Canlyniadau 1–20 o 2000 ar gyfer speaker:Caroline Jones OR speaker:Caroline Jones

1. Teyrngedau i'w Uchelder Brenhinol Dug Caeredin (12 Ebr 2021)

Caroline Jones: Hoffwn fynegi cydymdeimlad fy ngrŵp â'i Mawrhydi a'r teulu brenhinol i gyd. Roedd Dug Caeredin yn ŵr ffyddlon, yn dad a thaid cariadus, a bydd y golled yn dilyn ei farwolaeth drist yn cael ei theimlo'n ddwfn gan bawb a oedd yn ei garu, ac mae fy meddyliau a'm gweddïau gyda chi ar yr adeg drist hon. Mae marwolaeth Dug Caeredin yn golled i’w deulu ac i’w ffrindiau, fel y mae i bawb...

15. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol (24 Maw 2021)

Caroline Jones: Mae fy ngrŵp yn gwrthwynebu'r cynigion hyn yn gryf gan ein bod yn teimlo eu bod yn wrth-ddemocrataidd. Effaith y cynigion hyn fydd amddifadu Aelodau annibynnol o'r cyfle i gydweithio ar faterion cyffredin, amddifadu Aelodau annibynnol o'r gallu  i fwydo i mewn i waith y sefydliad hwn, ac amddifadu Aelodau annibynnol o'r un cyfleoedd ag sydd gan y rhai mewn pleidiau gwleidyddol sefydledig,...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (24 Maw 2021)

Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fonitro amrywiolion newydd o feirws SARS-CoV-2?

QNR: Cwestiynau i Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg (24 Maw 2021)

Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymateb i anghenion iechyd meddwl pobl ifanc?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Economi Leol Aberafan (23 Maw 2021)

Caroline Jones: Prif Weinidog, mae Aberafan yn dal i fod ag un o'r cyfraddau cyflogaeth isaf yng Nghymru, gyda chwarter y trigolion yn economaidd anweithgar. A ydych chi'n derbyn bod eich polisïau economaidd wedi siomi pobl Aberafan a rhanbarth cyfan Gorllewin De Cymru? Felly, yr hyn sydd ei angen ar bobl yn fy rhanbarth i yw mwy o gymorth i fusnesau domestig, yn enwedig y rhai hynny sy'n mynd ar drywydd...

11. Dadl Fer: Gwella iechyd meddwl, ar ôl y pandemig (17 Maw 2021)

Caroline Jones: Yma yng Nghymru, rydym wedi cael rhai o'r cyfnodau hwyaf yn y byd o gyfyngiadau ar ein gweithgaredd cymdeithasol, felly nid yw'n syndod ein bod wedi profi rhai o'r effeithiau mwyaf. At ei gilydd, rydym yn anifeiliaid cymdeithasol, ac mae treulio amser gyda ffrindiau a theulu yn rhan hanfodol o'n llesiant emosiynol a meddyliol. Mae gorfod torri'r holl gyswllt wyneb yn wyneb am 212 diwrnod wedi...

11. Dadl Fer: Gwella iechyd meddwl, ar ôl y pandemig (17 Maw 2021)

Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Efallai fod y pandemig coronafeirws wedi dechrau fel argyfwng iechyd corfforol, ond mae wedi dod yn argyfwng iechyd meddwl. Mae canlyniadau ymdrin â feirws SARS-CoV-2 wedi effeithio'n ddwfn ar iechyd meddwl pobl o bob oed ac o bob cefndir ym mhob cwr o Gymru. Ac nid ydym yn unigryw: mae astudiaethau wedi dangos yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar iechyd meddwl ar...

21., 22., 23. & 24. Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) (Diwygio) 2021, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2021 (16 Maw 2021)

Caroline Jones: Rwy'n croesawu'r gwelliannau i'n targedau allyriadau. Gan ein bod ni'n wynebu un o'r bygythiadau mwyaf i'r blaned, ein cenedl a'n ffordd o fyw, nid oedd yr ymateb blaenorol yn ddigon i fynd i'r afael â'r bygythiad yn uniongyrchol. Diolch byth, mae'r ddadl wedi symud ymlaen o weld a yw gweithgarwch dynol wedi niweidio'r hinsawdd yn anadferadwy i'r hyn yr ydym ni'n mynd i'w wneud yn ei gylch....

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dwyn Cŵn (16 Maw 2021)

Caroline Jones: Diolch, Prif Weinidog. I lawer o bobl, nid anifail anwes yn unig yw eu ci, maen nhw'n aelod o'r teulu, ac mae cael yr aelod hwnnw o'r teulu wedi ei rwygo yn ddisymwth oddi wrthych chi fel y gall rhywun wneud elw y tu hwnt i'm dychymyg i, ac rwy'n siŵr bod pob person sydd â gronyn o dosturi yn teimlo felly. Ni allaf ddychmygu y gofid calon y mae'r bobl hynny yn ei ddioddef. Felly, er fy mod...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dwyn Cŵn (16 Maw 2021)

Caroline Jones: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer y cŵn a gaiff eu dwyn yng Nghymru? OQ56467

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Amseroedd Aros y GIG (10 Maw 2021)

Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Gofynnaf i'r cyhoedd wrando ar fy nghyfraniad yn ei gyfanrwydd, gan fod David Rees wedi ceisio camddehongli fy nghyfraniad yn fwriadol er ei fudd gwleidyddol ei hun.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Amseroedd Aros y GIG (10 Maw 2021)

Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Cyn y Nadolig ac am bum wythnos ar ôl hynny, roedd fy ngŵr yn ddifrifol wael yn yr ysbyty gyda'r coronafeirws a gwelodd drosto'i hun y straen ar holl staff y GIG. Mae arnom ddyled enfawr iddynt. Rydym wedi trafod droeon yr angen i recriwtio a hyfforddi meddygon a nyrsys o'r boblogaeth leol, ac yma yng Nghymru, mae hyn yn...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Tai Cymdeithasol (10 Maw 2021)

Caroline Jones: Weinidog, er bod eich Llywodraeth ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged tai fforddiadwy ar gyfer tymor y Senedd hon, a ydych yn derbyn bod y targed hwn yn druenus o annigonol? Rwy’n eich llongyfarch am wneud mwy na Llywodraethau Cymru yn y gorffennol, ond rwy’n siomedig eich bod wedi methu mynd i’r afael â’r gwir angen sy’n bodoli am dai cymdeithasol. Cafodd y cartrefi newydd a...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Tanwyddau Gwyrddach (10 Maw 2021)

Caroline Jones: Weinidog, er ei bod yn hanfodol ein bod yn datgarboneiddio ein seilwaith ynni a thrafnidiaeth cyn gynted â phosibl, mae hefyd yr un mor bwysig nad ydym yn creu problemau eraill yn ein hymdrech i leihau allyriadau carbon. Er bod biomas yn garbon niwtral, gall hefyd greu problemau gydag ansawdd aer oherwydd bod mwy o ronynnau'n cael eu rhyddhau. Bydd symud i drafnidiaeth drydan yn mynd i'r...

13. Dadl: Cyllideb Derfynol 2021-22 ( 9 Maw 2021)

Caroline Jones: Er bod rhai agweddau ar gyllideb Llywodraeth Cymru sydd i'w croesawu, megis yr arian ychwanegol ar gyfer y GIG, yn gyffredinol mae llawer yn y cynllun gwariant hwn i fod yn anfodlon yn ei gylch.  Un o'm prif bryderon yw diffyg cymorth busnes. Nid argyfwng iechyd yn unig fu'r pandemig coronafeirws; mae wedi bod yn drychineb economaidd. Cymru a brofodd y cynnydd mwyaf mewn anweithgarwch...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cynllun Adfer ar gyfer Busnesau ( 9 Maw 2021)

Caroline Jones: Prif Weinidog, beth bynnag fo'ch cynlluniau ar gyfer helpu busnesau Cymru, a wnewch chi sicrhau eu bod nhw'n deg ac yn gyfiawn? Rwyf i wedi codi trafferthion arcedau'r stryd fawr o'r blaen, y mae eich Llywodraeth yn gwrthod eu helpu. Mae'r busnesau hyn wedi dioddef yr un colledion â busnesau hamdden eraill, ac eto rydych chi'n gwrthod unrhyw hawl iddyn nhw gael cymorth busnes. Mae...

9. Dadl Grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio: Buddsoddiad mewn ysgolion ( 3 Maw 2021)

Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i yn ffurfiol. O oedran ifanc, dysgais wers werthfawr—nad yw mwy bob amser yn well. Efallai fy mod yn 12 oed pan gafodd fy ysgol gymunedol fach ei huno ag un lawer mwy o faint. Collasom y berthynas bersonol gyda'n hathrawon, a dod yn wyneb arall yn y môr o wynebau. Diolch byth, yn ôl bryd hynny, roedd uno o'r fath yn ddigwyddiad...

QNR: Cwestiynau i Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ( 3 Maw 2021)

Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu busnesau bach yng Ngorllewin De Cymru i adfer yn sgil pandemig y coronafeirws?

Grŵp 8: Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (Gwelliannau 13, 23, 14, 24, 25, 26, 15, 27, 16, 28, 29, 17, 18, 19) ( 2 Maw 2021)

Caroline Jones: Fel addysg Gydberthynas a Rhywioldeb, cynhyrchodd addysgu crefydd, gwerthoedd a moeseg lawer iawn o ohebiaeth gan rieni pryderus, yn enwedig gan y rhai y mae eu plant yn mynychu ysgolion ffydd. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu dymuniadau rhieni a oedd eisiau gallu tynnu eu plant allan o wersi a oedd yn mynd yn groes i'w crefydd, eu gwerthoedd a'u moeseg. Ac nid gwaith y...

Grŵp 3: Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (Gwelliannau 2, 4, 41, 6, 8, 9, 10, 42, 20, 21, 22, 40) ( 2 Maw 2021)

Caroline Jones: Y rhan hon o'r Bil sydd wedi rhoi'r pryder mwyaf i mi. Pe na byddai'r Bil wedi dileu hawliau rhieni i gael tynnu eu plant allan o wersi addysg cydberthynas a rhywioldeb, rwy'n credu y byddai wedi cael llai o wrthwynebiad. Meddyliais yn ofalus ac yn hir am gyflwyno gwelliannau i alluogi rhieni i dynnu eu plant allan o wersi addysg cydberthynas a rhywioldeb, ond dywedwyd wrthyf y byddai...


1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.