Nathan Gill: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa bwerau ariannol a gaiff eu datganoli i awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru?
Nathan Gill: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr angen am dai yng Ngogledd Cymru?
Nathan Gill: Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynglyn â datblygu dull tîm DU-gyfan ar gyfer amaethyddiaeth ar ôl Brexit?
Nathan Gill: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'n debyg eich bod yn ymwybodol bod tua 15,000 o bobl yn dod yn ddigartref yng Nghymru bob blwyddyn, gan gynnwys 2,800 o blant. O'r rheini, bydd ychydig o gannoedd yn byw ar y strydoedd. Yr wythnos diwethaf, llwyddodd fy swyddfa i helpu i ddod o hyd i lety ar gyfer cyn-filwr y lluoedd arfog a ddaeth, oherwydd problemau iechyd meddwl, yn ddigartref....
Nathan Gill: 7. Beth yw asesiad y Prif Weinidog o'r sefyllfa ddigartrefedd yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0741(FM)
Nathan Gill: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Nathan Gill: Ysgrifennydd y Cabinet, pe bai gennyf datŵ am bob awr a dreuliais mewn tagfeydd traffig, byddai gennyf fwy na dwy lawes lawn. Ddydd Gwener, cefais fy nal yn yr anhrefn dychrynllyd ar yr A55, cyn troi rownd a chael fy nal am oriau o oedi ar yr A5 ger y Waun, sydd ond wedi ailagor yn llawn heddiw, rwy’n meddwl. Beth a wnewch i sicrhau, pan fydd y damweiniau hyn yn digwydd a phan fydd angen...
Nathan Gill: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am berfformiad y gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru?
Nathan Gill: Cryno dros ben, diolch. Prif Weinidog, efallai eich bod chi’n ymwybodol bod Prif Weinidog Gogledd Iwerddon o blaid diddymu tollau teithwyr awyr i helpu teithwyr awyr i gefnogi twf, swyddi a thorri costau busnesau. O ystyried bod Llywodraeth yr Alban bellach wedi defnyddio ei phŵer datganoledig newydd a chyflwyno ei Bil Treth Ymadael (Yr Alban), i ddisodli’r doll teithwyr awyr, ac wedi...
Nathan Gill: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol datganoli yng Nghymru? OAQ(5)0662(FM)
Nathan Gill: Diolch i chi, Lywydd. Ar 5 Mehefin, cefais fy nhristáu’n fawr o glywed y newyddion am farwolaeth fy ffrind a fy nghydweithiwr, Sam Gould. Pan gafodd Sam ddiagnosis o ganser y coluddyn, ei ymateb oedd gwneud yr hyn yr oedd yn fwyaf cyfarwydd â’i wneud, sef ymgyrchu. Trwy ei fideos a’i ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, cododd Sam ymwybyddiaeth o symptomau canser y coluddyn. Mae ei...
Nathan Gill: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ofalwyr maeth yng Ngogledd Cymru?
Nathan Gill: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Rhan allweddol o gytundeb twf gogledd Cymru yw Wylfa Newydd, y gwaith pŵer niwclear sydd yn mynd i gael ei adeiladu ar Ynys Môn, a fydd yn creu llawer o swyddi â chyflogau da—hynod fedrus—nid yn unig ar Ynys Môn, ond ledled gogledd Cymru gyfan. Nawr, ar ôl darllen trwy faniffesto'r Blaid Lafur, ceir cefnogaeth eglur i’n sector ynni niwclear, ond,...
Nathan Gill: 9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fargen dwf Gogledd Cymru? OAQ(5)0612(FM)
Nathan Gill: Tua phum mlynedd yn ôl, cefais ddiagnosis o ddiabetes fy hun, ac roedd yn sioc enfawr. Nid oeddwn yn bodloni unrhyw un o'r meini prawf y byddai pobl yn ei wneud fel arfer. Math 2 oedd gennyf, ond nid oeddwn i erioed wedi ysmygu yn fy mywyd, nid oeddwn i erioed wedi yfed ac nid oeddwn i’n arbennig o dros bwysau ychwaith. Gall diabetes ddigwydd i bron unrhyw un ac am wahanol resymau. I mi,...
Nathan Gill: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n deall bod llawer o’r llawdriniaethau orthopedig arferol yn rhanbarth gogledd Cymru yn cael eu darparu’n allanol gan ysbyty Robert Jones ac Agnes Hunt yng Nghroesoswallt. A gaf fi ddarllen llythyr a gefais gan lawfeddyg orthopedig ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd, fel y byddwch yn gwybod rwy’n siŵr, yn destun...
Nathan Gill: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ofal orthopaedig yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0140(HWS)
Nathan Gill: Sut y gwnes i ymosod arno?
Nathan Gill: Mae toriad blynyddol Cronfa’r Teulu yn £1.83 miliwn. Felly, i roi ychydig o gyd-destun i hyn: trefnwyd i’r ddadl hon bara am 60 munud, 20 munud wedi i’r ddadl hon ddod i ben, bydd Llywodraeth y DU wedi rhoi’r swm hwnnw allan mewn cymorth tramor. Rydym yn genedl gyfoethog. Mae gennym arian. Rwyf wedi gwneud rhai symiau sylfaenol yn seiliedig ar ohebiaeth a gefais, felly mae’n bosibl...
Nathan Gill: Fel bodau dynol, mae gennym anghenion sylfaenol: bwyd, dŵr, cynhesrwydd a gorffwys, diogelwch a chysur. Rhaid bodloni’r anghenion sylfaenol hyn cyn y gallwn hyd yn oed ddechrau anelu at gyflawni ein potensial. Mae fy mhlant yn ddigon ffodus i ddod adref bob nos i le cyfarwydd—lle y maent yn ei adnabod, lle y maent yn ei alw’n gartref. Mae’n fan lle y maent yn teimlo’n ddiogel, lle...