Suzy Davies: diolch o galon am y fraint.
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. Byddai'n dda gennyf pe baem yno yn y Siambr hefyd. Ni allaf gredu bod dros 40 mlynedd ers imi fynd allan i ddosbarthu taflenni dros bleidlais 'ie' yn 1979, ac nid wyf yn credu fy mod yn disgwyl bryd hynny—neu hyd yn oed yn awr, mewn gwirionedd—y byddwn yn diolch i chi i gyd yr holl amser hwn yn ddiweddarach o fainc flaen Geidwadol rithwir yn Senedd Cymru. Mae lle...
Suzy Davies: Dyma'r cwestiwn mwyaf priodol fel cwestiwn olaf yma yn y Senedd hon. Ar ôl priodi, fe wnes i symud i bentref Cymraeg ei iaith yn y canolbarth a phenderfynais i fod yn ddewr ac i ddefnyddio fy Nghymraeg sylfaenol iawn, i ddatblygu'r iaith ac i fagu fy mhlant yn ddwyieithog. Ac ers cyrraedd y Senedd, fy ngweithle, wrth gwrs, dwi wedi bod yn llefarydd fy mhlaid ac rwy'n gobeithio yn enghraifft...
Suzy Davies: Rwyf i wrth fy modd, mewn gwirionedd, o allu cadarnhau cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i'r rheoliadau hwyr hyn, rheoliadau sy'n debyg iawn i Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Lloegr) (Diwygio) 2019, a ddaeth i rym bron flwyddyn yn ôl. Felly, rwyf i yn dal yn siomedig, felly, na fydd ein rheoliadau ni'n dod i rym tan 10 Medi 2021. Fel yr ydym ni i...
Suzy Davies: Cyn i mi fynd ymlaen at y cod ei hun, tybed a gaf i dynnu sylw at reoliadau'r Ddeddf cydraddoldeb sy'n cael eu trafod heddiw, oherwydd eu bod yn cyflwyno amddiffyniad ychwanegol i bobl ifanc sy'n herio eu hysgol, drwy eiriolwr os oes angen, ar sail gwahaniaethu. Ac rwy'n ei godi oherwydd bod y cod ADY hefyd wedi gwella ei gynnwys o ran galluedd meddyliol yn y bennod 31 newydd. Yr hyn sy'n...
Suzy Davies: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n credu y byddem ni i gyd yn cytuno bod y flwyddyn ddiwethaf wedi amlygu'r angen dynol am lesiant corfforol, meddyliol, emosiynol a hyd yn oed ysbrydol er mwyn gweithredu, heb sôn am fyw ein bywydau gorau hyd yn oed, ac rwy'n credu ei fod wedi bod yn arbennig o wir am ein plant a'n pobl ifanc a'u gallu i ddysgu, a hynny'n draddodiadol neu yn y llu o...
Suzy Davies: Diolch, Prif Weinidog, am ateb synhwyrol yn y fan yna yn hytrach na darllediad gwleidyddol. Fel y gwyddoch chi, mae'r Ceidwadwyr Cymreig eu hunain wedi ymrwymo yn llwyr i ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru. Mae cryn dipyn o dir ac eiddo sy'n eiddo cyhoeddus yn fy rhanbarth i o hyd, yn enwedig yn Aberafan. Fel y mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi dweud y bydd diweithdra...
Suzy Davies: A gaf fi ddiolch i bawb ar y pwyllgor a'r tystion a roddodd dystiolaeth i ni? Mwynheais y sesiwn hon yn fawr, fel aelod cymharol newydd o'r pwyllgor. Rwy'n credu bod Mike yn iawn. Ni ellir dad-wneud hyn yn awr, er, fel y mae'r adroddiad yn ei ddweud, mae angen inni fod yn siŵr beth a olygwn pan fyddwn yn sôn am weithio o bell neu weithio hybrid, fel y mae'r Sefydliad Siartredig Personél a...
Suzy Davies: Diolch. Ydw, rwy'n eithaf hoff o'r llwybr hwnnw gan y Brifysgol Agored hefyd, fel rwy'n hoff o'r llwybr addysgu prentisiaethau; credaf fod llawer o ffyrdd yma, gwahanol lwybrau at ragoriaeth, y dylai'r Llywodraeth nesaf eu harchwilio, ac rwy'n gobeithio mai un Geidwadol fydd hi wrth gwrs. Kirsty, pan gyfarfuom yn 2007, byddwn yn synnu pe bai'r naill neu'r llall ohonom yn meddwl y byddem yn...
