David Rowlands: Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl drwy gydnabod, yn ystod y pumed Senedd hon, y bu rhai ymyriadau cadarnhaol mewn perthynas â'r economi a seilwaith trafnidiaeth, yn ogystal â symudiadau i annog gweithgarwch entrepreneuraidd, ond rhaid dweud nad yw'r 15 mlynedd blaenorol o reolaeth Lafur, gyda helpu medrus Plaid Cymru ar un adeg, wedi bod yn ddim llai na thrychinebus i Gymru ac i...
David Rowlands: [Anghlywadwy.]—defnyddio cerbydau trydan. A yw Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gymorth gan Lywodraeth y DU i weithredu'r rhain? Un sylw olaf. Ni fydd lleihau'r terfyn cyflymder mewn ardaloedd trefol i 20 m.y.a yn helpu i leihau allyriadau carbon ond, fel y mae ffigurau'r weinyddiaeth drafnidiaeth yn profi, bydd yn cynyddu allyriadau carbon. Pam mae Llywodraeth Cymru yn anwybyddu'r paradocs...
David Rowlands: A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Hefyd, a gaf i gydnabod ymrwymiad personol Lee Waters a Ken Skates i achos trafnidiaeth ddi-garbon? Ni ellir amau nad yw'r nodau a amlinellir yn yr adroddiad hwn, yn wir, yn nodau canmoladwy. Rydym ni i gyd eisiau gweld mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, mwy o deithio llesol a llai o ddefnydd o geir, a lle nad yw'n...
David Rowlands: Rwy'n gofyn unwaith eto: a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn condemnio ymddygiad gwarthus Ursula von der Leyen a'r Comisiwn Ewropeaidd wrth ymdrin â chyflwyno'r brechlyn yn Ewrop? Yn ogystal â bygythiadau i atal allforion brechlynnau i'r DU, mae ei strategaethau hi o achosi dryswch a gwneud tro pedol wedi costio miloedd lawer o fywydau ledled yr Undeb Ewropeaidd yn ddi-os. Ac...
David Rowlands: Fel arfer, dyma adroddiad cadarn a chynhwysfawr gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ac rwy'n llongyfarch Russell George, aelodau'r pwyllgor, a staff y Comisiwn, wrth gwrs, sydd wedi helpu i lunio'r adroddiad hwn. O ystyried yr amser cyfyngedig sydd gennyf, rwyf am ganolbwyntio ar yr egwyddorion trosfwaol a'r effeithiau ar weithio gartref, ond hoffwn ddweud fy mod yn cytuno ar yr...
David Rowlands: Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn? Mae'n waith cynhwysfawr, o ran ei gwmpas a'i argymhellion. Yn wir, mae mor gynhwysfawr bydd yn rhaid i mi gyfyngu fy sylwadau i'r hyn a welaf fel yr elfennau allweddol. Ond mae'n rhaid i mi ddweud cyn dechrau fy nghyfraniad fy mod yn teimlo bod Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf wedi gwneud llawer i fynd i'r afael â...
David Rowlands: Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod ffermwyr, undebau’r ffermwyr a'r diwydiant ffermio yn gyffredinol wedi galw'r swm a neilltuwyd gan Lywodraeth Cymru i roi’r mesurau hyn ar waith yn un cwbl annigonol. Nawr, er bod gennyf gryn dipyn o barch tuag at yr AC dros Gaerffili, nid yw ei reswm dros beidio â phleidleisio yn erbyn y Llywodraeth ddydd Mercher diwethaf yn gwneud unrhyw synnwyr pan...
David Rowlands: Ie, diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon? Ond fel bob amser, anwybyddir y dadleuon a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Caroline Jones i raddau helaeth. Dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i economi ddi-garbon yng Nghymru a bod teithio llesol i chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyflawni eu nodau, ond bydd polisi o ganoli ysgolion, fel y nododd Caroline...
David Rowlands: Byddaf fi a fy ngrŵp yn cefnogi cynnig Plaid Cymru. Yn ystod fy mhum mlynedd fel Aelod o'r Senedd, nid wyf erioed wedi cael cynifer o negeseuon e-bost ar unrhyw bwnc. Nid yn unig fod y gohebwyr yn erbyn y mesurau hyn, roeddent yn daer iawn am eu dirymu, oherwydd roeddent yn poeni beth fyddai'n digwydd i'w bywoliaeth pe baent yn dod yn gyfraith. Bydd llawer o fy nghyfraniad i'r ddadl hon yn...
David Rowlands: A gaf fi ategu diolch Helen Mary Jones a Russell George i'r Gweinidog am fy nghynnwys yn ei drafodaethau drwy gydol y pum mlynedd diwethaf, fel llefarydd ac ar ôl hynny? A gaf fi ddweud bod gennyf barch mawr tuag at eich galluoedd a'ch ymrwymiad i'ch dyletswyddau fel Gweinidog? Fel y gŵyr y Gweinidog, rwyf wedi bod yn gefnogwr brwd i strategaeth ymyrraeth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â...
