Dawn Bowden: Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn, Joyce. Ac rydych yn hollol gywir, oherwydd mae'r strategaeth rydym yn sôn amdani, strategaeth yr economi ymwelwyr, yn ymwneud â phwysleisio pwysigrwydd mynd i'r afael â lledaenu manteision, gan annog mwy o wariant yn ein heconomi, a hynny ledled Cymru. Dyna yw hanfod y strategaeth farchnata, ac mae hynny wedi arwain at y cynnydd y byddwn yn ei weld yng...
Dawn Bowden: Mae ein strategaeth, 'Croeso i Gymru: blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 2020-2025', yn nodi ein cyfeiriad a'n huchelgais ar gyfer twristiaeth, ac mae Croeso Cymru yn hyrwyddo cyrchfannau'n gyfartal ledled Cymru. Mae Canolbarth Cymru a gorllewin Cymru yn rhan annatod o'r gweithgarwch hwnnw.
Dawn Bowden: A gaf fi ddiolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn atodol, oherwydd rwy'n credu ei bod yn codi pwynt pwysig a diddorol? Rwyf wedi ei gwneud yn glir iawn fod Croeso Cymru, o'n safbwynt ni, fel rhan o Lywodraeth Cymru, yn caniatáu llawer mwy o atebolrwydd i ni am y gwaith y mae Croeso Cymru yn ei wneud. Maent yn atebol yn uniongyrchol i mi, a thrwy Croeso Cymru, mae gennyf gysylltiad...
Dawn Bowden: Diolch am y cwestiwn, Janet Finch-Saunders. Nid oes unrhyw gynlluniau ar y gweill i ddiwygio Croeso Cymru. Mae gennym strategaeth gyffrous ac uchelgeisiol, 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i'r Economi Ymwelwyr 2020-2025', ar gyfer datblygu twristiaeth. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r sector i gyflawni'r nodau cyfunol hynny.
Dawn Bowden: Rwy'n meddwl bod honno'n her deg, Tom. Rydym wedi gweld nifer o fusnesau bach, diwydiannau bach, sydd am dyfu yng Nghymru, ac mae rhai ohonynt yn gweld y broses o wneud cais am grant yn anodd iawn. Mae natur y broses yn golygu bod rhaid iddi fod yn drylwyr. Rydym yn sôn am ymdrin ag arian cyhoeddus yn y pen draw. Ni allwn roi arian yn ddifeddwl i sefydliadau nad ydym yn dilyn camau...
Dawn Bowden: Diolch am y cwestiwn atodol, John. Yn gyntaf, mae'n siŵr y byddai'n werth imi nodi rhywfaint o'r cymorth y mae Cymru Greadigol wedi bod yn ei roi i'r sector. Mae gennym amcan strategol i sicrhau bod cyflenwad da o ofod stiwdio ym mhob rhan o'r wlad ar gyfer cynyrchiadau allanol a chynyrchiadau Cymreig. Ac yn ddiweddar rydym wedi cefnogi prosiectau buddsoddi cyfalaf yn stiwdios Aria ar Ynys...
Dawn Bowden: Diolch am y cwestiwn, John. Mae Gweinidog yr Economi a minnau wedi ymrwymo i weithio gyda'n gilydd i sicrhau enw da cynyddol Cymru yn y sector ffilm a theledu, ac wrth hyrwyddo Cymru ar y llwyfan byd-eang.
Dawn Bowden: I droi at y Gymraeg, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn barod wedi siarad yn y Siambr y prynhawn yma am y gwaith sylweddol sy’n cael ei wneud i gefnogi’r Gymraeg a’i diwylliant ar draws Cymru.
Dawn Bowden: Rwy’n ymwybodol o’r gwaith gwych y mae Menter Iaith Casnewydd yn ei wneud dros y Gymraeg yng Nghasnewydd. Mae’r £60,000 o arian grant rydym yn ei ddarparu 'r Fenter Iaith yn mynd tuag at hybu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yng nghymunedau Casnewydd, a gwn mai un o’u blaenoriaethau yw cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith teuluoedd, a darparu mwy o gyfleoedd i blant a phobl...
Dawn Bowden: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, John, am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr. Diolch hefyd i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl fer y prynhawn yma. Mae'n wir teimlo fel dathliad o Gymreictod yma yn y Siambr yr wythnos yma, gyda nifer o ddatganiadau, cyfraniadau a sawl dadl i nodi Dydd Gŵyl Dewi.
