Nick Ramsay: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gweld colli'r cloc digidol hwnnw yn y Siambr. Efallai fod angen i mi gael un bach ar y sgrin yma. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw, a hefyd i'r Gweinidog am ei sylwadau rhagorol? Fel y dywedais wrth agor, mae'n bwysig iawn fod craffu ar y Ddeddf hon yn parhau yn y Senedd nesaf. Fel y dywedodd Delyth Jewell, dechreuasom y...
Nick Ramsay: Dylwn ddechrau drwy ddweud bod hwn wedi bod yn ymchwiliad cymhleth. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn effeithio ar bob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, ac mae gwahanol gyrff cyhoeddus yn wynebu heriau gwahanol. Efallai fod un peth yn ei gwneud yn anodd i fyrddau iechyd weithredu'r Ddeddf, ond efallai na fydd yr un peth hwnnw'n effeithio ar awdurdodau lleol. Bu'n rhaid...
Nick Ramsay: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Mae dros flwyddyn wedi mynd heibio ers i Gadeiryddion pwyllgorau ddechrau trafod sut y dylai'r Senedd fynd ati i graffu ar adroddiadau statudol Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy'n ystyried gweithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ond pan fyddaf yn...
Nick Ramsay: Roedd hwnnw'n ateb cynhwysfawr iawn, Weinidog. A gaf finnau achub ar y cyfle i ganmol Jack Sargeant am y gwaith aruthrol y mae wedi'i wneud ym maes iechyd meddwl, sydd mor bwysig, yn enwedig yn ystod misoedd y pandemig a'r cyfyngiadau symud? Roedd yn bleser gweithio gyda thad Jack, Carl Sargeant, yn y Senedd ar ystod o faterion. Roedd yn angerddol am y materion hynny ac rwy'n falch o weld bod...
Nick Ramsay: Gweinidog, diolch ichi am eich datganiad ac am eich barn ar sut y gallwn ni hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus well a mwy cynaliadwy yn y dyfodol. Gyda llaw, fe wnaethoch chi sôn am feiciau trydan yn gynharach yn eich datganiad ac fe'm hatgoffwyd o daith feicio yr aeth y ddau ohonom arni i lawr Dyffryn Gwy rai blynyddoedd yn ôl, pan oeddech chi'n gweithio gyda Sustrans. Rwy'n cofio i ni siarad...
Nick Ramsay: Mae Jayne Bryant wedi nodi mater pwysig iawn. Weinidog, ym mis Tachwedd, cyhoeddodd academyddion ym mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe ganlyniadau arolwg ar y cyd. Buont yn siarad â thua 13,000 o bobl; roedd gan hanner y rheini rywfaint o broblemau iechyd meddwl, a dywedodd 20 y cant eu bod wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol. Roedd hyn yn arbennig o berthnasol i bobl iau a menywod ac wrth...
Nick Ramsay: Diolch am yr atebion hynny, Weinidog. Yn ôl Consortiwm Manwerthu Cymru, mae'r diwydiant wedi bod yn colli £100 miliwn mewn refeniw bob wythnos yn ystod y cyfyngiadau symud. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi na allwn danbrisio difrifoldeb y caledi economaidd y mae hyn wedi'i achosi i fusnesau bach—pobl sydd wedi treulio oes yn adeiladu eu mentrau, yn cyflogi staff lleol ac yn chwarae...
Nick Ramsay: Diolch am eich ateb, Weinidog. Credaf fod Mark Reckless wedi codi pwynt da iawn o ran sut rydym yn bywiogi’r farchnad dai yng Nghymru. Clywaf yr hyn a ddywedwch ynglŷn â’r ffaith bod y farchnad dai yn wahanol yma i'r ochr draw i'r ffin, ond serch hynny, mae arni angen yr ysgogiad y mae Llywodraeth y DU yn ceisio'i sicrhau drwy gymhwyso’r band cyfradd sero tan ddiwedd 2021. Weinidog, a...
Nick Ramsay: 9. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint y mae Llywodraeth Cymru wedi'i godi mewn refeniw ers 2016 drwy ardrethi annomestig? OQ56445
Nick Ramsay: Prif Weinidog, a gaf i eich holi am gamau cadarnhaol y gallwch chi eu cymryd gan weithio gyda Llywodraeth y DU i wneud Cymru yn lle mwy diogel i bawb? Goleuais i, ynghyd â llawer o Aelodau a phobl eraill ledled Cymru, fy stepen drws nos Sadwrn i gefnogi ymgyrch Reclaim the Streets, nid yn unig i dalu teyrnged i Wenjing Lin a Sarah Everard, ond hefyd i ddangos ymrwymiad i wneud ein cymunedau...
