Carl Sargeant: Nid wyf yn mynd i dderbyn rhagor o ymyriadau gan Aelodau oherwydd—[Torri ar draws.] Wel—
Carl Sargeant: Y mater yn y fan hon, Llywydd, yw gwneud yn siŵr fod yr hyn a wnawn yma’n addas i’r diben, gan ddiogelu ein pobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae Plaid Cymru yn amlwg wedi cyflwyno ystyriaeth feddylgar i’r Siambr—
Carl Sargeant: [Yn parhau.]—ond nid ydynt wedi ystyried y broses honno’n llawn, yn enwedig costau gwneud hyn.
Carl Sargeant: Wrth gwrs y gwnaf.
Carl Sargeant: Gadewch i mi ddweud wrthych fy mod wedi bod yn Llundain ac rwyf wedi siarad â’r Arglwydd Freud am yr union faterion a grybwyllodd eich cyd-Aelod, yn enwedig ynglŷn â materion menywod a’r ffordd y caiff ceisiadau eu gwneud. Ond yr hyn y dylai’r Aelod ei ystyried go iawn—[Torri ar draws.] Yr hyn y dylai arweinydd yr wrthblaid—. Yr hyn y dylai arweinydd Plaid Cymru, dylwn ddweud, ei...
Carl Sargeant: Diolch, Llywydd. Yr hyn nad ydym yn ei gydnabod yma, mewn gwirionedd, yw bod hawlydd sy’n methu mynd i un o’r cyfarfodydd, am ba reswm bynnag—salwch, neu fynd i weithio, fel y dywedodd yr Aelod yn gynharach—yn cael ei sancsiynu mewn gwirionedd. Wel, efallai y dylem ddechrau’r sancsiynau hynny gyda’r ASau na fynychodd y Senedd, yr ASau Torïaidd na bleidleisiodd yn y ddadl ar y...
Carl Sargeant: Mae’r Aelod yn iawn yn yr hyn y mae’n ei ddweud. Rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU yn y gofod hwnnw. Yr hyn a wyddom yw bod methiant i—[Torri ar draws.]
Carl Sargeant: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl hon. Rwy’n rhannu pryder yr Aelodau ynglŷn â’r effaith ddinistriol y mae’r broses o gyflwyno credyd cynhwysol yn ei chael ar bobl agored i niwed yma yng Nghymru ac ar draws y DU. Rydym yn bryderus iawn am doriadau lles di-baid Llywodraeth y DU a sut y maent yn effeithio ar deuluoedd incwm isel, yn enwedig y...
Carl Sargeant: Maent yn talu £200 miliwn ymlaen llaw a £66 miliwn bob blwyddyn ar gyfer y costau gweinyddol yn unig a delir i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Dyna’r broblem sydd gennyf gyda’r broses weinyddu yma. Dylem fod yn gwneud rhywbeth gwahanol iawn. Dylent fod yn gwneud hyn yn awtomatig, nid codi tâl ar yr Alban neu arnom ni i wneud hynny. Dyna’r her sy’n ein hwynebu.
Carl Sargeant: Diolch. Er eglurder yn unig, a ydych yn ymwybodol faint y mae’n ei gostio i Lywodraeth yr Alban weithredu proses weinyddu hyn yn unig; nid y pen budd-daliadau ohono—y weinyddiaeth yn unig, sy’n darparu’r gallu i wneud hyn?
Carl Sargeant: Yn ffurfiol.
Carl Sargeant: Diolch, Llywydd, am y cyfle i ymateb i adroddiad y pwyllgor. Rwy’n ddiolchgar i’r pwyllgor am eu hadroddiad, ac yn ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi tystiolaeth ysgrifenedig a llafar. Er bod gwahaniaethau o ran dehongliad a phwyslais, roedd y Llywodraeth yn gallu derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor, fel y nododd y Cadeirydd. Llywydd, roedd y penderfyniad i gau Cymunedau yn Gyntaf...
