw frechlyn o bosibl yn llawer iawn llai nag unrhyw beth arall. O gofio hynny, pa neges gyhoeddus—? Ac rwyf i wedi clywed...
Angela Burns: Cynnig da gan y siaradwr blaenorol i 'redeg ar y Llywodraeth Dorïaidd ddrwg yn San Steffan'. Prif Weinidog, clywais eich ymateb ynglŷn â phreifat yn erbyn cyhoeddus, ond rydym ni i gyd yn gwybod, wrth gwrs, mai Kate Bingham a gyflogwyd yn breifat a wnaeth ddiogelu'r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Cymru, mewn gwirionedd, yn llwyddiannus dros ben, o ran y brechlynnau, trwy brynu, buddsoddi a...
Angela Burns: Cyn y pandemig, roedd gwasanaethau iechyd meddwl yn cael trafferth gydag ôl-groniad o ymholiadau. Cymru oedd â'r drydedd gyfradd uchaf yn rhanbarthau Cymru a Lloegr o hunanladdiad ymhlith menywod a'r bedwaredd gyfradd uchaf o hunanladdiad ymhlith dynion. A dyma'r broblem, Weinidog; mae gennym wasanaeth iechyd yng Nghymru a oedd eisoes yn cael ei danariannu ac yn ei chael hi'n anodd cyn i...
Angela Burns: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wrth wneud y cynnig hwn heddiw, hoffwn ddechrau drwy fynegi ein diolch i staff y GIG. O feddygon rheng flaen i reolwyr ystafell gefn, maent wedi dal ati ac wedi darparu gofal a chymorth i lawer o unigolion a theuluoedd yn ystod y cyfnod ofnadwy hwn. Yn ddi-os, mae'r GIG wedi bod o dan bwysau aruthrol yn sgil COVID, ond y gwir amdani yw bod y GIG o dan bwysau...
Angela Burns: Weinidog, diolch ichi am yr ymateb hwnnw. Yn nadl fer fy nghyd-Aelod Nick Ramsay ar glefyd niwronau motor yr wythnos diwethaf, roeddech yn sôn am y 40 wythnos ar gyfer addasiadau mawr i'r cartref, ac wrth gwrs, nid mater i bobl â chlefyd niwronau motor yn unig yw hwn. Gyda COVID, ar ôl gwrando ar dystiolaeth Covid Hir Cymru y bore yma yn y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n eithaf...
Angela Burns: Weinidog, gŵyr pob un ohonom fod angen inni fynd i’r afael â’r llygredd yn ein cefn gwlad sy'n deillio o arferion ffermio sydd wedi dyddio, a’r ffordd orau o wneud hyn yw sicrhau bod y diwydiant ffermio yn cefnogi unrhyw reoliadau a newidiadau a gyflwynwch. Ac yn fy marn i, mae rheoliadau’r parth perygl nitradau a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf wedi llwyddo i gyflawni'r gwrthwyneb,...