Neil McEvoy: Ar 13 Mawrth y llynedd, fe wnaethoch gyhoeddi cyfarwyddeb i bob bwrdd iechyd ohirio pob gweithgaredd dewisol nad oedd yn weithgaredd brys, er mwyn caniatáu iddynt baratoi ar gyfer y cynnydd disgwyliedig yn y llwyth gwaith wrth ymdopi â'r pandemig. Dyna oedd geiriau eich Llywodraeth ataf mewn llythyr. Ar yr un pryd, roedd Llywodraeth Cymru yn clirio gwelyau GIG trwy anfon cleifion o ysbytai...
Neil McEvoy: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am farwolaethau mewn cartrefi gofal o ganlyniad i COVID-19 yng Nghymru? OQ56498
Neil McEvoy: Diolch, Prif Weinidog. Yn 2018, es i i'r Uchel Lys gydag eraill i atal dympio mwd niwclear Hinkley yn nyfroedd Cymru ar gyrion Caerdydd. Pleidleisioch chi i'r dympio fynd rhagddo heb brofi am blwtoniwm. Mae eich panel arbenigol eich hun bellach wedi canfod bod unrhyw waredu pellach yn groes i fuddiannau Cymru. Cynghorir bod astudiaethau enghreifftiol yn cael eu cynnal. Mae adroddiad...
Neil McEvoy: 1. Pa brofion a gynhaliwyd ar y mwd niwclear a garthwyd o'r tu allan i adweithydd niwclear Hinkley Point, cyn cael ei ollwng yn nyfroedd Cymru? OQ56489
Neil McEvoy: Diolch, Weinidog. Mae llawer o ymchwil yn bodoli ar afiachusrwydd gwisgo masg am amser hir heb oruchwyliaeth fel sydd i'w gael ar y manteision. Mae angen inni gael pob disgybl yn ôl i'r ystafell ddosbarth mewn amgylchedd dysgu cadarnhaol. Mae UsforThem Cymru yn enghraifft o rieni pryderus sydd am gael cyfeiriad clir ar y rhyddid i ddewis, oherwydd dywedir wrth lawer o ddisgyblion fod gwisgo...
Neil McEvoy: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gwneud yn orfodol i blant ysgol wisgo masgiau? OQ56451
Neil McEvoy: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drefn profi coronafeirws Llywodraeth Cymru?
Neil McEvoy: Pa asesiadau risg y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal hyd yma mewn perthynas ag effeithiau'r cyfyngiadau symud yng Nghymru?
Neil McEvoy: Rwy'n codi i wrthwynebu'r adroddiadau, ac rwy'n mynd i gael fy atal am rywbeth nad wyf wedi'i wneud. Mae'r teledu cylch cyfyng heb ei olygu yn profi bod datganiadau naill ai wedi'u gorliwio neu'n syml wedi'u creu. Gwrthododd y pwyllgor safonau wylio'r teledu cylch cyfyng. Fe wnaethant wrthod caniatáu imi gael tystion hefyd, felly cyhoeddais y teledu cylch cyfyng. Os edrychwch ar y fersiwn...
Neil McEvoy: Cywilyddus. Cywilyddus.
Neil McEvoy: Cywilyddus. Cywilyddus.
Neil McEvoy: Janet, pe baech yn cerdded o gwmpas yn fy nghroen i—
Neil McEvoy: Rwy'n mynd. Pe baech yn cerdded o gwmpas yn fy nghroen i—
Neil McEvoy: Pe baech yn cerdded o gwmpas yn fy nghroen i, byddech yn gweld sut rydych yn cael eich trin. Nid ydych yn deall.
Neil McEvoy: Y cwestiwn—
Neil McEvoy: [Anghlywadwy.]
Neil McEvoy: Gallaf ei ddweud mewn ffordd wahanol.
Neil McEvoy: Dyma hiliaeth ar waith.
Neil McEvoy: Hiliaeth a gwahaniaethu ar waith go iawn yw hyn.
Neil McEvoy: [Anghlywadwy.]—yn y Senedd hon o beidio â chael gofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog tra bod Aelodau eraill wedi cael gofyn hyd at 6 o gwestiynau.