Carl Sargeant: Mae’r canllawiau a ddarparwyd i awdurdodau lleol a phartneriaid yn glir iawn ynglŷn â’r modd y mae’r egwyddorion a ddatblygwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gweithio gyda’i gilydd. Bydd mater asiantaethau partneriaeth yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol yn cael cefnogaeth gan y tîm a fydd yn asesu’r ceisiadau a gyflwynir drwy’r rhaglen....
Carl Sargeant: Ddydd Gwener diwethaf, Llywydd, cyhoeddais raglen targedu buddsoddiad adfywio newydd i Gymru. Nod y rhaglen yw cefnogi prosiectau sy’n hyrwyddo datblygiad economaidd, gyda gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar yr unigolion a’r ardaloedd sydd â’r angen mwyaf, gan gyflawni amcanion datblygu cynaliadwy ehangach.
Carl Sargeant: Mae cwestiynau gwirioneddol bwysig wedi’u codi gan yr Aelod. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r datganiad ein bod wedi cyhoeddi rhaglen geisiadau o gwmpas y gronfa datblygu eiddo i fusnesau bach a chanolig ledled Cymru, sydd bellach yn £30 miliwn, er mwyn rhoi arian parod i'r rhaglen. Mae rhai o'r datblygiadau yr ydym yn eu cyflwyno yn atebion ar sail bocs. Bydd waliau a drysau y gellir eu...
Carl Sargeant: Rwy'n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod a diolch iddi am ei chyfraniad cadarnhaol. Dau bwynt pwysig: mae ariannu hyn wedi bod yn rhan o'r modelau busnes sydd wedi dod ger ein bron. Rydym yn treialu enghreifftiau newydd o sut, o fuddsoddi’r model i’w gyflwyno, y mae hynny’n dod ymlaen. Rydyn ni wedi torri'r mowld traddodiadol ac rydym yn ceisio torri ar y patrwm sy’n mynnu bod yn rhaid...
Carl Sargeant: Rwy'n ddiolchgar am gwestiynau'r Aelod, ond byddwn yn gofyn i'r Aelod am rywfaint o uchelgais, am rywfaint o frwdfrydedd, o ran y rhaglen ardderchog hon yr ydym yn ei lansio heddiw. Mae hyn yn—. Mae hyd yn oed y Ceidwadwyr wedi bod yn dweud wrthym ni heddiw ein bod ni'n gwneud gwaith da—dyna rywbeth i ryfeddu’n fawr ato. [Chwerthin.] Y ffaith amdani yw hyn, mae £10 miliwn ar...
Carl Sargeant: Rwy'n ddiolchgar am gyfraniad yr Aelod. Mae hi wedi hyrwyddo achos tai cynaliadwy am nifer o flynyddoedd ac rwy'n ddiolchgar am ei sylwadau. Mae'n rhaid inni dorri'r arfer, a rhaid inni dorri'r chwedl, ynghylch pam mae'n rhaid i ni gael yr un hen fath o gartref yn cael ei adeiladu, yng Nghymru neu yn unrhyw le arall. Rwyf hefyd yn cydnabod, er ein bod yn datblygu cynhyrchion newydd, ei bod...
Carl Sargeant: Rwy'n ddiolchgar am sylwadau'r Aelod. Cyn gynted ag y bydd data ar gael o ran datganiad sefyllfa ar y 20,000 o gartrefi, byddaf yn dod gerbron y Cynulliad ac yn hysbysu'r Aelodau am hynny. Rydym wedi cael llwyddiant mawr eisoes, ond byddaf yn rhoi’r manylion pellach cyn gynted ag y byddan nhw ar gael i mi. 276 yw nifer y cartrefi yn y cynllun hwn. Mae hynny ddwywaith y nifer yr oeddem yn...
Carl Sargeant: Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfraniad cadarnhaol gan yr Aelod a diolch iddo am ei eiriau caredig. Ychydig o bwyntiau, byddwn yn—. Roedd hi’n anodd iawn ar ddechrau'r broses hon, gan ei bod yn anodd torri ar hen arferion. Buom yn siarad â'r tîm ac fe ddywedon nhw, ‘Felly, beth yw'r paramedrau ynglŷn ag arloesedd?’ sydd i ryw raddau’n trechu’r amcanion cyn dechrau. Dywedais i,...