David Rowlands: Byddaf fi a fy ngrŵp yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr. Mae'r rheoliadau sy'n gweithredu set gyffredinol o reoliadau slyri ar gyfer diwydiant ffermio Cymru gyfan yn gwbl anghymesur, o ran cost a chyflawniad. Mae'n ymddangos unwaith eto fod y mwyafrif yn cael eu cosbi am weithredoedd y lleiafrif. Mae'n bosibl hefyd, hyd yn oed gyda'r lleiafrif, nad oedd modd osgoi'r rhan fwyaf o ddamweiniau...
David Rowlands: Mae'n wirioneddol ysbrydoledig gallu croesawu cynrychiolwyr y Senedd Ieuenctid i’r Cyfarfod Llawn hwn. Rwy'n siŵr y bydd rhai ohonoch yn dyheu am ddod yn wleidyddion y dyfodol. Felly, efallai y gallaf gynnig ychydig eiriau o rybudd os gwnewch hynny. Yn gyntaf, pa ymdrechion bynnag y byddwch yn rhan ohonynt, ceisiwch gadw meddwl agored bob amser. Ni waeth pa athroniaeth wleidyddol rydych yn...
David Rowlands: A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad? Gallaf i ddweud fy mod i'n rhannu brwdfrydedd y Dirprwy Weinidog dros yr economi sylfaenol, fel yr wyf i'n wir, dros y mudiad cydweithredol. Rwy'n credu bod gan y ddau ohonyn nhw'r gallu nid yn unig i ddarparu swyddi, ond hefyd i greu mwy o ysbryd a dyhead cymunedol. Er fy mod i'n cydnabod bod gan y sector cyhoeddus ran fawr iawn i'w...
David Rowlands: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod y gefnogaeth hael yr ydych chi wedi'i rhoi i fusnesau ledled Cymru yn yr ymateb i COVID-19, a welwyd unwaith eto yn y £270 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd gennych chi heddiw. Ond fel y gwyddom ni i gyd, er gwaethaf ymdrechion Llywodraeth Cymru, mae, a bydd canlyniad trychinebus i...
David Rowlands: A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad yn condemnio ymddygiad gwarthus y Comisiwn Ewropeaidd wrth wahardd mewnforio molysgiaid deufalf byw o'r DU? Er eu bod yn dweud eu bod yn gweithredu cyfyngiadau ar bob gwlad nad yw'n rhan o Ewrop, cytunwyd na fydden nhw'n gwneud hyn yn y trafodaethau a gynhaliwyd cyn Brexit. Roedd hyd yn oed cadeirydd Pwyllgor Pysgodfeydd Senedd Ewrop, Pierre Karleskind, yn...
David Rowlands: Ie, wel, diolch, Jenny. Gallaf sicrhau Jenny ein bod, wrth gwrs, yn agored i unrhyw syniadau neu ddatblygiadau arloesol newydd y gall hi, neu unrhyw aelod o staff y Comisiwn yn wir, eu cyflwyno, a gallaf ei sicrhau bod y Comisiwn wedi ymrwymo'n llwyr i wella cymwysterau gwyrdd yr ystâd mewn unrhyw ffordd bosibl.
David Rowlands: Wel, ers i'r pwnc hwn gael ei godi'n flaenorol, mae nifer o newidiadau wedi'u gwneud i'r mannau gwyrdd cyfyngedig ar yr ystâd er mwyn manteisio i'r eithaf ar eu gwerth o ran bioamrywiaeth a llesiant. Rydym yn tyfu gellyg a pherlysiau ym maes parcio Tŷ Hywel, a ddefnyddid yn rheolaidd gan ein gwasanaeth arlwyo cyn y cyfyngiadau symud. Rydym wedi newid ein rheolaeth o'r tir ar hyd ochr y...
David Rowlands: Diolch i chi am eich ateb, Weinidog. Yn amlwg, mae gan Lywodraeth y DU fynediad at lawer mwy o arian na Llywodraeth Cymru, a bydd gwir angen cael yr arian hwnnw i'n helpu i ymadfer wedi'r coronafeirws. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ba drafodaethau a gawsoch neu y bwriadwch eu cael gyda Llywodraeth y DU i gefnogi'r gwaith o ailadeiladu cyllid Cymru?
David Rowlands: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith y mae'r coronafeirws wedi'i chael ar gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru? OQ56287
David Rowlands: Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o oblygiadau'r Undeb Ewropeaidd yn galw erthygl 16 i rym mewn perthynas â brechlynnau COVID-19?