Carwyn Jones: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. A ydych chi'n rhannu fy siom bod Llywodraeth y DU wedi claddu cyhoeddiad adolygiad Dunlop, a fydd yn cyfrannu cymaint at y peirianwaith rhynglywodraethol sydd gennym ni yma yn y DU? A yw'n rhannu gyda mi yr angen i gael system briodol lle gall Llywodraethau gydweithio i wneud penderfyniadau ledled y DU? A yw'n cytuno â mi bod angen proses datrys...
Carwyn Jones: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith Cyd-bwyllgor y Gweinidogion? OQ56481
Carwyn Jones: Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Gwrandewais ar y cwestiwn hir gan Michelle Brown. Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod mwy na 5,000 o swyddi yn ddibynnol ar Faes Awyr Caerdydd, ac mae bodolaeth Maes Awyr Ynys Môn yn ddibynnol ar Faes Awyr Caerdydd, ond, i Michelle Brown, mae'r swyddi hyn yn y rhan anghywir o Gymru i fod yn bwysig, a dyna'r argraff a gefais i. Roedd Maes Awyr Caerdydd yn...
Carwyn Jones: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd? OQ56388
Carwyn Jones: Prif Weinidog, a ydych chi'n rhannu fy anobaith yn gwrando ar bobl fel Gareth Bennett a rhai yn y Blaid Geidwadol sy'n dymuno i Gymru beidio â chael unrhyw fodolaeth o gwbl? Maen nhw eisiau dileu Cymru oddi ar y map, a'r cyfan oherwydd na allan nhw gael eu hethol i'r Llywodraeth yng Nghymru. Mae democratiaeth yn iawn iddyn nhw cyn belled â'u bod nhw'n ennill. Prif Weinidog, a wnewch chi...
Carwyn Jones: Diolch i'r Prif Weinidog am ei ateb. Nid yw meysydd awyr, wrth gwrs, wedi'u datganoli. Ond, wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU yn dewis pryd y mae'n dymuno bod yn Llywodraeth Lloegr neu'n Llywodraeth y DU yn ôl ei mympwy. Prif Weinidog, ers 2013, mae'r Torïaid yng Nghymru wedi methu â chefnogi ein meysydd awyr, yng Nghaerdydd ac Ynys Môn. Pan brynwyd y maes awyr yng Nghaerdydd yn 2013,...
Carwyn Jones: 2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gefnogaeth Llywodraeth y DU i feysydd awyr ledled y DU? OQ56173
Carwyn Jones: Diolch i'r Prif Weinidog am ei atebion i'r cwestiynau heddiw. Mae'r rhain yn amseroedd anodd i fusnesau, ac i gymunedau, ac yn wir i'r Llywodraeth. Bydd y rhai ohonom sy'n eistedd ar y meinciau cefn yn y Siambr hon yn gwybod, am bob e-bost a gawn yn mynnu bod cyfyngiadau'n cael eu llacio, ein bod yn cael e-bost arall yn mynnu bod cyfyngiadau'n cael eu tynhau. Nid yw'n hawdd gwneud y...
Carwyn Jones: Rydym ni yng nghanol argyfwng rhyngwladol. Mae pob Llywodraeth ledled y byd yn gwneud yr hyn a allant, y gorau y gallan nhw i ymdrin â'r feirws, na welwyd ei debyg ers dros 100 mlynedd yn Ewrop a thu hwnt. Mae cyfraddau marwolaethau a heintiau'n codi ac yn gostwng—hyd yn oed yn y DU, ychydig yn ôl, gogledd Iwerddon oedd ar y brig, yna rhannau o Loegr a nawr Cymru. Nid ras yw hon, serch...
Carwyn Jones: Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ymateb. A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryderon y bydd rhethreg, naïfrwydd ac anfedrusrwydd llwyr cefnogwyr Brexit yn Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn llawer anoddach i ni recriwtio deintyddion a staff eraill ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn ystod y pandemig hwn a thu hwnt?
Carwyn Jones: Diolch, Llywydd. Cefais fy ail-dawelu gan yr awdurdodau sydd ohoni yn y fan yna.
Carwyn Jones: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at ddeintyddiaeth yn ystod pandemig COVID-19? OQ56018
Carwyn Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y rheoliadau hyn ar 2 Tachwedd, ac mae ein hadroddiad ar gael yn rhan o'r agenda. Rydym ni wedi nodi y gwneir y rheoliadau hyn gan y Trysorlys o dan Ran 1 o Ddeddf Canllawiau Ariannol a Hawliadau 2018, y rhoddodd y Senedd ei chydsyniad deddfwriaethol iddi ar 13 Chwefror 2018. Yn ystod y ddadl honno yn y...
Carwyn Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhaglen brechu rhag y ffliw eleni?
Carwyn Jones: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Bydd busnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr a ledled Cymru, Prif Weinidog, yn falch iawn o glywed y cyhoeddiad yr wythnos hon, gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, o £60 miliwn ychwanegol o gyllid i fusnesau ledled Cymru wrth iddyn nhw barhau i wynebu heriau coronafeirws. O ran busnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr a ledled Cymru, sut y gallen nhw fynd ati i...
Carwyn Jones: 5. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i fusnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod pandemig y coronafeirws? OQ55613
Carwyn Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wn i fod Caroline a minnau wedi cael yr un broblem adeg yr etholiad diwethaf, pan oedd pobl yn ein drysu â'n gilydd, yn sicr ar bapur. Tri pheth sydd gennyf i, Gweinidog. Yn gyntaf, fe wnaethoch chi sôn eisoes am yr arwyddbyst—pwyntiau'r adolygiad, fel petae—yn y broses. A wnewch chi roi ryw syniad inni o'r hyn y byddwch chi'n chwilio amdano mewn 14 diwrnod,...
Carwyn Jones: Diolch i Andrew R.T. Davies am ei gyfarchiad yno, yn rhoi croeso i mi siarad. Wel, clywsom gan Neil Hamilton y dylem barchu ein meistri ariannol, clywsom gan Gareth Bennett 'ar gyfer Gymru, gweler Lloegr', ond hoffwn fynd â'r Aelodau yn ôl i 1998, pan gafodd cytundeb Gwener y Groglith ei llunio a'i lofnodi. Gwnaethpwyd hynny o ganlyniad i lawer iawn o waith gan John Major, Prif Weinidog...
Carwyn Jones: Ffordd sicr o chwalu'r DU.
Carwyn Jones: O, dewch wir, mae hynny'n hurt. Mae'n honiad hurt.