Nick Ramsay: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid oeddwn yn disgwyl cael fy ngalw mor sydyn, ond rwyf wedi casglu fy mhapurau at ei gilydd. A gaf fi ddiolch i bwyllgor yr economi am gyflwyno'r adroddiad rhagorol hwn, gyda'r cennin Pedr ar y blaen, fel y dywedodd Russ George? Mae'n dda iawn. Yn amlwg, nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond fel cyn Gadeirydd yr hyn a alwyd bryd hynny'n Bwyllgor Menter a Busnes yn ôl...
Nick Ramsay: Diolch, Weinidog. Nid wyf yn credu bod llawer y gallaf ei ychwanegu, mewn gwirionedd, at y cwestiynau blaenorol gan Rhun ap Iorwerth ac Angela Burns, ond rwy'n falch bod y ddadl a gyflwynais i'r Siambr yr wythnos diwethaf wedi rhoi cychwyn ar beth, neu wedi codi proffil y mater hwn. Fel y gwyddoch, yr wythnos diwethaf arweiniais y ddadl honno yn Siambr y Senedd, ac fe ateboch chi'n...
Nick Ramsay: Weinidog, a gaf fi ehangu'r cwestiwn hwn ynghylch y ffordd rydych yn defnyddio tystiolaeth wrth wneud penderfyniadau polisi? Fe fyddwch yn gwybod bod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy tryloyw wrth ddangos effaith carbon holl bolisïau a phenderfyniadau gwariant y Llywodraeth. Sut rydych wedi ymateb i hynny? A ydych yn cadw ffigurau cywir...
Nick Ramsay: 2. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran darparu addasiadau i'r cartref i bobl ag anableddau? OQ56399
Nick Ramsay: Diolch, Dirprwy Lywydd. Doeddwn i ddim yn mynd i siarad yn y ddadl hon, ond dyma fyddai wedi bod y gyllideb derfynol gyntaf o fewn cof nad oeddwn wedi cyfrannu ati, felly fe wnaeth Mike Hedges fy nghymell. Dywedodd Mike Hedges fod lleihau treth a chynyddu gwariant yn anghydnaws. Wrth gwrs, bydd yn cytuno â mi y gallant fod yn gydnaws dros y tymor hwy, ar yr amod fod yr economi'n cael ei...
Nick Ramsay: Dau fater, os caf i, Trefnydd. Yn gyntaf, a gaf i ychwanegu fy llais—gan gynnwys Darren Millar, mewn gwirionedd, yr wythnos diwethaf—at y rhai sy'n galw am ailagor canolfannau garddio ledled Cymru? Nawr bod achosion COVID-19 yn ymddangos yn is na'r nifer a sbardunodd y cyfyngiadau symud yn wreiddiol, os ydym yn bwriadu ailagor busnesau, yn gyntaf yn y tymor byr, yna dylai canolfannau...
Nick Ramsay: Diolch, Dirprwy Weinidog, fe fyddwn i'n cytuno â hynny. Ledled Cymru rydym ni wedi gweld gweithredoedd o wir arwriaeth, gyda phobl yn cymryd rhan yn eu cymunedau lleol, yn cefnogi'r rhai sydd wedi bod yn unig ac yn ynysig. Yn ôl Age Cymru, mae unigrwydd ac arwahanrwydd yn realiti dyddiol i lawer o bobl hŷn: mae 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru wedi dweud eu bod bob amser neu yn aml yn...
Nick Ramsay: Ydych chi'n gallu fy nghlywed i nawr?
Nick Ramsay: Da iawn. Dydw i ddim yn siŵr beth sy'n digwydd. [Chwerthin.] Gremlins yn y system. Iawn.
Nick Ramsay: A gaf i gytuno yn llwyr â'r safbwyntiau sydd newydd gael eu mynegi o ran yr angen i ddarparu diwydiant dur cynaliadwy ledled Cymru? A gaf i ehangu hyn i ffawd economi ehangach Casnewydd ac economi'r de-ddwyrain—economi Sir Fynwy, dylwn i ddweud—y mae'r ddwy ohonyn nhw yn dibynnu ar seilwaith trafnidiaeth cynaliadwy modern? Tybed a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am...