Suzy Davies: Diolch am yr ateb hwnnw. Felly, yr hyn rydym yn sôn amdano yma yw 1,800 o rai cyfwerth ag athrawon, yn hytrach nag aelodau newydd o staff. Rwy'n ddiolchgar am yr eglurhad. Ond nid oes amheuaeth o gwbl o hyd fod angen mwy o athrawon arnom, ac felly roeddwn yn falch o'i gael wedi'i gadarnhau y bydd athrawon o unrhyw le yn y byd yn cael gwneud cais i addysgu yng Nghymru yn awr. Bydd angen...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Wel, dyma ni, Weinidog—ein sesiwn lefarwyr ddiwethaf gyda'n gilydd. Ddirprwy Lywydd, gobeithio y cawn gyfle—. Rwy'n credu y byddaf yn cael cyfle i ddiolch i Aelodau eraill yn y portffolio hwn yr wythnos nesaf, ond rwy'n gobeithio y byddwch yn caniatáu imi ddweud ychydig eiriau wrth y Gweinidog ar y diwedd pan ddof at fy nhrydydd cwestiwn. Ond rwyf am...
Suzy Davies: Weinidog, rwy'n falch o glywed eich bod chi wedi bod yn rhoi diolch i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser a'u sgiliau i fod yn llywodraethwyr yn ein hysgolion, ac mae eu swyddi ar fin dod yn fwy beichus o dan y cwricwlwm newydd, a hyd yn oed yn fwy tebyg i roles ymddiriedolwyr neu gyfarwyddwyr anweithredol elusennau neu fusnesau. Yn sicr, bydd yn rhaid i'w perthynas gyda chymunedau lleol ddod yn...
Suzy Davies: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n mynd i gytuno â chi bod y rhaglen yn wir yn achos llongyfarch mewn rhai achosion, ond mae gennyf rai cwestiynau i chi o hyd lle mae cwestiynau i'w gofyn yma. Rwy'n credu ei bod hi'n bwynt pwysig i'w wneud hefyd bod y cynnydd wedi cyflymu yn ystod blwyddyn anodd, ac fe drof at hynny mewn munud. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weld rhai o'r ysgolion...
Suzy Davies: A gaf i ychwanegu fy nghefnogaeth i'r cais a gafodd ei wneud gan Darren Millar ynghylch datganiad ar wrthsemitiaeth yn ein prifysgolion? Byddwn i wedi gofyn hynny fy hun hefyd, ond mae gennyf i ddau gais arall, os caf i. Mae un i'r Gweinidog Addysg, yn gofyn am ddatganiad sy'n nodi rhai canllawiau i ysgolion ar graffiti ar waliau ysgolion, a pha mor gyflym y dylid ymdrin â hynny. Tynnwyd fy...
Suzy Davies: Yn ôl ym mis Ebrill 2019, Prif Weinidog, cadarnhaodd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd bryd hynny bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gefnogwr brwd o'r cynnig bryd hynny a bod cyllid yn dal ar y bwrdd pe byddai 'cynnig hyfyw yn cael ei gyflwyno'—rwy'n ei dyfynnu hi yn y fan yna. A ydych chi'n credu bod cynnig Ynys y Ddraig yn un hyfyw, ac, os felly, faint o arian sydd wedi ei neilltuo...
Suzy Davies: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio canol trefi?
Suzy Davies: Diolch, Lywydd. Nid fûm erioed mewn ysgol a gafodd ei huno, fel Caroline Jones, ond bûm mewn rhai a gafodd eu llosgi, ac mae hynny'n sicr yn ffordd o gael ysgol newydd—nid fy mod yn ei hargymell, wrth gwrs. A gaf fi ddiolch i grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio am gyflwyno'r ddadl heddiw? Fel y gwelwch o'n gwelliant ein hunain, rydym yn cytuno â chryn dipyn o'r cynnig, ac mewn...
Suzy Davies: Cynnig.
Suzy Davies: Ydy, plis.
Suzy Davies: Ie, os gwelwch yn dda.