Dawn Bowden: Mae'n ddrwg gennyf, roedd yna wich yn fy nghlust gyda'r cyfieithiad. Ymddiheuriadau. Felly, ddoe soniodd fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ynglŷn â sut mae Cymru'n gymuned o gymunedau, ac yn ei datganiad i’r Senedd, soniodd am sut mae’r Gymraeg a diwylliant Cymreig yn bethau i’w dathlu a sut y dylem ni fel Llywodraeth a'n partneriaid ddathlu ein...
Dawn Bowden: Mae'r gefnogaeth i chwaraeon tîm yn mynd trwy'r cyrff llywodraethu cenedlaethol. Gall cefnogaeth unigol gael ei gynnig, fel rwyf i wedi'i ddweud, i unigolion os ydyn nhw'n cael eu cyfeirio trwy eu corff llywodraethu cenedlaethol at Chwaraeon Cymru.
Dawn Bowden: Wrth gwrs, y weledigaeth ar gyfer chwaraeon yw'r strategaeth newydd, felly nid yw'r strategaeth rydych chi'n sôn amdano wedi'i diweddaru, mae wedi cael ei disodli. Mae gennym ni'r weledigaeth nawr ar gyfer chwaraeon sy'n ceisio hyrwyddo Cymru i'r byd drwy berfformiad ein hathletwyr elît a'n rhagoriaeth ym myd chwaraeon. Nod strategaeth chwaraeon Chwaraeon Cymru yw sicrhau'r llwyddiant hwnnw...
Dawn Bowden: Chwaraeon Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon ac ymarfer corff yng Nghymru ac mae'n gwneud hynny yn unol â'i weledigaeth a'i strategaeth.
Dawn Bowden: Yn gyntaf, rwy'n credu bod yn rhaid i mi fynd yn ôl at fy mhwynt gwreiddiol a phwynt rydych chi wedi'i gydnabod: mae gan awdurdodau lleol eu mandad democrataidd eu hunain. Allwn ni ddim cyfeirio awdurdodau lleol i wneud yr hyn maen nhw eisiau ei wneud gydag arian sydd ganddyn nhw o fewn eu grant cynnal ardrethi. Bydd yn rhaid iddyn nhw wneud eu penderfyniadau eu hunain a gwneud eu...
Dawn Bowden: Rwy'n ymwybodol iawn o'r pwysau sydd ar lawer o'n hawdurdodau lleol a'n cyrff cyhoeddus. Rydym ni wedi gwneud beth bynnag y gallwn ni i gefnogi sefydliadau cenedlaethol a'r awdurdodau lleol. Mae'r awdurdodau lleol, fel y gwyddoch chi, wedi cael y setliad ariannol gorau ers amser maith, ac yn llawer uwch nag yr oedden nhw wedi'i ragweld, ac mae sut maen nhw'n defnyddio'r gyllideb honno yn...
Dawn Bowden: Roeddwn yn dod at rai o’r pwyntiau rydych wedi’u codi’n gynharach.
Dawn Bowden: Iawn. Felly, credaf mai Chwaraeon Cymru yw’r pwynt a gafodd sylw gan Alun Davies, sy’n ymwneud â chymryd rhan mewn chwaraeon a darparu mynediad cyfartal. Soniais am hyn yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, am y cyllid ar gyfer Chwaraeon Cymru a’r ffordd y mae ein cyllid wedi’i nodi’n glir iawn—mae ein cyfarwyddyd i Chwaraeon Cymru wedi’i nodi’n glir iawn yn y llythyr cylch...
Dawn Bowden: —Cyngor Llyfrau Cymru a’r diwydiannau creadigol annibynnol yng Nghymru.
Dawn Bowden: Mewn perthynas â'r argymhellion eraill a gafodd sylw yn y ddadl heddiw, mae ein hymatebion fel a ganlyn: ar weithio gyda’r llyfrgell genedlaethol i ddiogelu ei chasgliadau yn argymhelliad 1, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chymheiriaid yn y llyfrgell genedlaethol ac yn darparu cymorth ychwanegol, lle bo modd, o gofio effaith y costau cynyddol a welsom dros y misoedd diwethaf....